Sut gall credydwr gael gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi mewn dyled, a'ch bod wedi mynd ar ei hôl hi gyda'ch ad-daliadau, mae'n bosib bod eich credydwr wedi cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn ac wedi cael dyfarniad llys sirol (CCJ). Mae Dyfarniad Llys Sirol yn orchymyn gan y llys i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych.

Os oes gan eich credydwr Ddyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn, efallai y gallant gymryd camau pellach i geisio cael eu harian yn ôl. Gelwir hyn yn 'gam gorfodi'.

Mae sawl gwahanol fath o gamau gorfodi y gall eich credydwyr eu cymryd. Bydd yr hyn y maent yn penderfynu ei wneud yn dibynnu ar faint o arian y mae'n rhaid i chi ei dalu'n ôl. Weithiau bydd credydwr am gael gwybod mwy am eich sefyllfa ariannol cyn penderfynu pa gamau gorfodi i'w cymryd.

I gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, gall eich credydwyr wneud cais am orchymyn llys i'ch gorfodi i fynd yn ôl i'r llys. Gallwch gael eich gorfodi i ddod â dogfennau i mewn ac ateb cwestiynau dan lw am eich sefyllfa ariannol. Gelwir hyn yn 'orchymyn i gael gwybodaeth'.

Er enghraifft, efallai y bydd eich credydwyr eisiau gwybod manylion am unrhyw eiddo rydych chi'n berchen arno a faint yw ei werth, neu a ydych chi'n disgwyl cael mwy o arian, megis taliad polisi yswiriant neu ddyrchafiad yn y gwaith.

Gall gwybod y wybodaeth hon eu helpu i benderfynu pa fath o gamau gorfodi y gallant eu cymryd. Er enghraifft, efallai y byddant yn gofyn i'r llys dynnu arian o'ch cyflog, neu'n uniongyrchol o'ch cyfrif banc.

Os cewch orchymyn llys i gael gwybodaeth, mae'n bwysig iawn eich bod yn mynd i'r gwrandawiad ac yn ateb y cwestiynau a ofynnir i chi. Os nad ydych chi’n mynychu ac nad oes gennych reswm da dros hynny, neu os nad ydych chi’n ateb y cwestiynau, gallwch gael eich anfon i’r carchar.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am orchmynion i gael gwybodaeth, gan gynnwys beth y mae angen i chi ei wneud i baratoi ar gyfer y gwrandawiad, beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad a beth i'w wneud os na allwch fynd.

I gael gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd pan fydd credydwr yn tynnu arian o'ch cyflog neu'n uniongyrchol o'ch cyfrif banc, gweler  Credydwr yn cymryd arian o'ch cyflog a Credydwr yn cymryd arian o'ch cyfrif banc.

I gael rhagor o wybodaeth am CCJ, gweler Credydwr yn mynd â chi i'r llys am ddyled.

Beth yw gorchymyn i gael gwybodaeth

Mae gorchymyn i gael gwybodaeth yn orchymyn i fynd yn ôl i’r llys a chael eich holi dan lw neu gadarnhad am eich amgylchiadau ariannol.

Mae'n rhywbeth y gall eich credydwyr ofyn amdano os oes ganddynt ddyfarniad llys sirol (CCJ) eisoes yn eich erbyn. Gall y llys holi am bethau fel:

  • eich incwm a'ch gwariant

  • eich swydd

  • eich cartref

  • unrhyw eiddo arall yr ydych yn berchen arno.

Bydd angen i’ch credydwr wneud cais i’r llys i wneud y gorchymyn hwn.

Bydd y gorchymyn i gael gwybodaeth yn dweud wrthych am ddod i’r llys ar ddyddiad penodol. Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd am y gwrandawiad.

Bydd y gorchymyn i gael gwybodaeth yn cynnwys rhybudd o gosb. Mae hyn yn rhybudd, os na fyddwch yn mynd i’r gwrandawiad, y gellir eich anfon i’r carchar am anufuddhau i’r gorchymyn llys (dirmyg llys). Mae'n bwysig iawn eich bod yn mynd i'r gwrandawiad neu'n dweud wrth y llys os na allwch chi.

Bydd y gorchymyn hefyd yn rhoi rhestr o ddogfennau y mae’n rhaid i chi ddod gyda chi i’r gwrandawiad.

Os na allwch chi fod yn bresennol yn y gwrandawiad llys

Os na allwch ddod i’r gwrandawiad llys i gael gwybodaeth, cysylltwch â’ch credydwr a gofyn iddo gytuno i ddyddiad newydd.

