Credydwr yn cymryd arian o’ch cyfrif banc
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os yw eich credydwr wedi cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn am ddyled, efallai ei fod wedi cael dyfarniad llys sirol (CCJ) neu orchymyn llys arall yn eich erbyn. Mae gorchymyn llys yn golygu bod yn rhaid i chi dalu'r arian yn ôl, naill ai mewn rhandaliadau neu'n llawn erbyn dyddiad penodol.
Os na fyddwch yn cadw at delerau gorchymyn llys, mae gan eich credydwr nifer o opsiynau gwahanol i geisio cael ei arian yn ôl.
Os yw'ch credydwr yn meddwl bod gennych chi'r arian i'w dalu a'ch bod yn ei dal yn ôl, neu'n disgwyl cael rhywfaint o arian a fyddai'n talu'r ddyled, gallant wneud cais am orchymyn llys arall. Gelwir hyn yn orchymyn dyled trydydd parti. Mae gorchymyn dyled trydydd parti yn caniatáu i'ch credydwr gymryd yr arian sy'n ddyledus gennych yn uniongyrchol oddi wrth bwy bynnag sydd â'r arian.
Fel arfer eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu sy'n dal eich arian ar eich rhan. Fodd bynnag, os ydych chi i fod i gael cyfandaliad fel setliad dileu swydd, taliad polisi yswiriant neu etifeddiant, gallai eich credydwr gael eich cyflogwr, eich cyfreithiwr neu'ch cwmni yswiriant i dalu'r arian iddynt yn hytrach na chi.
Os ydych chi'n 55 oed neu'n hŷn, efallai y gall eich credydwr gael gorchymyn dyled trydydd parti yn erbyn eich pensiwn personol neu bensiwn y gweithle. Mae hyn yn golygu y gallai’r llys orchymyn i chi dynnu arian o’ch pensiwn i dalu eich credydwr.
Gall eich credydwr ond cymryd digon o arian i glirio'ch dyled.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth i'w wneud os bydd eich credydwr yn ceisio cael gorchymyn dyled trydydd parti yn eich erbyn, gan gynnwys sut i geisio atal y gorchymyn a beth i'w wneud os caiff eich cyfrif banc ei rewi a'ch bod yn cael eich gadael heb arian.
Mae'r mathau o ddyledion a allai fod yn gysylltiedig â'ch credydwr yn ceisio cael gorchymyn dyled trydydd parti yn cynnwys arian sy'n ddyledus ar fenthyciadau personol, cardiau credyd, gorddrafftiau neu gytundebau hurbwrcas.
Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant hefyd gymryd arian o'ch cyfrif banc ar gyfer ôl-ddyledion cynhaliaeth plant. Gelwir hyn yn orchymyn didynnu. Nid oes angen iddynt fynd i’r llys i gael gorchymyn didynnu.
Mwy am orchmynion didynnu ar gyfer ôl-ddyledion cynhaliaeth plant.
Mae gorchymyn dyled trydydd parti yn wahanol i orchymyn atafaelu enillion, lle mae eich credydwr yn cael gorchymyn llys i dynnu arian o'ch cyflog.
Am fwy o wybodaeth ynghylch pryd y gall eich credydwr wneud cais am orchymyn atafaelu enillion, gweler Credydwr yn cymryd arian o'ch cyflog.
I gael rhagor o wybodaeth am fathau eraill o gamau y gall eich credydwr eu cymryd i gael ei arian yn ôl, ewch i Rhagor o help.
Sut mae eich credydwr yn gwneud cais am orchymyn dyled trydydd parti
I gael gwybod a oes gennych gynilion neu os ydych yn disgwyl taliad, gall eich credydwr gael manylion eich cyfrifon banc ac amgylchiadau ariannol eraill. I wneud hyn, gallant wneud cais i’r llys am orchymyn i gael gwybodaeth. Bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys i roi’r wybodaeth hon ar lw.
Os ydych chi'n gweithio, efallai y bydd eich credydwr hefyd eisiau gwybod pryd mae eich diwrnod cyflog. Mae hyn er mwyn iddyn nhw allu amseru gorchymyn trydydd parti i gyrraedd y banc ar y diwrnod pan fydd eich cyflog yn cael ei dalu i mewn ac rydych chi'n debygol o fod â mwy o arian i'w talu.
