Faint o DLA allwch chi ei gael ar gyfer eich plentyn

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch chi gael rhwng £29.20 a £187.45 yr wythnos mewn Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) i helpu i ofalu am blentyn sydd â chyflwr iechyd neu anabledd. 

Nid yw DLA yn cynnwys prawf modd, felly nid yw faint yr ydych yn ei ennill yn effeithio ar faint y gallwch ei gael. 

Gellir gwario’r arian ar unrhyw beth.

Faint fyddwch chi’n ei gael

Mae faint o DLA y gallwch ei gael yn dibynnu ar ddwy elfen – yr ‘elfen gofal’ a’r ‘elfen symudedd’. Mae pob elfen yn cael ei thalu ar wahanol gyfraddau.

Mae’n bosibl y cewch chi un o’r elfennau, neu'r ddwy, yn dibynnu ar y math o ofal sydd ei angen ar eich plentyn. Dim ond un cais y bydd yn rhaid i chi ei wneud.

Elfen gofal Faint (bob wythnos)
Elfen gofal

Cyfradd uwch

Faint (bob wythnos)

£110.40

Elfen gofal

Cyfradd ganol

Faint (bob wythnos)

£73.90

Elfen gofal

Cyfradd is

Faint (bob wythnos)

£29.20

Elfen symudedd Faint (bob wythnos)
Elfen symudedd

Cyfradd uwch

Faint (bob wythnos)

£77.05

Elfen symudedd

Cyfradd is

Faint (bob wythnos)

£29.20

Yr elfen gofal

Mae’r elfen gofal yn seiliedig ar faint o ofal a goruchwyliaeth sydd eu hangen ar eich plentyn oherwydd ei gyflwr.

Byddwch yn cael y gyfradd uwch o £110.40 os yw eich plentyn naill ai:

  • angen gofal neu oruchwyliaeth yn aml drwy gydol y dydd a’r nos, neu

  • wedi cael gwybod bod ganddo salwch angheuol ac nad oes disgwyl iddo fyw am fwy na 12 mis

Byddwch chi’n cael y gyfradd ganol o £73.90 os yw eich plentyn naill ai:

  • angen gofal neu oruchwyliaeth drwy gydol y dydd neu’r nos, neu

  • yn cael dialysis arennol ddwywaith neu fwy yr wythnos

Byddwch chi’n cael y gyfradd is o £29.20 os bydd angen gofal ychwanegol ar eich plentyn am ran o’r diwrnod (am o leiaf awr) ond nid yn ystod y nos.

Yr elfen symudedd

Mae’r elfen symudedd yn seiliedig ar allu eich plentyn i gerdded a pha mor anodd yw hi i symud o gwmpas llefydd nad ydyn nhw’n eu hadnabod yn dda iawn.

Fel arfer, rhoddir y gyfradd uwch i blant sydd ag anawsterau corfforol difrifol, neu gyflyrau sy’n golygu ei bod yn beryglus iddyn nhw symud o gwmpas ar eu pennau eu hunain. Fe gewch chi'r gyfradd uwch o £77.05 os yw eich plentyn yn 3 oed neu'n hŷn a bod un o'r canlynol yn eu disgrifio:

  • dydyn nhw ddim yn gallu cerdded

  • maen nhw’n teimlo’n anghyfforddus iawn pan fyddan nhw’n cerdded yn yr awyr agored; er enghraifft, dydyn nhw ddim yn gallu cerdded i’r ysgol oherwydd byddai’n gwneud gormod o ddrwg iddyn nhw gerdded yn yr awyr agored mor bell â hynny

  • byddai cerdded yn eu rhoi mewn perygl neu'n golygu y byddai eu hiechyd yn gwaethygu

  • does ganddyn nhw ddim coesau na thraed

  • maen nhw’n ddall neu â nam difrifol ar eu golwg 

  • maen nhw’n fyddar ac yn ddall

Byddwch chi hefyd yn cael y gyfradd uwch o £77.05 os yw'ch plentyn yn 3 oed neu'n hŷn ac mae'r canlynol i gyd yn eu disgrifio:

  • mae ganddyn nhw anabledd dysgu difrifol neu nam meddyliol arall sy'n effeithio ar eu deallusrwydd a sut maen nhw’n ymddwyn gyda phobl eraill

  • mae’r nam yn arwain at ymddygiad aflonyddgar a pheryglus; er enghraifft, mae’n rhaid i rywun eu goruchwylio i’w hatal rhag niweidio eu hunain neu eraill

  • mae ganddyn nhw hawl i’r elfen gofal ar y gyfradd uchaf

Y camau nesaf

Sut i hawlio DLA ar gyfer eich plentyn

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.