Cael car Motability

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n cael budd-dal oherwydd bod gennych chi anabledd neu salwch sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi symud o gwmpas, gallwch ei ddefnyddio i dalu am gerbyd gan elusen o'r enw Motability.

Gallwch chi ddewis o blith llawer o gerbydau gwahanol, er enghraifft ceir, sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn modur.

Dim ond am brydles y cerbyd y byddwch chi'n talu – nid chi fydd yn berchen ar y car. Os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gael eich budd-dal, bydd yn rhaid i chi ddychwelyd y cerbyd.

Gwiriwch eich bod yn gymwys

Gallwch gael car neu gerbyd Motability os ydych chi’n cael:

  • elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar y gyfradd uwch   

  • elfen symudedd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar y gyfradd uwch

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP) neu’r Atodiad Symudedd      Pensiynwyr Rhyfel

  • elfen symudedd y Taliad Anabledd Oedolion ar y gyfradd uwch

  • elfen symudedd y Taliad Anabledd Plant ar y gyfradd uwch

Pan fyddwch chi'n gwneud cais am gerbyd Motability, bydd yn rhaid bod gennych chi o leiaf 12 mis ar ôl cyn i'ch budd-dal ddod i ben – gwiriwch eich llythyr penderfyniad budd-dal os nad ydych chi'n siŵr.

Allwch chi ddim gwneud cais am gerbyd Motability os ydych chi'n cael DLA a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi anfon llythyr atoch yn dweud bod angen i chi wneud cais am PIP. Ni fydd yn effeithio arnoch chi os oes gennych chi gerbyd Motability eisoes.

Os nad ydych chi'n gyrru, mae’n dal yn bosibl i chi gael cerbyd Motability a dewis rhywun arall i'w yrru. Gallwch chi ddewis hyd at 2 o bobl i yrru ar eich rhan.

Hawlio ar ran plentyn

Mae'n bosibl hawlio am gerbyd Motability ar gyfer plentyn sy'n 3 oed neu'n hŷn.

Darllenwch fwy am y cymorth Motability sydd ar gael ar GOV.UK.

Os ydych chi’n symud o DLA i PIP

Os ydych chi'n symud o DLA i PIP ac nad ydych chi'n gymwys i gael yr elfen symudedd ar y gyfradd uwch ar ôl i chi gael eich ailasesu, bydd yn rhaid i chi ddychwelyd eich cerbyd.

Dylech ddychwelyd eich cerbyd o fewn 8 wythnos i'ch taliadau DLA ddod i ben – neu 26 wythnos os wnaethoch chi ymuno â Motability cyn 2014.

Efallai y byddwch chi'n gymwys i gael taliad untro/unigol gan Motability pan fyddwch chi'n dychwelyd eich cerbyd, yn dibynnu ar gyflwr y cerbyd a phryd y gwnaethoch chi ymuno â Motability.

Gallwch gael gwybodaeth gan Motability am ddychwelyd eich cerbyd a'r taliad, a elwir yn 'gymorth pontio'.

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi cael y swm anghywir o PIP, gallwch chi herio'r penderfyniad. Mae rhai penderfyniadau PIP yn cael eu gwrthdroi ar apêl, felly efallai y byddwch chi'n gallu cael cerbyd arall.

Talu am eich cerbyd

Bydd eich budd-dal yn mynd yn uniongyrchol i'r Cynllun Motability bob mis i dalu am eich prydles. Bydd faint o'ch budd-dal a fydd yn mynd tuag at eich cerbyd yn dibynnu ar ba gerbyd a ddewiswch

Mae'n debyg y bydd angen i chi wneud taliad ymlaen llaw os dewiswch chi gerbyd drutach. Efallai y byddwch yn gallu cael rhywfaint o help gyda'r taliad hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae rhagor o wybodaeth am gael cymorth ariannol ychwanegol ar wefan elusen Motability. .

