Prynu car ail law

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae yna gamau y gallwch chi eu cymryd i'ch helpu i osgoi prynu car sydd wedi'i ddifrodi'n sylweddol, wedi'i ddwyn neu ei newid yn anghyfreithlon. Byddan nhw hefyd yn eich helpu i gael car na fydd yn torri i lawr.

Gall gwneud y gwiriadau priodol helpu i osgoi problemau ac arbed arian yn nes ymlaen.

Os ydych chi'n dod o hyd i rywbeth o'i le ar ôl prynu car ail law

Mae'n werth gwybod bod gennych chi hawliau cyfreithiol o hyd, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwneud y gwiriadau priodol. Os oes rhywbeth o'i le gyda'ch car ail law (e.e. darlleniad milltiroedd ffug neu'n torri i lawr o hyd), efallai y bydd gennych hawl gyfreithiol i waith trwsio, cost y gwaith trwsio, neu i gael eich holl arian yn ôl neu rywfaint ohono.

Gwneud yn siŵr bod masnachwr yn ddibynadwy

Os ydych chi'n prynu gan fasnachwr (busnes sy'n gwerthu ceir) dylech:

  • chwilio am gwmni sydd wedi hen sefydlu gydag enw da

  • chwilio am arwydd cymdeithas fasnach (er enghraifft, Ffederasiwn Diwydiant Moduron Manwerthu neu Gymdeithas Masnach Moduron yr Alban) neu arwydd sy'n dweud eu bod yn dilyn cod ymarfer yr Ombwdsmon Moduron - mae hyn yn golygu y gallwch weithredu drwy gymdeithas fasnach os bydd rhywbeth yn mynd o'i le

  • chwilio am fasnachwr y mae ei geir wedi'u harchwilio gan beiriannydd annibynnol neu sefydliad moduro

Prynu o ocsiwn

Mae’r risg mwyaf, mae'n debyg, os byddwch yn prynu car ail law mewn arwerthiannau. Mae'n debyg na fuasech wedi eich diogelu’n gyfreithiol fel y buasech wrth brynu trwy fasnachwr (er enghraifft, yr hawl i ddychwelyd car ac ad-daliadau).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen telerau ac amodau busnes y tŷ ocsiwn yn ofalus cyn gwneud cais.

Edrych ar hanes y car

Bydd gwneud rhai gwiriadau syml yn lleihau eich siawns o brynu car sy'n cael ei werthu'n anghyfreithlon neu un y gwnaed gwaith trwsio sylweddol iddo. Gallwch hefyd ddarganfod a oes arian yn ddyledus gan y perchennog presennol ar gyfer y car.

Nid yw'n cymryd llawer o amser nac yn costio llawer. Dylech ystyried gwneud hyn, waeth pwy rydych chi'n prynu oddi wrtho.

1. Edrych ar fanylion y car gyda'r DVLA

Gofynnwch i'r gwerthwr:

  • am rif cofrestru (ar y plât rhif) y car

  • rhif prawf MOT

  • milltiroedd

  • gwneuthuriad a model

Defnyddiwch adnodd gwirio gwybodaeth cerbydau arlein y DVLA, sydd am ddim, i wneud yn siŵr bod yr hyn y mae'r gwerthwr yn ei ddweud wrthych yn cyd-fynd â chofnodion y DVLA.

Os nad yw rhai o'r mân fanylion yn cyfateb, gallwch ofyn i'r gwerthwr egluro - gallai fod yn gamgymeriad syml. Ond os ydych chi'n amau bod y gwerthwr wedi rhoi manylion ffug i chi, ni ddylech brynu'r car.

Pwysig

Os nad yw gwybodaeth y car yn cyd-fynd â chofnodion y DVLA

Dylech roi gwybod i'r heddlu am y gwerthwr os nad yw'r llyfr log (tystysgrif gofrestru V5C) yn cyfateb i'r car ar gofnodion y DVLA.

2. Edrych ar y MOT a'r hanes

Mae angen profion MOT rheolaidd ar gerbydau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel i fod ar y ffordd. Dylech wirio bod profion MOT wedi'u gwneud yn rheolaidd ers y dechrau (mae'r rhan fwyaf o geir dros 3 oed angen prawf MOT bob blwyddyn).

Edrychwch ar hanes MOT car ar GOV.UK. Mae hwn yn wasanaeth am ddim.

