Cael iawndal os ydych chi’n cael toriad pŵer
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y byddwch chi'n gallu cael iawndal os yw eich cyflenwad trydan neu nwy yn cael ei dorri.
Gweithredwr eich rhwydwaith nwy neu drydan sy’n gyfrifol am drwsio toriadau pŵer a thalu iawndal i chi. Nid eich cyflenwr ynni yw'r cwmni hwn. Gallwch chi ganfod pwy yw gweithredwr eich rhwydwaith nwy neu drydan ar wefan Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni.
Os bydd eich cyflenwad yn cael ei dorri oherwydd mesurydd ynni diffygiol, bydd angen i chi gysylltu â'ch cyflenwr ynni. Gwiriwch os gallwch chi gael iawndal am fesurydd diffygiol.
Ni chewch iawndal mewn rhai sefyllfaoedd lle cafodd y toriad pŵer ei achosi gan argyfwng - er enghraifft, toriad pŵer oherwydd prinder pŵer cenedlaethol.
Os yw eich cyflenwad trydan wedi’i dorri
Mae'r iawndal a gewch chi yn dibynnu ar y rheswm dros y toriad pŵer a pha mor hir y parhaodd.
Dylai gweithredwr eich rhwydwaith trydan geisio cysylltu â chi a thalu'r swm cywir i chi heb i chi orfod hawlio.
Ffoniwch 105 am help mewn toriad pŵer
Os bydd toriad pŵer annisgwyl yn eich cartref, dylech chi ffonio 105. Bydd yr alwad hon, sydd am ddim, yn eich rhoi mewn cysylltiad â gweithredwr eich rhwydwaith trydan a all roi cymorth a chyngor i chi.
Os oes toriad pŵer wedi'i gynllunio
Mae’n rhaid i weithredwr eich rhwydwaith trydan roi 2 ddiwrnod o rybudd i chi os ydynt yn bwriadu torri eich cyflenwad i wneud gwaith. Fel arfer, byddant yn anfon llythyr atoch chi.
Gallwch chi gael iawndal o £40 os:
nad ydynt yn rhoi 2 ddiwrnod o rybudd i chi
maen nhw'n torri eich cyflenwad ar ddiwrnod gwahanol i'r dyddiad ar yr hysbysiad
Os achoswyd toriad pŵer annisgwyl gan storm
Bydd gweithredwr eich rhwydwaith trydan yn talu iawndal i chi os oes gennych hawl iddo. Does dim rhaid i chi wneud dim.
Mae faint y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar:
ba mor hir y buoch chi heb bŵer
os oedd y storm yn ‘gategori 1’ neu’n ‘gategori 2’
Rhoddir categori i storm yn dibynnu ar ba broblemau a achosodd. Mae’r rhain yn wahanol i’r categorïau a ddefnyddir gan Swyddfa’r Met ar gyfer stormydd.
Gall gweithredwr eich rhwydwaith trydan ddweud wrthych chi pa gategori oedd y storm. Gwiriwch pwy yw gweithredwr eich rhwydwaith trydan ar wefan Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni.
Os cawsoch chi doriad pŵer oherwydd storm categori 1, byddwch chi'n cael £85 os oedd y pŵer wedi’i ddiffodd am 24 awr.
Os oedd hi'n storm categori 2, byddwch chi'n cael £85 os oedd y pŵer wedi’i ddiffodd am 48 awr.
Byddwch chi'n cael £45 am bob 6 awr ychwanegol heb bŵer - hyd at uchafswm o £2,165.
Os na chafodd toriad pŵer annisgwyl ei achosi gan dywydd gwael
Mae faint rydych chi'n ei gael yn dibynnu ar faint o gartrefi a gafodd eu heffeithio.
Os ydych chi eisiau gwybod faint o gartrefi a gafodd eu heffeithio gan doriad pŵer, cysylltwch â gweithredwr eich rhwydwaith trydan lleol drwy ddefnyddio gwefan Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni.
Os cafodd dros 5,000 o gartrefi eu heffeithio, fe gewch chi £95 os bydd eich pŵer wedi’i ddiffodd am 12 awr. Fe gewch chi £45 am bob 12 awr ar ôl hynny.
Os cafodd dros 5,000 o gartrefi eu heffeithio, fe gewch chi £95 os yw’r pŵer wedi’i ddiffodd am fwy na 24 awr. Fe gewch chi £45 am bob 12 awr ar ôl hynny – hyd at uchafswm o £390.
Gallwch chi gael £95 ychwanegol os yw eich pŵer wedi’i ddiffodd fwy na 4 gwaith mewn 1 flwyddyn ariannol, am fwy na 3 awr bob tro. Mae'r flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth.
