Beth i’w wneud os bydd eich ffôn symudol yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Rhowch wybod i’ch darparwr rhwydwaith bod eich ffôn ar goll

Dylech chi roi gwybod i’ch darparwr rhwydwaith ar unwaith os bydd eich ffôn yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn, er mwyn iddyn nhw allu ei rwystro a stopio unrhyw un arall rhag ei ddefnyddio. Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod iddyn nhw ar unwaith, efallai y byddwch chi’n gorfod talu am alwadau ffôn heb eu hawdurdodi, sy’n gallu bod yn ddrud iawn.

Os yw eich ffôn wedi cael ei ddwyn, gofynnwch i’ch darparwr rhwydwaith am rif adnabod y ffôn (IMEI) – bydd angen i chi roi hwn i’r heddlu.

Os byddwch chi’n dod o hyd i’ch ffôn, bydd eich darparwr rhwydwaith yn gallu ei ddad-rwystro fel arfer.

Os bydd eich ffôn yn cael ei ddwyn

Dylech chi roi gwybod am hyn i’ch gorsaf heddlu leol cyn gynted â phosib drwy ffonio 101 neu fynd yno eich hun.

Bydd eich darparwr rhwydwaith yn rhoi rhif adnabod eich ffôn (IMEI) i chi, a dylech chi roi hwn i’r heddlu.

Gwnewch nodyn o gyfeirnod y drosedd – bydd angen hwn er mwyn hawlio ar yswiriant.

Talu am alwadau heb eu hawdurdodi

Os bydd rhywun arall yn creu bil mawr ar eich ffôn, fel rheol chi fydd yn gorfod talu am unrhyw alwadau sy’n cael eu gwneud cyn i chi roi gwybod bod y ffôn ar goll.

Bydd rhai rhwydweithiau ffôn yn codi £100 ar y mwyaf os bydd eich ffôn yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn, cyhyd â’ch bod yn rhoi gwybod am hyn o fewn 24 awr. Dim ond i gontractau misol mae hyn yn berthnasol – os oes gennych chi gontract talu wrth fynd, efallai na fyddwch chi’n cael ad-daliad am unrhyw gredyd sy’n cael ei ddefnyddio cyn i chi roi gwybod bod y ffôn ar goll.

Os bydd eich rhwydwaith yn codi’n llawn arnoch chi am y galwadau cyn i chi roi gwybod, dylech chi ofyn a oes modd iddyn nhw leihau’r bil. Weithiau byddan nhw’n gwneud hyn fel arwydd o ewyllys da, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud hynny.

Os bydd eich darparwr rhwydwaith yn codi arnoch chi am alwadau gafodd eu gwneud ar ôl i chi roi gwybod bod y ffôn ar goll, dylech chi herio’r bil.

Os oes gennych chi yswiriant ffôn, efallai y byddwch chi wedi eich gwarchod rhag costau galwadau heb eu hawdurdodi yn ystod y cyfnod rhwng colli’r ffôn a rhoi gwybod ei fod ar goll. Holwch eich darparwr yswiriant.

Cael ffôn a cherdyn SIM newydd

Bydd eich rhwydwaith yn anfon cerdyn SIM newydd atoch chi fel arfer, ond efallai y bydd yn codi ffi weinyddol.

Fel rheol, fydd eich rhwydwaith ddim yn rhoi ffôn newydd i chi am ddim a bydd yn rhaid i chi barhau i dalu eich rhent llinell misol nes diwedd eich contract.

Os na chewch chi ffôn newydd am ddim, bydd angen i chi benderfynu beth i’w wneud:

  • prynu ffôn newydd a pharhau â’ch contract presennol; neu

  • aros nes bod eich contract yn dod i ben a chael contract newydd sy’n cynnwys ffôn am ddim

Os oes gennych chi yswiriant

Os oes gennych chi yswiriant ffôn, neu fod eich polisi yswiriant cartref yn gwarchod eich ffôn hefyd, byddwch chi’n gallu hawlio un newydd fel rheol.

Holwch eich darparwr yswiriant i weld beth sy’n bosib. Os yw eich ffôn wedi cael ei ddwyn, bydd angen i chi ddarparu cyfeirnod y drosedd.

Cofrestru eich ffôn

Gallwch chi gofrestru eich ffôn symudol ar Immobilise. Os bydd eich ffôn yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn, ond bod rhywun yn dod o hyd iddo, bydd yr heddlu’n gallu defnyddio Immobilise i’w ddychwelyd i chi.

Cael cymorth

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi ar-lein neu dros y ffôn.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.