Beth gewch chi

Yn ogystal â’ch cerbyd, byddwch yn cael:

Os ydych chi am ddefnyddio'ch cerbyd at ddibenion gwaith, bydd angen i chi gael caniatâd gan RSA Motability. Efallai y byddwch chi'n cael defnyddio'ch cerbyd ar gyfer rhai mathau o weithgarwch busnes, er enghraifft os ydych chi'n werthwr sydd yn teithio. Ni fyddwch yn cael defnyddio'ch cerbyd ar gyfer mathau eraill o waith – er enghraifft fel tacsi neu i ddosbarthu pethau. Gallwch gysylltu ag RSA Motability naill ai’n ysgrifenedig neu dros y ffôn. Gofynnwch am 'Ffurflen Gais – Defnydd Busnes' .

RSA Motability

PO Box 40

New Hall Place

Old Hall Street

Liverpool

L69 3SD

Rhif ffôn: 0300 037 3737

Ffôn testun: 

8am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 4pm ar ddydd Sadwrn

Sut i ddod o hyd i gerbyd Motability

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Mae'n werth cael hyn yn barod cyn i chi ddechrau chwilio am gerbyd.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich dogfen adnabod – fel trwydded yrru neu basbort

  • eich tystysgrif hawl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Dylech ddilyn y camau hyn i gael cerbyd Motability:

1) Sut i ddod o hyd i werthwyr ceir

Gallwch ddod o hyd i werthwyr ceir yn eich ardal ar wefan Motability.

Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Motability. Gall gymryd peth amser i gael ateb rhwng 9am a 11am ar ddydd Llun, felly mae'n werth ffonio y tu allan i'r oriau yma os gallwch chi.

Llinell Gymorth Motability 

Rhif ffôn : 0300 456 4566

8am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 1pm ar ddydd Sadwrn

Mae galwadau'n costio 12c y funud o linell dir, a rhwng 3c a 45c o ffôn symudol

2) Ymweld â gwerthwyr ceir

Ar ôl i chi ddod o hyd i werthwr yr ydych yn hapus ag ef, gofynnwch am apwyntiad gyda'i arbenigwr Motability. Gallwch ofyn i’r arbenigwr ymweld â chi gartref neu helpu i drefnu eich cludiant at y gwerthwr ac yn ôl, os yw'n anodd i chi gyrraedd yno.

Gofynnir i chi lenwi holiadur i helpu i ddod o hyd i’r cerbyd mwyaf addas i chi.

Rhowch wybod i'ch gwerthwr ceir os ydych chi'n meddwl bod angen addasu eich cerbyd. Mae Motability yn cynnig rhai addasiadau am ddim – gallwch wirio a yw'r addasiad sydd ei angen arnoch ar gael ar eu gwefan.

Os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn neu gymorth symudedd, ewch â nhw gyda chi i wneud yn siŵr eu bod yn ffitio yn y car.

Os nad ydych chi'n hapus gyda'r dewis o gerbydau sydd gan y gwerthwr i'w gynnig, mae'n werth cysylltu ag un arall – efallai y bydd opsiynau eraill yno.

3) Archebu eich cerbyd

Ar ôl i chi ddod o hyd i'r cerbyd cywir, gallwch ei archebu drwy eich gwerthwr ceir.

Bydd angen i chi ddangos:

  • eich tystysgrif hawl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

  • math o ddogfen adnabod, fel pasbort neu drwydded yrru

  • prawf o gyfeiriad, fel bil treth gyngor neu ddatganiad banc o'r 6 mis diwethaf

Os mai chi fydd yn gyrru'r car, bydd angen i chi ddangos eich trwydded yrru.

Tua phythefnos ar ôl archebu eich car, byddwch yn cael llythyr cadarnhau yn y post. Cadwch ef yn ddiogel – mae'n cynnwys eich Rhif Adnabod Personol (PIN). Bydd angen hwn arnoch chi pan fyddwch chi'n casglu eich cerbyd.

4) Casglu eich cerbyd a llofnodi'r brydles

Byddwch yn llofnodi eich cytundeb prydles drwy nodi eich Rhif Adnabod Personol (PIN) gyda’r gwerthwr ceir.

Gallwch ofyn i'ch cerbyd gael ei ddanfon, os na allwch gyrraedd y gwerthwr ceir yn hawdd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.