Sut i ddarllen eich mesurydd nwy clyfar

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Does dim angen i chi ddarllen eich mesurydd clyfar fel arfer, gan fod mesuryddion clyfar yn anfon darlleniadau at eich cyflenwr yn awtomatig – ‘modd clyfar’ ydy'r enw ar hyn. Gallwch weld a ddylai eich mesurydd clyfar weithio yn y modd clyfar.

Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi ddarllen eich mesurydd clyfar mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft:

  • os ydych chi newydd newid cyflenwr – fel arfer, bydd angen i chi anfon y darlleniad cyntaf eich hun


  • os ydych chi’n newid cyflenwr a'u bod yn dweud nad ydynt yn gallu cysylltu â’ch mesurydd – gall hyn ddigwydd os oes gennych chi fesurydd clyfar hŷn


  • os ydych chi eisiau gwirio eich darlleniad – er enghraifft, i weld sut mae wedi newid yn ddiweddar


Ffoniwch eich cyflenwr i roi’r darlleniad iddynt – neu gwiriwch os gallwch chi gyflwyno darlleniad ar eu gwefan neu ar ap.

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd eich mesurydd, efallai y bydd eich cyflenwr ynni yn gallu rhoi cymorth ychwanegol i chi i ddarllen neu symud eich mesurydd. Gallwch chi weld a oes modd i chi gael cymorth ychwanegol gan eich cyflenwr ynni.

Gwiriwch eich mesurydd – nid eich monitor ynni clyfar

Pan fyddwch chi’n cael mesurydd clyfar, fel arfer byddwch chi hefyd yn cael dyfais symudol fach gyda sgrin arni. 'Monitor ynni clyfar' neu 'ddangosydd yn y cartref' (IHD) ydy enw’r ddyfais – mae naill ai'n plygio i mewn i soced neu'n rhedeg ar fatris.

Mae’n hawdd drysu rhwng eich mesurydd clyfar a’ch IHD.

Gallwch chi weld sut mae defnyddio’r IHD ar gyfer eich mesurydd clyfar.

Enghraifft An in-home display on a table with two chairs. It has a plug lead attached to it.

Enghraifft o ddangosydd yn y cartref (IHD).

Efallai y byddwch chi’n gallu cymryd darlleniad o'r dangosydd (IHD), ond mae'n well cymryd un oddi ar y mesurydd ei hun. Bydd y mesurydd yn cael ei osod ar wal neu ar ddarn o fwrdd – fel arfer, bydd yn cael ei osod mewn cwpwrdd cegin neu flwch ar wal y tu allan i’ch cartref.

Enghraifft A smart meter attached to a board on a wall. There are 2 buttons on the right side of a small screen, one above the other - they are marked 'A' and 'B'. The screen shows 5 numbers on a single row.

Enghraifft o fesurydd clyfar.

Darllen eich mesurydd nwy clyfar

Mae’r ffordd rydych chi’n cymryd darlleniad o fesurydd nwy clyfar yn dibynnu ar y math o fesurydd sydd gennych chi.

Os oes botymau A a B o dan y sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft A gas smart meter with buttons under a screen. The buttons are marked 'A' and 'B'. The A button is red. The screen says 'METER INDEX' on the top row and '0000256.3 M3' on the bottom row.

Os mai 0000256.3 yw’r rhif ar y dangosydd, 256 yw darlleniad y mesurydd.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm A

  2. Pwyswch y botwm A unwaith eto nes byddwch chi’n gweld ‘METER INDEX’, rhifau ac yna ‘M3’

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol

Os oes gan eich mesurydd 3 botwm coch sgwâr

Enghraifft A gas smart meter with 3 square red buttons in a row under a screen. The buttons are marked 'A', 'B' and 'C'. The screen says '000135.658 M3'.

Os mai 000135.658 yw’r rhif ar y dangosydd, 135 yw darlleniad y mesurydd.

Gallai’r 3 botwm coch ar eich mesurydd ddweud ‘A’, ‘B’ ac ‘C’.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm chwith – dylai ddweud ‘A’

  2. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  3. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes botwm cylch a dau fotwm saeth ar eich mesurydd

Enghraifft A gas smart meter with a circular button and 2 arrow buttons below a screen. The screen says '00063.236 M3'.

Os mai 00063.236 yw’r rhif ar y dangosydd, 63 yw darlleniad y mesurydd.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm cylch canol

  2. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  3. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes bysellbad ar eich mesurydd

Enghraifft A gas smart meter with a screen. To the right of the screen is a keypad with buttons for the numbers '0' to '9', as well as 'A' and 'B'. The screen says '00063.5' on the top row and 'M3' on the row below.

Os mai 00063.5 yw’r rhif ar y dangosydd, 63 yw darlleniad y mesurydd.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch 9 - fe welwch ‘VOLUME’ ar y sgrin

  2. Arhoswch nes y bydd yn newid - fe welwch rifau ac yna ‘M3’

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes botymau saeth oren a glas ar eich mesurydd

Enghraifft A gas smart meter with an orange arrow button pointing up and a blue arrow button pointing down, both to the right of a screen. The screen says '000135.658 M3'.

Os mai 000135.658 yw’r rhif ar y dangosydd, 135 yw darlleniad y mesurydd.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm oren unwaith neu fwy nes i chi weld rhif ac yna ‘M3’

  2. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  3. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes dau fotwm gwyn i'r dde o'r sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft An EDMI gas smart meter with 2 white buttons to the right of a screen. The screen says '000135.658 M3'.

Os mai 000135.658 yw’r rhif ar y dangosydd, 135 yw darlleniad y mesurydd.

Dylai’r canlynol fod wedi ei ysgrifennu ar eich mesurydd: ‘EDMI’.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm ar y dde – efallai ei fod wedi’i labelu ag ‘OK’ neu efallai fod saeth arno

  2. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  3. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes botwm i'r chwith a’r dde o'r sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft A G4 GWi gas smart meter with a white button on the left and right of a screen. The screen says '01 12345.678 M3'.

Os mai 12345.678 yw’r rhif ar y dangosydd, 12345 yw darlleniad y mesurydd.

Dylai’r canlynol fod wedi ei ysgrifennu ar eich mesurydd: ‘G4’ a ‘GWi.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm ar ochr dde’r sgrin i ddeffro eich mesurydd

  2. Pwyswch yr un botwm unwaith neu fwy nes i chi weld rhif ac yna ‘M3’

  3. Mae’n bosibl bod rhif fel 01 neu 02 ar ochr chwith y sgrin - anwybyddwch y rhif hwn, nid yw'n rhan o'r darlleniad

  4. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  5. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol

Os nad yw eich mesurydd chi ar y dudalen hon

Gwiriwch i weld a yw eich mesurydd yn dweud ‘M3’ ar ôl y darlleniad. Os yw’n dweud ‘KWH’, mae’n fesurydd trydan.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw'n fesurydd clyfar, mae’n bosibl mai mesurydd safonol ydyw. Edrychwch i weld sut mae darllen mesurydd nwy safonol.

Os oes angen i chi hefyd ddarllen mesurydd trydan clyfar

Rhagor o wybodaeth am sut i ddarllen eich mesurydd trydan clyfar.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.