Does dim byd i'ch rhwystro rhag tynnu arian o'ch cyfrif banc neu gyfrif cynilo os ydych chi'n meddwl bod y credydwr yn mynd i wneud cais am orchymyn dyled trydydd parti. Ond efallai na fyddwch yn gwybod am y gorchymyn tan ar ôl iddo gael ei wneud.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall eich credydwr gael manylion am eich sefyllfa ariannol, edrychwch ar Sut y gall credydwr gael gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol.
Rhewi eich cyfrif banc
Os yw eich credydwr yn dymuno cael gorchymyn dyled trydydd parti, bydd yn gwneud cais yn gyntaf am orchymyn dros dro a elwir yn orchymyn dyled trydydd parti interim. Mae'r gorchymyn hwn yn dweud wrth eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu am rewi eich cyfrif. Ar yr adeg hon, bydd eich cyfrif yn cael ei rewi ond ni fydd unrhyw arian yn cael ei dalu i'ch credydwr nes bydd y barnwr wedi penderfynu beth i'w wneud yn y gwrandawiad terfynol. Dylid cynnal y gwrandawiad terfynol o leiaf 28 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn interim.
Does dim rhaid i'ch credydwr ddarparu manylion cyfrif banc penodol i wneud cais am orchymyn dyled trydydd parti interim, ond mae'n rhaid bod ganddo reswm da dros feddwl bod gennych chi gyfrif gyda'r banc hwnnw.
Os ydych eisoes wedi ysgrifennu sieciau neu fod gennych archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol wedi'i dalu i'ch credydwr, gallai hyn fod yn ddigon o dystiolaeth iddynt wneud cais am y gorchymyn.
Ar ôl gwneud gorchymyn interim, bydd y llys yn anfon copi at eich credydwr a'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu. Maen nhw’n cael copi saith diwrnod cyn iddo gael ei anfon atoch chi. Mae hyn er mwyn i chi beidio â chymryd unrhyw arian o'r cyfrif ymlaen llaw.
Bydd y banc wedyn yn rhewi eich cyfrif, hyd at y swm sy’n ddyledus gennych i’r credydwr. Efallai y byddant yn codi ffi arnoch am wneud hyn
Gall gorchymyn dyled trydydd parti interim achosi llawer o broblemau i chi. Ar ôl iddo gael ei wneud, fyddwch chi ddim yn gallu cael yr arian yn eich cyfrif. Gall hyn olygu na allwch chi dalu biliau hanfodol, dyledion eraill, neu hyd yn oed reoli costau byw o ddydd i ddydd.
Os bydd y gorchymyn yn eich gadael heb ddim arian o gwbl ac mae hyn yn achosi caledi i chi, efallai y gallwch wneud cais i'r llys am help.
Os cewch hysbysiad o orchymyn dyled trydydd parti interim, gallwch ffonio ein llinell gymorth dyledion ar 0800 240 4420. Fel arfer, gallwn helpu rhwng 9am ac 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae galwadau’n costio’r un faint â galwadau i rifau llinell dir.
Gallwch hefyd gael help drwy gysylltu â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os yw rhewi eich arian yn achosi caledi i chi
Os yw eich arian wedi'i rewi, gall hyn achosi caledi i chi oherwydd ni allwch dalu costau byw o ddydd i ddydd. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, gallwch wneud cais i'r llys am orchymyn taliad caledi.
Gwnewch y cais ar ffurflen llys N244. Gallwch lwytho’r ffurflen oddi ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: www.justice.gov.uk.
Ar ôl i chi ei llenwi, ewch â’r ffurflen i’r llys eich hun gyda thystiolaeth ysgrifenedig o’ch caledi. Gall y dystiolaeth hon gynnwys:
copïau o slipiau cyflog
cyfriflenni banc
manylion cyfrif morgais
eich llyfr rhent
unrhyw ddogfennau eraill sy’n dangos eich sefyllfa ariannol.
Os effeithir ar bobl eraill yn eich teulu oherwydd bod eich arian yn cael ei rewi, er enghraifft plant neu berson hŷn sy’n byw gyda chi, esboniwch ar y ffurflen sut y bydd hyn yn effeithio arnynt. Bydd hyn yn helpu’r llys i wneud penderfyniad teg am eich sefyllfa.