Gofynnwch i'r gwerthwr am unrhyw fylchau mewn MOT - peidiwch â’i brynu os ydych chi'n amheus o hanes MOT y car. Efallai na fyddai angen MOT ar gar pe bai heb ei ddefnyddio am gyfnod o amser ac wedi'i gofrestru fel SORN (hysbysiad statudol oddi ar y ffordd).

3. Edrych ar hanes y car ar eich rhan yn breifat

Mae'n syniad da bod rhywun yn edrych ar hanes y car ar eich rhan yn breifat (yr enw ar hyn weithiau yw 'gwiriad data') - bydd hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi am broblemau difrifol y gallai fod gan y car. Bydd yn costio hyd at £20.

Bydd yn dweud wrthych os:

Gallwch wirio hanes car trwy chwilio ar-lein am wefannau sy'n gwirio manylion cerbydau.

Archwilio'r car a rhoi prawf ar gar

Dylech drefnu i weld y car yng ngolau dydd, yn ddelfrydol pan fydd hi’n sych - mae'n anos gweld difrod i'r car os yw'n wlyb. Mae'n syniad da cyfarfod y gwerthwr preifat yn ei dŷ fel y bydd gennych gofnod o'u cyfeiriad os bydd rhywbeth yn mynd o'i le ar ôl i chi brynu'r car.

Mae gan yr AA restr wirio ddefnyddiol o’r hyn y dylech chi edrych allan amdano wrth archwilio car ail law a'i waith papur. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am hanes trin y car.

Dylech yn bendant fynd am dro i roi prawf ar y car. Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod wedi'ch yswirio i wneud hyn.

Os oes gennych chi eich yswiriant car eich hun, holwch eich cwmni yswiriant i weld a allwch chi yrru car rhywun arall. Os nad oes gennych chi yswiriant, gallai yswiriant masnachwr neu werthwr preifat fod yn addas - bydd angen i chi ofyn iddynt.

Pwysig

Os nad ydych wedi'ch yswirio

Peidiwch â rhoi prawf ar y car os nad ydych chi wedi'ch yswirio. Byddwch yn atebol am unrhyw ddifrod rydych chi'n ei achosi a gallech gael pwyntiau ar eich trwydded.

Gyrrwch am o leiaf 15 munud ar wahanol fathau o ffordd. Mae gan yr AA restr wirio o’r hyn y dylech chi edrych allan amdano wrth roi prawf ar gar.

Os ydych chi’n dal ddim yn siŵr - mynnwch adroddiad annibynnol

Os ydych chi’n dal ddim yn siŵr, mae'n debyg y byddai’n syniad da chwilio am gar arall.

Fodd bynnag, gallwch fynd gam ymhellach a chael adroddiad annibynnol ar y car. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am gyflwr y car a bydd yn costio tua £120 i £250.

Gwneir adroddiadau annibynnol gan sefydliadau moduro a chwmnïau arbenigol - ffoniwch yr Ombwdsmon Moduron i gael cyngor ynglŷn â lle i gael adroddiad annibynnol yn eich ardal chi. Mae'r Ombwdsmon Moduron yn gorff hunan-reoleiddio a gefnogir gan y llywodraeth ar gyfer y diwydiant moduro.

Yr Ombwdsmon Moduron

Ffôn: 0345 241 3008

Pan fyddwch chi'n prynu'r car – gwneud y taliad

Peidiwch â bod ofn bargeinio - dechreuwch yn isel a gadewch i'r gwerthwr godi'r pris yn raddol. Peidiwch â chynhyrfu. Dylech ond dalu’r hyn y gallwch ei fforddio. Cofiwch y gallwch chi stopio bargeinio os ydych chi'n teimlo eu bod yn rhoi pwysau arnoch i dalu gormod neu brynu offer ychwanegol.

Mae gan Helpwr Arian ganllawiau defnyddiol - sut i gyd-drafod wrth brynu car.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael y copi gwreiddiol (nid llungopi) o’r:

  • llyfr log (tystysgrif gofrestru V5C)

  • y ddogfen brawf MOT ddilys

Peidiwch byth â phrynu car heb y llyfr log.

Pwysig

Trosglwyddo'r dreth car

Ni all y gwerthwr drosglwyddo unrhyw dreth car a dalwyd yn barod i chi (mae’r rheolau ynghylch hyn wedi newid yn ddiweddar). Bydd angen i chi dalu treth cerbyd cyn gynted ag y byddwch chi'n prynu'r car. Bydd y gwerthwr yn cael ad-daliad am unrhyw dreth sydd ar ôl ar y car pan gaiff ei werthu.

