Lleihau eich taliadau rheolaidd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian, mae camau y gallwch eu cymryd i arbed arian ar eich alldaliadau rheolaidd. Efallai y byddwch chi’n gallu arbed arian drwy:
cael gostyngiad ar eich treth gyngor
gosod mesurydd dŵr
newid i fargen ffôn, teledu neu fand eang rhatach
teithio’n rhatach
talu am eich presgripsiynau ymlaen llaw
Gwiriwch i weld a allwch chi dalu llai o dreth gyngor
Efallai y gallwch gael arian oddi ar eich treth gyngor - naill ai Gostyngiad yn y Dreth Gyngor neu ostyngiad.
Gwiriwch a allwch chi gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Os ydych chi ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau, efallai y gallwch gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor.
Mae gan bob cyngor lleol ei gynllun ei hun felly mae'r hyn y gallwch ei gael yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Gwiriwch a allwch chi gael Gostyngiad ar y Dreth Gyngor ar GOV.UK.
Gwiriwch a allech gael gostyngiad
Efallai y gallwch gael gostyngiad treth gyngor ar gyfer eich eiddo - er enghraifft os:
nad oes neb yn byw yno
rydych yn byw ar eich pen eich hun
rydych chi’n byw ar eich pen eich hun ar wahân i weithiwr gofal sy’n byw yn y cartref
mae'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw yn fyfyrwyr amser llawn neu'n brentisiaid
mae gan rywun sy’n byw gyda chi anabledd meddyliol difrifol
mae angen eiddo mwy arnoch oherwydd bod gan rywun anabledd
Mae rhagor o wybodaeth am gael gostyngiad treth gyngor ar gael ar GOV.UK.
Arbed arian ar eich biliau nwy a thrydan
Ar hyn o bryd, mae’n debyg na fyddwch yn gallu arbed arian drwy newid. Os ydych chi’n edrych ar wefan cymharu prisiau, fyddwch chi ddim yn dod o hyd i gynifer o dariffau ag arfer. Os nad ydych chi’n dod o hyd i dariff gwell na’r un sydd gennych chi’n barod, mae’n well aros nes bydd bargeinion ar gael eto.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio gwefan cymharu prisiau awdurdodedig. Mae rhestr o wefannau cymharu prisiau awdurdodedig ar gael ar wefan Ofgem.
Os ydych chi mewn dyled i’ch cyflenwr ynni, bydd angen i chi ddilyn proses wahanol ar gyfer newid darparwr.
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich biliau ynni, efallai y gallwch gael help.
Gwiriwch a allwch chi gael budd-daliadau neu grantiau i helpu i dalu eich biliau ynni.
Gwneud eich cartref yn fwy effeithlon
Efallai y gallwch leihau eich biliau ynni drwy inswleiddio, gosod gwydrau neu system wresogi fwy effeithlon yn eich cartref.
Os ydych chi ar incwm isel, efallai y gallwch gael help gyda'r gost o wneud gwelliannau. Edrychwch ar y gyfrifiannell grantiau ynni ar GOV.UK.
Edrychwch i weld a allech chi arbed arian ar eich biliau dŵr
Os oes gennych chi fesurydd dŵr, dim ond am y dŵr rydych chi’n ei ddefnyddio y byddwch chi’n talu. Defnyddiwch gyfrifiannell y Cyngor Defnyddwyr Dŵr i weld a allai gosod mesurydd dŵr arbed arian i chi.
Os nad yw mesurydd dŵr yn arbed arian i chi, gallwch newid yn ôl o fewn 12 mis i’w osod. Ar ôl 12 mis, allwch chi ddim mynd yn ôl i filiau heb eu mesur.
Os ydych chi ar incwm isel, efallai y gallwch gael cyfradd ratach gan eich cwmni dŵr. Gelwir hyn yn dariff cymdeithasol. Mae rhagor o wybodaeth am dariffau cymdeithasol ar gael ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
Os oes gennych chi fesurydd dŵr yn barod neu os ydych chi’n aros i un gael ei osod
Efallai y gallwch gael help gan y cynllun Watersure. Mae'r cynllun yn capio biliau felly ni fyddwch byth yn talu mwy na'r cyfartaledd ar gyfer yr ardal.
Efallai y gallwch ymuno â'r cynllun os ydych chi'n cael budd-daliadau ac:
os oes gennych 3 neu fwy o blant dan 19 oed yn byw yn y cartref gyda chi
os oes gennych gyflwr meddygol sy'n gofyn am ddŵr ychwanegol
Gwiriwch a allwch chi ymuno â’r cynllun Watersure.
Os oes gennych blant yn yr ysgol
Os ydych chi ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau penodol, efallai y gallwch gael help gyda chostau anfon eich plant i'r ysgol.
Gallech gael:
prydau ysgol am ddim
cludiant am ddim i'r ysgol
grant i’ch helpu i brynu dillad ysgol
Rhagor o wybodaeth am gael help gyda chostau ysgol.
