Aflonyddu gan gredydwyr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Rhoi gwybod am broblem i Safonau Masnach
Mae Safonau Masnach yn delio â phroblemau cymhleth defnyddwyr a gweithgareddau troseddol posibl.
Os ydych chi eisiau rhoi gwybod i Safonau Masnach am broblem, dylech gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy’n rhannu gwybodaeth a roddir iddynt gyda Safonau Masnach.
Credydwyr yw’r bobl y mae arnoch chi arian iddynt. Os oes arnoch chi arian i gredydwr a'ch bod yn rhoi'r gorau i wneud taliadau, gallant gymryd camau yn eich erbyn i gael eu harian yn ôl.
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut y mae credydwyr i fod i ymddwyn tuag atoch pan fyddant yn ceisio adennill eu harian.
Mae hefyd yn dweud wrthych chi pa fath o ymddygiad sy’n annerbyniol a sut mae adnabod pan fo credydwr yn aflonyddu arnoch. Aflonyddu yw unrhyw weithred sy’n gwneud i chi deimlo’n ofidus, yn llawn cywilydd neu dan fygythiad.
Os ydych chi’n teimlo yr aflonyddir arnoch gan gredydwr, mae sawl peth y gallwch ei wneud i’w atal rhag gwneud hynny.
Os oes angen help arnoch i siarad â chredydwr am ei ymddygiad, gallwch ffonio ein llinell gymorth dyledion ar 0800 240 4420.
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Gallwch hefyd gael help drwy gysylltu â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Beth sy’n cael ei ystyried yn aflonyddu gan gredydwr
Os bydd y credydwr yn ceisio gwneud unrhyw un o'r pethau canlynol i geisio eich cael i dalu'r arian sy'n ddyledus gennych yn ôl, gellid ystyried hyn yn aflonyddu. Maent yn cynnwys:
cysylltu â chi sawl gwaith y dydd, neu'n gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos
mynd ar eich trywydd ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter a Facebook
rhoi pwysau arnoch i werthu eich cartref neu gael mwy o gredyd
defnyddio mwy nag un casglwr dyledion ar y tro i fynd ar eich ôl am daliad
peidio â dweud wrthych a yw'r ddyled wedi'i throsglwyddo i asiantaeth casglu dyledion
defnyddio gwaith papur neu logos busnes sy'n ymddangos yn swyddogol pan nad ydynt, er enghraifft anfon llythyrau atoch sy'n edrych fel ffurflenni llys
rhoi pwysau arnoch i dalu'r holl arian, neu mewn rhandaliadau mwy pan na allwch fforddio hynny
eich bygwth yn gorfforol neu ar lafar
eich anwybyddu os ydych chi’n dweud nad oes arnoch chi’r arian
ceisio codi cywilydd arnoch yn gyhoeddus
dweud wrth rywun arall am eich dyledion neu ddefnyddio rhywun arall i drosglwyddo negeseuon, fel cymydog neu aelod o'r teulu
honni'n anwir eu bod yn gweithio i'r llys neu'n feili yng Nghymru a Lloegr neu'n swyddog siryf yn yr Alban
awgrymu y gellir cymryd camau cyfreithiol pan na ellir gwneud hynny. Er enghraifft, awgrymu y gellir cymryd eich cartref oddi arnoch heb orchymyn llys
rhoi'r argraff bod camau cyfreithiol wedi'u cymryd yn eich erbyn pan nad yw hynny’n wir
rhoi’r argraff bod peidio â thalu’r ddyled yn drosedd. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddyledion, nid yw'n drosedd i chi beidio â'u talu.
Beth sydd ddim yn cael ei ystyried yn aflonyddu gan gredydwr
Ni ellir galw pob gweithred a wneir gan gredydwr yn aflonyddu. Caiff credydwyr gymryd camau rhesymol i gael yr arian sy’n ddyledus gennych yn ôl. Mae’r rhain yn cynnwys:
anfon negeseuon atgoffa a galwadau am daliad
eich ffonio i ofyn am daliad
galw yn eich cartref, cyn belled â bod hyn ar adeg resymol o'r dydd
cymryd camau cyfreithiol.
Pwy sy’n aflonyddu arnoch
Os bydd credydwr yn aflonyddu arnoch, mae'n bwysig gwybod pwy sy'n gofyn am daliad. Efallai nad dyma’r bobl yr oedd arnoch chi arian iddyn nhw’n wreiddiol. Y rheswm am hyn yw bod eich credydwr gwreiddiol yn cael trosglwyddo'r ddyled i rywun arall i'w chasglu. Os bydd eich credydwr gwreiddiol yn gwneud hyn, ni fydd yn gallu mynd ar eich ôl chi am arian mwyach. Os bydd eich credydwr yn penderfynu trosglwyddo'r ddyled, rhaid iddo roi gwybod i chi'n ysgrifenedig cyn gwneud hynny.
