Teithio yn Ewrop

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n bwriadu teithio yn yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, fe ddylech wneud y canlynol:

  • edrych ar y cyngor teithio diweddaraf ar GOV.UK

  • gwneud yn siŵr bod eich pasbort yn ddilys ar gyfer y dyddiadau rydych yn bwriadu teithio

  • prynu yswiriant teithio

  • edrych a fydd yn rhaid i chi dalu mwy i ddefnyddio eich ffôn symudol

  • gwneud yn siŵr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch os byddwch chi’n gyrru, er enghraifft sticer ‘UK’ ar gyfer eich car

  • gwneud yn siŵr bod gennych chi’r dogfennau cywir os ydych yn mynd â’ch anifail anwes gyda chi

Gwnewch yn siŵr fod eich pasbort yn ddilys ar gyfer y dyddiadau rydych yn bwriadu teithio

Bydd angen i chi adnewyddu eich pasbort:

  • os oes llai na 3 mis ar ôl ar eich pasbort ar unrhyw adeg pan fyddwch chi’n teithio - edrychwch ar eich pasbort i weld pryd y bydd yn dod i ben

  • os ydy eich pasbort yn 10 oed neu’n hŷn ar y diwrnod y byddwch yn mynd i mewn i wlad yr UE - dylech ei gyfrif o ddyddiad cyhoeddi eich pasbort

Gallwch edrych a fydd eich pasbort yn ddilys ar gyfer eich taith ar GOV.UK. Bydd angen i chi chwilio am y wlad rydych am ymweld â hi a chlicio ar ‘entry requirements’.

Dylech wneud cais am eich pasbort cyn gynted ag y gallwch chi - gall gymryd sawl wythnos i'w brosesu ar adegau prysur. Os ydych chi angen adnewyddu pasbort ar frys, gallwch drefnu apwyntiad ar gyfer y gwasanaeth Llwybr Carlam 1 wythnos ar GOV.UK.

Prynwch yswiriant teithio

Os ydych chi'n preswylio yn y DU ac mae gennych Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) ar hyn o bryd, gallwch barhau i'w ddefnyddio i gael gofal iechyd a ddarperir gan y wladwriaeth yng ngwledydd yr UE nes iddo ddod i ben. Gallwch hefyd ddefnyddio eich EHIC presennol yn y Swistir os ydych chi'n wladolyn y DU, yn wladolyn y Swistir neu'n ddinesydd yr UE.

Nid oes modd i chi ddefnyddio eich EHIC presennol yn Norwy, Gwlad yr Iâ na Liechtenstein - bydd yn rhaid i chi wneud cais am un newydd.

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am EHIC newydd os oeddech chi wedi dechrau bod yn un o’r canlynol cyn 1 Ionawr 2021:

  • dinesydd yr UE sy’n byw yn y DU

  • gwladolyn Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu’r Swistir sy'n byw yn y DU

  • myfyriwr y DU sy'n astudio yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu'r Swistir

  • unigolyn sydd ar bensiwn y wladwriaeth y DU ond sy'n byw yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu’r Swistir

Gallech hefyd wneud cais am EHIC os ydych chi’n aelod o deulu neu’n ddibynnydd i rywun sy'n gymwys.

Gallwch wneud cais am EHIC newydd yn rhad ac am ddim ar wefan y GIG - gallwch wneud cais hyd at 6 mis cyn i’ch EHIC presennol ddod i ben. Dylech fod yn ofalus os ydych chi’n dod ar draws gwefannau eraill sy’n cynnig EHIC, fel arfer byddant yn ceisio codi tâl arnoch.

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang (GHIC) y DU:

  • os nad oes gennych EHIC

  • os ydy eich EHIC wedi dod i ben

  • os nad ydych chi’n gymwys am EHIC

Gallech hefyd wneud cais am GHIC os ydych chi’n aelod o deulu neu’n ddibynnydd i rywun sy'n gymwys.

Gallwch ddefnyddio GHIC i gael gofal iechyd sy'n 'feddygol angenrheidiol' yng ngwledydd yr UE am bris rhatach neu weithiau am ddim. Mae gofal iechyd sy’n feddygol angenrheidiol yn golygu unrhyw driniaeth sy’n methu aros nes i chi ddod yn ôl i’r DU. Gallwch hefyd ei ddefnyddio yn y Swistir os ydych chi'n wladolyn y DU, yn wladolyn y Swistir neu'n ddinesydd yr UE. Os ydych chi’n teithio i Norwy, gallwch ddefnyddio eich pasbort y DU ar gyfer gofal iechyd sy'n feddygol angenrheidiol.

