Problem o ran trwsio’ch car

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes problem wedi codi o ran trwsio’ch car neu o ran gwasanaeth ar ei gyfer, y peth gorau i’w wneud yw negodi â’r garej i ddod o hyd i’r ateb gorau.

Os na fydd hynny’n gweithio, gallwch gymryd camau pellach i ddatrys y broblem.

Dylech bob amser ofyn i’ch garej beth y gall ei wneud i’ch helpu cyn i chi wario unrhyw arian ychwanegol ar geir llog neu ar deithio. Er enghraifft, gall fod modd iddi roi car cwrteisi i chi. Nid yw llys yn debygol o ddyfarnu arian i chi os yw’r garej yn cynnig gwasanaethau na fu i chi fanteisio arnyn nhw.

Mae’n syniad da cadw cofnod a derbynebau o unrhyw arian ychwanegol y mae’n rhaid i chi ei wario er mwyn teithio tra rydych yn herio’r bil. Gall fod angen i chi brofi hyn yn ddiweddarach.

Negodi â’r garej

Siaradwch â’r garej wyneb yn wyneb neu dros y ffôn – efallai y gallwch ddatrys y broblem yn gyflym. Os na fydd y garej yn cytuno i unioni’r broblem yn y fan a’r lle, gallech ysgrifennu neu anfon e-bost at y garej i sicrhau bod gennych gofnod o’r broblem a’ch cyfathrebu â’r garej.

Gallwch ddefnyddio’r llythyr enghreifftiol hwn fel templed i gwyno am nwyddau diffygiol a gyflenwyd gyda gwasanaeth – bydd yr hyn y byddwch yn ei roi yn y llythyr yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os na fu i’r gwaith trwsio weithio neu os bu iddo greu problem newydd

Dylech ofyn i’r garej drwsio unrhyw ddiffygion:

  • na chawsant eu trwsio’n gywir

  • na chafwyd hyd iddyn nhw’n gywir

  • nad oedden nhw’n bodoli cyn i chi fynd â’r car i’r garej

Eich hawliau a beth i’w ddweud

Os na chafodd y gwaith ei wneud ‘â gofal a medr rhesymol’, mae gennych hawl gyfreithiol i gael y gwaith wedi’i wneud eto neu i gael gostyngiad ar bris y gwaith. Dywedwch hyn wrth y garej. Gall fod yn anodd cytuno ar yr hyn sy’n ‘rhesymol’, felly mae’n syniad da cael ail farn gan garej arall.

Os nad yw’r garej yn fodlon gwneud y gwaith

Gallwch negodi â’r garej i gael adroddiad gan garej neu beiriannydd cerbydau annibynnol i ddangos bod y gwaith trwsio wedi’i wneud yn gywir. Bydd angen i chi a’r garej gytuno pwy fydd yn darparu’r adroddiad hwn, sut y bydd y gost yn cael ei rhannu, ac y bydd y naill a’r llall ohonoch yn derbyn y canfyddiadau. Os bydd yr adroddiad yn dangos na chafodd y gwaith ei wneud yn gywir, dylai’r garej wreiddiol drwsio’r car.

Gallech ofyn i garej arall roi dyfynbris neu amcanbris ysgrifenedig i chi am wneud y gwaith. Bydd hyn yn profi bod angen ail-wneud y gwaith trwsio neu ailgynnal y gwasanaeth, a gallai eich cynorthwyo i negodi â’r garej wreiddiol er mwyn datrys y broblem.

Gallech hefyd ofyn i’r garej ad-dalu rhywfaint o’r arian a dalwyd gennych – mae gennych hawl gyfreithiol i gael gostyngiad ar y pris os na chafodd y gwaith ei wneud ‘â gofal a medr rhesymol’. Gall ail farn eich cynorthwyo chi a’r garej i gytuno ar yr hyn sy’n rhesymol.

Gall fod modd i chi gael eich arian yn ôl drwy’ch banc. Cysylltwch â’ch banc a dywedwch eich bod am ddefnyddio’r cynllun ‘Chargeback’. Nid yw llawer o weithwyr banc yn gwybod am y cynllun, felly gall fod angen i chi siarad â rheolwr.

Os bu i chi dalu â cherdyn credyd a bod y gwaith trwsio wedi costio mwy na £100, gall fod yn haws i chi ddweud wrth eich banc eich bod am ‘wneud hawliad adran 75’.

Y camau nesaf

Dylech gymryd camau pellach os yw’r garej yn gwrthod gwneud y gwaith trwsio ac nad ydych yn gallu dod i gytundeb.

