Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud eich bod wedi cael gordaliad Cymorth Incwm
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae Cymorth Incwm wedi dod i ben i bawb
Gallwch barhau i ddefnyddio’r cyngor ar y dudalen hon i herio gordaliad Cymorth Incwm.
Efallai y gallwch berswadio’r Adran Gwaith a Phensiynau i newid faint y mae’n rhaid i chi ei ad-dalu.
Weithiau, roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud camgymeriadau – efallai na chawsoch eich gordalu o gwbl. Neu efallai na fydd angen i chi ad-dalu’r holl arian, er enghraifft os na fyddai gennych ddigon i fyw arno ar ôl talu.
Gwiriwch a wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau gamgymeriad
Efallai fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi meddwl eich bod wedi cael gordaliad am iddi gael rhywfaint o wybodaeth yn anghywir. Er enghraifft, os oedd yn meddwl:
eich bod yn byw gyda phartner pan nad oeddech chi
eich bod yn ennill mwy nag yr oeddech yn ei ennill mewn gwirionedd
bod gennych chi fwy o gynilion nag oedd gennych mewn gwirionedd
nad oeddech chi yn ofalwr pan oeddech mewn gwirionedd
Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau fod wedi esbonio pam roedd yn meddwl eich bod wedi cael gordaliad pan ysgrifennodd atoch i roi gwybod amdano. Os nad yw’r rheswm yn glir, neu os na allwch ddod o hyd i’ch llythyr gordaliad, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Llinell ymholiadau budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Gwnewch nodyn o ddyddiad ac amser eich galwad. Nodwch hefyd enw’r person y gwnaethoch siarad ag ef. Efallai y bydd angen y manylion hyn arnoch os byddwch yn herio’r gordaliad.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael y swm cywir
Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau eich bod yn credu bod gennych hawl i’r holl Gymorth Incwm a gawsoch ac na chawsoch eich gordalu. I wneud hyn, bydd angen i chi ofyn iddi ailystyried y penderfyniad – gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’. Gwiriwch sut i ofyn am ailystyriaeth orfodol.
Os cawsoch ormod o arian drwy gamgymeriad
Dylech herio’r gofyniad i ad-dalu gordaliad os mai bai’r Adran Gwaith a Phensiynau oedd y gordaliad. Er enghraifft, os cawsoch eich gordalu oherwydd bod yr adran:
wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrifo eich taliadau
heb gofnodi eich gwybodaeth nac unrhyw newid yn eich amgylchiadau y gwnaethoch roi gwybod amdano yn gywir
heb gywiro camgymeriad y gwnaethoch roi gwybod iddynt amdano
Darllenwch eich llythyr gordaliad yn ofalus, neu ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau, i gael gwybod a yw’n mynnu eich bod yn ad-dalu’r gordaliad. Weithiau, ni fydd yr adran yn gofyn i chi ad-dalu’r arian os yw’n gwybod mai ei bai hi oedd y gordaliad.
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn mynnu eich bod yn ad-dalu’r arian, gofynnwch am ailystyriaeth orfodol i herio’r penderfyniad.
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud yn ei llythyr fod yn rhaid i chi ad-dalu’r arian “o dan y gyfraith gyffredin”, dylech gael cyngor. Weithiau, mae’r adran yn ceisio adennill gordaliadau o dan y gyfraith gyffredin pan na ddylai wneud hynny.
Os na wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau gamgymeriad
Efallai eich bod wedi cael gordaliad am na wnaethoch roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau am rywbeth yr oedd yn rhaid i chi roi gwybod amdano. Er enghraifft, os na wnaethoch ddweud wrth yr adran eich bod wedi:
symud i fyw gyda’ch partner
cael mwy o gyflog, er enghraifft am fod eich oriau gwaith rhan-amser wedi cynyddu
rhoi’r gorau i fod yn ofalwr
stopio cael y budd-dal anabledd a oedd yn rhoi’r hawl i chi gael y premiwm anabledd Cymorth Incwm
cael camesgoriad – os oeddech yn hawlio budd-dal tra oeddech yn feichiog
Mewn rhai amgylchiadau gallwch herio gordaliad os na wnaethoch roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau am rywbeth neu os wnaethoch gamgymeriad ar y ffurflen.
Gall fod yn anodd cael yr Adran Gwaith a Phensiynau i gytuno nad oes rhaid i chi ad-dalu’r gordaliad – felly mae’n well ceisio cymorth. Cysylltwch â’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf a gofynnwch i gynghorydd eich helpu i herio’r gordaliad.
Os nad oes gennych reswm dros herio’r gofyniad i ad-dalu’r gordaliad, gallwch ofyn am gael talu mewn rhandaliadau.
Dylech roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau os na allwch fforddio ad-dalu unrhyw arian o gwbl. Gweler Ad-dalu gordaliad Cymorth Incwmi gael gwybod sut i wneud hyn.
Adolygwyd y dudalen ar 05 Tachwedd 2026