Newid i fargen ffôn, teledu neu fand eang rhatach
Efallai y byddwch yn gallu arbed arian drwy newid i ddarparwr band eang, ffôn neu deledu gwahanol.
Gwiriwch eich telerau ac amodau cyn i chi newid. Os ydych chi ran o'r ffordd drwy gontract cyfnod penodol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu i adael yn gynnar - gelwir hyn yn 'ffi ymadael'. Gall ffioedd ymadael fod yn ddrud ac efallai y byddai’n well aros tan ddiwedd y contract cyn newid.
Darllenwch fwy am ddod o hyd i fargen ratach.
Os ydych chi'n cael budd-daliadau
Gofynnwch i’ch darparwr a yw’n gallu cynnig ffôn neu fand eang rhatach i chi. Gallwch gael gwybod sut mae cysylltu â’ch darparwr ar eu gwefan.
Efallai y gallwch gael bargen band eang ratach o’r enw ‘tariff cymdeithasol’. Mae’n dibynnu pa fudd-daliadau rydych chi’n eu cael a ble rydych chi’n byw. Gallwch wirio pa ddarparwyr sy’n cynnig tariffau cymdeithasol ar wefan Ofcom.
Gwiriwch a allwch chi dalu llai am eich trwydded deledu
Os na allwch chi fforddio talu am drwydded deledu ymlaen llaw, gallwch dalu bob wythnos, bob pythefnos, bob mis neu bob 3 mis. Ni fyddwch yn arbed arian ond bydd lledaenu’r gost yn gwneud taliadau’n haws eu rheoli.
Darllenwch fwy am wahanol ffyrdd o dalu ar wefan TV Licensing.
Os nad ydych chi’n gwylio teledu byw a ddim yn defnyddio BBC iPlayer, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu am drwydded. Gwiriwch a oes raid ichi dalu ar wefan TV Licensing.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd i dalu eich trwydded Deledu
Mae’r Cynllun Taliadau Syml yn eich galluogi i rannu cost trwydded deledu dros 12 mis. Gallwch dalu naill ai bob mis neu bob pythefnos.
Os byddwch yn methu taliad, bydd y swm sy’n ddyledus gennych yn cael ei rannu ar draws gweddill y cynllun. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu am y mis a fethwyd ar unwaith.
Os byddwch yn methu 3 taliad misol yn olynol, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y Cynllun Talu Syml.
Gall rhai elusennau eich cyfeirio at y Cynllun Talu Syml – gan gynnwys Cyngor ar Bopeth. Os ydych yn cael anawsterau ariannol siaradwch â chynghorydd.
Gallwch hefyd weld pa elusennau eraill sy'n gallu eich cyfeirio at wefan TV Licensing. Bydd angen i chi ehangu’r pennawd ‘Pwy sy’n gymwys i ymuno â’r Cynllun Talu Syml?’
Os yw Swyddog Ymholiadau TV Licensing wedi ymweld â'ch cartref, efallai ei fod wedi rhoi manylion i chi ynghylch sut y gallwch wneud cais.
Gwiriwch a allwch chi gael trwydded deledu am ddim
Efallai y gallwch gael trwydded deledu am ddim os bydd rhywun yn eich cartref yn cael Credyd Pensiwn.
I gael y disgownt, rhaid i'r ddau ganlynol fod yn berthnasol i ddeiliad y drwydded:
os ydyn nhw'n 75 oed neu'n hŷn
os ydyn nhw’n cael Credyd Pensiwn neu os oes ganddyn nhw bartner sy’n byw yn yr un cyfeiriad
Gwneud cais am drwydded deledu yn TV Licensing.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall
Gallwch gael gostyngiad o 50% ar eich trwydded deledu os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu'n byw gyda rhywun sydd wedi'ch cofrestru'n ddall. Gwiriwch sut mae gwneud cais am y gostyngiad ar GOV.UK
Os ydych chi mewn gofal preswyl
Gallwch gael trwydded am £7.50 os ydych chi mewn gofal preswyl a naill ai:
dros 60 oed ac wedi ymddeol
yn anabl
Gofynnwch i’ch rheolwr tai wneud cais i chi.
Arbed arian ar gostau teithio
Efallai y byddwch yn gallu gwario llai ar gostau teithio drwy:
siopa o gwmpas am yswiriant car rhatach
prynu tocyn tymor ar gyfer y trên neu’r bws os ydych chi’n teithio’n rheolaidd
gwneud cais am gerdyn rheilffordd
Gallwch gael gwybod am arbed costau car a theithio ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol.
Gwneud cais am docyn bws i bobl hŷn
Efallai y gallwch gael tocyn bws ar gyfer teithio am ddim. Mae’r oedran y gallwch chi gael un yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a phryd y cawsoch chi eich geni.
Edrychwch i weld a oes modd i chi gael cerdyn bws ar gyfer pobl hŷn ar GOV.UK.
Y camau nesaf
Adolygwyd y dudalen ar 04 Tachwedd 2026