Cyfrifo pa ddyledion i ddelio â nhw yn gyntaf
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae ' dyledion â blaenoriaeth' yn ddyledion sy'n gallu achosi problemau arbennig o ddifrifol i chi os nad ydych yn gwneud dim amdanynt.
Mae angen i chi gyfrifo pa rai o'ch dyledion sy'n ddyledion â blaenoriaeth a delio â nhw yn gyntaf. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi casglu gwybodaeth am eich dyledion i gyd.
1. Nodi a delio â’ch dyledion â blaenoriaeth
Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os:
ydych chi’n cael trafferth delio â’ch dyledion a blaenoriaeth
mae gennych fwy nag 1 ddyled â blaenoriaeth ac mae angen help arnoch i benderfynu pa un i ddelio â hi yn gyntaf
Os oes gennych chi unrhyw un o'r rhain, dyma'ch dyledion â blaenoriaeth:
Ôl-ddyledion rhent
Mae hon yn ddyled â blaenoriaeth oherwydd efallai y bydd eich landlord yn eich troi allan o'ch cartref os na fyddwch yn talu.
Cyn y gall eich landlord eich troi allan, bydd angen iddynt fynd i'r llys i gael 'gorchymyn adennill meddiant' - mae hwn yn dweud pryd y bydd yn rhaid i chi adael. Os na fyddwch yn gadael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn adennill meddiant, gall eich landlord ofyn i'r llys bennu dyddiad ar gyfer eich troi allan.
Ôl-ddyledion morgais neu ôl-ddyledion benthyciadau diogel
Dyledion â blaenoriaeth yw'r rhain oherwydd efallai y bydd eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu'n eich troi allan ac yn mynd â'ch cartref os na fyddwch yn talu.
Cyn y gallant eich troi allan, bydd angen iddynt fynd i'r llys i gael 'gorchymyn adennill meddiant' - mae hwn yn dweud pryd y bydd yn rhaid i chi adael. Os na fyddwch yn gadael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn adennill meddiant, gall eich banc neu gymdeithas adeiladu ofyn i'r llys bennu dyddiad ar gyfer eich troi allan.
Ôl-ddyledion treth gyngor
Mae hon yn ddyled â blaenoriaeth oherwydd gall eich cyngor lleol fynd â chi i'r llys yn gyflym os na fyddwch yn talu.
Biliau nwy neu drydan
Os yw'r ddyled gyda'ch cyflenwr presennol, mae'n flaenoriaeth oherwydd efallai y byddant yn diffodd eich nwy neu'ch trydan os na fyddwch yn talu. Gwiriwch pa gymorth allwch chi ei gael os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni.
Dylech ddal i drefnu i dalu'r hyn sy'n ddyledus i'ch cyflenwr - mae hyn yn eich diogelu rhag cael eich datgysylltu yn y dyfodol. Gwiriwch i weld beth i’w wneud os ydych chi wedi cael gwybod y bydd eich cyflenwad ynni’n cael ei ddatgysylltu.
Os oes gennych chi fesurydd talu ymlaen llaw a nid ydych yn ychwanegu ato, efallai y bydd eich cyflenwad ynni yn dod i ben. Gwiriwch beth y dylech ei wneud os na allwch fforddio ychwanegu at eich mesurydd talu ymlaen llaw.
Biliau ffôn neu’r rhyngrwyd
Gallai’r rhain fod yn ddyledion â blaenoriaeth oherwydd gall eich cyflenwr ddiffodd eich ffôn neu’ch rhyngrwyd os na fyddwch yn talu.
Dim ond os yw'n bwysig iawn eich bod yn gallu defnyddio ffôn neu'r rhyngrwyd y mae'r dyledion hyn yn flaenoriaeth. Efallai y byddwch, er enghraifft, yn dibynnu arnynt oherwydd:
mae gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor
mae eu hangen arnoch ar gyfer eich swydd
rydych yn chwilio am waith
Os yw’n bwysig iawn eich bod yn gallu defnyddio ffôn neu’r rhyngrwyd, dywedwch wrth eich cyflenwr pan fyddwch yn cysylltu â nhw.
Sut mae delio â’ch biliau ffôn neu ryngrwyd sydd heb eu talu.
Taliadau trwydded deledu
Mae hon yn ddyled â blaenoriaeth oherwydd gallech gael eich dirwyo gan y llys ynadon os ydych yn gwylio’r teledu heb drwydded. Gwiriwch a oes angen trwydded deledu arnoch ar wefan TV Licensing.
Os oes gennych yr arian ond eich bod yn dewis peidio â thalu dirwy llys, gallech gael eich anfon i garchar. Fyddwch chi ddim yn mynd i’r carchar os gallwch chi ddangos nad ydych chi’n gallu talu.
Dirwyon llys
Dyledion â blaenoriaeth yw'r rhain oherwydd gallech gael eich anfon i garchar os oes gennych yr arian ond eich bod yn dewis peidio â thalu. Fyddwch chi ddim yn mynd i’r carchar os gallwch chi ddangos nad ydych chi’n gallu talu.
Efallai y cewch ddirwy llys os byddwch yn cyflawni trosedd, er enghraifft:
goryrru neu dorri rheolau eraill wrth yrru
gwylio’r teledu heb drwydded deledu
Credydau treth a ordalwyd
Bydd Cyllid a Thollau EF yn dweud wrthych os ydych wedi cael gormod o gredydau treth.
Mae hon yn ddyled â blaenoriaeth oherwydd os na fyddwch yn talu, gall Cyllid a Thollau EF:
gymryd yr arian o'ch cyflog
cymryd yr arian o'ch budd-daliadau neu gredydau treth
defnyddio beilïaid i gymryd eich eiddo
Bydd Cyllid a Thollau EF yn eich rhybuddio os ydyn nhw'n mynd i wneud hyn ond does dim rhaid iddyn nhw fynd i'r llys yn gyntaf.
