Gwiriwch a fydd yn rhaid i chi dalu dyled
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Byddwch yn gyfrifol am ddyled os yw'n rhywbeth y mae'r gyfraith yn dweud y bydd yn rhaid i chi ei dalu, megis y dreth gyngor neu filiau dŵr.
Mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu dyled hefyd os ydych wedi llofnodi contract i ddweud eich bod yn cytuno i roi arian i rywun. Gallai hyn fod yn rhywbeth fel:
cytundeb credyd, er enghraifft os ydych wedi prynu peiriant golchi neu wedi cael cerdyn credyd
cytundeb tenantiaeth, os ydych yn rhentu
Os mai chi sy'n gyfrifol am ddyled, fe'i gelwir yn 'atebolrwydd'. Mae’n golygu y bydd gennych ddyletswydd gyfreithiol i’w thalu. Os nad ydych yn atebol, dylech allu herio'r credydwr. Credydwr yw unrhyw berson neu sefydliad y mae arnoch chi arian iddo.
Mae rhai sefyllfaoedd a allai effeithio ar eich atebolrwydd am ddyled.
Os oeddech chi'n ddeiliad cerdyn ychwanegol
Os oeddech chi'n ddeiliad cerdyn ychwanegol awdurdodedig ar gyfrif cerdyn credyd rhywun arall, er enghraifft priod neu bartner, ni all y cwmni cardiau credyd ofyn i chi ad-dalu unrhyw ddyledion ar y cerdyn. Cyfrifoldeb y prif ddeiliad cerdyn yw’r rhain bob amser.
Dyled os ydych chi dan 18 oed
Os ydych chi dan 18 oed, dim ond os yw ar gyfer rhywbeth sydd ei angen arnoch o ddydd i ddydd y gallwch fod yn gyfrifol am ddyled. Gallai hyn gynnwys contract ffôn symudol, dillad neu fwyd. Os ydych chi dan 18 oed a ddim yn siŵr a ydych chi'n atebol am ddyled, cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Delio â dyledion ar ôl i rywun farw
Os ydych chi'n delio â dyledion rhywun sydd wedi marw, mae'n bwysig dilyn y broses gywir. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech gael eich dal yn atebol am eu dyledion. Nid ydych yn awtomatig yn atebol am ddyledion rhywun sydd wedi marw hyd yn oed os mai chi oedd eu gŵr, eu gwraig neu eu partner sifil, neu'n byw gyda nhw.
Gallech fod yn atebol am ddyledion sy’n gysylltiedig â’r eiddo a rannoch, er enghraifft treth gyngor neu ddŵr. Os oedd gennych ddyledion ar y cyd, byddwch yn atebol am y swm llawn.
Gwiriwch sut mae delio â materion ariannol rhywun sydd wedi marw.
Gwiriwch a yw'r terfyn amser ar ddyled wedi mynd heibio
Ar gyfer y rhan fwyaf o ddyledion, os ydych chi'n atebol, rhaid i'ch credydwr gymryd camau yn eich erbyn o fewn terfyn amser penodol. Mae cymryd camau’n golygu eu bod yn anfon papurau llys atoch yn dweud wrthych eu bod am fynd â chi i’r llys.
Weithiau, gelwir y terfyn amser yn gyfnod cyfyngiad.
Ar gyfer y rhan fwyaf o ddyledion, y terfyn amser yw 6 blynedd ers i chi ysgrifennu atynt ddiwethaf neu wneud taliad.
Mae’r terfyn amser yn hirach ar gyfer dyledion morgais. Os caiff eich cartref ei adfeddiannu a bod arnoch chi arian ar eich morgais o hyd, y terfyn amser yw 6 blynedd ar gyfer y llog ar y morgais a 12 mlynedd ar y prif swm.
