Problem gyda char ail law
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Problem gyda char ail-law
Os oes rhywbeth o'i le gyda'ch car ail-law, efallai fod gennych hawl gyfreithiol i gael trwsio’r car, i gael y costau trwsio, neu i gael eich holl arian – neu rywfaint ohono – yn ôl. Mae hyn yn cynnwys os yw’r car wedi’i ddifrodi, os nad yw’n gweithio, neu os nad yw’n cyfateb i’r hysbyseb neu’r disgrifiad a gawsoch.
Ni fydd gennych hawl i unrhyw beth:
os dywedwyd wrthych am y nam pan brynoch y car, a bod rhywun wedi egluro’n llawn beth oedd y broblem yn ei olygu
os gwnaethoch chi archwilio'r car a bod problem y dylech fod wedi sylwi arni – tolc er enghraifft
os mai chi achosodd y nam
os yw’r nam yn arferol o ystyried faint mae’r car wedi cael ei ddefnyddio (gelwir hyn yn ‘draul dderbyniol’) – er enghraifft os oes angen newid padiau’r brêcs ar ôl iddynt gael eu defnyddio am amser hir
Mae eich hawliau fel cwsmer yn wahanol os ydych chi wedi newid eich meddwl am y car a does dim byd o’i le arno. Ewch i weld beth i’w wneud os ydych chi wedi newid eich meddwl am rywbeth rydych wedi'i brynu.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.