Gwneud hawliad ar eich yswiriant teithio

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gall yswiriant teithio roi gwarchodaeth ychwanegol i chi os na fydd eich gwyliau'n mynd fel y dylai. Mae hyn yn bwysig iawn os ydych chi'n teithio'n annibynnol oherwydd efallai y byddwch chi'n sownd heb ffordd i fynd adref, a heb gynrychiolydd teithio i‘ch helpu i ddatrys eich problem gwyliau.

Darllenwch y dudalen hon i gael gwybod mwy am yr hyn sydd angen i chi ei wneud os oes rhaid i chi wneud hawliad ar eich polisi yswiriant teithio.

Awgrymiadau gwerth chweil

  • Cofiwch fynd â rhif eich polisi yswiriant teithio a'ch rhif ffôn cyswllt brys gyda chi pan fyddwch chi'n teithio

  • os bydd problem yn digwydd tra byddwch chi i ffwrdd, cadwch dderbynebau am bopeth sydd ei angen i chi ei brynu i gefnogi eich hawliad

  • os yw’n bosibl, gofynnwch i'ch cwmni yswiriant gytuno i driniaeth feddygol cyn iddi gael ei chynnal

  • dywedwch wrth eich cwmni yswiriant bob amser am broblem iechyd sy'n bodoli eisoes cyn i chi godi polisi yswiriant, neu efallai na fyddwch wedi'ch yswirio

  • rhowch wybod i'r heddlu lleol am eiddo sydd wedi’i golli neu ei ddwyn o fewn 24 awr iddo fynd ar goll. Os nad yw hyn yn bosibl, dywedwch wrth y person sy'n gyfrifol ble aeth ar goll.

Gwneud hawliad wrth deithio

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â rhif eich polisi yswiriant a'r manylion cyswllt brys gyda chi. Mae hyn er mwyn i chi wybod yn union pwy i siarad ag ef yn y lle cyntaf os oes gennych chi broblem, ac i sicrhau y gellir delio â’r broblem cyn gynted â phosibl. Os ydych chi'n teithio dramor, gwnewch yn siŵr bod gennych y rhif ffôn cywir.

Gwneud hawliad pan fyddwch chi'n cyrraedd adref

Os oes angen i chi wneud hawliad ar eich polisi yswiriant teithio pan gyrhaeddwch adref, gwiriwch y pethau canlynol cyn i chi anfon eich hawliad:

  • eich bod o fewn y terfynau amser ar gyfer gwneud hawliad

  • bod eich polisi yn cynnwys yswiriant am yr hyn rydych chi'n ei hawlio

  • faint yw'r tâl dros ben (excess). Y tâl dros ben yw'r swm o arian y bydd eich yswiriwr yn ei dynnu oddi ar yr hawliad. Efallai na fydd yn werth gwneud hawliad os yw'r swm rydych chi'n ei hawlio yn llai na hyn

  • y print mân. Gwnewch yn siŵr nad oes dim yn y telerau ac amodau sy'n eich atal rhag hawlio

  • a yw'n bolisi ‘newydd am hen’. Os nad y math yma o bolisi ydyw, bydd y swm a gewch am eitemau rydych chi'n hawlio amdanynt yn llai na chost cael rhai newydd yn eu lle. Mae hyn oherwydd bod yr yswiriwr yn tynnu arian am draul.

Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant cyn gynted â phosibl a gofynnwch iddynt anfon ffurflen hawlio atoch. Efallai y byddant yn gallu e-bostio hon atoch i gyflymu pethau. Llenwch y ffurflen hawlio yn ofalus a chadwch gopi i chi'ch hun.

Bydd angen i chi gynnwys copïau o'r holl waith papur a fydd o gymorth i'ch hawliad, gan gynnwys derbynebau neu dystysgrifau meddygol. Dylech hefyd gadw copïau o'r rhai gwreiddiol rhag ofn y bydd eich hawliad yn cael ei herio neu ei wrthod.

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn a oes gennych yswiriant arall a allai gwmpasu'r hawliad. Bydd angen i chi roi gwybod iddynt a oes gennych yswiriant arall a allai hefyd eich yswirio am hyn, er enghraifft, yswiriant cynnwys cartref.

