Talu am ddŵr heb fesurydd
Fe fyddwch naill ai'n talu am eich bil dwr ar gyfradd sefydlog neu ar sail y dwr yr ydych yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd, a fesurir gyda mesurydd dwr.
Mae'r dudalen hon yn esbonio sut maen nhw'n codi tâl arnoch os nad oes mesurydd dwr gennych, a beth fedrwch chi ei wneud os oes cwestiwn gennych am y swm a godwyd arnoch.
Talu'ch bil dwr
Os ydych yn talu am ddwr heb fesurydd, mae'r cwmni dwr yn disgwyl taliad ymlaen llaw. Os ydych yn credu bod eich bil yn anghywir, dylech gysylltu â'ch cwmni dwr. Cyn i chi wneud hyn, sicrhewch:
- ei fod yn eich enw chi, yn enwedig os ydych newydd symud ac efallai eich bod wedi cael bil am ddwr a ddefnyddiwyd gan y preswylydd blaenorol
- ei fod am yr un cyfnod ag arfer, ac nid am gyfnod hirach na'r arfer am ryw reswm
- nad amcangyfrif mohono. Weithiau, mae amcangyfrifon yn seiliedig ar ddefnydd uchel o ddwr yn y gorffennol
- nad ydych yn ad-dalu arian sy'n ddyledus ar filiau blaenorol.
Sut caiff eich bil dwr ei gyfrifo?
Os nad oes mesurydd dwr gennych, fe fyddwch yn talu tâl heb ei fesur. Yn aml, mae'n cynnwys tâl sefydlog a thâl sy'n amrywio.
Gallwch gael tâl heb ei fesur sy'n seiliedig ar un o'r canlynol:
- tâl cyfradd sefydlog
- Tâl Asesiad Cyfaint
- gwerth trethadwy'r eiddo.
Tâl cyfradd sefydlog
Weithiau, fe fydd cwmnïau’n codi cyfradd sefydlog ar bawb, waeth ble maen nhw'n byw a waeth ym mha fath o adeilad maen nhw'n byw.
Tâl Cyfradd Sefydlog
Fel arfer, mae Tâl Cyfradd Sefydlog yn seiliedig ar faint yr eiddo, a'i fath, neu'r nifer o bobl sy'n byw yno. Weithiau, gellir ei gynnig yn lle mesurydd, os ydych wedi gofyn am un ac nid yw'n bosib gosod un yn eich eiddo.
Taliadau sy'n seiliedig ar werth trethadwy'r eiddo
Cyn mis Ebrill 1990, rhoddwyd gwerth trethadwy ar bob eiddo yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn seiliedig ar y swm y gellid ei godi am osod yr eiddo. Gyda rhai biliau dwr, codir canran o'r gwerth trethadwy hwn. Mae'r swm yn amrywio o un cwmni dwr i'r nesaf.
Codi cwestiynau am werth trethadwy'r eiddo
Efallai y byddwch chi am gwestiynu'ch bil dwr os yw'n seiliedig ar werth trethadwy'ch eiddo, ac mae'ch eiddo wedi newid tipyn ers gosod y gwerth. Ni fedrwch chi gael y gwerth trethadwy wedi ei ail-asesu. Ond, efallai y byddwch yn medru cael mesurydd dwr wedi ei osod yn lle, neu osod tâl sefydlog ar yr eiddo. Fe fyddai hyn yn seiliedig ar fandiau'r dreth gyngor neu werth trethadwy amcanol.
Efallai y bydd eich eiddo wedi newid tipyn os oedd yn arfer bod yn fflatiau, er enghraifft, ac mae nawr yn un ty, neu os yw wedi cael ei rannu'n dai llai neu'n fflatiau.
Fel rheol, gallech dalu llai ar fesurydd nag ar y gwerth trethadwy os oes llai o bobl nag ystafelloedd gwely ar eich aelwyd.
Os ydych yn denant
- I gael gwybod mwy m dalu am ddwr os ydych yn denant, gweler Talu'ch biliau dwr os ydych yn denant
Camau nesaf
- Os ydych yn ystyried cael mesurydd dwr, gweler Newid at fesurydd dwr
- Os ydych chi am gwyno am faint maen nhw'n ei godi arnoch am eich dwr, neu'r ffordd y caiff ei godi, gweler Cwyno am eich cwmni dwr
- Os oes angen help pellach arnoch
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi'ch ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.
- I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr, ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.