Os ydych chi ar gyfnod lle i anadlu, ni all eich credydwyr gysylltu â chi na cheisio gwneud i chi dalu. Mae hyn yn cynnwys os ydych chi’n parhau i fod ar gyfnod lle i anadlu pan fo’r terfyn amser yn dod i ben. Os bydd hyn yn digwydd, caiff y terfyn amser ei ymestyn yn awtomatig a bydd yn dod i ben 8 wythnos ar ôl i’ch cyfnod lle i anadlu ddod i ben.
Gwiriwch y dyddiad diwethaf i chi wneud taliad i weld a yw eich dyled o fewn y terfyn amser.
Ar ôl i'r terfyn amser fynd heibio, gallai'r ddyled fod wedi'i ‘gwahardd drwy statud’ - mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ei thalu.
Gallai eich dyled fod wedi’i gwahardd drwy statud os, yn ystod y terfyn amser:
nid ydych chi (neu os yw'n ddyled ar y cyd, unrhyw un sydd mewn dyled gyda chi) wedi gwneud unrhyw daliadau tuag at y ddyled
nid ydych chi, neu rywun sy'n eich cynrychioli, wedi ysgrifennu at y credydwr yn dweud mai eich dyled chi yw'r ddyled
nid yw'r credydwr wedi mynd i'r llys am y ddyled
Os gallai’r terfyn amser fod wedi dod i ben neu os bydd yn dod i ben yn fuan
Dylech gysylltu â chynghorydd.
Mae’n bwysig nad ydych yn:
Cysylltu â chredydwr yn ysgrifenedig - mae hyn yn cynnwys anfon neges destun neu ebost, neu siarad â nhw ar-lein.
Gwneud taliadau i’ch credydwr - gan gynnwys taliadau bychain neu rywun arall yn gwneud taliadau ar eich rhan
Gallai ysgrifennu atynt neu wneud taliad ymddangos fel eich bod yn cytuno bod arnoch arian. Gallai hyn ailosod y terfyn amser, sy’n golygu y byddai’n cymryd 6 blynedd arall cyn i’r ddyled gael ei gwahardd drwy statud.
Os ydych angen gwirio manylion dyled, gallwch ffonio eich credydwr.
Os yw eich dyled mewn enwau ar y cyd
Gwiriwch a yw’r person arall wedi cyfaddef yn ysgrifenedig mai eu dyled nhw yw’r ddyled a phryd y gwnaethant y taliad diwethaf.
Os bydd un ohonoch yn ysgrifennu at y credydwr, bydd y terfyn amser yn cael ei ailosod ar gyfer y person hwnnw yn unig.
Bydd y terfyn amser yn cael ei ailosod ar gyfer y ddau ohonoch os bydd un ohonoch yn gwneud taliad.
Os yw’ch dyled wedi’i gwahardd drwy statud
Os nad oes camau wedi’u cymryd yn eich erbyn, nid oes rhaid i chi dalu’r ddyled.
Os oes rhywun wedi cysylltu â chi ynglŷn â’r ddyled neu bod camau wedi’u cymryd yn eich erbyn, gwiriwch beth i’w wneud ynghylch dyled sydd wedi’i gwahardd drwy statud.
Gwirio a herio dyledion
Mae'n bwysig gwirio a ydych chi'n atebol am ddyled er mwyn i chi wybod a ddylech chi wneud trefniadau i'w thalu'n ôl. Mae sut y byddwch yn gwirio yn dibynnu ar ba fath o ddyled ydyw.
Os nad ydych yn meddwl eich bod yn atebol am ddyled, efallai y gallwch ei herio.
Os oes gennych chi ôl-ddyledion treth cyngor
Os ydych chi'n atebol am fil y dreth gyngor ac wedi methu taliad, mae'n bwysig eich bod chi'n cysylltu â'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosib. Gallwch gael mwy o help i ddelio ag ôl-ddyledion y dreth gyngor.
