Delio ag ôl-ddyledion y Dreth Gyngor

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych wedi methu taliad treth gyngor, bydd gennych 'ôl-ddyledion' - mae hyn yn golygu bod arnoch chi arian i'ch cyngor.

Dylech gysylltu â'ch cyngor ar unwaith. Peidiwch ag aros iddyn nhw gysylltu â chi.

Gofynnwch am gael siarad â rhywun yn swyddfa'r Dreth Gyngor ac egluro eich sefyllfa. Dylent allu dweud wrthych sut i gael help - er enghraifft, efallai y byddant yn eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd dyled am ddim. Gallwch wirio sut mae cysylltu â’ch cyngor ar GOV.UK.

Efallai y gallwch dalu llai o dreth gyngor neu beidio â'i thalu o gwbl - mae'n dibynnu ar eich sefyllfa - gwiriwch a allwch chi dalu llai o dreth gyngor.

Mae ôl-ddyledion y Dreth Gyngor yn 'ddyled â blaenoriaeth'. Mae hyn yn golygu bod angen i chi eu talu cyn dyledion fel cardiau credyd.

Os oes gennych fwy nag un ddyled, dylech ddarllen ein cyngor ar gael help gyda dyled. Neu gallwch siarad â chynghorydd.

Os nad ydych chi’n gallu talu eich treth gyngor

Cysylltwch â'ch cyngor ac esbonio eich sefyllfa. Peidiwch â rhoi’r gorau i dalu.

Gofynnwch iddyn nhw a fyddan nhw'n gadael i chi dalu eich treth gyngor mewn symiau llai.

Mae’n debyg y gofynnir i chi ymrwymo i dalu swm rheolaidd bob mis. Os nad ydych chi’n siŵr faint allwch chi ei fforddio, gallwch ddefnyddio adnodd cyllidebu neu siarad ag ymgynghorydd arbenigol yn Cyngor ar Bopeth.

Os yw'r taliadau hyn yn golygu na fyddwch yn gallu fforddio costau hanfodol megis eich rhent neu'ch morgais, dywedwch wrth y cyngor.

Os ydych chi ar incwm isel, efallai y bydd modd i chi gael gostyngiad ar fil y dreth gyngor. Gallwch ddarllen mwy am gael help i dalu bil y Dreth Gyngor.

Os ydych yn methu taliad treth gyngor

Byddwch yn cael nodyn atgoffa gan y cyngor tua phythefnos ar ôl i chi fethu taliad. Bydd yn rhoi 14 diwrnod i dalu’r ôl-ddyledion.

Os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod, does dim angen i chi wneud dim byd arall. Bydd y ddyled yn cael ei chlirio a byddwch yn gallu parhau i dalu eich treth gyngor mewn rhandaliadau. 

Os na allwch dalu’r ôl-ddyledion nawr gallwch ofyn i’r cyngor am ganiatad i’w talu dros gyfnod o amser. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu arian ychwanegol gyda’ch taliadau Treth Cyngor arferol hyd nes eich bod wedi talu’r ôl-ddyledion. Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i ofyn iddynt am gyngor.

Edrychwch ar y llythyr a gewch gan y cyngor i wneud yn siŵr eich bod yn talu eich ôl-ddyledion Treth Gyngor i'r cyfrif banc cywir. Efallai y bydd yn wahanol i'r un yr ydych fel arfer yn talu eich rhandaliadau Treth Gyngor iddo.

Os na fyddwch yn talu neu’n cytuno i dalu ar ôl cael eich atgoffa

Gall y cyngor anfon ‘hysbysiad terfynol’ atoch o leiaf 41 diwrnod ar ôl i chi fethu’r taliad. Bydd yr hysbysiad terfynol yn rhoi 21 diwrnod arall i chi dalu’r ôl-ddyledion. Os na fyddwch yn talu o fewn 21 diwrnod, bydd arnoch chi’r swm llawn o Gyngor Treth am y flwyddyn.

Ar ôl y 21 diwrnod, fel arfer bydd eich cyngor yn gwneud cais i'r llysoedd am ganiatâd i gasglu'r ddyled gennych - gelwir hyn yn 'orchymyn dyled'. Fel arfer, bydd y cyngor yn ychwanegu costau gweinyddol a chostau llys at eich dyled os ydynt yn gwneud cais am orchymyn dyled. 

Dylai eich cyngor edrych ar bob opsiwn arall cyn gwneud cais am orchymyn dyled. Er enghraifft, dylent siarad â chi am gynllun ad-dalu fforddiadwy neu roi amser i chi wneud cais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor os ydych chi'n gymwys.

Gallwch barhau i ofyn i’r cyngor am ganiatad i dalu eich ôl-ddyledion dros amser hyd yn oed ar ôl iddynt wneud cais i’r llys. Os byddant yn cytuno, gofynnwch a allant ddileu unrhyw gostau y maent wedi’u hychwanegu at y swm sy’n ddyledus gennych.