Ffyrdd o dalu

Mae yna bethau i'w hystyried wrth benderfynu sut i dalu am gar ail law.

Pwysig

Cael cyllid neu fenthyciad ar gyfer car

Ystyriwch eich holl opsiynau cyn cael cyllid neu fenthyciad ar gyfer car. Gall fod yn ffordd ddrud o dalu, a bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n gallu fforddio'r ad-daliadau. Darllenwch gyngor ar gael cyllid gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Os ydych chi'n talu mewn arian parod

Ystyriwch:

  • nad oes ffioedd na llog ychwanegol

  • weithiau gallwch gael gostyngiad am dalu arian parod

  • os bydd rhywbeth yn mynd o'i le gyda'r car ni fyddwch wedi eich diogelu fel y byddech mewn rhai trefniadau credyd 

  • efallai na fyddwch chi'n teimlo'n gyfforddus neu'n ddiogel yn cario arian parod, yn enwedig os nad yw'n gar rhad

Os ydych chi'n defnyddio cerdyn debyd

Efallai y cewch eich diogelu rhag problemau os oes gan eich darparwr cerdyn gynllun ‘chargeback’.

Os ydych chi'n defnyddio cerdyn credyd

Ystyriwch:

  • gallwch fod yn hyblyg wrth wneud taliadau mwy pan allwch chi eu fforddio

  • cewch eich diogelu ar gyfer offer sy'n costio rhwng £100 a £30,000, hyd yn oed os mai dim ond rhan fach o'r gost a dalwyd ar gerdyn credyd (caiff hyn ei alw’n ‘diogeliad 'adran 75')

  • mae'r cyfraddau llog ar gardiau credyd yn aml yn llawer uwch na threfniant cyllid

Os ydych chi'n talu trwy drosglwyddiad electronig

Ystyriwch:

  • bydd gan eich banc derfyn uchaf ar y swm y gallwch ei drosglwyddo'n uniongyrchol i gyfrif rhywun arall

  • gallwch dalu gyda thaliad CHAPS ond bydd tâl am hyn – holwch eich banc

  • os ydych chi'n prynu gan werthwr preifat, efallai na fyddan nhw’n teimlo'n gyfforddus yn rhoi manylion eu cyfrif banc i chi

Os ydych chi'n talu gyda chyllid wedi'i drefnu gan fasnachwr

Ystyriwch:

  • bydd yn rhaid i chi dalu’n ychwanegol am log, felly bydd hyn yn ddrutach

  • gall hyn eich helpu i gael car os nad oes gennych yr holl arian ymlaen llaw

  • efallai y bydd gennych ddiogeliad ychwanegol os oes problem yn ddiweddarach, oherwydd gallwch gymryd camau yn erbyn y cwmni cyllid yn ogystal â'r masnachwr (neu yn lle'r masnachwr)

Os ydych chi'n talu gyda chyllid rydych chi wedi’i drefnu eich hun

Ystyriwch:

  • bydd yn rhaid i chi dalu’n ychwanegol am log, felly bydd hyn yn ddrutach

  • gall hyn eich helpu i gael car os nad oes gennych yr holl arian ymlaen llaw

  • unwaith y byddwch chi wedi cael yr arian gan y cwmni cyllid, gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd i gael diogeliad ychwanegol

  • os oes problem gyda'r car, ni fydd gan y cwmni cyllid unrhyw gyfrifoldeb am eich helpu i ddatrys y broblem

Prynu car trwy hurbwrcasu

Ystyriwch:

  • dydych chi ddim yn berchen ar y car nes bod y taliad olaf yn cael ei wneud

  • bydd yn rhaid i chi dalu blaendal - fel arfer tua 10% o werth y car

  • bydd cost sefydlog bob mis - felly mae'n haws cynllunio’ch cyllideb

  • gall y car gael ei adfeddiannu os na allwch barhau i fforddio eich taliadau

I gael rhagor o gyngor er mwyn ystyried a fyddai trefniant hurbwrcasu’n addas i chi, darllenwch prynu car trwy hurbwrcasu gan Helpwr Arian.

Cymorth pellach

Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 os oes angen mwy o help arnoch - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein.

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â  Consumerline.

Hawliau cyfreithiol ar ôl prynu car

Os oes problem gyda'ch car ail law ar ôl i chi ei brynu, mae gennych hawliau cyfreithiol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.