Newid eich meddwl am rywbeth rydych chi wedi’i brynu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Does gennych chi ddim hawl awtomatig i gael eich arian yn ôl os ydych chi’n newid eich meddwl am rywbeth rydych chi wedi’i brynu, ac os nad oes dim byd o’i le arno.

Nid yw pris yr eitem yn gwneud gwahaniaeth – y gwerthwr sy’n gyfrifol am benderfynu a ydyn nhw’n cynnig rhywbeth i chi ai peidio.

Gallwch chi gymryd rhai camau penodol, yn dibynnu ar ble y prynoch chi’r eitem a sut y gwnaethoch chi dalu amdani.

Os ydych chi’n meddwl bod problem gyda’r eitem, mae’n bosibl y bydd eich hawliau chi’n wahanol.

Os ydych chi wedi prynu'r eitem mewn siop

Darllenwch bolisi’r siop ar ddychwelydd eitemau.

Er nad oes rhaid iddynt yn ôl y gyfraith, bydd llawer o siopau’n dweud y cewch chi ddychwelyd eitemau o fewn 14 diwrnod neu hyd yn oed 30 diwrnod weithiau, ar yr amod nad yw’r eitemau’n cael eu defnyddio.

Yr un yw eich hawliau hyd yn oed os nad oedd modd i chi wirio na thrio’r eitem cyn i chi ei phrynu; er enghraifft, os oedd yr ystafelloedd newid wedi cau.

Mae’n bosibl y bydd polisi dychwelyd y siop wedi’i ysgrifennu ar eich derbynneb, neu gallech chi edrych ar eu gwefan neu ffonio eich cangen leol i ofyn. Yn aml, mae siopau’n lleihau’r amser sydd gennych chi i ddychwelyd eitemau a brynwyd mewn sêl, er y byddwch chi bob amser yn cael eich diogelu os oes rhywbeth yn ddiffygiol.

Bydd gennych chi well siawns os byddwch chi’n mynd â’ch derbynneb gyda chi ac yn dychwelyd yr eitem yn ei phecyn gwreiddiol. Y siop sy’n penderfynu beth maen nhw’n ei gynnig i chi – bydd angen i chi benderfynu a ydych am dderbyn y cynnig hwnnw ai peidio.

Os ydych chi wedi prynu’r eitem ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post

Os ydych chi wedi prynu rhywbeth gan gwmni y tu allan i’r DU

Mae’n bosibl y bydd eich hawliau chi’n wahanol os ydych chi wedi prynu rhywbeth o dramor. 

Dylech chi edrych ar delerau ac amodau'r gwerthwr i weld a allwch chi ddychwelyd yr eitem. Os gallwch chi ddychwelyd yr eitem, dylech chi holi pwy fydd yn talu am y gost dychwelyd ac a oes modd cael ad-daliad am y gost danfon wreiddiol.

Byddwch chi’n cael cyfnod o 14 diwrnod i newid eich meddwl pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth nad ydych wedi’i weld yn bersonol – oni bai ei fod yn eitem sydd wedi’i gwneud yn benodol i chi.

Mae’r amser sydd gennych chi i newid eich meddwl yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i chi dderbyn eich archeb, a does dim rhaid bod unrhyw beth o’i le ar yr eitem er mwyn i chi gael ad-daliad.

Os ydych chi wedi talu am opsiwn danfon safonol wrth brynu rhywbeth, rhaid i’r gwerthwr ad-dalu hyn os byddwch chi’n dychwelyd yr eitem. Os ydych chi wedi dewis opsiwn danfon drutach, bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth.

Nid oes gennych chi amser i newid eich meddwl gyda rhai eitemau. Ni fyddwch chi’n cael amser i newid eich meddwl pan fyddwch chi’n prynu’r canlynol:

  • rhywbeth sy'n dirywio'n gyflym – fel blodau neu fwyd

  • eitem a gafodd ei gwneud yn arbennig i chi

  • unrhyw eitem gan unigolyn preifat – e.e. drwy farchnad ar y cyfryngau cymdeithasol neu safle arwerthu ar-lein

  • CD, DVD neu feddalwedd, os ydych chi’n torri’r sêl ar y papur lapio

  • eitem sydd â sêl hylendid wedi'i thorri – fel clustdlysau

Os yw eitem yn cael ei gwerthu gan fusnes, bydd angen iddynt ddweud wrthych chi os nad oes gennych chi amser i newid eich meddwl. Rhaid iddynt roi gwybod i chi cyn i chi brynu’r eitem.

Os yw eitem yn cael ei gwerthu gan unigolyn preifat, does dim rhaid iddynt ddweud wrthych chi bod gennych chi amser i newid eich meddwl.

Defnyddio’r amser i newid eich meddwl

Mae angen i chi ddweud wrth y gwerthwr nad ydych chi eisiau'r eitem o fewn 14 diwrnod i'w derbyn. Ar ôl i chi ddweud wrth y gwerthwr, mae gennych chi 14 diwrnod arall i anfon yr eitem yn ôl.