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu'r dreth gyngor ar gyfer yr eiddo yr ydych yn byw ynddo. Mae'n werth holi a yw perchennog yr eiddo'n gorfod talu, hyd yn oed os nad yw'n byw yno. Er enghraifft, bydd y perchennog yn atebol os yw pawb sy’n byw yn y tŷ yn:
byw yn eu rhannau ar wahân eu hunain o'r adeilad
yno dros dro, er enghraifft mewn rhai hostelau
ceisiwr lloches
Os ydych chi'n byw gyda phobl eraill, er enghraifft tenant arall neu bartner, byddwch fel arfer yn atebol ar y cyd am dalu'r dreth gyngor ac unrhyw ôl-ddyledion.
Os ydych chi'n gyd-atebol, mae pob person yn gyfrifol am y bil cyfan, nid rhan ohono'n unig. Mae hyn yn golygu os bydd rhywun yn symud allan heb dalu, byddwch yn dal i fod yn atebol am yr holl fil. Gall y cyngor ofyn i unrhyw un o'r bobl atebol dalu swm llawn y bil.
Herio ôl-ddyledion treth gyngor
Efallai y gallwch herio bil treth gyngor os:
nad ydych yn meddwl eich bod yn atebol amdano
rydych yn meddwl bod yr eiddo wedi'i eithrio'n barhaol o'r dreth gyngor, er enghraifft, os yw'n neuadd breswyl i fyfyrwyr neu'n llety'r lluoedd arfog
rydych yn meddwl bod yr eiddo wedi'i eithrio dros dro, er enghraifft os yw wedi'i adael yn wag oherwydd ei fod wedi'i adfeddiannu, neu fod rhywun wedi marw neu yn yr ysbyty
Rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gorfod talu'r dreth gyngor ac eithriadau treth gyngor.
Os ydych chi'n meddwl bod angen i chi herio bil treth gyngor, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol. Gallwch weld pwy yw eich cyngor lleol ar GOV.UK os oes angen.
Os nad ydych yn siŵr a ydych chi'n atebol am fil treth gyngor, cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent
Os ydych chi wedi llofnodi cytundeb tenantiaeth, chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ôl-ddyledion rhent.
Os nad oes gennych gytundeb tenantiaeth, efallai eich bod wedi cytuno gyda'ch landlord pwy oedd yn atebol pan symudoch chi i mewn. Gwiriwch a oes gennych unrhyw dystiolaeth o'r hyn y cytunwyd arno - gallai hyn gynnwys negeseuon e-bost, llythyrau, negeseuon testun neu gofnodion o daliadau mewn llyfr rhent.
Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent, dylech siarad â’ch landlord cyn gynted â phosib. Talwch beth allwch chi a gofynnwch am fwy o amser i dalu'r rhent yn ôl. Gallai eich landlord eich troi allan os na wnewch chi hynny. Gallwch gael mwy o help i ddelio gyda’ch ôl-ddyledion rhent.
Os byddwch yn herio eich ôl-ddyledion rhent
Yn dibynnu ar eich tenantiaeth, mae risg y gallai eich landlord geisio eich troi allan os byddwch yn herio eich ôl-ddyledion rhent.
Os nad ydych chi'n meddwl eich bod yn atebol am ôl-ddyledion rhent a'ch bod am herio'ch landlord, dylech gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os ydych chi’n rhannu’r denantiaeth â phobl eraill
Os llofnodoch chi gytundeb tenantiaeth ar y cyd, bydd pawb a lofnododd yn atebol ar y cyd am unrhyw ôl-ddyledion rhent. Os bydd un person yn gadael heb dalu ei rent, gall y landlord ddal y tenantiaid eraill yn gyfrifol am dalu ei ôl-ddyledion rhent.
Os ydych chi'n warantwr
Os ydych chi wedi cytuno i fod yn warantwr i rywun ac nad yw'n talu ei rent, gall ei landlord ofyn i chi dalu.