If you think you’re being overcharged

Os ydych yn credu bod y garej yn codi gormod

Os bu i chi gytuno ar bris cyn i’r gwaith gael ei wneud

Os bu i chi gytuno ar swm (neu os cawsoch ddyfynbris) cyn i’r garej wneud y gwaith, bydd rhaid i chi dalu’r bil cyfan am eich bod wedi ymrwymo i gontract â’r garej (hyd yn oed os na fu i chi lofnodi unrhyw beth). Gallwch ofyn i’r garej ostwng y pris, ond nid oes rhaid iddi wneud hynny.

Dyfynbris neu amcanbris?

Os bydd masnachwr yn rhoi dyfynbris, bydd yn addo gwneud gwaith am bris y cytunir arno. Dylai’r dyfynbris ddweud pa waith fydd yn cael ei wneud a beth fydd y pris.

Amcanbris yw amcan gorau masnachwr o gost y gwaith – nid dyfynbris mohono.

Gallwch gymryd camau pellach os yw’r masnachwr yn codi mwy na’r swm y cytunwyd arno a’ch bod yn credu bod hynny’n afresymol.

Os na fu i chi gytuno ar bris cyn i’r gwaith gael ei wneud (neu os mai dim ond amcanbris a gawsoch)

Os mai dim ond amcanbris a roddwyd gan y masnachwr, gall godi mwy o dâl am y gwaith o fewn rheswm. Os nad ydych yn credu bod y swm ychwanegol a godir yn rhesymol, gofynnwch i’r garej ostwng y pris.

Eich hawliau a beth i’w ddweud

Os na chytunwyd ar bris cyn i’r gwaith gael ei wneud, mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn rhoi hawl gyfreithiol i chi dalu ‘pris rhesymol’ yn unig. Dywedwch hyn wrth y garej.

Gall fod yn anodd cytuno ar yr hyn sy’n ‘rhesymol’. Byddai’n rhesymol, er enghraifft, i’r garej godi mwy o dâl os oedd angen ychydig mwy o amser arni i wneud y gwaith trwsio neu os oedd angen mwy o gydrannau i wneud y gwaith. Gallwch gael ail farn gan garej arall os nad ydych chi’n siŵr beth sy’n rhesymol.

Os ydych chi’n credu bod y gost yn afresymol a bod y garej yn gwrthod gostwng y pris, dylech gymryd camau pellach.

Os bu i’r garej wneud gwaith na fu i chi ofyn iddi ei wneud

Os dywedoch chi wrth y garej am wneud beth bynnag yr oedd angen ei wneud i drwsio’r car, wedyn bu i chi roi hawl i’r garej ei hun benderfynu pa waith i’w wneud. Bydd rhaid i chi dalu os oedd y gwaith yn angenrheidiol a’r pris yn rhesymol. Gallwch ofyn am ail farn os nad ydych chi’n credu bod y pris yn rhesymol.

Os ofynnoch chi i’r garej wneud darn penodol o waith yn unig a’i bod wedi gwneud gwaith ychwanegol na fu i chi ofyn iddi ei wneud, gallwch chi ofyn iddi ddad-wneud y gwaith hwnnw. Os nad yw hynny’n bosibl, dylech chi fynnu eich bod yn talu am y gwaith y cytunwyd arno yn unig.

Y camau nesaf

Os yw’r garej yn codi tâl arnoch chi am waith na fu i chi ofyn iddi ei wneud, gallwch gymryd camau pellach.

Os yw’n cymryd yn rhy hir i drwsio’ch car

Gallwch ofyn i’r garej am gar cwrteisi (car y bydd y garej yn ei roi i chi ei ddefnyddio yw hwn – ni fydd pob garej yn cynnig gwasanaeth o’r fath). Cadwch gofnod o’r holl arian ychwanegol y byddwch yn ei wario ar deithio – gall fod angen i chi brofi hyn yn ddiweddarach.

Os mai gwaith ar gorff neu ffrâm y car sy’n cael ei wneud a bod oedi cyn i’r cydrannau ddod i law, gallech ofyn i gael mynd â’ch car o’r garej a pharhau i’w ddefnyddio hyd nes bod y cydrannau wedi cyrraedd.

Bydd y camau eraill y dylech chi eu cymryd yn dibynnu a fu i chi gytuno’n wreiddiol ar ddyddiad ar gyfer cwblhau’r gwaith ai peidio.