Gall eich dyled yn cael ei chasglu gan:
eich credydwr gwreiddiol
asiantaeth casglu dyledion yn gweithredu ar ran eich credydwr
trydydd parti sydd wedi prynu'r ddyled gan eich credydwr
beilïaid yng Nghymru a Lloegr neu swyddogion siryf yn yr Alban.
Beth allwch chi ei wneud am aflonyddu gan gredydwr
Yn gyntaf, mae angen i chi ddarganfod pwy sy'n casglu'r ddyled mewn gwirionedd. Yna bydd angen i chi gymryd y camau canlynol:
casglu tystiolaeth o’r aflonyddu
cwyno wrth y credydwr
cwyno wrth gorff proffesiynol.
Casglu tystiolaeth
Cyn i chi wneud cwyn, casglwch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch i gefnogi eich hawliad. Gall hyn gynnwys:
cofnodi nifer yr ymweliadau neu’r galwadau gyda dyddiadau ac amseroedd. Ysgrifennwch yr hyn a ddywedwyd wrthych bob tro a gyda phwy y buoch yn siarad
unrhyw lythyrau neu ddogfennau a gawsoch
datganiadau tystion gan gymdogion neu bobl eraill sy’n byw gyda chi.
Cwyno wrth eich credydwr
Dylech ysgrifennu at y credydwr sy'n aflonyddu arnoch gan ofyn iddo roi'r gorau iddi. Dywedwch wrthynt sut yr hoffech iddynt gysylltu â chi yn y dyfodol a gofynnwch iddynt gadarnhau hyn yn ysgrifenedig.
Dylech nodi yn y llythyr fod aflonyddu'n drosedd a gallwch gymryd camau pellach os na fydd eich credydwr yn stopio. Cofiwch anfon pob llythyr drwy’r post cofnodedig a chadw copïau fel bod gennych gofnod o’ch cwyn.
Ar ôl derbyn eich cwyn, mae gan eich credydwr 3 diwrnod busnes i ymateb yn anffurfiol. Gallai hyn fod dros y ffôn neu drwy e-bost. Efallai y bydd llythyr ymateb terfynol yn cymryd mwy o amser. Rhaid i’ch credydwr hefyd roi gwybod i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) am eich cwyn, hyd yn oed os yw’n ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith.
Os oes angen help arnoch gyda hyn, gallwch ffonio ein llinell gymorth dyledion ar 0800 240 4420.
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Gallwch hefyd gael help drwy gysylltu â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Cwyno wrth gorff proffesiynol
Dylech bob amser gwyno'n uniongyrchol wrth y credydwr yn gyntaf ond os nad yw hyn yn datrys y broblem, efallai y byddwch hefyd am gwyno wrth gorff proffesiynol. Efallai y bydd eich casglwr dyledion yn perthyn i gymdeithas fasnach neu gorff proffesiynol sydd â chod ymarfer sy’n nodi sut y mae i fod i ymddwyn tuag atoch.
Gallwch hefyd gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth a all helpu. Efallai y gallant gyfeirio eich achos at Safonau Masnach.
Cymdeithasau masnach
I gael gwybod a yw eich benthyciwr yn perthyn i gymdeithas fasnach sydd â chod ymarfer, ewch i Rhagor o Help. Gall y gymdeithas fasnach hefyd gymryd camau yn erbyn ei haelodau sy’n torri’r cod ymarfer.
Os yw eich cwyn yn erbyn banc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd, efallai y byddant yn perthyn i’r Safonau Ymarfer Benthyca.
Mae'r Safonau Ymarfer Benthyca yn nodi’r egwyddorion y dylai ei aelodau eu dilyn. Mae’r rhain yn cynnwys:
peidio ag aflonyddu arnoch na rhoi gormod o bwysau arnoch.
dweud wrthych sut i gael cyngor ar ddyledion.
darparu cymorth os ydych chi’n agored i niwed, er enghraifft os oes gennych chi broblemau iechyd corfforol neu feddyliol.
defnyddio asiantaethau casglu dyledion dibynadwy sydd hefyd yn dilyn y Safonau Ymarfer Benthyca os caiff y ddyled ei throsglwyddo neu ei gwerthu.
Dylech gwyno wrth y banc, y gymdeithas adeiladu neu'r cwmni cardiau credyd yn gyntaf, gan ddefnyddio eu trefn gwyno. Os nad yw hyn yn datrys y broblem, gallwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, gan ddweud wrthynt fod casglwr dyledion neu gredydwr wedi torri telerau’r Safonau Ymarfer Benthyca. I gael rhagor o wybodaeth am gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, ewch i wefan yr Ombwdsmon Ariannol yn: www.financial-ombudsman.org.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am y Safonau Ymarfer Benthyca neu i gael gwybod a yw eich credydwr yn aelod, ewch i www.lendingstandardsboard.org.uk.
