Edrychwch i weld a allwch gael eich arian yn ôl ar ôl i chi gael eich sgamio
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y gallwch gael eich arian yn ôl ar ôl i chi gael eich sgamio.
Mae’r hyn y dylech ei wneud, ac a fyddwch yn cael ad-daliad ai peidio, yn dibynnu ar yr hyn a ddigwyddodd.
Rheoli cyfrif banc rhywun arall
Os ydych yn cynorthwyo rhywun sydd wedi cael ei sgamio, mae ffyrdd o reoli ei gyfrif banc ar ei ran. Gall fod angen i chi wneud hyn os ydych chi eisiau atal taliadau neu hawlio arian yn ôl.
Bydd angen i’r unigolyn rydych chi’n ei gynorthwyo lenwi ffurflen i roi caniatâd i chi reoli ei gyfrif. Mandad trydydd parti yw’r enw ar hyn. Mae ffurflenni mandad trydydd parti ar gael ar wefannau’r rhan fwyaf o’r banciau.
Os yw’r unigolyn rydych chi’n ei gynorthwyo eisiau i chi reoli mwy nag un cyfrif, gall fod angen iddo roi atwrneiaeth i chi. Gall fod hefyd angen i’r unigolyn roi atwrneiaeth i chi os oes rhaid i chi reoli ei arian am gyfnod hir. I gael gwybod mwy am hyn, darllenwch ein cyngor am reoli materion ar ran rhywun arall.
Os oes taliad wedi’i wneud o’ch cyfrif ac nad ydych yn gwybod beth ydyw
Cysylltwch â’ch banc ar unwaith:
os oes taliad wedi’i wneud o’ch cyfrif banc ac nad ydych yn gwybod beth ydyw – ‘trafodiad heb ei awdurdodi’ yw’r enw ar hyn
os ydych wedi defnyddio’ch cerdyn debyd a bod mwy o arian nag yr oeddech yn ei ddisgwyl wedi mynd o’ch cyfrif banc
Eglurwch yr hyn sydd wedi digwydd a gofynnwch a allwch gael ad-daliad. Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd y mae’r banc yn ymdrin â’ch hawliad, gallwch wneud cwyn i’r banc. Gallwch ddod i wybod sut i wneud cwyn drwy fynd i wefan y banc.
Os oes wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi wneud cwyn, ac nad ydych wedi cael eich arian yn ôl, cysylltwch â’r Ombwdsmon Ariannol. Gallwch hefyd gysylltu â’r Ombwdsmon os ydych wedi cael llythyr gan eich banc yn dweud nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau. Weithiau, gelwir hwn yn llythyr ymateb terfynol.
Os bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu eich bod wedi’ch trin yn annheg, mae ganddo bwerau cyfreithiol i unioni’r sefyllfa.
Os ydych wedi prynu rhywbeth gan sgamiwr
Os bu i chi dalu â cherdyn neu drwy PayPal
Os ydych wedi talu am rywbeth ond nad yw’r peth hwnnw wedi dod i law, efallai y gallwch gael eich arian yn ôl.
Gall darparwr eich cerdyn ofyn i fanc y gwerthwr ad-dalu’r arian. ‘Chargeback’ yw’r enw ar y cynllun ad-dalu hwn.
Os bu i chi dalu â cherdyn debyd, gallwch ddefnyddio’r cynllun Chargeback, ni waeth faint o arian a dalwyd gennych.
Os bu i chi dalu â cherdyn credyd a bod yr eitem wedi costio mwy na £100 ond llai na £30,000, efallai y gallwch hawlio ad-daliad o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr – ‘hawliad Adran 75’ yw’r enw ar hyn.
Os oedd yr eitem yn costio llai na £100 a’ch bod wedi talu â cherdyn credyd, ni allwch wneud hawliad Adran 75, ond gallwch ddefnyddio’r cynllun Chargeback.
Os bu i chi dalu drwy ddefnyddio arian o’ch cyfrif PayPal, dylech ddechrau anghydfod â’r gwerthwr. Gallwch ddod i wybod sut i ddechrau anghydfod drwy fynd i wefan PayPal.
Darllenwch ein cyngor ynghylch cael eich arian yn ôl os ydych wedi talu â cherdyn neu drwy PayPal.
Os bu i chi dalu drwy drosglwyddiad banc ar 7 Hydref 2024 neu ar ôl hynny
Ers 7 Hydref 2024, mae rheolau newydd ar waith ar gyfer banciau a ‘darparwyr gwasanaethau talu’.
Mae darparwyr gwasanaethau talu yn cynnwys:
cymdeithasau adeiladu
cwmnïau e-arian fel Revolut – gallwch weld rhestr o gwmnïau e-arian ar wefan y Gymdeithas Arian Electronig
darparwyr cyfrifon cynilo
Cysylltwch â’ch banc neu’ch darparwr gwasanaeth talu ar unwaith. Rhowch wybod beth sydd wedi digwydd a gofynnwch a allwch gael ad-daliad. Mae’n bwysig eich bod yn cynorthwyo’ch banc neu’ch darparwr tra mae’n ystyried eich hawliad – gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu unrhyw wybodaeth y mae’n gofyn amdani.
Fel arfer, dylai eich banc neu’ch darparwr gwasanaeth talu eich ad-dalu os bu i chi anfon yr arian i gyfrif yn y Deyrnas Unedig drwy’r drefn Taliadau Cyflymach neu’r drefn CHAPS.