Os bu i chi gytuno ar ddyddiad ar gyfer cwblhau’r gwaith

Os hoffech i’r garej wreiddiol gwblhau’r gwaith, dylech chi negodi dyddiad newydd ar gyfer cwblhau’r gwaith trwsio. Os nad ydych chi’n sicr pa ddyddiad newydd y dylid ei bennu, gallech chi ofyn i gael barn garej arall ynghylch pa mor hir y dylai gymryd i wneud y gwaith trwsio. Os nad yw’r garej yn cynnig gwneud y gwaith o fewn cyfnod derbyniol, gallwch gymryd camau pellach.

Os na fu i chi gytuno ar ddyddiad ar gyfer cwblhau’r gwaith

Cysylltwch â’r garej a chytunwch ar ddyddiad ar gyfer cwblhau’r gwaith – gwnewch nodyn o amser a dyddiad yr alwad, y sawl y gwnaethoch chi siarad ag ef, a’r hyn y cytunwyd arno.

Your rights and what to say

If no date was agreed before the work was done, the Consumer Rights Act 2015 gives you the legal right to get the work done within a ‘reasonable time’. Tell this to the garage.

It can be difficult agreeing on what is ‘reasonable’. It would be reasonable, for example, to be charged more if the garage needed a bit more time for the repairs or they needed more parts. You can get a second opinion from another garage if you’re not sure what is reasonable.

You can ask the garage for a refund of some of the payment you made (if you paid in advance) if they don’t do the work within a reasonable amount of time. A second opinion can help you and the garage agree on what is reasonable.

Y camau nesaf

Os na allwch gytuno ar ddyddiad rhesymol ar gyfer cwblhau’r gwaith, neu os na chaiff y gwaith ei gwblhau erbyn y dyddiad newydd y cytunir arno, gallwch gymryd camau pellach.

Os yw’r garej wedi difrodi’ch car

Os yw’ch car wedi’i ddifrodi tra mae yn y garej, dylech negodi â’r garej er mwyn iddi dalu i drwsio’r difrod.

Y peth gorau i’w wneud yw tynnu sylw at y difrod cyn gynted â phosibl, neu gallai ymddangos fel pe baech wedi derbyn yr hyn sydd wedi digwydd.

Yr uchafswm y mae’n rhaid i’r garej ei gynnig i chi yw cost trwsio’r difrod. Er enghraifft, os yw’r garej wedi crafu drws eich car, dylai dalu cost ailbaentio’r drws, nid o reidrwydd gost prynu drws newydd.

I atgyfnerthu’ch dadl, gallwch ddangos i’r garej eich bod yn gwybod eich hawliau cyfreithiol drwy ddweud wrthi eich bod yn gwybod bod “gan fasnachwyr gyfrifoldeb gofal o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015”.

Gall fod gan y garej arwydd ar y safle sy’n dweud nad yw’n gyfrifol am unrhyw ddifrod – gallai hyn gael ei ystyried yn ‘deler annheg’ sy’n golygu ei bod yn dal i fod yn atebol – dylech ddweud hyn wrthi.

Hawlio’r gost o dan bolisi yswiriant

Gan ddibynnu ar y math o yswiriant sydd gennych, gall fod modd i chi hawlio am y difrod o dan eich polisi yswiriant car. Gallech chi golli eich bonws dim hawliadau pe baech yn gwneud hyn.

Gallech chi hefyd gysylltu â chwmni yswiriant y garej i weld a allwch chi negodi â’r cwmni er mwyn iddo dalu am y gwaith. Er hyn, nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol arno i wneud hynny.

Y camau nesaf

Os yw’r garej yn gwrthod talu am y difrod i’ch car ac nad ydych chi am hawlio’r gost o dan eich polisi yswiriant, gallwch gymryd camau pellach.

Cymryd camau pellach os yw’ch ymgais i negodi wedi methu

Os yw’r broses o negodi â’r garej wedi dod i ddim, mae gennych opsiynau i’ch cynorthwyo i gael y gwaith wedi’i wneud neu i hawlio iawndal. Ond dylech chi bob amser geisio negodi â’r garej yn gyntaf.

Nid oes gan y garej hawl i werthu’r car na chael gwared arno tra rydych chi’n herio’r bil. Fodd bynnag, caiff gadw’r car tra mae’r bil yn cael ei herio.

Talu’r garej er mwyn i chi gael eich car yn ôl

Os oes angen i chi gael eich car yn ôl ond nad ydych chi’n fodlon talu’r swm y gofynnir i chi ei dalu, gallwch dalu ‘o dan brotest’ a pharhau i’w herio. Mae hyn yn golygu eich bod yn talu’r swm cyfan ond yn rhoi gwybod i’r garej y gall ddisgwyl i chi gymryd camau pellach.