Os oes gennych yr arian ond eich bod yn dewis peidio â thalu credydau treth yn ôl, gall CThEF fynd a chi i’r llys. Os na fyddwch yn mynd i’r llys pan ofynnir i chi neu os na fyddwch yn gwneud yr hyn y mae’r llys yn dweud wrthych ei wneud, gallech gael eich anfon i’r carchar.
Sut mae delio â chredydau treth a ordalwyd.
Taliadau am nwyddau a brynwyd ar gytundeb hurbwrcas neu werthiant amodol
Os byddwch yn prynu rhywbeth ar gytundeb hurbwrcas neu werthiant amodol, byddwch yn talu amdano mewn rhandaliadau ac ni fyddwch yn berchen arno tan i chi orffen talu. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi prynu rhywbeth ar gytundeb hurbwrcas neu werthiant amodol, gwiriwch eich contract.
Gallai hyn fod yn ddyled â blaenoriaeth oherwydd gallai’r credydwr gymryd y nwyddau a brynoch yn ôl. Os byddwch yn cadw'r nwyddau yn eich cartref neu eich bod wedi talu mwy na thraean y gost yn ôl, rhaid i'r credydwr fynd i'r llys i wneud hyn.
Dim ond os yw’r nwyddau rydych chi wedi’u prynu yn bwysig iawn y mae taliadau hurbwrcasu a gwerthiant amodol yn ddyledion â blaenoriaeth. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n bwysig iawn os byddwch eu hangen i wneud y canlynol:
mynd o gwmpas – fel car os nad oes trafnidiaeth gyhoeddus
coginio bwyd
storio meddyginiaeth - megis oergell
Treth incwm, Yswiriant Gwladol neu TAW heb ei dalu
Dyledion â blaenoriaeth yw'r rhain oherwydd os na fyddwch yn talu, gall Cyllid a Thollau EF:
gymryd yr arian o'ch cyflog
defnyddio beilïaid i gymryd eich eiddo
Bydd Cyllid a Thollau EF yn eich rhybuddio os ydyn nhw'n mynd i wneud hyn ond does dim rhaid iddyn nhw fynd i'r llys yn gyntaf.
Os oes gennych yr arian ond eich bod yn dewis peidio â thalu, gall CThEF fynd a chi i’r llys. Os na fyddwch yn mynd i’r llys pan ofynnir i chi neu os na fyddwch yn gwneud yr hyn y mae’r llys yn dweud wrthych ei wneud, gallech gael eich anfon i’r carchar.
Sut mae delio â threth incwm, Yswiriant Gwladol neu TAW heb ei dalu ar wefan Business Debtline.
Cynhaliaeth plant heb ei dalu
Mae hon yn ddyled â blaenoriaeth oherwydd gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant dynnu'r arian o'ch cyflog neu'ch cyfrifon banc os nad ydych yn talu.
Byddant yn eich rhybuddio os ydyn nhw'n mynd i wneud hyn ond does dim rhaid iddyn nhw fynd i'r llys yn gyntaf.
Os oes gennych yr arian ond eich bod yn dewis peidio â thalu, gall y llys ynadon:
gymryd eich trwydded yrru neu basbort am hyd at 2 flynedd
eich anfon i garchar
Ni fydd yn gwneud hyn os gallwch chi ddangos nad ydych chi’n gallu talu.
2. Delio â’ch dyledion eraill
Ar ôl i chi reoli eich dyledion â blaenoriaeth, dylech edrych ar eich dyledion eraill i gyd. Maen nhw’n ‘ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth’ oherwydd bod y problemau maen nhw’n eu hachosi yn llai difrifol.
Gwiriwch sut mae gofyn i’ch credydwyr eraill roi’r gorau i fynd ar eich ôl tra byddwch chi’n delio â’ch dyledion â blaenoriaeth.
Gallai eich dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth gynnwys:
dyledion cardiau credyd neu gardiau siopau
dyledion catalog
benthyciadau heb eu gwarantu gan gynnwys benthyciadau diwrnod cyflog
biliau dŵr heb eu talu - ni all eich cyflenwr ddiffodd eich cyflenwad dŵr
gordaliadau budd-daliadau - ar wahân i gredydau treth
tocynnau parcio heb eu talu - gelwir y rhain yn Hysbysiadau Tâl Cosb neu Hysbysiadau Tâl Parcio
arian sy'n ddyledus gennych i deulu a ffrindiau
Os na fyddwch yn talu'r dyledion hyn, gall eich credydwyr fynd â chi i'r llys i'ch cael i dalu - gwiriwch beth i'w wneud os ydych chi'n mynd i'r llys.
Os oes arnoch chi arian i deulu a ffrindiau, efallai y byddai’n help dweud wrthynt fod gennych ddyledion eraill. Efallai y byddant yn cynnig aros nes eich bod wedi talu eich dyledion eraill cyn gofyn i chi eu talu'n ôl.
Os oeddech chi'n ddeiliad cerdyn ychwanegol
Os oeddech chi'n ddeiliad cerdyn ychwanegol awdurdodedig ar gyfrif cerdyn credyd, ni all y cwmni cardiau credyd ofyn i chi ad-dalu unrhyw ddyledion ar y cerdyn. Cyfrifoldeb y prif ddeiliad cerdyn yw’r rhain bob amser.
Y camau nesaf
Edrychwch i weld a allech gynyddu eich incwm i'ch helpu i ddelio â'ch dyledion.
Endnotes
Adolygwyd y dudalen ar 04 Tachwedd 2026