Problemau wrth hawlio ar eich yswiriant teithio

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae yswiriant gwyliau’n medru rhoi sicrwydd ychwanegol i chi os nad yw pethau'n mynd yn ôl y disgwyl. Mae'n arbennig o bwysig os ydych yn teithio'n annibynnol, oherwydd efallai na fydd unrhyw ffordd gennych o gyrraedd adref a neb i'ch helpu i ddatrys eich problemau gyda'ch gwyliau.

Darllenwch y dudalen hon i i ddarganfod mwy am yr hyn sydd angen i chi ei wneud os ydych yn cael problemau wrth hawlio ar eich yswiriant gwyliau.

Gair o gyngor

  • cyn cwyno i'ch cwmni yswiriant, darllenwch eich polisi i sicrhau bod hawl gennych i gwyno

  • rhaid i chi gwyno'n gyntaf i'ch cwmni yswiriant gan ddefnyddio'i broses gwyno fewnol

  • cadwch gopïau o'ch holl ohebiaeth rhag ofn y bydd angen i chi fynd â'ch cwyn ymhellach

  • cadwch bob derbynneb ac anfonwch gopïau onid ydynt yn gofyn i chi ddarparu'r rhai gwreiddiol.

Fedrwch chi hawlio?

Os ydych yn cael problem hawlio ar eich yswiriant teithio, mae'n bwysig darllen y print bach yn eich polisi i sicrhau bod y ddarpariaeth gennych. Efallai y bydd cwmni yswiriant yn gwrthod talu rhan o'ch hawliad, neu'r cyfan ohono oherwydd:

  • mae gennych dâl-dros-ben ar eich polisi. Y tâl-dros-ben yw'r swm yn yr hawliad na fydd y cwmni yn ei dalu o gwbl.  Fel arfer, mae rhwng £50 a £100

  • mae gennych eithriad ar eich polisi. Mae eithriadau yn bethau nad oes gennych ddarpariaeth ar eu cyfer ac fel arfer maen nhw yn y print bach

  • codwyd gormod arnoch am yr hyn yr ydych yn ei hawlio. Fe fydd cwmni yswiriant ond yn ad-dalu costau rhesymol. Os yw'r rhain yn rhy uchel, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhan ohonynt eich hun

  • nid oeddech wedi cymryd gofal rhesymol. Er enghraifft, os oeddech wedi gadael eich bagiau heb gadw llygad arnynt neu os oeddech wedi eu rhoi i rywun nad oeddech yn ei 'nabod ac maen nhw wedi mynd ar goll, efallai y bydd y cwmni yswiriant yn gwrthod talu

  • os nad yw'ch darpariaeth yn rhoi rhywbeth newydd yn lle rhywbeth hen. Efallai y bydd cwmnïau yswiriant yn talu llai nag yr ydych yn ei hawlio er mwyn ystyried y ffaith fod eich eiddo wedi treulio rhywfaint

  • roedd eitemau gwerthfawr mewn bagiau a aeth i gist yr awyren

  • nid oeddech wedi dweud wrth gwmni yswiriant am gyflwr meddygol oedd gennych yn barod wrth i chi brynu'r yswiriant.

Sut i gwyno am gwmni eich yswiriant teithio

Os ydych yn credu bod darpariaeth gennych ond fod eich cwmni yswiriant yn ymddwyn yn annheg, gallwch gwyno.

Nodwch eich cwyn yn ysgrifenedig a dywedwch wrth y cwmni yswiriant sut ydych chi am iddo'i datrys. Os nad ydych yn hapus gyda'i ymateb, gallwch gwyno'n ffurfiol gan ddefnyddio gweithdrefn gwyno fewnol y cwmni.

Daw pob cwmni yswiriant o dan reolau Awdurdod Ymddygiad Ariannol (yr FCA) ac mae'n rhaid iddyn nhw ddelio gyda chwynion mewn ffordd benodol.

Dylech roi hyd at wyth wythnos i'r cwmni yswiriant ateb eich cwyn. Os nad yw'n dod yn ôl atoch neu os nad ydych yn cytuno a'i ymateb, gallwch ofyn am lythyr o anghytundeb llwyr. Mae llythyr o anghytundeb llwyr yn cadarnhau nad ydych chi a'r cwmni yswiriant wedi llwyddo i ddod i gytundeb.  Yna, gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS). Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.

Fe fydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn ymchwilio i'ch cwyn ac yn dod i benderfyniad. Fe fydd yn rhaid i'r cwmni yswiriant gadw at ei benderfyniad, ond ni fydd yn rhaid i chi. Os nad ydych yn cytuno ac rydych chi am fynd â'ch cwyn ymhellach, gallwch ddwyn achos llys yn erbyn eich cwmni yswiriant.

Os oeddech wedi prynu'ch yswiriant teithio trwy gwmni teithio neu drefnwr teithiau

Gallwch fynd at yr Ombwdsmon Ariannol os yw'ch cwyn y ymwneud â'ch polisi yswiriant. Os yw'ch cwyn yn ymwneud â'r ffordd y gwerthwyd y polisi i chi, efallai y bydd hyn yn anghyfreithlon. Dylech gael help gan linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020