Os na allwch chi gael y credydwr i gytuno ar ddyddiad newydd, gallwch wneud cais i'r llys i newid dyddiad gan ddefnyddio ffurflen N244 y llys, sydd ar GOV.UK. 

Bydd yn rhaid i chi esbonio ar y ffurflen pam nad yw'n bosibl i chi fod yn bresennol ar y dyddiad gwreiddiol. Rhaid i chi dalu ffi am y cais hwn, ond efallai y caiff ei hepgor neu ei leihau os ydych chi ar incwm isel.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y cais yn hytrach na pheidio â mynd i’r llys. Gallech chi gael eich anfon i’r carchar os na fyddwch chi’n mynychu.

Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i geisio sicrhau nad ydych chi’n methu dyddiad y llys. Er enghraifft, os yw'r gwrandawiad i fod i gael ei glywed mewn llys y tu allan i'ch ardal, gallwch ofyn iddo gael ei symud i'ch llys lleol fel nad oes rhaid i chi deithio mor bell.

Os mai ychydig iawn o arian sydd gennych, gallwch hefyd ofyn i'ch credydwr dalu eich costau teithio i'r llys ac oddi yno. Rhaid i chi wneud hyn o fewn saith niwrnod i gael eich gorchymyn i fod yn bresennol yn y gwrandawiad.

I gael gwybod mwy am sut i ofyn i ffioedd llys gael eu hepgor, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Paratoi ar gyfer y gwrandawiad llys

Cyn i chi fynd i'r llys, bydd angen i chi baratoi datganiad ariannol llawn. Mae hyn er mwyn i'ch credydwr allu gweld a allwch chi fforddio ad-dalu'r ddyled a faint. Mae’r datganiad ariannol yn dangos yn fanwl:

  • faint o arian sydd gennych yn dod i mewn

  • a oes gennych unrhyw asedau, megis tŷ neu gynilion

  • beth sydd angen i chi ei wario ar fywyd bob dydd

  • faint sydd ei angen arnoch i gefnogi pobl eraill yn eich teulu

  • faint sydd gennych ar ôl i dalu eich dyledion.

Mae'r datganiad ariannol hefyd yn caniatáu i'r credydwr ganfod a oes gennych unrhyw ecwiti yn eich cartref. Ecwiti yw'r swm o arian y byddech chi'n ei wneud petaech chi'n gwerthu'ch cartref ar ôl i unrhyw forgais neu fenthyciadau wedi'u gwarantu gael eu had-dalu. Os oes gennych ecwiti, efallai y bydd y credydwr yn ystyried gwneud cais i'r llys am orchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo, fel ffordd o gael eu harian yn ôl.

Os byddwch yn gwerthu'ch eiddo, mae gorchymyn arwystlo'n golygu bod yn rhaid i chi dalu'n ôl i'ch credydwr yr hyn sy'n ddyledus iddo o'r arian. Mewn rhai achosion, gall credydwr eich gorfodi i werthu eich eiddo er mwyn iddynt gael eu harian yn ôl.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd pan fydd credydwr yn gwneud cais am orchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo, gweler Gorchmynion arwystlo.

Gallwch hefyd ddefnyddio adnodd cyllidebu.

Cyn mynd i'r llys, bydd angen i chi hefyd gasglu tystiolaeth o'ch sefyllfa ariannol. Bydd angen eich holl waith papur ariannol arnoch, megis:

  • cyfriflenni banc

  • cytundebau credyd

  • llyfrau rhent

  • prawf o unrhyw ddyledion eraill

  • prawf o orchmynion llys eraill.

Bydd rhestr o'r union ddogfennau y bydd angen i chi ddod gyda chi yn cael ei darparu gyda'r ffurflen llys sy’n dweud wrthych am ddod i'r llys. Mae'n syniad da ysgrifennu rhesymau os nad oes gennych unrhyw waith papur er mwyn i chi allu esbonio pam wrth y llys.

Beth sy’n digwydd yn y gwrandawiad llys

Yn y gwrandawiad i gael gwybodaeth, bydd un o swyddogion y llys fel arfer yn gofyn cwestiynau i chi. Efallai na fydd y credydwr yno. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd barnwr yn gyfrifol am y gwrandawiad ac yna rhaid i’r credydwr ofyn y cwestiynau. Mae’r broses yn fwy nag ymdrech i ganfod ffeithiau yn unig, ac er nad ydynt i fod yn fygythiol, gall y cwestiynau fod yn anodd iawn.

