Casglu gwybodaeth am eich dyledion

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes arnoch chi arian a’ch bod yn ei chael hi’n anodd ei dalu’n ôl, mae camau y gallwch eu cymryd.

Gofynnwch am help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych angen help ar frys. Gallai hyn fod oherwydd, er enghraifft:

Gwneud rhestr o'ch dyledion

Casglwch yr holl wybodaeth am eich dyledion, megis contractau, biliau a datganiadau. Er enghraifft, gallai eich dyledion gynnwys:

  • ôl-ddyledion rhent

  • dyledion cardiau credyd

  • ôl-ddyledion treth gyngor

  • biliau ynni neu ddŵr

  • arian rydych chi wedi'i fenthyg gan ffrindiau neu deulu

Gwnewch restr o’ch dyledion ac ysgrifennwch fanylion pob dyled. Gallai’r manylion hyn gynnwys:

  • i bwy y mae'r arian yn ddyledus gennych - eich 'credydwr' yw hwn

  • pan wnaethoch fethu taliad am y tro cyntaf

  • faint sy'n ddyledus gennych - gallai hyn fod mewn datganiad diweddar

  • eich cyfrif neu eich rhif cyfeirnod - gallai hyn fod ar frig eich datganiad

  • beth mae'r credydwr wedi'i wneud i gael yr arian yn ôl - er enghraifft, anfon llythyrau atoch neu fynd â chi i'r llys

Ceisiwch beidio â phoeni pan welwch eich dyledion i gyd ar bapur - y peth pwysig yw eich bod yn eu datrys.

Os nad ydych yn siŵr a oes rhaid i chi dalu dyled, gwiriwch a yw'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi wneud hynny.

Cael eich adroddiadau credyd

Mae adroddiadau credyd yn dangos faint o arian yr ydych wedi'i fenthyg a'i dalu'n ôl. Mae'n syniad da cael copïau o'ch adroddiadau credyd i wneud yn siŵr bod gennych y manylion cywir ar gyfer eich holl ddyledion.

Gallwch gael copïau rhad ac am ddim o'ch adroddiadau credyd gan y 3 asiantaeth credyd - Experian, Equifax a TransUnion (Callcredit gynt). Gofynnwch am yr ‘adroddiad statudol’. Mae’n werth cael adroddiadau gan y 3 asiantaeth gan fod ganddynt wybodaeth wahanol weithiau.

Efallai nad oes gan eich adroddiadau credyd fanylion eich dyledion i gyd, felly dylech hefyd edrych ar y wybodaeth a anfonwyd atoch gan eich credydwyr. Nid yw adroddiadau credyd fel arfer yn dangos newidiadau yn y 4 i 6 wythnos diwethaf. Ni fyddant chwaith yn dangos a oes gennych:

  • ôl-ddyledion treth gyngor

  • treth incwm heb ei thalu

  • gordaliadau budd-daliadau

  • arian sy'n ddyledus gennych i deulu a ffrindiau

  • arian sy’n ddyledus gennych i grefftwyr, fel adeiladwyr neu gyfreithwyr

Gwiriwch a ddylech chi gysylltu â'ch credydwyr

Mae gan eich credydwyr amser cyfyngedig i fynd â chi i'r llys i ad-dalu dyled. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddyledion, y terfyn amser yw 6 blynedd. Bydd y terfyn amser yn ailddechrau os byddwch yn ysgrifennu at eich credydwr neu'n gwneud taliad.

Os nad oes gennych bapurau llys ar ôl 6 blynedd, fel arfer ni all eich credydwr fynd â chi i'r llys.

Peidiwch â chysylltu â’r credydwr os:

  • byd dros 6 blynedd wedi mynd heibio, oherwydd efallai na fyddant yn gallu eich gorfodi i dalu

  • bydd yn 6 blynedd cyn bo hir, oherwydd efallai y bydd cysylltu â nhw yn ailgychwyn y terfyn amser

Gwiriwch a yw’r terfyn amser wedi mynd heibio neu a fydd yn mynd heibio’n fuan. Os nad ydych yn siwr, dylech gael help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Beth i'w ddweud wrth eich credydwyr

Fel arfer, dylech geisio cysylltu â'ch credydwyr - oni bai fod y terfyn amser ar gyfer mynd i'r llys wedi mynd heibio neu'n mynd heibio'n fuan.

Dywedwch wrthynt eich bod yn ceisio delio â'ch dyledion. Gofynnwch iddynt:

  • gadarnhau holl fanylion eich dyledion

  • rhoi'r gorau i fynd ar eich ôl am daliadau tra eich bod yn gweithio allan yr hyn y mae angen i chi ei wneud

  • rhoi'r gorau i ychwanegu llog a ffioedd fel nad yw'r ddyled yn mynd yn fwy

Fel arfer, mae’n well ysgrifennu neu anfon e-bost, er mwyn i chi gael cofnod o’r hyn maen nhw’n ei ddweud. Gallwch ddefnyddio ein llythyr templed i’ch helpu i ysgrifennu atynt.

Peidiwch ag ysgrifennu at eich credydwyr os yw eich dyled yn hen a'ch bod yn meddwl y gallai fod wedi'i gwahardd drwy statud neu y bydd yn fuan.

Y camau nesaf

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod sut i ddelio â’r dyledion ar eich rhestr. Os byddwch yn gwneud cynllun ac yn cadw ato, gellir rheoli unrhyw broblem ddyled. Y cam nesaf yw gweld pa ddyledion i ddelio â nhw gyntaf.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich llethu neu os oes angen help arnoch i ddelio â’ch dyledion, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Adolygwyd y dudalen ar 03 Tachwedd 2026