Cwyno am dwrnai sy’n gweithredu ar ran credydwr
Os yw cyfreithiwr yn aflonyddu arnoch ar ran credydwr, ystyrir hyn yn gamymddwyn proffesiynol. I wneud cwyn, yn gyntaf bydd angen i chi ddefnyddio trefn gwyno fewnol y cwmni. Os na fydd hyn yn datrys y broblem, gallwch gwyno wrth un o’r cymdeithasau proffesiynol. I weld i ba gymdeithas y dylech chi gwyno, yn gyntaf mae angen i chi weld lle mae'r cyfreithiwr wedi'i gofrestru.
Os ydynt wedi’u cofrestru yng Nghymru neu Loegr, gallwch gwyno i’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn www.sra.org.uk.
Os ydynt wedi’u cofrestru yn yr Alban, gallwch gwyno i Gomisiwn Cwynion Cyfreithiol yr Alban (SLCC) yn www.scottishlegalcomplaints.org.uk.
Os ydynt wedi'u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gwyno wrth Gymdeithas y Gyfraith. Ewch i www.lawsoc-ni.org.
Cwyno wrth Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth
Os ydych chi eisiau cwyno am gwmni lleol, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth. Gallant eich rhoi mewn cysylltiad â’ch Swyddfa Safonau Masnach leol, a all ymchwilio i weld a gyflawnwyd trosedd.
Cwyno wrth yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
Mae gan yr FCA reolau a chanllawiau ynghylch casglu dyledion. Er na all yr FCA gymryd eich achos unigol, gallant wrthod neu ddiddymu awdurdodiad y cwmni neu, er enghraifft, ddirwyo'r cwmni. Efallai y byddai’n werth atgoffa’r credydwr y gallai torri’r rheolau effeithio ar ei awdurdodiad gan yr FCA.
Mae rhagor o wybodaeth am reolau a chanllawiau’r FCA ar gasglu dyledion ar gael yn Llawlyfr Credyd Defnyddwyr yr FCA yn www.fca.org.uk.
Benthyca arian yn anghyfreithlon
Efallai eich bod wedi benthyca arian gan fenthyciwr arian nad yw wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Gelwir y benthycwyr hyn yn fenthycwyr arian didrwydded yn aml a gallant eich bygwth yn gorfforol neu'n llafar os na allwch dalu'r arian yn ôl. Maent hefyd yn codi cyfraddau llog uchel iawn, sy'n golygu y gall eich dyled ariannol fod yn llawer mwy na'r hyn a fenthyciwyd gennych yn wreiddiol.
Mae'n bwysig cofio bod benthycwyr arian didrwydded yn torri'r gyfraith drwy roi arian i chi fel hyn. Ni allant orfodi’r cyfraddau llog uchel y maent yn ceisio’u codi. Ni ellir gwneud i chi dalu'r arian yn ôl dan y gyfraith ac nid ydych wedi torri'r gyfraith os na fyddwch yn ei dalu'n ôl.
Os aflonyddir arnoch neu os cewch eich bygwth gan fenthyciwr arian didrwydded, gallwch gael gwybod sut mae riportio benthyciwr arian didrwydded ar GOV.UK.
Rhagor o help a gwybodaeth
Cymdeithasau masnach a phroffesiynol
Efallai y bydd eich credydwr yn perthyn i un o'r cymdeithasau masnach neu broffesiynol canlynol sydd â chod ymarfer y mae'n rhaid i'w aelodau ei ddilyn. Mae rhestr o’r aelodau ar gael ar wefannau’r sefydliadau:
Cymdeithas Cyllid a Phrydlesi
Imperial House
15-19 Kingsway
London
WC2B 6UN
Ffôn: 020 7836 6511
Ffacs: 020 7420 9600
E-bost: info@fla.org.uk
Gwefan: www.fla.org.uk
Credit Services Association
2 Esh Plaza
Sir Bobby Robson Way
Newcastle Upon Tyne
NE13 9BA
Ffôn: 0191 217 0775
E-bost: info@csa-uk.com neu complaints@csa-uk.com
Gwefan: www.csa-uk.com
Consumer Credit Trade Association (CCTA)
Suite 4 The Wave
1 View Croft Road
Shipley
Gorllewin Swydd Efrog
BD17 7DU
Ffôn: 01274 714959
Ffacs: 0845 257 1199
E-bost: info@ccta.co.uk
Gwefan: www.ccta.co.uk
Financial Conduct Authority (FCA)
12 Endeavour Square
London
E20 1JN
Llinell gymorth i ddefnyddwyr: 0800 111 6768 neu 0300 500 8082 (dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm a dydd Sadwrn 9am ac 1pm)
Neges Destun Relay: (18001) 0207 066 1000
Switsfwrdd: 020 7066 1000
Cwynion yn erbyn FCA: 020 7066 9870
Gwefan: www.fca.org.uk