Os nad yw gweithredwr eich rhwydwaith trydan wedi talu iawndal
Os yw’r toriad wedi’i achosi gan dywydd gwael, dylai gweithredwr eich rhwydwaith trydan eich talu chi o fewn cyfnod rhesymol o amser. Os nad ydych chi wedi cael eich talu o fewn 4 wythnos i'r pŵer ddod yn ôl, dylech chi gysylltu â nhw i hawlio.
Os nad achoswyd y toriad gan dywydd gwael, dylech chi gael eich talu o fewn 10 diwrnod gwaith. Os nad ydych chi wedi cael eich talu yn ystod y cyfnod hwnnw, dylech gysylltu â gweithredwr eich rhwydwaith trydan i hawlio. Dylech chi hefyd gael £40 yn ychwanegol o iawndal.
Rhaid i chi hawlio o fewn:
3 mis ar gyfer toriad annisgwyl oni bai eich bod ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth lle nad oes terfyn amser
1 mis ar gyfer toriad a gynlluniwyd lle na roddodd gweithredwr eich rhwydwaith trydan 2 ddiwrnod o rybudd i chi
Os yw eich cyflenwad nwy wedi’i dorri
Rhaid i chi roi rhybudd o 7 diwrnod gwaith os yw gweithredwr eich rhwydwaith nwy yn bwriadu torri eich cyflenwad i wneud gwaith.
Gallwch chi gael iawndal o £40 os na fyddant yn rhoi rhybudd i chi.
Os yw’n doriad nwy annisgwyl, efallai y bydd gennych chi hawl i gael iawndal os yw eich cyflenwad nwy wedi’i dorri am fwy na 24 awr.
Fe gewch chi £60 ar ôl y 24 awr gyntaf, a £60 arall am bob cyfnod o 24 awr ar ôl hynny.
Dylai gweithredwr eich rhwydwaith nwy geisio cysylltu â chi a thalu’r swm cywir i chi heb i chi orfod hawlio.
Ni fyddwch chi’n gallu cael iawndal os:
cafodd dros 30,000 o gartrefi eu heffeithio
mai chi achosodd i’r cyflenwad nwy gael ei dorri
cymerodd gweithredwr eich rhwydwaith nwy gamau rhesymol i rwystro toriad pŵer yn ystod tywydd gwael
Gallwch chi gysylltu â gweithredwr eich rhwydwaith nwy i weld faint o gartrefi a gafodd eu heffeithio ac a chymerwyd camau rhesymol i rwystro toriad pŵer. Gwiriwch pwy yw gweithredwr eich rhwydwaith nwy lleol ar wefan Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni.
Os nad yw gweithredwr eich rhwydwaith nwy wedi talu iawndal
Dylai gweithredwr eich rhwydwaith nwy eich talu’n awtomatig o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddant yn eich talu’n uniongyrchol neu drwy eich cyflenwr. Os na fyddant yn gwneud hynny, dylech chi gael iawndal arall o £40.
IOs na chewch chi eich taliad iawndal, cysylltwch â gweithredwr eich rhwydwaith nwy. Gallwch wirio pwy yw gweithredwr eich rhwydwaith nwy ar wefan Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni.
Os ydych chi ar Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth eich cyflenwr
Dylech chi gael cyfleusterau coginio a gwresogi eraill. Os nad ydych chi ar y cynllun, gallwch ch wirio eich bod yn gymwys ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.
Sut byddwch chi'n cael eich talu
Bydd gweithredwr eich rhwydwaith trydan yn trosglwyddo'r arian i'ch cyfrif banc neu'n anfon siec atoch chi. Efallai y bydd angen iddynt gysylltu â chi yn gyntaf i wneud yn siŵr bod y manylion cywir ganddynt.
Fel arfer, bydd gweithredwr y rhwydwaith nwy yn anfon y taliad at eich cyflenwr. Yna bydd eich cyflenwr yn ei roi yn eich cyfrif. Dylent roi gwybod i chi am hyn.
Os oes gan weithredwr eich rhwydwaith nwy eich manylion, efallai y byddant yn eich talu'n uniongyrchol.
Bydd rhai cyflenwyr yn anfon siec atoch chi neu'n talu'r arian i'ch cyfrif banc. Os oes gennych fesurydd rhagdalu, efallai y byddant yn rhoi’r credyd ar y mesurydd yn uniongyrchol.
Os dywedir wrthych chi na allwch gael iawndal
Gallwch chi gwyno'n uniongyrchol i weithredwr eich rhwydwaith os ydych chi'n anghytuno â'u penderfyniad. Defnyddiwch eu gweithdrefn gwyno, a fydd ar eu gwefan
Os nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb i'ch cwyn, gallwch chi gysylltu â’n llinell gymorth i ddefnyddwyr.
Gallwch chi hefyd gwyno i'r Ombwdsmon Ynni. Nhw'n sy’n gyfrifol am ddatrys anghytundebau gyda gweithredwyr rhwydweithiau. Darllenwch sut i gwyno i’r Ombwdsmon Ynni.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.