Gwneud hawliad am eitemau neu fagiau sydd wedi’u colli, eu dwyn neu eu difrodi

Disgwylir i chi gymryd gofal rhesymol o'ch eiddo tra byddwch yn teithio. Bydd yr yswiriwr eisiau gweld tystiolaeth eich bod wedi gwneud hyn.

Os yw'ch eiddo'n cael ei golli neu ei ddwyn, dylech ddweud wrth yr heddlu lleol o fewn 24 awr i'r eitemau fynd ar goll. Os nad yw hyn yn bosibl, dywedwch wrth rywun arall fel cynrychiolydd eich cwmni teithio, rheolwr y gwesty neu ddarparwr trafnidiaeth, a chael adroddiad ysgrifenedig.

Os oes rhaid i chi brynu eitemau hanfodol rydych wedi eu colli, fel eitemau ymolchi neu ddillad brys, gofynnwch am dderbynebau i'w hanfon fel tystiolaeth gyda'ch hawliad.

Gwneud hawliad am argyfyngau meddygol ac anafiadau personol

Os oes angen triniaeth feddygol arnoch tra byddwch i ffwrdd, ceisiwch gysylltu â'ch cwmni yswiriant ar unwaith a’u cael i gytuno i'r driniaeth. Dylech wneud hyn cyn i’r driniaeth gael ei chynnal, er efallai na fydd hyn yn bosibl mewn argyfwng.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ymlaen llaw am driniaeth feddygol a'i hawlio'n ôl pan fyddwch chi'n cyrraedd adref. Gwnewch yn siŵr bob amser eich bod chi'n cael derbynebau am unrhyw driniaeth neu feddyginiaeth a roddir i chi.

Os na wnaethoch chi ddweud wrth eich cwmni yswiriant teithio am broblem iechyd sy'n bodoli eisoes cyn i chi godi’r polisi yswiriant, efallai na fyddwch chi wedi'ch diogelu os oes angen triniaeth arnoch chi ar gyfer hyn tra byddwch chi i ffwrdd.

Efallai na fyddwch chi'n gallu hawlio cost unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch chi’n gyson ac efallai fod yn rhaid i chi ei chymryd tra byddwch chi'n teithio.

Os ydych chi'n breswylydd yn y DU a bod gennych chi Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC), gallwch chi ei ddefnyddio o hyd i gael gofal iechyd yng ngwledydd yr UE nes iddo ddod i ben.

Os nad oes gennych chi EHIC neu os yw wedi dod i ben, gallwch chi wneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU (GHIC) ar wefan y GIG. Gallwch ddefnyddio GHIC i gael gofal iechyd yng ngwledydd yr UE am gost is, neu weithiau am ddim.

Os ydych chi'n ymweld â Norwy, gallwch ddefnyddio pasbort y DU i gael gofal iechyd meddygol angenrheidiol yno. Mae gan rai gwledydd gytundebau â'r DU i roi triniaeth frys am ddim.

Dylai yswiriant teithio gynnig sicrwydd yn achos beichiogrwydd os ydych chi’n gyffredinol iach. Fodd bynnag, ni fydd rhai cwmnïau hedfan yn gadael i chi hedfan os yw'ch babi i fod i gael ei eni o fewn ychydig wythnosau.

Gwneud hawliad os oes rhaid i chi ganslo neu fyrhau eich taith

Os oes angen i chi wneud hawliad oherwydd eich bod wedi canslo neu fyrhau eich taith, dim ond os oes gennych reswm da dros wneud hyn y bydd eich yswiriwr yn derbyn eich hawliad. Gall rhesymau gynnwys:

  •     marwolaeth, salwch neu anaf annisgwyl i chi, eich partner neu bobl sy'n teithio gyda chi

  •     tân, lladrad neu ddifrod annisgwyl yn eich cartref

  •     eich bod wedi cael eich diswyddo

  •     eich bod yn feichiog ac yn cael eich cynghori i beidio â theithio ar ôl i chi godi’r polisi yswiriant

  •     eich bod wedi cael eich galw i wasanaethu ar reithgor neu fel tyst yn y llys.

Os oes rhaid i chi ddod adref yn gynnar, dim ond unrhyw gostau teithio ychwanegol a chost unrhyw amser na chafodd ei dreulio yn eich llety gwyliau y bydd eich yswiriwr fel arfer yn ei ad-dalu.

Y cam nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Triniaeth feddygol mewn gwledydd eraill  www.nhs.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020