Delio ag ôl-ddyledion morgais
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf ar unwaith os:
yw eich benthyciwr wedi dweud wrthych ei fod yn gwneud cais i'r llys
rydych wedi derbyn papurau’r llys
rydych chi'n disgwyl beilïod
Os byddwch yn mynd i ddyled (‘ôl-ddyledion’) gyda’ch taliadau morgais, peidiwch ag aros i’ch benthyciwr gysylltu â chi.
Byddant fel arfer yn ysgrifennu atoch o fewn 15 diwrnod i'r taliad a fethwyd, ond dylech siarad â nhw cyn gynted â phosibl.
Rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac ystyried unrhyw gais a wnewch i newid y ffordd yr ydych yn talu eich morgais.
Gall eich benthyciwr fynd â chi i'r llys i adfeddiannu eich cartref os na allwch gytuno ar ffordd o dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych yn ôl. Ond hyd yn oed wedyn, dydy hi ddim yn rhy hwyr ceisio dod i gytundeb gyda nhw.
Rhaid i'ch benthyciwr hefyd ddilyn rheolau i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg. Os nad ydynt yn dilyn y rheolau, gallwch gwyno. Gwiriwch a yw eich benthyciwr wedi dilyn y rheolau a sut y gallwch chi gwyno.
Mae ôl-ddyledion morgais yn ddyled â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu bod angen i chi eu talu cyn dyledion fel cardiau credyd.
Os oes gennych fwy nag un ddyled, dylech ddarllen ein canllaw 'Cael help gyda dyled' - neu cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Cyfrifo beth allwch chi ei fforddio
Bydd angen i chi ddweud wrth eich benthyciwr faint y gallwch fforddio ei dalu'n ôl, felly mae'n syniad da cyfrifo'ch cyllideb cyn i chi ffonio.
Gallwch ddefnyddio adnodd cyllidebu i wneud hyn, neu gallwch siarad â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Mae hefyd yn syniad da dweud wrth eich benthyciwr os ydych wedi bod yn siarad â chynghorydd dyled. Mae hyn yn dangos eich bod o ddifrif am ddelio â'r ddyled.
Os oes gennych yswiriant gwarchod taliadau, dylech wirio a allwch ei ddefnyddio i dalu'r ôl-ddyledion ar eich morgais. Efallai bod gennych warchodaeth os ydych wedi bod yn sâl neu wedi colli eich swydd yn ddiweddar, er enghraifft.
Ffyrdd o dalu eich ôl-ddyledion
Bydd eich benthyciwr yn trafod y gwahanol ffyrdd o dalu ôl-ddyledion eich morgais. Os oes gennych chi unrhyw arian dros ben bob mis ar ôl talu biliau hanfodol, gallech awgrymu ychwanegu ychydig bach ar ben eich taliadau misol yn y dyfodol.
Fel arfer, byddwch yn talu £400 y mis am eich morgais, ond y mis diwethaf fe wnaethoch fethu eich taliad.
Yn hytrach na thalu’r hyn sy’n ddyledus gennych mewn un swm, gallech awgrymu ei dalu’n ôl mewn pedwar rhandaliad misol o £100.
Byddech yn ychwanegu’r £100 hwn at eich taliad morgais rheolaidd o £400, felly am y 4 mis nesaf byddech yn talu £500 y mis i’ch benthyciwr.
Ffyrdd eraill o dalu'r ôl-ddyledion ar eich morgais
Os yw eich cartref yn werth mwy na'r morgais, efallai y bydd eich benthyciwr yn gadael i chi ychwanegu eich ôl-ddyledion at y cyfanswm sy'n ddyledus gennych a'i dalu'n ôl dros oes y morgais. Gelwir hyn yn 'gyfalafu eich ôl-ddyledion'.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu talu eich ôl-ddyledion gan ddefnyddio eich pensiwn neu bolisi gwaddol - sy'n fath o yswiriant bywyd.
Mae siawns y gallech chi dalu llawer o log neu hyd yn oed fynd i fwy o ddyled gyda’r opsiynau hyn, felly mae’n werth siarad â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf yn gyntaf.
Lleihau eich taliadau misol
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich morgais bob mis, gallech ofyn am:
dalu eich dyled dros gyfnod hwy
newid i daliadau llog yn unig
cymryd seibiant o'ch taliadau am ychydig fisoedd - gelwir hyn yn 'wyliau ad-dalu'
Os ydych chi'n cael budd-daliadau, mae hefyd yn werth holi a ydych chi'n gymwys i gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI). Efallai y gallwch ddefnyddio SMI i dalu'r llog ar eich morgais.
Os na allwch gytuno ar ffordd o dalu eich ôl-ddyledion
Efallai y bydd eich benthyciwr yn gofyn i lys am 'orchymyn adennill meddiant'. Mae hyn yn gadael iddynt werthu eich cartref a defnyddio'r arian o'r gwerthiant i adennill yr arian sy'n ddyledus gennych.
Rhaid i'ch benthyciwr roi o leiaf bythefnos o rybudd ysgrifenedig i chi cyn iddynt wneud cais i'r llys.
Gallwch ddarllen mwy am beth i'w wneud os bydd eich benthyciwr morgais yn mynd â chi i'r llys.