Canslo contract ffôn, teledu, rhyngrwyd neu ffôn symudol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Dylech chi edrych ar delerau ac amodau eich contract i gael gwybod beth yw eich hawliau canslo.
Efallai y bydd gennych chi hawl gyfreithiol i ganslo’r contract heb ffi os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
gwnaethoch chi gofrestru llai na 14 diwrnod yn ôl - gelwir hyn yn ‘gyfnod newid meddwl’
mae pris eich contract yn codi ac mae eich darparwr wedi rhoi 30 diwrnod i chi ganslo heb ffi
mae problem gyda chyflymder eich rhyngrwyd
roedd eich contract am gyfnod penodol ac mae’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben - er enghraifft, contract ffôn symudol 18 mis
Os nad yw’r un o’r rhain yn berthnasol, mae’n debyg na allwch ganslo’r contract heb orfod talu ffi.
Os ydych chi’n canslo eich contract er mwyn cael bargen well, ewch i weld beth ddylech chi ei ystyried cyn newid.
Os gwnaethoch chi gofrestru llai na 14 diwrnod yn ôl
Mae eich hawl gyfreithiol i ganslo’r contract am ddim yn dibynnu ar a wnaethoch chi gofrestru dros y ffôn, wyneb yn wyneb, neu ar-lein.
Os gwnaethoch chi gofrestru dros y ffôn neu ar-lein
Gallwch chi ganslo’r contract am ddim os gwnaethoch chi gofrestru llai na 14 diwrnod yn ôl dros y ffôn neu ar-lein. Gelwir hyn yn ‘gyfnod newid meddwl’. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio’r gwasanaeth, mae’n debygol y codir tâl arnoch am yr hyn rydych chi wedi’i ddefnyddio - er enghraifft galwadau a wneir ar ffôn symudol.
Cysylltwch â’r busnes a dweud eich bod am ganslo’r contract oherwydd eich bod yn dal yn y cyfnod newid meddwl. Mae’n debyg y bydd angen i chi roi manylion fel cyfeirnod eich cyfrif iddyn nhw- edrychwch ar unrhyw ddogfennau neu negeseuon e-bost sydd gennych chi gan y cwmni.
Os byddwch chi’n postio llythyr neu’n anfon e-bost yn gofyn am ganslo o fewn y cyfnod newid meddwl, bydd y contract yn cael ei ganslo o’r dyddiad y byddwch chi’n postio’r llythyr neu’n anfon yr e-bost. Dylech chi anfon unrhyw bost drwy bost cofnodedig os gallwch chi - cadwch gopïau o unrhyw dderbynebau neu negeseuon e-bost.
Os gwnaethoch chi gofrestru wyneb yn wyneb
Does gennych chi ddim hawl gyfreithiol i gyfnod newid meddwl o 14 diwrnod os gwnaethoch chi gofrestru wyneb y wyneb – er enghraifft, os gwnaethoch chi gwrdd â rhywun o’r cwmni a llofnodi contract. Ond mae’n dal yn werth gofyn - efallai y byddan nhw’n gadael i chi ganslo os byddwch chi’n esbonio sut mae eich amgylchiadau wedi newid.
Os yw’r pris wedi codi
Dylech chi edrych ar y telerau a’r amodau y cytunoch iddyn nhw pan wnaethoch chi ymrwymo i’ch contract. Mae gan y rhan fwyaf o gontractau delerau ac amodau sy’n nodi y gall eich darparwr gynyddu’r pris bob blwyddyn.
Os dechreuodd eich contract ar 17 Ionawr 2025 neu ar ôl hynny, dylai’r contract nodi’n union faint y bydd y pris yn cynyddu bob blwyddyn.
Os dechreuodd eich contract cyn 17 Ionawr 2025, gallai’r contract nodi y bydd y pris yn cynyddu gan ganran, neu y bydd y cynnydd yn seiliedig ar chwyddiant.
Os nad yw eich telerau ac amodau’n nodi y gall eich darparwr gynyddu’r pris bob blwyddyn, dylai eich darparwr roi 30 diwrnod o rybudd i chi cyn codi pris eich contract. Mae gennych chi hawl gyfreithiol i ganslo’r contract o fewn y 30 diwrnod hynny heb orfod talu ffi. Cysylltwch â’r cwmni a rhoi gwybod eich bod yn canslo o fewn y 30 diwrnod o rybudd bod y pris yn cynyddu fel y caniateir.
Ni fyddwch yn gallu canslo heb ffi os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
gwnaethoch chi ymrwymo i’r contract cyn 23 Ionawr 2014, neu
cawsoch wybod ar ddechrau’r contract y byddai’r pris yn codi, er enghraifft os gwnaethoch chi gofrestru ar gyfer contract 18 mis ond bod y 3 mis cyntaf am bris gostyngol
mae eich telerau ac amodau yn nodi y gall eich darparwr gynyddu pris eich contract bob blwyddyn
Os yw eich rhyngrwyd yn araf
Ewch i weld cyflymder eich rhyngrwyd, a elwir weithiau yn ‘fand eang’, gan ddefnyddio gwiriwr cyflymder Ofcom a gwnewch nodyn o’r canlyniadau.