Os ydych wedi cytuno i fod yn warantwr i rywun sy'n gyd-atebol am rent gyda phobl eraill, gallech hefyd fod yn atebol am rent y tenantiaid eraill os nad ydynt yn ei dalu.
Os ydych chi'n warantwr, dylech gael cytundeb gwarant ysgrifenedig wedi'i lofnodi sy'n esbonio pryd y gallech fod yn atebol. Dylech hefyd fod wedi cael copi o’r cytundeb tenantiaeth.
Os nad ydych chi wedi talu eich bil dŵr
Chi fydd yn gyfrifol am y bil dŵr lle rydych chi’n byw. Bydd pawb sy'n byw gyda chi yn atebol ar y cyd, hyd yn oed os nad yw eu henw ar y bil.
Ni fydd eich dŵr yn cael ei ddatgysylltu os na fyddwch yn talu eich bil oni bai eich bod yn rhedeg busnes yn yr eiddo. Gwiriwch beth sy’n gallu digwydd os nad ydych chi’n talu eich bil dŵr.
Os ydych chi'n cael trafferth talu, gallwch gael help i dalu eich biliau dŵr.
Talu biliau dŵr os ydych chi'n rhentu
Efallai y byddwch yn talu am ddŵr fel rhan o'ch rhent. Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth os nad ydych yn siŵr.
Os nad oes gennych gytundeb tenantiaeth, holwch i weld a oes gennych unrhyw dystiolaeth o'r hyn y cytunwyd arno pan wnaethoch symud i mewn. Gallai hyn gynnwys negeseuon e-bost, llythyrau neu negeseuon testun.
Os yw dŵr wedi'i gynnwys, mae rheolau i wneud yn siŵr nad ydych chi'n talu gormod am eich dŵr. Rhagor o wybodaeth am dalu eich bil dŵr os ydych chi'n denant.
Os ydych chi'n symud allan
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich cwmni dŵr os ydych chi’n symud allan. Os byddwch yn rhoi 2 ddiwrnod gwaith neu fwy o rybudd cyn i chi symud, byddwch yn atebol tan y dyddiad y byddwch yn symud allan.
Os na fyddwch yn rhoi 2 ddiwrnod o rybudd, byddwch yn atebol tan y dyddiad cynharaf o blith y canlynol:
y 28ain diwrnod ar ôl i chi ddweud wrthynt eich bod yn symud
pan fydd meddiannydd newydd yn dweud wrth y cwmni dŵr ei fod wedi symud i mewn
y dyddiad y byddai'r mesurydd fel arfer yn cael ei ddarllen (os oes mesurydd)
Darllenwch fwy am symud tŷ a biliau dŵr.
Herio bil dŵr
Os ydych chi'n meddwl bod eich bil yn anghywir, dylech gysylltu â'ch cwmni dŵr ac esbonio pam eich bod yn meddwl ei fod yn anghywir. Dylech allu dod o hyd i'w manylion cyswllt ar eich bil.
Os nad ydych yn hapus ag ymateb eich cwmni dŵr, gallwch gwyno am eich cwmni dŵr.
Os ydych chi'n meddwl nad ydych chi'n gyfrifol am fil dŵr, neu os yw eich bil yn rhy uchel, gwiriwch:
pan wnaethoch symud i mewn ac allan o'r eiddo, os yw'r bil ar gyfer lle roeddech chi'n arfer byw
os a phryd y gwnaethoch ddweud wrth eich cwmni dŵr eich bod yn symud, os yw'r bil ar gyfer rhywle yr oeddech yn arfer byw ynddo
am unrhyw ollyngiadau, y tu mewn i'ch eiddo neu'r tu allan, os oes gennych fesurydd dŵr
Os cysylltwyd â chi ynghylch gordaliad budd-dal neu gredyd treth
Efallai eich bod wedi cael gwybod eich bod wedi cael eich gor-dalu drwy gamgymeriad, neu oherwydd bod rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi’n anghywir pan wnaed y penderfyniad ynglŷn â’r budd-dal.