Nid oes rhaid iddo eich ad-dalu os bu i chi ddefnyddio dull arall o dalu, fel BACS neu Swift, neu os bu i chi anfon yr arian dramor.
Os nad ydych yn sicr pa ddull talu y bu i chi ei ddefnyddio, edrychwch ar eich datganiad neu gofynnwch i’ch banc neu’ch darparwr gwasanaeth talu.
Rhaid i’ch banc eich ad-dalu hyd at £85,000. Fel arfer, dylech gael eich ad-daliad cyn pen pum diwrnod gwaith – ond gall gymryd hyd at 35 diwrnod gwaith.
Gallai eich banc neu’ch darparwr gwasanaeth talu godi ffi o £100 ac, os felly, bydd yn tynnu’r swm hwnnw o’ch ad-daliad.
Efallai na fyddwch yn cael ad-daliad os gall eich banc neu’ch darparwr gwasanaeth talu brofi:
nad oeddech yn ddigon gofalus pan fu i chi wneud y taliad
na fu i chi ei gynorthwyo neu ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani tra’r oedd yn ystyried eich hawliad
Os na allwch gael eich arian yn ôl a’ch bod yn meddwl bod hyn yn annheg
Dylech ddilyn trefn gwyno swyddogol y banc. Os na chaiff eich cwyn ei datrys cyn pen wyth wythnos, neu os byddwch yn cael llythyr ymateb terfynol, gallwch fynd â’ch achos at yr Ombwdsmon Ariannol.
Os bu i chi dalu drwy drosglwyddiad banc cyn 7 Hydref 2024
Dylai’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu ad-dalu’r arian os oedd wedi’i gofrestru o dan God y Model Ad-dalu Amodol (CRM).
Roedd y Cod hwn yn berthnasol i drafodion a wnaed rhwng 28 Mai 2019 a 6 Hydref 2024. Ewch i wefan y Bwrdd Safonau Benthyca i weld a oedd eich banc wedi’i gofrestru o dan y Cod CRM.
Cysylltwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu ar unwaith. Rhowch wybod iddo beth sydd wedi digwydd a gofynnwch a allwch gael ad-daliad o dan y Cod CRM.
Os na allwch gael eich arian yn ôl a’ch bod yn meddwl bod hyn yn annheg
Dylech ddilyn trefn gwyno swyddogol y banc. Os na chaiff eich cwyn ei datrys cyn pen wyth wythnos, neu os byddwch yn cael llythyr ymateb terfynol, gallwch fynd â’ch achos at yr Ombwdsmon Ariannol.
Os bu i chi dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Dylai fod modd i chi gael ad-daliad llawn o dan y Warant Debyd Uniongyrchol. Gallwch ddod i wybod am y Warant Debyd Uniongyrchol drwy fynd i’r wefan Debyd Uniongyrchol.
Os na allwch gael eich arian yn ôl a’ch bod yn meddwl bod hyn yn annheg
Dylech ddilyn trefn gwyno swyddogol y banc. Os na chaiff eich cwyn ei datrys cyn pen wyth wythnos, neu os byddwch yn cael llythyr ymateb terfynol, gallwch fynd â’ch achos at yr Ombwdsmon Ariannol.
Os bu i chi ddefnyddio gwasanaeth trosglwyddo arian
Nid yw’n debygol y bydd modd i chi gael eich arian yn ôl os bu i chi dalu drwy wasanaeth trosglwyddo arian, fel MoneyGram, PayPoint neu Western Union.
Hyd yn oed os na allwch gael eich arian yn ôl, mae pethau eraill y gallwch eu gwneud – fel rhoi gwybod am y sgam a chael cymorth ariannol neu emosiynol.
Mae pethau y gallwch eu gwneud i’ch diogelu eich hun os bydd angen i chi ddefnyddio gwasanaeth trosglwyddo arian eto yn y dyfodol.
Dylech:
anfon arian at rywun rydych chi’n ei adnabod yn unig
dewis cyfrinair sy’n anodd ei ddyfalu, a pheidio â’i rannu ag eraill
Os bu i chi dalu drwy ddefnyddio talebau neu gardiau rhodd
Nid yw’n debygol y byddwch yn cael eich arian yn ôl os bu i chi ddefnyddio talebau neu gardiau rhodd i dalu’r sgamiwr.
I’ch diogelu eich hun yn y dyfodol, peidiwch byth â rhoi’r rhifau ar gefn cerdyn rhodd na thaleb i unrhyw un nad ydych yn ei adnabod.
Os na allwch gael eich arian yn ôl
Dewch i wybod sut i gael cymorth emosiynol ar ôl i chi gael eich sgamio.
Os oes angen cymorth arnoch o ran dyledion, darllenwch ein cyngor ynghylch sut i ddechrau mynd i’r afael â’ch dyledion.
Rhowch wybod am y sgam
Mae’n syniad da rhoi gwybod am y sgam – hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich arian yn ôl eto. Dewch i wybod sut i roi gwybod am sgam.
Cael mwy o gymorth
I gael mwy o gymorth i ymdrin â sgamiau, cysylltwch â’n gwasanaeth cymorth i ddefnyddwyr.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 30 Mai 2019