Ad-dalu gordaliad Cymorth Incwm

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Cymorth Incwm wedi dod i ben i bawb

Os ydych wedi cael gordaliad Cymorth Incwm, bydd angen i chi ei ad-dalu. Gallwch barhau i ddilyn y cyngor ar y dudalen hon.

Os oes gennych ordaliad Cymorth Incwm y mae’n rhaid i chi ei ad-dalu, dylech ddelio ag ef cyn gynted â phosibl.

Er y gall talu arian yn ôl beri pryder, mae sawl ffordd o dalu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - gan gynnwys talu mewn rhandaliadau.

Os oes gennych ddyledion eraill

Dylech sicrhau eich bod yn delio â’r dyledion sydd â’r mwyaf o frys yn gyntaf. Defnyddiwch ein teclyn cael help gyda dyledion i weld a ddylech flaenoriaethu dyledion eraill cyn eich gordaliad Cymorth Incwm.

Sut bydd gofyn i chi dalu’r Adran Gwaith a Phensiynau

Pan ysgrifennodd yr Adran Gwaith a Phensiynau atoch i ddweud wrthych eich bod wedi cael gordaliad, byddai wedi nodi sut mae am i chi ad-dalu’r arian.

Os bydd yn anodd i chi dalu fel hyn, ffoniwch ganolfan rheoli dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau a gofynnwch am newid y ffordd rydych yn talu. Dylech hefyd ffonio os na allwch ddod o hyd i’ch llythyr gordaliad.

Canolfan Byd Gwaith

Ffôn: 0800 916 0647

Ffôn testun: 0800 916 0651

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 1344

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). 

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 7.30pm

Dydd Sadwrn, 9am tan 4pm

Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.

Gwnewch nodyn o ddyddiad ac amser eich galwad, yn ogystal ag enw’r person y gwnaethoch siarad ag ef. Efallai y bydd angen y manylion hyn arnoch os bydd rhywbeth yn mynd o’i le ac nad oes newid i’ch ad-daliadau.

Os ydych chi wedi symud i Gredyd Cynhwysol

Os ydych wedi cael gordaliad Cymorth Incwm, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei gymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol. 

Byddwch yn cael llai o Gredyd Cynhwysol bob mis nes bod y swm wedi’i ad-dalu. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lleihau eich taliad o 15% o’ch ‘lwfans safonol’.

Eich ‘lwfans safonol’ yw’r swm sylfaenol o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael. Nid yw’n cynnwys symiau ychwanegol am bethau megis llety neu blant.

Darganfyddwch beth i’w wneud os caiff eich taliad Credyd Cynhwysol ei atal neu ei leihau.

Defnyddio budd-daliadau eraill i dalu

Os nad ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallwch ad-dalu’r Adran Gwaith a Phensiynau drwy fudd-dal arall.

Fel arfer, bydd angen i chi dalu traean o’ch taliad budd-dal wythnosol i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Os bydd talu’r swm hwn yn golygu na fydd gennych ddigon ar ôl i dalu am hanfodion megis bwyd neu wresogi, ffoniwch Ganolfan gyswllt rheoli dyledion Adran Gwaith a Phensiynau. Gofynnwch iddynt dynnu swm llai bob wythnos.

Ffoniwch Ganolfan gyswllt rheoli dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau a dywedwch wrthynt o ba fudd-dal yr hoffech i’r arian gael ei dynnu. Yr unig fudd-daliadau na allwch eu defnyddio i dalu’r Adran Gwaith a Phensiynau yw:

  • Budd-dal Plant

  • Budd-dal Tai

  • Lwfans Gwarcheidwad

Byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint fydd yn cael ei dynnu o’ch budd-dal ac am ba hyd.

Talu o’ch cyflog

Os ydych yn gweithio i gwmni sydd â 10 neu fwy o weithwyr, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau dynnu arian o’ch cyflog ar gyfer y gordaliad - nid oes angen iddi ofyn am eich caniatâd. Bydd eich cyflogwr yn talu’r Adran Gwaith a Phensiynau ac yn tynnu’r swm o’ch cyflog wythnosol neu fisol.

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud eu bod eisiau i chi dalu mewn ffordd wahanol, gallwch ofyn am gael talu o’ch cyflog drwy ffonio canolfan reoli dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau. 

Byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cadarnhau faint y gellir ei dynnu o’ch cyflog. Dylai eich cyflogwr hefyd ysgrifennu atoch i gadarnhau faint sy’n cael ei dynnu, heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y cewch eich cyflog llai.

Yr uchafswm y gall eich cyflogwr ei dalu i’r Adran Gwaith a Phensiynau yw 20% o’ch cyflog - a dim ond os ydych yn cael eich talu £2,240.01 neu fwy’r mis ar ôl treth y mae hyn yn berthnasol. Mae’r uchafswm hwn yn cynyddu i 40% os cawsoch ordaliad oherwydd eich bod wedi rhoi’r wybodaeth anghywir yn fwriadol, a elwir yn ‘dwyll’. 

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydych yn gadael eich swydd ac ymhle mae eich swydd newydd, os oes gennych un. 

Talu’r Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol

Os nad ydych yn cael Credyd Cynhwysol na budd-daliadau eraill ac nad yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu arian o’ch cyflog, gallwch eu talu’n uniongyrchol.

Fel arfer bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn i chi dalu gordaliad mewn un swm, ond gallwch ffonio Canolfan gyswllt rheoli dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau a gofyn am gael talu mewn rhandaliadau. 

Gweler y ffyrdd gwahanol o dalu’r Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol ar GOV.UK er enghraifft drwy fancio ar-lein.

Os ydych yn herio gordaliad

Ni ddylai’r Adran Gwaith a Phensiynau dynnu unrhyw arian oddi wrthych nes bod penderfyniad wedi ei wneud ynghylch eich ailystyriaeth gorfodol neu apêl. Os ydynt yn gwneud hynny, gallwch wneud cwyn.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ad-dalu unrhyw arian maen nhw wedi’i gymryd oddi wrthych os bydd eich her yn llwyddiannus.

Os cafodd eich Cymorth Incwm ei dalu i’ch benthycwr morgais

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn iddynt ad-dalu’r gordaliad llog morgais os oedd oherwydd:

  • bod eich hawl i gael Cymorth Incwm wedi dod i ben

  • na wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ostwng eich taliadau llog morgais pan ostyngwyd y gyfradd llog.  

  • na wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ostwng eich taliadau llog morgais pan ad-dalwyd rhan o’ch morgais. 

Os oedd eich gordaliad am reswm arall - er enghraifft, oherwydd eich bod wedi symud tŷ - bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn i chi ad-dalu’r arian.

Fel arfer, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn stopio talu eich benthycwr morgais nes eu bod wedi adennill swm y gordaliad. Ni ddylent wneud hyn os bydd stopio’r taliad yn cynyddu eich dyled morgais - a elwir yn ‘mynd i mewn i ôl-ddyledion’.

Os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion, ceisiwch gymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf cyn gynted â phosibl.

Os na allwch ad-dalu’r arian

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r Adran Gwaith a Phensiynau os byddai talu unrhyw arian yn golygu na allwch dalu am hanfodion, megis rhent neu drydan.

Mae’n anghyffredin i’r Adran Gwaith a Phensiynau wneud hyn a bydd angen i chi ddangos y byddai’n anodd iawn i chi ad-dalu hyd yn oed swm bach. Er enghraifft, os oes gennych broblem iechyd meddwl.

Dylech gyfrifo eich cyllideb. Cadwch gopi i ddangos i’r Adran Gwaith a Phensiynau nad oes gennych ddigon o arian i ad-dalu’r gordaliad. 

Dylech ffonio Llinell gymorth taliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau i egluro pam na allwch ad-dalu’r ddyled. Os oes angen cymorth arnoch, ewch i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf a gofynnwch i gynghorydd ffonio ar eich rhan.

Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno, ni fydd angen i chi ad-dalu’r arian iddi. Dylent ysgrifennu atoch i gadarnhau nad oes angen i chi wneud unrhyw ad-daliadau. 

Hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno, efallai y byddan nhw’n dal i adael i chi dalu mewn rhandaliadau llai neu leihau’r swm sy’n rhaid i chi ei dalu.

Os na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid y ffordd rydych chi’n talu

Gallwch wneud cwyn os ydych chi’n credu bod penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i wrthod newid eich taliadau yn annheg. Byddant yn ceisio datrys eich cwyn cyn gynted â phosibl.

Gweler sut i wneud cwyn ar GOV.UK.

Adolygwyd y dudalen ar 05 Tachwedd 2026