Darllenwch beth i'w wneud os dywedwyd:
Os oes gennych chi ôl-ddyledion morgais
Os ydych wedi llofnodi'r cytundeb morgais, byddwch yn atebol am unrhyw ôl-ddyledion morgais. Os ydych wedi llofnodi'r cytundeb gyda rhywun arall, byddwch yn atebol ar y cyd am unrhyw ôl-ddyledion.
Os ydych chi'n gwybod eich bod chi'n mynd i fethu taliad morgais, dylech chi siarad â'ch cwmni morgais cyn gynted â phosib. Gallech chi golli'ch cartref os byddwch chi'n methu ad-daliadau morgais.
Os wnewch chi gysylltu â’ch cwmni morgais, efallai y byddant yn gadael i chi leihau eich ad-daliadau neu gymryd seibiant rhag talu am gyfnod. Siaradwch â nhw cyn gynted â phosib fel y gallwch ddechrau delio ag ôl-ddyledion morgais.
Os cafodd eich eiddo ei adfeddiannu a bod gennych ôl-ddyledion morgais o hyd
Gwiriwch y dyddiad y gwerthwyd yr eiddo, a’r dyddiad diwethaf i chi wneud taliad i’r cwmni morgais.
Rhaid i’ch cwmni morgais gysylltu â chi o fewn 6 blynedd i werthu’r tŷ i ofyn i chi ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion. Os nad ydynt, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu. Os cysylltwyd â chi ynghylch ôl-ddyledion morgais o eiddo a werthwyd dros 6 blynedd yn ôl, dylech gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os cysylltwyd â chi ynghylch ôl-ddyledion morgais o eiddo a werthwyd yn ystod y 6 blynedd diwethaf, bydd hyn fel arfer oherwydd bod arnoch chi arian ar brif swm y morgais (y cyfalaf).
Siaradwch â’r benthyciwr morgais i drefnu i dalu’r ôl-ddyledion. Os na fyddwch yn gwneud hynny, mae ganddynt 12 mlynedd o’r dyddiad y gwnaethoch fethu taliad i fynd â chi i’r llys.
Os byddant yn cysylltu â chi ynghylch y llog sy'n ddyledus gennych ac nad ydych yn trefnu i dalu, dim ond 6 blynedd sydd ganddynt i fynd â chi i'r llys.
Os na fyddant yn gweithredu o fewn y terfyn amser, ni all eich cwmni morgais fynd â chi i'r llys i dalu'r arian yn ôl.
Os oes gennych chi ddyled credyd
Os ydych chi wedi llofnodi cytundeb credyd, fel arfer, chi fydd yn gyfrifol am dalu'r ddyled gredyd yn ôl. Nid ydych yn gyfrifol am ddyled os nad ydych yn cael eich crybwyll ar y cytundeb credyd neu os na wnaethoch lofnodi'r cytundeb. Er enghraifft, efallai eich bod yn ddeiliad cerdyn ychwanegol awdurdodedig ar gerdyn credyd ond oherwydd nad chi yw prif ddeiliad y cerdyn a heb lofnodi'r cytundeb credyd, nid chi sy'n gyfrifol am y ddyled.
Mae dyled credyd, neu ‘arian wedi’i fenthyg’, yn cynnwys:
cardiau credyd
benthyciadau banc a benthyciadau diwrnod cyflog
gorddrafftiau
cardiau siopau
nwyddau a brynwyd ar gytundeb hurbwrcas
Os ydych chi’n benthyg arian neu nwyddau fel hyn, gelwir y gyfraith sy’n diogelu eich hawliau yn Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Gallwch wirio eich cytundeb credyd er mwyn darganfod sut y caiff ei ddiogelu gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Os caiff ei ddiogelu, dylai fod hynny wedi’i nodi ar frig y dudalen gyntaf.