Gallwch chi ddefnyddio ein llythyr templed i roi gwybod i’r gwerthwr eich bod chi’n canslo’r archeb. Cadwch gopi fel bod gennych chi brawf eich bod wedi’i anfon.

Fe allech chi ffonio hefyd – ond cofiwch wneud nodyn o bwy rydych chi’n siarad â nhw a beth y cytunwyd arno. Mae’n syniad da dilyn eich galwad ffôn yn ysgrifenedig – drwy lythyr neu e-bost.

Rhaid i werthwyr roi gwybodaeth benodol i chi pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth nad ydych chi wedi’i weld yn bersonol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad a rhif ffôn eu busnes, a manylion eich hawl i ganslo. Os na chawsoch chi’r wybodaeth hon yn ysgrifenedig (caniateir iddynt ei anfon drwy e-bost), bydd yr amser sydd gennych chi i newid meddwl yn cynyddu ymhellach fyth, i flwyddyn a phythefnos.

Amser i newid eich meddwl – y cyfnod byrraf

Mae’n rhaid i werthwr roi o leiaf 14 diwrnod i chi allu newid eich meddwl. Cofiwch ddarllen y telerau ac amodau rhag ofn eu bod wedi rhoi mwy o amser i chi newid eich meddwl – mae llawer o werthwyr yn dewis gwneud hynny. 

Sut i ddychwelyd yr eitem

Mae'r rhan fwyaf o werthwyr yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i ddychwelyd eitemau, ac yn aml maent yn cynnwys labeli dychwelyd gyda'ch archeb. Fel arfer, bydd gennych chi 14 diwrnod i ddychwelyd yr eitem ar ôl dweud wrth y gwerthwr – edrychwch ar y telerau ac amodau i weld faint o amser sydd gennych chi.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu'r gost o bostio rhywbeth yn ôl i'r gwerthwr. Dylai’r gwerthwr fod wedi dweud wrthych chi pan brynoch chi’r eitem pwy sy’n gorfod talu am hyn. Er enghraifft, gallant fod wedi nodi hyn yn y telerau ac amodau. Os na fyddant yn rhoi gwybod i chi, bydd yn rhaid iddynt ad-dalu eich costau postio.

Does dim rhaid i chi ddychwelyd yr eitem yn ei phecyn gwreiddiol, ond mae angen i chi wneud yn siŵr ei bod wedi’i phecynnu mewn ffordd sy’n golygu na fydd yn cael ei difrodi. Gall gwerthwyr ofyn i chi dalu os bydd rhywbeth yn cael ei ddifrodi oherwydd nad oedd wedi’i becynnu’n iawn.

Gall y gwerthwr hefyd ofyn i chi dalu (neu leihau eich ad-daliad) os ydych chi wedi gostwng gwerth yr eitem; er enghraifft, os oeddech chi wedi gwisgo’r esgidiau y tu allan a bod ôl gwisgo ar y gwadnau – ond dim ond os yw hynny yn y telerau ac amodau y cânt wneud hyn.

Os yw eich contract chi’n dweud bod yn rhaid i chi ddefnyddio’r pecyn gwreiddiol, mae hyn yn debygol o gael ei ystyried yn ‘delerau contract annheg’. Gallwch chi sôn am hyn wrth y gwerthwr a gweld a fydd yn cytuno i dderbyn yr eitem heb y pecyn gwreiddiol.

Mae’n syniad da cael tystysgrif postio gan y Post Brenhinol pan fyddwch yn postio'r eitem – gallwch ddefnyddio hon i brofi i’r gwerthwr eich bod wedi postio'r eitem.

Rhaid i’r gwerthwr roi’r ad-daliad i chi o fewn 14 diwrnod. Mae’r 14 diwrnod yn dechrau’r diwrnod ar ôl i’r gwerthwr gael prawf eich bod wedi postio’r eitem, neu ddiwrnod ar ôl iddynt dderbyn yr eitem – p’un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

Os ydych chi wedi talu am eich eitem drwy ddarparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn

Bydd angen i chi roi gwybod i’ch darparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn eich bod chi’n dychwelyd rhywbeth. Pwrpas hyn yw atal taliadau pellach rhag cael eu cymryd o’ch cyfrif.

Edrychwch ar wefan eich darparwr i weld beth yw ei broses o ddelio â dychwelyd eitemau.

Os ydych chi wedi prynu eich eitem gan werthwr y tu allan i’r DU

Mae’n bosibl eich bod chi wedi talu TAW, ffioedd danfon a thollau tramor i gael yr eitem. Gallwch chi wneud cais am ad-daliad o’r ffioedd ar GOV.UK.

Rhagor o gymorth

Cysylltwch â llinell gymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi – gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch chi hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.

Bydd cynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol hefyd yn gallu eich helpu chi i ddadlau eich achos, neu ddadlau ar eich rhan.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.