Os bydd credydwr yn cymryd arian o’ch cyflog
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os bydd credydwr yn cymryd arian ar gyfer dyledion cynhaliaeth plant, treth gyngor neu fudd-daliadau
Os yw'r cyngor yn cymryd arian i dalu ôl-ddyledion treth gyngor, ceir rheolau arbennig ynghylch sut mae'n gweithio. Rhagor o wybodaeth am ddelio ag ôl-ddyledion treth gyngor.
Os yw eich gorchymyn ar gyfer ôl-ddyledion cynhaliaeth plant, fe'i gelwir yn 'orchymyn didynnu o enillion'. Gallwch gael gwybod beth i'w wneud os oes gennych orchymyn didynnu o enillion.
Os oes gennych ddyledion budd-dal, gallwch siarad â chynghorydd.
Os oes arnoch chi arian ar gyfer pethau fel benthyciad banc neu gerdyn credyd, efallai y bydd eich credydwr yn ceisio cael gorchymyn llys i dynnu arian o'ch cyflog.
Dim ond os ydynt eisoes wedi bod yn y llys i gael dyfarniad llys sirol yn eich erbyn y gallant wneud hyn. Gallwch weld beth sy'n digwydd pan fydd eich credydwr yn mynd â chi i'r llys i gael dyfarniad llys sirol.
Bydd y llys yn cyfrifo faint y dylech ei dalu ac yn tynnu'r swm hwnnw o'ch cyflog bob tro y cewch eich talu. Gelwir hyn yn 'orchymyn atafaelu enillion'.
Ni chaiff eich credydwr wneud cais am orchymyn atafaelu enillion os oes arnoch chi lai na £50 neu os ydych chi yn:
hunangyflogedig
di-waith
yn y fyddin, y llu awyr neu'r llynges - mae proses ar wahân i gredydwyr gymryd arian o'ch cyflog
yn gyflogedig ar gwch, ac eithrio cwch pysgota
Os bydd eich credydwr yn dweud y bydd yn tynnu arian o'ch cyflog
Os yw eich credydwr wedi dweud wrthych ei fod yn mynd i wneud cais am orchymyn atafaelu enillion, dylech gysylltu â nhw ar unwaith. Efallai y byddwch yn gallu cytuno ar gynllun talu a’u hatal rhag gwneud cais am y gorchymyn.
Os oes gennych ddyledion eraill neu os na allwch ddod i drefniant gyda'ch credydwr, mynnwch gyngor cyn gynted â phosibl gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os oes gennych chi ffurflen ymateb gan y llys
Os oes gennych y ffurflen 'ateb i gais am atafaelu enillion' neu'r ffurflen 'N56', mae'n golygu bod eich credydwr wedi gwneud cais i dynnu arian o'ch cyflog.
Peidiwch ag anwybyddu’r ffurflen – mae’n bwysig iawn eich bod yn ei llenwi a’i dychwelyd i’r llys cyn y terfyn amser.
Pwysig
Os na fyddwch yn anfon y ffurflen ateb yn ôl cyn y dyddiad cau
Gofynnwch am help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych wedi methu’r terfyn amser: Mae'n drosedd peidio â llenwi'r ffurflen neu roi gwybodaeth ffug. Mae hyn yn golygu y gallech fynd i’r carchar.
Efallai y bydd y llys yn mynd yn syth at eich cyflogwr ac yn gofyn iddo ddarparu manylion eich enillion er mwyn iddo allu gwneud y gorchymyn.
Llenwi’r ffurflen ymateb
Bydd rhaid i chi roi manylion eich incwm, eich treuliau a'ch dyledion ar y ffurflen. Os oes gennych amser, gofynnwch am gyngor ar ddyledion gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Peidiwch â gadael i hyn achosi oedi o ran anfon y ffurflen yn ôl.
Gofyn i’r llys a allwch chi dalu eich credydwr yn uniongyrchol
Os bydd y gorchymyn yn achosi caledi i chi, gallwch dicio blwch i ofyn i’r llys am ‘orchymyn atafaelu enillion ataliedig’. Byddai hyn yn caniatáu i chi dalu eich credydwr yn uniongyrchol heb gynnwys eich cyflogwr.
Bydd angen i chi roi'r rhesymau pam eich bod yn meddwl y dylech gael gorchymyn ataliedig. Er enghraifft:
ni fyddwch yn gallu talu biliau
byddwch yn colli eich swydd
Mae dal angen i chi dalu eich credydwr os cewch chi orchymyn ataliedig. Os byddwch yn methu taliadau gall eich credydwr ailymgeisio am orchymyn i gymryd arian o'ch cyflog.
Dylech ddweud wrth eich credydwr eich bod yn gwneud cais am orchymyn ataliedig a'r rhesymau pam. Dylech hefyd ddweud wrthynt am unrhyw gyngor ar ddyledion yr ydych yn ei gael.