Os nad yw credydwr wedi cysylltu â chi am ddyled credyd o fewn y terfyn amser o 6 blynedd, ni all eich gorfodi i'w thalu'n ôl. Gallant hefyd eich gorfodi i dalu os oedd problemau gyda'r cytundeb gwreiddiol, er enghraifft os nad oeddent wedi cynnwys yr wybodaeth gywir am sut y byddai'r arian yn cael ei dalu'n ôl.
Os ydych chi'n warantwr i rywun arall
Os ydych chi wedi cytuno i fod yn warantwr i rywun arall ac nad ydyn nhw'n gwneud y taliadau, gall y credydwr ofyn i chi wneud y taliadau.
Os ydych chi'n warantwr, dylech gael cytundeb gwarant wedi'i lofnodi sy'n esbonio pryd y gallech fod yn atebol.
Os gwnaethoch fenthyg nwyddau drwy drefniant hurbwrcas
Os ydych chi wedi prynu rhywbeth ar gytundeb hurbwrcas, er enghraifft car neu beiriant golchi dillad, dydych chi ddim yn berchen arno nes i chi dalu amdano'n llawn. Os byddwch chi’n mynd ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, efallai y bydd y benthyciwr yn gallu cymryd y nwyddau yn ôl.
Mae gennych hawl i derfynu’r cytundeb hurbwrcas ar unrhyw adeg, er enghraifft os na allwch fforddio’r taliadau mwyach. Os ydych chi eisiau dod â’r cytundeb i ben yn gynnar, dylech wneud hyn yn ysgrifenedig. Gallwch ddefnyddio ein llythyr enghreifftiol.
Os byddwch yn terfynu’r cytundeb yn gynnar, byddwch yn atebol am hanner y swm y gwnaethoch gytuno i’w dalu am y nwyddau. Bydd y benthyciwr yn tynnu'r swm yr ydych eisoes wedi'i dalu, ond efallai y bydd yn ychwanegu costau ychwanegol am ddod â'r cytundeb i ben.
Os bydd eich benthyciwr yn dweud bod yn rhaid i chi dalu mwy na hanner yr holl swm sy'n ddyledus gennych cyn y gallwch ddod â'r cytundeb i ben, dylech gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os ydych chi’n cael trafferth talu, mae’n well dod â’r cytundeb i ben eich hun. Os bydd eich benthyciwr yn dod â'r cytundeb i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol. Pwy bynnag sy’n dod â’r cytundeb i ben, bydd yn rhaid i chi roi’r nwyddau yn ôl.
Os gwnaethoch fenthyg arian gyda rhywun arall
Os ydych chi wedi llofnodi cytundeb credyd gyda rhywun arall, chi fydd yn gyfrifol ar y cyd am dalu'r ddyled yn ôl. Os bydd y person arall yn rhoi’r gorau i dalu, gall y credydwr wneud i chi dalu swm llawn y ddyled, nid dim ond eich cyfran chi.
Herio dyledion credyd
Mae cyfreithiau i’ch diogelu pan fyddwch yn cael benthyg arian. Efallai na fydd y credydwr yn gallu cymryd camau i'ch gorfodi i dalu os:
wnaethon nhw ddim rhoi cytundeb ysgrifenedig i chi yn dweud faint roeddech chi'n ei fenthyg, sut y dylid ei ad-dalu a'ch hawliau i'w ganslo
wnaethon nhw ddim gwirio eich bod yn gallu fforddio'r ad-daliadau
fe wnaethon nhw eich trin yn annheg, er enghraifft fe wnaethon nhw werthu PPI i chi pan na ddylen nhw fod wedi gwneud hynny
wnaethon nhw ddim anfon diweddariadau rheolaidd atoch am eich cyfrif a'r swm sy'n ddyledus iddyn nhw
ni wnaethoch fenthyg yr arian
rhoddwyd pwysau arnoch i lofnodi'r cytundeb credyd neu'r cytundeb gwarantwr
doeddech chi ddim yn gallu deall beth roeddech chi’n ei arwyddo
yr oeddech o dan 18 oed pan lofnodoch chi'r cytundeb
Cael help os nad ydych chi'n atebol am ddyled credyd
Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai ‘na fydd modd gorfodi’r’ ddyled. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y credydwr yn gallu gwneud i chi dalu'r ddyled.