Ysgrifennwch y geiriau “talu o dan brotest” [“paying under protest”] yn glir ar gopi’r garej o’r daflen gorchymyn trwsio ac unrhyw gopïau o’r derbynebau a wneir gan y garej. Os na fyddwch yn dweud eich bod yn talu o dan brotest, bydd yn anodd i chi gael iawndal yn ddiweddarach, oherwydd gallai’r garej ddadlau eich bod yn derbyn y taliadau drwy dalu’r bil.

Nid oes sicrwydd y byddwch chi’n cael yr arian yn ôl yn ddiweddarach, ond mae ffyrdd o geisio gwneud hyn.

Os na allwch chi fforddio talu, cynigiwch dalu’r hyn rydych chi’n ei ystyried yn swm rhesymol yn gyfnewid am gael y car yn ôl, yna gallwch chi herio gweddill y bil ar wahân.

Negodi drwy gymdeithas fasnach

Gofynnwch i’r garej a yw’n aelod o unrhyw gymdeithas fasnach (er enghraifft, Yr Ombwdsmon Moduron, Ffederasiwn y Diwydiant Manwerthu Moduron neu Gymdeithas y Diwydiant Beiciau Modur). Gallwch hefyd chwilio gwefannau’r cymdeithasau masnach i weld a yw’r garej yn aelod.

Bydd rhai cymdeithasau masnach yn cynnig gwasanaeth am ddim i’ch cynorthwyo i ddatrys yr anghydfod â’r garej – gall hyn gynnwys cael iawndal (ee am eich bod ar eich colled yn ariannol neu am fod eich amser wedi’i wastraffu).

Cysylltwch â’r gymdeithas fasnach ac eglurwch eich amgylchiadau – weithiau gelwir hwn yn ‘wasanaeth cymodi’.

Ni fyddwch chi ond yn gallu cael cymorth gan gymdeithas fasnach os yw’r garej yn aelod ohoni.

Defnyddio cynllun dull amgen o ddatrys anghydfod 

Gofynnwch i’r garej a yw’n aelod o gynllun dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR) – mae hon yn ffordd o ddatrys anghytundeb heb fynd i’r llys. Bydd trydydd parti yn cyfryngu er mwyn ceisio cytuno ar ddatrysiad.

Os nad yw’n ymateb, os nad yw’n aelod o gynllun o’r fath neu os nad yw’n fodlon ei ddefnyddio, cadwch gofnod o’r dyddiad a’r amser y bu i chi ofyn iddi. Bydd angen y manylion hyn arnoch chi os bydd yr achos yn mynd i’r llys.

Os ydych chi am roi cynnig ar ddefnyddio cynllun dull amgen o ddatrys anghydfod, gallwch ddod i wybod mwy am y cynllun hwn a ffyrdd eraill o ddatrys problem barhaus.

Mynd â’r car i garej arall

Mae risg ynghlwm wrth yr opsiwn hwn, oherwydd mae’n debygol y bydd angen i chi fynd i’r llys neu at gymdeithas fasnach i hawlio’r arian ychwanegol y byddwch yn ei wario i gael y gwaith wedi’i wneud. Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael yr arian yn ôl.

Gall fod modd i chi fynd â’r car i garej wahanol. Bydd yn dibynnu faint o waith y mae’r garej wreiddiol eisoes wedi’i wneud ac a yw’ch car yn ddiogel i’w yrru ai peidio.

Os bydd y car yn cael ei drwsio mewn garej newydd, gallwch geisio hawlio iawndal neu fynd i’r llys i gael cost cyflawni’r gwaith trwsio ychwanegol wedi’i had-dalu. Gall fod modd i chi gydweithio â chymdeithas fasnach i gyflawni hyn (os yw’r garej yn aelod ohoni).

Rhoi gwybod i’r gwasanaeth Safonau Masnach am y garej

Os yw’r garej yn dyfynnu un pris ond yn codi pris arall (neu fel arall yn defnyddio hysbysebion camarweiniol neu arferion annheg), gallwch roi gwybod i’r gwasanaeth Safonau Masnach amdani. O roi gwybod iddo am y garej, gallech chi sicrhau nad yw cwsmeriaid eraill yn cael eu camarwain ganddi yn y dyfodol.

Mwy o gymorth

Os oes angen mwy o gymorth arnoch chi, cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1133, neu 0808 223 1144 i siarad â chynghorydd yn Gymraeg – gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein.

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.