Gallwch wneud cais am GHIC yn rhad ac am ddim ar wefan y GIG.

Dylech barhau i brynu yswiriant teithio cyn eich taith - hyd yn oed os oes gennych EHIC neu GHIC. Ni fydd EHIC neu GHIC yn talu am gostau teithio’n ôl i’ch gwlad eich hun os ydych chi’n sâl - gelwir hyn yn ‘dychwelyd i’r famwlad’. Gall hyn fod yn gostus iawn.

Os oes gennych chi salwch neu broblem iechyd yn barod

Yn gyffredinol ni fydd yswiriant teithio yn eich gwarchod ar gyfer unrhyw salwch neu broblemau iechyd sydd gennych chi’n barod. Os yw’n eich gwarchod, fel arfer bydd angen i chi dalu mwy o arian.

Mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch cwmni yswiriant os oes gennych chi unrhyw broblemau iechyd yn barod cyn prynu’r yswiriant. Os nad yw’n gallu eich gwarchod, fe ddylai argymell cwmni yswiriant arbenigol sy’n gallu gwneud hynny.

Os oes gennych chi EHIC neu GHIC, efallai y bydd yn eich galluogi i gael gafael ar ofal meddygol arferol ar gyfer unrhyw salwch neu broblem iechyd sydd gennych chi’n barod. Dylech holi’r darparwr gofal iechyd yn y wlad rydych chi’n teithio iddi yn gyntaf. Efallai y bydd angen trefnu rhai triniaethau cyn teithio.

Edrychwch a fydd yn rhaid i chi dalu mwy i ddefnyddio eich ffôn symudol

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy i ddefnyddio eich ffôn symudol yn yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Cyn i chi fynd, gofynnwch i'ch darparwr gwasanaeth ffôn symudol beth fydd y ffioedd am ddefnyddio eich ffôn symudol dramor.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall sut mae diffodd ‘crwydro symudol’ ar eich ffôn os ydych chi’n poeni am ffioedd ychwanegol. Mae hyn fel arfer yn newislen ‘gosodiadau’ y ffôn o dan ‘crwydro symudol’.

Os ydych chi eisiau defnyddio data dramor, holwch eich darparwr gwasanaeth symudol i weld a oes gennych chi fwndel data y gallwch ei ddefnyddio dramor. Os nad oes gennych chi fwndel, neu os ydych chi wedi’i ddefnyddio i gyd, bydd yn rhaid i chi dalu am ddata.

Gallwch ofyn i'ch darparwr ffôn symudol a oes terfyn ar faint o ddata y gallwch ei ddefnyddio dramor. Os nad oes terfyn, gallwch ofyn iddynt osod terfyn ar faint rydych chi am ei wario.

Bydd eich darparwr gwasanaeth symudol yn rhoi gwybod pan fyddwch ar fin cyrraedd y terfyn y cytunwyd arno.

Os ydych chi’n gyrru dramor

Os ydych chi'n bwriadu gyrru yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu’r Swistir, bydd yn rhaid i chi gario:

  • eich trwydded yrru a llyfr log eich cerbyd – dylech wneud yn siŵr eu bod yn gyfredol yn gyntaf

  • sticer ‘UK’ ar gyfer eich cerbyd

  • tystysgrif cerbyd wedi'i logi – os ydych chi'n llogi neu'n prydlesu eich cerbyd

  • sticer allyriadau os ydych chi'n mynd i ddinas yn Ewrop sydd angen un - efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais rai misoedd cyn i chi deithio

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd â phethau eraill hefyd, fel siaced adlewyrchol neu sticer triongl rhybudd – mae’n dibynnu ar ble rydych chi’n mynd. Edrychwch ar beth arall sydd ei angen arnoch os ydych chi’n gyrru dramor ar wefan yr AA.

Gwnewch yn siŵr fod eich trwydded yrru a llyfr log eich cerbyd yn gyfredol

Bydd angen i chi fynd â’ch trwydded yrru gyda chi. Os yw ar fin dod i ben, bydd angen i chi ei adnewyddu o leiaf wythnos cyn i chi deithio. Gallwch wneud yn siŵr bod eich trwydded yrru yn dal yn ddilys ac archebu un newydd ar GOV.UK.

