Talu dirwy llys
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi cael dirwy llys ynadon, mae'n bwysig eich bod yn ei thalu. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gall y llys:
cymryd yr arian o'ch cyflog neu'ch budd-daliadau
anfon beilïaid i'ch cartref i gasglu'r hyn sy'n ddyledus gennych - bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd y beili yn ogystal â'r ddirwy sy'n ddyledus
'cofrestru' y ddirwy - mae hyn yn golygu y bydd y ddirwy'n aros ar eich hanes credyd am 5 mlynedd a gallai eich atal rhag cael credyd yn y dyfodol
Mewn achosion eithafol gallech gael eich rhoi yn y carchar, ond fel arfer dim ond os yw'r llys yn meddwl eich bod yn fwriadol yn peidio talu.
Mae dirwyon llys yn ddyled â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu bod angen i chi eu talu cyn dyledion fel cardiau credyd.
Os oes gennych fwy nag un ddyled, dylech ddarllen ein canllaw 'Cael help gyda dyled' - neu siaradwch â chynghorydd yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Sut i dalu'r ddirwy
Bydd y llys yn anfon llythyr atoch sy'n dweud wrthych faint i'w dalu, erbyn pryd y mae'n rhaid i chi dalu a ble i anfon yr arian - gelwir hwn yn 'hysbysiad o ddirwy'.
Gallwch hefyd dalu dirwyon llys ar-lein yn GOV.UK.
Os na allwch chi fforddio talu'r ddirwy
Edrychwch ar eich llythyrau gan y llys i gael gwybod pwy i gysylltu â nhw.
Dylech ofyn a allwch dalu:
mewn rhandaliadau (neu mewn symiau llai os ydych eisoes yn talu mewn rhandaliadau)
dros gyfnod hwy
yn ddiweddarach
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw fanylion cyswllt, gallwch ganfod y llys neu’r tribiwnlys ar GOV.UK.
Cyfrifo eich cyllideb
Bydd angen i chi ddangos faint y gallwch fforddio ei dalu, felly mae'n syniad da cyfrifo eich cyllideb cyn i chi gysylltu â'r llys. Gallwch ddefnyddio adnodd cyllidebu i wneud hyn, neu gallwch siarad â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os yw eich incwm wedi gostwng, neu os nad oes gennych arian ar ôl ar ôl biliau hanfodol megis rhent, y Dreth Gyngor neu nwy a thrydan, dylech esbonio hyn i'r llys.
Efallai y byddant yn cytuno i ganslo'r ddirwy (ei diddymu) os yw'n amlwg na allwch fforddio ei thalu mwyach.
Os na fyddwch yn talu’r ddirwy mewn pryd
Os nad yw'r llys wedi clywed gennych erbyn y terfyn amser yn eich llythyr hysbysiad o ddirwy, byddant yn anfon llythyr arall atoch - bydd hwn yn dweud wrthych pa gamau pellach y maent yn bwriadu eu cymryd.
Os byddwch yn dal i beidio â thalu, bydd y llys fel arfer yn gofyn i feilïaid gasglu'r ddyled.
Os bydd beilïaid yn casglu'r ddyled
Gallwch ddarllen mwy am beth i'w wneud os yw beilïod ar garreg eich drws.
Rhaid i feilïaid roi o leiaf 14 diwrnod o rybudd i chi cyn iddynt ddod i’ch cartref.
Efallai y byddant yn gadael i chi dalu mewn rhandaliadau, ond fel arfer byddant am i'r ddyled gael ei thalu'n gyflym, er enghraifft o fewn ychydig wythnosau. Yn aml, mae'n well ceisio negodi cynllun ad-dalu gyda'r llys cyn i'r beilïaid ddod draw.
Os na allwch dalu eich dirwy llys i'r beilïaid, cânt ddefnyddio grym rhesymol i fynd i'ch cartref - ond ni allant eich gwthio allan o'r ffordd nac ymosod arnoch.
Os gofynnir i chi fynd i wrandawiad
Os byddwch yn cael gwŷs llys am beidio â thalu eich dirwy llys, rhaid i chi fynd i'r gwrandawiad - oni bai eich bod wedi talu'r ddirwy'n llawn cyn i chi orfod mynd llys. Gallech gael eich arestio a’ch rhoi yn y carchar os na fyddwch yn gwneud hynny.
Mae gwrandawiad yn gyfle i chi ddangos i’r llys faint y gallwch fforddio’i dalu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â thystiolaeth o’ch incwm a’ch costau byw gyda chi.
Gwrandawiadau llys dros y ffôn neu drwy alwad fideo
Bydd y llys yn dweud wrthych pa fath o wrandawiad a gewch. Gwiriwch sut i baratoi ar gyfer gwrandawiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Gallwch ofyn i gynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad ydych yn siŵr pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch. Mae’n syniad da cael cymorth cyfreithiol hefyd.
Gall canlyniadau gwrandawiad fod yn ddifrifol, er enghraifft gall y barnwr gynyddu eich dirwy 50% neu hyd yn oed anfon eich achos i'r Uchel Lys. Gall twrnai eich helpu i esbonio eich amgylchiadau i'r barnwr.
Os na allwch chi fforddio cyfreithiwr, gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol mewn ffyrdd eraill.
Os ydych chi’n meddwl bod angen cymorth ychwanegol arnoch
Gallwch gael cymorth ychwanegol yn eich gwrandawiad os ydych chi'n 'agored i niwed'.
Gall y llys eich ystyried yn agored i niwed mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd, er enghraifft:
os ydych chi'n anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor - gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl
nid ydych chi’n gallu siarad neu ddarllen Saesneg yn dda
rydych chi wedi profi cam-drin neu drais
rydych chi dan 18 oed
Mae yna ffyrdd y gall y llys eich helpu yn ystod eich gwrandawiad - gelwir y rhain yn 'fesurau arbennig' a gallent gynnwys:
gosod sgrin fel mai dim ond staff y llys, cynrychiolwyr cyfreithiol a chyfieithwyr fydd yn gallu eich gweld
defnyddio dyfais gyfathrebu ar gyfer anabledd - fel dyfais gyfathrebu amgen a chynyddol (AAC)
gadael i rywun fynd gyda chi i’r llys
Ceisiwch ddweud wrth y llys pa gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch cyn eich gwrandawiad - gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar y llythyr a anfonwyd atoch. Os na allwch gysylltu cyn eich gwrandawiad, gallwch hefyd ddweud wrthynt ar y diwrnod.