Fel arfer, rhaid i chi dalu am y cais hwn. Fodd bynnag, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r ffi o gwbl neu gallai gael ei lleihau oherwydd bod eich arian wedi cael ei rewi. Gofynnwch i’r llys am hyn pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen.
Bydd barnwr yn delio â'ch achos ar yr un diwrnod ag y byddwch yn llenwi'r ffurflen gais. Gallant wneud gorchymyn taliad caledi sy'n gorchymyn i'r banc ryddhau swm penodol o arian i chi neu i rywun arall, megis eich partner. Bydd y gorchymyn yn cael ei ffacsio i’r banc a bydd copïau’n cael eu hanfon at eich credydwr.
Ni fydd eich arian yn cael ei gymryd oddi arnoch os bydd y llys yn gwneud gorchymyn interim. Mae angen gorchymyn terfynol ar gyfer hyn. Er mwyn i orchymyn interim gael ei wneud yn orchymyn terfynol, cynhelir gwrandawiad llys. Byddwch yn cael gwybod pryd fydd y gwrandawiad.
Allwch chi atal y gorchymyn dyled trydydd parti terfynol rhag cael ei wneud
Gwneir gorchymyn dyled trydydd parti interim yn derfynol oni allwch ddangos bod rhesymau da dros beidio â’i wneud.
Efallai fod gennych resymau da dros ddadlau na ddylid gwneud y gorchymyn yn derfynol. Er enghraifft, efallai y gallwch ddadlau:
mae eich arian mewn cyfrif ar y cyd ac nid yw'r ddyled yn ddyledus gan ddeiliad arall y cyfrif
mae’r ddyled am swm bach. Gallwch ddadlau bod gorchymyn trydydd parti yn gam rhy ddifrifol ac y gellid talu'r ddyled yn gyflym drwy randaliadau. Gall barnwr wrthod gwneud gorchymyn dyled trydydd parti yn derfynol os yw’n credu bod y swm sy’n ddyledus yn rhy fach i gyfiawnhau hynny
bydd gwneud y gorchymyn yn achosi llawer o galedi i chi neu i'ch teulu
mae'ch cyfrif mewn dyled
mae'r arian yn eich cyfrif yn eiddo i rywun arall
mae eich arian mewn cyfrif cymdeithas adeiladu neu undeb credyd a byddai gennych lai na £1 os telir y ddyled. Dydy hyn ddim yn berthnasol i gyfrifon banc eraill.
Mae rhesymau cyfreithiol eraill y gallech eu defnyddio i ddadlau yn erbyn gwneud gorchymyn interim yn derfynol. Mae bob amser yn syniad da cael help gan gynghorydd profiadol os bydd eich credydwr yn gwneud cais am orchymyn dyled trydydd parti.
Gallwch gael help i ddadlau yn erbyn gorchymyn dyled trydydd parti terfynol drwy ffonio ein llinell gymorth dyledion ar 0800 240 4420. Fel arfer, gallwn helpu rhwng 9am ac 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae galwadau’n costio’r un faint â galwadau i rifau llinell dir.
Gallwch hefyd gael help drwy gysylltu â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Beth fydd yn digwydd os gwneir y gorchymyn dyled trydydd parti yn derfynol
Os gwneir y gorchymyn dyled trydydd parti yn derfynol a bod yr arian yn cael ei dynnu o'ch cyfrif banc, rhaid i'r banc naill ai dalu i'ch credydwr:
y swm yn eich cyfrif banc ar ddyddiad y gorchymyn interim neu
digon i dalu’r balans sy’n ddyledus ar y dyfarniad llys sirol neu orchymyn llys arall.
Dim ond ar y dyddiad y derbyniodd eich banc gopi o'r gorchymyn interim y gall y gorchymyn dyled trydydd parti effeithio ar yr arian sydd yn eich cyfrif banc. Nid yw’n rhewi arian a dalwyd i mewn yn ddiweddarach.
Os caiff eich cyfrif mewn dyled ar y diwrnod yr anfonir y gorchymyn trydydd parti i'ch banc, ni fydd eich credydwr yn cael ei arian gan na fydd digon o arian i dalu'r ddyled. Os caiff arian ei dalu i'ch cyfrif ar ôl y dyddiad hwn, ni ellir ei ddefnyddio i dalu'ch dyled.