Mae rhestr safonol o gwestiynau y gellir eu gofyn i chi, ond mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosib y bydd y credydwr wedi gofyn am ganiatâd i ychwanegu cwestiynau ychwanegol. Gallwch lawrlwytho ffurflen EX140 y llys sy’n dangos y cwestiynau y gellir eu gofyn i chi, o GOV.UK.

Rhaid i chi ateb y cwestiynau ar lw neu gadarnhad. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi dyngu bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud yn wir.

Ar ôl yr holi, gofynnir i chi lofnodi cofnod ysgrifenedig o’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi. Dylech wirio’n ofalus cyn llofnodi’r cofnod, rhag ofn bod unrhyw gamgymeriadau wedi’u gwneud.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu costau eich credydwr am wneud cais am orchymyn i gael gwybodaeth ac am y gwrandawiad. Bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y swm sydd arnoch chi’n barod i’ch credydwr.

Cynnig taliad

Os nad ydych eisoes wedi gwneud cynnig i dalu'r hyn sy'n ddyledus i'ch credydwr yn ôl, gallwch wneud hyn yn y gwrandawiad. Os bydd y credydwr yn derbyn eich cynnig, gall y llys wneud gorchymyn yn nodi'r taliadau y cytunwyd arnynt.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifo faint i'w gynnig i gredydwyr, edrychwch ar Sut i ddelio â'ch credydwyr.

Os na allwch chi dalu'r ddyled yn ôl

Efallai y bydd yn amlwg o’r cwestiynau na allwch dalu’r ddyled yn ôl. Er enghraifft, efallai y bydd eich datganiad ariannol yn dangos nad oes gennych unrhyw arian dros ben ar ôl talu costau hanfodol y cartref.

Os gallwch ddangos nad oes gennych unrhyw arian dros ben, dylech ddadlau y byddai’n afresymol i’r credydwr gymryd camau pellach yn eich erbyn yn y llys.

Os na fyddwch yn dilyn y gorchymyn llys

Bydd swyddog llys yn cyfeirio’r achos at y barnwr os byddwn yn:

  • peidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad

  • gwrthod ateb y cwestiynau

  • gwrthod tyngu’r llw neu’r cadarnhad.

Ar ôl gwirio beth ddigwyddodd, gall y barnwr wneud gorchymyn i chi gael eich anfon i garchar.

Fel arfer, bydd y gorchymyn hwn yn cael ei ohirio ar yr amod eich bod yn mynd i wrandawiad newydd. Os byddwch yn methu â mynychu’r gwrandawiad eto neu’n parhau i wrthod ateb cwestiynau, bydd y llys yn cyhoeddi gwarant arestio. Mae hyn yn golygu y bydd beili’n eich arestio ac yn dod â chi at y barnwr. Os byddwch yn dal i wrthod ateb cwestiynau, gall y barnwr orchymyn i chi gael eich anfon i’r carchar am hyd at 28 diwrnod. Os gorchmynnir carcharu, nid yw hyn yn dileu’r ddyled.

Ar ôl y gwrandawiad llys

Unwaith y bydd y credydwr wedi cael eich holl fanylion ariannol, gall benderfynu pa gamau pellach i'w cymryd yn eich erbyn. Os nad oes gennych ffordd o dalu, efallai na fyddant yn cymryd unrhyw gamau pellach yn eich erbyn.

Fodd bynnag, os oes gennych arian i dalu eich dyledion, neu asedau, megis cartref, y gellid eu gwerthu, gallant ddewis cymryd nifer o opsiynau i adennill eu harian. Gelwir hyn yn gam gorfodi.

Bydd ar eich credydwr angen gorchymyn llys arall i gymryd camau gorfodi. Efallai y gallant gael gorchymyn i wneud y canlynol:

  • anfon beilïaid i'ch cartref i fynd â'ch pethau oddi yno

  • cael arian wedi’i dynnu o’ch cyflog i dalu’r ddyled. Gelwir hyn yn orchymyn atafaelu enillion.

  • cymryd arian sy’n ddyledus i chi gan rywun arall o’ch cyfrif banc. Gelwir hyn yn orchymyn dyled trydydd parti

  • sicrhau'r ddyled yn erbyn eich cartref neu eiddo arall yr ydych yn berchen arno. Gelwir hyn yn orchymyn arwystlo ac mae'n golygu y gallech golli'ch cartref os na fyddwch yn talu'r ad-daliadau.

I gael rhagor o wybodaeth am y camau gorfodi y gallai eich credydwr eu cymryd i gael ei arian yn ôl, edrychwch ar Camau y gall eich credydwr eu cymryd.

Gwybodaeth arall