Bydd angen i chi fynd â llyfr log eich cerbyd (V5C) gyda chi hefyd. Os nad oes gennych chi un, gallwch archebu llyfr log newydd gan y DVLA. Gofynnwch amdano o leiaf 6 wythnos cyn i chi fynd. Bydd rhaid i chi dalu ffi.

Edrychwch a oes angen hawlen yrru ryngwladol (IDP) arnoch

Efallai y bydd angen IDP arnoch i yrru yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu’r Swistir os oes gennych chi drwydded yrru bapur. Nid oes angen un os oes gennych chi drwydded yrru'r DU gyda llun arni. Efallai y bydd angen mwy nag un IDP arnoch os ydych chi'n bwriadu gyrru mewn mwy nag un wlad.

Gallwch edrych a fydd angen IDP arnoch ar gyfer y gwledydd lle byddwch yn gyrru ar GOV.UK.

Gallwch gael IDP yn Swyddfa’r Post. Bydd angen y canlynol arnoch:

  • trwydded yrru ddilys lawn y DU - cerdyn-llun neu bapur

  • ffotograff maint pasbort

  • ffi ymgeisio o £5.50 - ar gyfer pob IDP

  • eich pasbort os ydych chi’n mynd â thrwydded yrru bapur

Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gael IDP.

Mynnwch sticer ‘UK’

Byddwch angen:

  • plât rhif sy'n cynnwys symbol y DU, neu

  • sticer ‘UK’ ar gefn eich cerbyd - gallwch brynu un o’r rhain

Rhaid i chi ddefnyddio sticer ‘UK’ os ydych chi'n mynd i Sbaen, Cyprus neu Malta - hyd yn oed os yw plât rhif eich cerbyd yn cynnwys symbol y DU.

Gwiriwch eich yswiriant

Bydd angen i chi gael yr yswiriant cywir i yrru dramor. Holwch eich cwmni yswiriant i weld a yw'ch polisi'n eich gwarchod i yrru dramor ac am ba mor hir y gallwch yrru y tu allan i'r DU. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu swm ychwanegol i yrru dramor.

Gwiriwch a oes angen tystysgrif cerbyd wedi’i logi arnoch

Os ydych chi’n mynd â cherbyd sydd wedi’i logi neu ei brydlesu dramor, bydd angen i chi fynd â thystysgrif cerbyd sy’n cael ei logi (VE103) gyda chi i ddangos eich bod yn cael ei yrru. 

Gallwch gael VE103 gan eich cwmni llogi neu brydlesu. Gallwch hefyd ddod o hyd i sefydliadau eraill sy’n darparu tystysgrifau VE103 ar GOV.UK. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am VE103.

Os ydych chi’n llogi car dramor

Efallai y bydd yn rhaid i chi rannu’r wybodaeth ar-lein am eich trwydded pan fyddwch yn codi’r car - nid yw’r wybodaeth hon yn ymddangos ar eich trwydded â llun arni. Gallwch gael ‘cod gwirio’ i rannu eich gwybodaeth yrru â rhywun ar GOV.UK. Mae’r cod yn ddilys am 21 diwrnod.

Mae yswiriant fel arfer yn cael ei gynnwys pan fyddwch yn llogi car, ond dylech wneud yn siŵr ei fod yn ddigonol ar gyfer eich anghenion. Weithiau gallwch dalu mwy am warchodaeth ychwanegol.

Teithio gyda’ch anifail anwes

Os oes gennych chi basbort anifail anwes y DU ni fydd yn ddilys erbyn hyn. 

Bydd angen y canlynol ar eich anifail anwes neu anifail cymorth:

  • microsglodyn

  • brechiad rhag y gynddaredd

  • tystysgrif iechyd anifeiliaid - oni bai bod gennych basbort anifail anwes a gyhoeddwyd yn un o wledydd yr UE neu Ogledd Iwerddon

  • triniaeth llyngyr ar gyfer cŵn - os bydd yn hanfodol yn y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi

Siaradwch â’ch milfeddyg o leiaf 10 diwrnod cyn teithio i gael cyngor am yr hyn y mae angen i chi ei wneud a faint y bydd yn ei gostio. Gall prisiau amrywio rhwng milfeddygon felly mae’n syniad da cysylltu â milfeddygon eraill i gymharu costau. Gallwch hefyd edrych ar beth i’w wneud pan fyddwch yn mynd â’ch ci, cath neu ffured dramor ar GOV.UK.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 01 Ionawr 2021