Gofynnwch am help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n meddwl y gallai dyled credyd fod yn anorfodadwy.
Dylech hefyd gael help os bydd credydwr yn dal i gysylltu â chi am ddyled nad ydych chi'n gyfrifol amdani yn eich barn chi.
Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd y mae'ch credydwr yn delio â'ch sefyllfa, dylech gysylltu â nhw i gwyno. Os nad ydych chi’n fodlon â’u hymateb, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Ariannol:
Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Rhif ffôn: 0800 023 4567
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm
Dydd Sadwrn, 9am i 1pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Os cysylltwyd â chi ynghylch ôl-ddyledion cynhaliaeth plant
Os cewch chi fil ar gyfer cynhaliaeth plant, dylech:
ofyn am ddatganiad manwl a gwirio hyn yn erbyn yr hyn rydych chi'n meddwl eich bod wedi'i dalu
gwirio faint o gynhaliaeth plant yr ydych yn ei dalu - defnyddiwch y gyfrifiannell cynhaliaeth plant ar GOV.UK i wneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir
gwiriwch a ydych wedi rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau - gall hyn effeithio ar y swm y dylech ei dalu
Os credwch fod y swm yn anghywir, efallai y gallwch apelio neu ofyn am adolygiad. Dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Gwiriwch sut mae cysylltu â’r CMS ar GOV.UK
Os na fyddwch yn talu cynhaliaeth i'ch plentyn, bydd y camau y gellir eu cymryd yn dibynnu ar y math o drefniant sydd gennych. Gwiriwch beth i'w wneud os oes arnoch chi gynhaliaeth plant.
Os yw eich ôl-ddyledion cynhaliaeth plant yn deillio o'r taliadau y gwnaethoch eu methu amser maith yn ôl, efallai y gallwch eu dileu. Bydd hyn yn dibynnu ar ba fath o gytundeb cynhaliaeth plant oedd gennych. Ni fyddwch yn gallu cael yr ôl-ddyledion wedi'u dileu os byddwch yn dal i dalu cynhaliaeth plant.
Os ydych chi'n meddwl bod eich ôl-ddyledion cynhaliaeth plant yn hen ac nad ydych chi'n siŵr a oes rhaid i chi dalu, gofynnwch am help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Gweld a yw Yswiriant Diogelu Taliadau yn berthnasol i'ch dyled
Os oes gennych chi forgais, benthyciad neu ddyled credyd, efallai fod gennych Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI). Os bydd gennych hynny, efallai y bydd y cwmni yswiriant yn talu eich ad-daliadau dyled os byddwch yn mynd yn sâl, yn mynd yn ddi-waith neu'n cael damwain. Gwiriwch eich cytundeb credyd neu’ch dogfennau morgais i weld a oes gennych chi bolisi PPI.
Dim ond am gyfnod penodol y bydd PPI yn talu am eich taliadau. Bydd eich polisi PPI yn dweud wrthych ar gyfer beth yr ydych yn gymwys a sut a phryd y dylech wneud hawliad.
Os ydych chi'n meddwl y dylech gael gwarchodaeth PPI ond bod y cwmni yswiriant yn dweud nad ydych chi, gwiriwch a allwch chi gwyno am PPI sydd wedi'i gam-werthu.
Y camau nesaf
Cyfrifo pa ddyledion i ddelio â nhw yn gyntaf
Gwiriwch a allwch gynyddu eich incwm
Gweld a allwch leihau eich costau byw
Adolygwyd y dudalen ar 03 Tachwedd 2026