Mae’r hyn y gallwch chi ei wneud nesaf yn dibynnu ar bryd dechreuodd y contract.
If your contract started on or after 1 March 2019
Ask your provider for the Minimum Guaranteed Access Line Speed (MGALS) for your line.
If your internet is slower than the MGALS
First, check if your provider has signed up to the New Voluntary Codes of Practice on Broadband Speed on the Ofcom website.
If your provider has signed up, contact them and give them your results from the speed checker. They'll have 1 month to fix the problem.
You can cancel your contract without paying a fee if they can’t fix the problem, then you can switch to a new internet provider.
If you have a deal that includes your TV, mobile or home phone you can switch them at the same time without paying a fee.
If your provider hasn’t signed up yet, it’s worth contacting them and letting them know your results from the speed checker. They don’t have to do anything about it but you can try asking for a discount if your broadband is slower than you were told it would be.
If you cancel your contract you might have to pay a fee - you could try asking them to waive the fee, given the poor service you’ve received.
If your internet is faster than the MGALS
You can try asking for a discount if your broadband is faster than the MGALS, but slower than you were told it would be.
Your provider might agree to a discount if you either:
can’t switch to another provider without paying a fee
don’t think you’ll get faster broadband with another provider
Os dechreuodd eich contract cyn 1 Mawrth 2019
Gallwch chi geisio gofyn am ostyngiad os yw eich rhyngrwyd yn arafach nag y dywedwyd wrthych y byddai. Cysylltwch â’ch darparwr a rhoi gwybod iddyn nhw beth yw eich canlyniadau o’r gwiriwr cyflymder.
Os byddwch chi’n canslo eich contract, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi – gallech chi ofyn i’ch darparwr hepgor y ffi, o ystyried y gwasanaeth gwael rydych chi wedi’i gael.
Gallwch chi hefyd roi cynnig ar awgrymiadau Ofcom ar gyfer gwella cyflymder eich band eang.
Os ydych chi’n symud tŷ
Dylech chi weld a yw eich darparwr yn cynnig yr un gwasanaeth yn eich ardal newydd. Os ydyn nhw, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi fechan i symud y gwasanaeth i’ch cyfeiriad newydd.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi canslo i adael eich contract yn gynnar os yw’r canlynol yn berthnasol:
nid yw eich darparwr yn darparu’r un gwasanaeth yn eich ardal newydd
rydych chi’n rhentu ac mae’r gwasanaeth wedi’i gynnwys yn y man yr ydych yn symud iddo ond bod gennych eisoes gontract ar gyfer y gwasanaeth hwnnw - er enghraifft y rhyngrwyd
Mae’n werth ceisio egluro eich sefyllfa i’ch darparwr – efallai y byddan nhw’n lleihau neu’n dileu unrhyw ffi.
Os ydych chi wedi cael eich cofrestru ar gyfer gwasanaeth heb gytuno i wneud hynny
Efallai eich bod wedi ymrwymo i gontract heb yn wybod i chi a bod tâl yn cael eich codi arnoch yn rheolaidd. Gall hyn ddigwydd weithiau gyda hyrwyddiadau neu gemau rydych chi’n cofrestru ar eu cyfer drwy negeseuon testun neu apiau dyfeisiau symudol.
Gelwir hyn yn ’awdurdod taliadau parhaus’ a gall hefyd ddigwydd wrth i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim sydd wedyn yn dechrau costio arian i chi.
Y peth gorau i’w wneud yw cysylltu â’ch banc i ganslo’r taliadau debyd uniongyrchol neu gerdyn credyd.
Sut i ganslo eich contract
Bydd angen i chi gysylltu â’ch darparwr i ganslo eich contract – gallwch wneud hyn drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
dros y ffôn
drwy’r post
drwy e-bost
drwy sgwrsio ar y we
Os nad yw eich darparwr yn ymateb, ceisiwch gysylltu â nhw mewn ffordd wahanol ac ar adeg wahanol. Cadwch gofnod o bob tro rydych chi wedi ceisio cysylltu â nhw – er enghraifft sgrinluniau a chofnodion ffôn.
Dylech chi gwyno wrth eich darparwr os ydych chi’n cael trafferth cysylltu â nhw. Os na fyddwch chi wedi clywed yn ôl ar ôl 8 wythnos, gallwch chi gwyno wrth ombwdsmon.
Cwyno wrth ombwdsmon
Mae ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion am gwmnïau a sefydliadau. Byddan nhw’n ystyried yr achos o’r ddwy ochr ac yn dod i benderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw.
Rhagor o gymorth
Cysylltwch â llinell gymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi – gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch chi hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein.
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.