Efallai y byddwch yn gallu cael amser ychwanegol drwy wneud cais am y cynllun Lle i Anadlu.

Os ydych chi’n gymwys, gallech gael 60 diwrnod o le i anadlu lle na all eich credydwr:

  • cysylltu â chi

  • cymryd camau i’ch gorfodi i dalu

  • ychwanegu llog a ffioedd at eich dyled

Os yw eich cyngor eisoes yn tynnu arian o Gredyd Cynhwysol, bydd y rhain yn parhau hyd yn oed os oes gennych le i anadlu. I weld a yw lle i anadlu yn addas i chi, siaradwch â chynghorydd.

Os nad ydych chi'n siŵr a oes rhaid i chi dalu'r ddyled treth gyngor, gwiriwch a oes rhaid i chi dalu'r ddyled.

Os bydd y Cyngor yn cael gorchymyn dyled

Gall y cyngor gymryd camau yn eich erbyn er mwyn cael yr arian sydd yn ddyledus gennych. Gelwir hyn yn ‘gam gorfodi’. 

Fel arfer bydd y cyngor am i chi dalu'r ddyled o fewn y flwyddyn dreth gyfredol.

Gallai’r cyngor:

Os ydych chi'n agored i niwed, siaradwch â'ch cyngor i weld pa opsiynau eraill sydd ar gael. Gallwch fod yn agored i niwed mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd, er enghraifft os ydych yn anabl, yn ddifrifol wael, os oes gennych broblemau iechyd meddwl neu os ydych yn rhiant sengl.

Os bydd y cyngor yn cymryd arian o’ch cyflog

Ar ôl i'r cyngor gael gorchymyn dyled gan y llys, gallant gymryd arian yn syth o'ch cyflog bob tro y cewch eich talu. Gelwir hyn yn ‘orchymyn atafaelu enillion’. Byddant yn anfon hysbysiad atoch drwy'r post - bydd yn dweud wrthych faint y byddant yn ei gymryd.

Os oes gennych orchymyn atafaelu enillion ar gyfer dyledion eraill

Mae gorchmynion atafaelu enillion yn gweithio’n wahanol ar gyfer mathau eraill o ddyled. Gwiriwch beth i’w wneud os oes gennych orchymyn atafaelu enillion ar gyfer dyledion eraill.

Cyn i'r cyngor anfon gorchymyn atafaelu enillion atoch, dylent geisio trefnu 'cynllun talu' gyda chi. Dyma ffordd i chi dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych - er enghraifft, swm penodol bob mis. Gallwch gwyno os bydd eich cyngor yn anfon gorchymyn atafaelu enillion atoch pan naill ai:

  • dydyn nhw ddim wedi rhoi cyfle i chi wneud cynllun talu

  • os oes gennych gynllun talu a'ch bod yn ei ddilyn

Gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol ar eu gwefan. Mae’r ombwdsmon yn annibynnol a bydd yn archwilio’r achos o’r ddwy ochr i ddod i benderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw.

Bydd eich cyflogwr yn gwybod am eich gorchymyn atafaelu enillion. Os gallai’r gorchymyn effeithio ar eich swydd, siaradwch â chynghorydd.

Newid y swm rydych chi’n ei dalu’n ôl

Os nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno oherwydd bod yr arian yn cael ei dynnu o'ch cyflog, dylech gysylltu â'ch cyngor. Dywedwch wrthynt beth y gallwch ei fforddio a gofynnwch a allwch gytuno ar gynllun talu. Efallai y byddant yn lleihau'r swm yr ydych yn ei dalu neu'n canslo'r gorchymyn.

Siaradwch â chynghorydd cyn gynted â phosib os oes gennych chi ddyledion eraill neu os na allwch chi gytuno ar swm y gallwch ei fforddio.

Os byddwch yn newid neu’n gadael eich swydd

Os byddwch yn gadael eich swydd, ni fydd y cyngor yn cael unrhyw arian o'r gorchymyn atafaelu enillion ond ni chaiff ei ganslo. Byddwch yn dechrau gwneud taliadau eto pan fyddwch yn cael swydd newydd.

Rhaid i chi roi gwybod i'r cyngor yn ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod pan fyddwch yn gadael neu'n newid eich swydd. Os byddwch yn cael swydd newydd, rhaid i chi hefyd ddweud wrthynt:

  • manylion eich cyflogwr newydd

  • faint y byddwch yn ei ennill yn eich swydd newydd

Os na fyddwch yn dweud wrth y cyngor mewn pryd, mae'n drosedd - efallai y cewch ddirwy.

Os ydych chi'n ddi-waith am amser hir, gallech ofyn i'r cyngor ganslo'r gorchymyn.

Adolygwyd y dudalen ar 04 Tachwedd 2026