Os ydych chi eisoes wedi siarad â'ch credydwr a'i fod wedi cytuno i adael i chi ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych mewn ffordd wahanol, dylech ddweud hyn ar y ffurflen. Dylech hefyd ddweud wrth y llys os ydych yn cael cyngor am ddyledion fel eu bod yn gwybod eich bod yn ceisio datrys eich dyled.
Os nad oes lle ar y ffurflen, gallwch ychwanegu dalen ychwanegol fel datganiad tyst.
Bydd eich cyflogwr yn gwybod am eich gorchymyn atafaelu enillion - oni bai ei fod wedi'i atal. Os yw’r gorchymyn yn effeithio ar eich swydd, siaradwch â chynghorydd.
Ar ôl gwneud y gorchymyn
Bydd y llys yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych faint fydd yn cael ei dynnu o’ch cyflog bob mis. Gofynnwch am gymorth gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os yw’r taliadau’n golygu nad oes gennych ddigon i fyw arno.
Newid y swm rydych chi’n ei dalu’n ôl
Gallwch wneud cais i’r llys i newid y gorchymyn os ydych chi’n meddwl bod gormod o arian yn cael ei dynnu o’ch cyflog. Bydd yn rhaid i chi dalu i newid y gorchymyn. Gwiriwch a allwch chi gael help ar GOV.UK.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen o'r enw 'N244' ac esbonio pam na allwch fforddio'r taliadau. Mae ffurflen N244 ar gael ar GOV.UK.
Bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys am wrandawiad a bydd barnwr yn penderfynu a all newid y gorchymyn.
Os byddwch yn newid neu’n gadael eich swydd
Os byddwch yn gadael eich swydd, bydd y gorchymyn atafaelu enillion yn peidio â chael ei dalu ond ni chaiff ei ganslo. Byddwch yn dechrau gwneud taliadau eto pan fyddwch yn cael swydd newydd.
Rhaid i chi ddweud wrth y llys am eich cyflogwr newydd o fewn 7 diwrnod. Os na wnewch chi hynny, mae'n drosedd.
Os ydych chi'n ddi-waith am amser hir, gallech ofyn i'r llys ganslo'r gorchymyn. Efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen - ffoniwch y llys yn gyntaf i gael gwybod sut i ganslo'r gorchymyn.
Os oes gennych orchmynion atafaelu enillion eraill
Gallwch ofyn i'r llys adael i chi dalu eich holl orchmynion llys mewn un taliad misol, felly does dim rhaid i chi dalu'ch credydwyr ar wahân. Gelwir hyn yn 'orchymyn atafaelu enillion cyfunol'.
Os byddwch yn cael gorchymyn cyfunol, bydd yr arian sy'n ddyledus gennych yn cael ei dynnu o'ch cyflog gan eich cyflogwr a'i anfon i'r llys. Bydd y llys yn talu pob un o’ch credydwyr.
Bydd y llys yn cymryd 10c am bob £1.00 ym mhob taliad misol – mae hyn yn golygu y bydd gorchymyn cyfunol yn costio mwy i chi.
Mae gan Steve ddyled o £1000 ac mae’n talu £50 y mis i ddau gredydwr. Os oes ganddo orchymyn atafaelu enillion cyfunol, bydd y llys yn cymryd £5 y mis ac yn talu £45 i’w gredydwyr.
Os oes gennych orchymyn atafaelu enillion eisoes, gallwch ofyn am orchymyn cyfunol:
os ydych chi wedi cael llythyr gan gredydwr arall yn dweud ei fod wedi gwneud cais am orchymyn atafaelu enillion
mae gennych fwy nag un gorchymyn atafaelu enillion
Gwneud cais am orchymyn atafaelu enillion cyfunol
Gallwch wneud cais am orchymyn atafaelu enillion cyfunol drwy ysgrifennu at y llys. Yn y llythyr dylech gynnwys manylion yr holl orchmynion llys yr ydych am i’r llys eu cyfuno.
Dylech hefyd gynnwys crynodeb o’r gyllideb yn y llythyr, gyda manylion eich holl dreuliau ac incwm. Gallwch ddefnyddio adnodd cyllideb i wneud crynodeb o gyllideb. Nodwch yn glir faint y gallwch fforddio ei dalu i gyd gyda’i gilydd ar y gorchymyn newydd.
Bydd y llys yn penderfynu a allant wneud y gorchymyn - mae'n anarferol iddynt wrthod. Bydd y llys yn anfon manylion y gorchymyn newydd atoch. Gall eich credydwr eich atal rhag cael gorchymyn cyfunol - bydd ganddynt 14 diwrnod i ddweud wrth y llys.
Adolygwyd y dudalen ar 12 Mawrth 2021