Gwneud cytundeb nwyddau a reolir

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Fel arfer, ni fydd beilïaid (neu ‘asiantau gorfodi’) yn cymryd eich eiddo y tro cyntaf y byddan nhw’n mynd i mewn i’ch cartref. Byddan nhw’n gwneud rhestr (neu ‘restr eiddo’) o unrhyw beth sy’n eiddo i chi y gallen nhw ei gymryd i’w werthu a thalu’ch dyled. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘cymryd rheolaeth’ dros eich eiddo.

Os bydd beili’n clampio’ch car, mae hyn yn golygu y bydd wedi cymryd rheolaeth drosto – does dim angen iddyn nhw ddod i mewn i’ch cartref.

Gallwch eu hatal nhw rhag cymryd rheolaeth dros eich eiddo trwy ad-dalu’ch dyled yn llawn – dylech wneud hyn os gallwch chi fforddio gwneud hynny.

Os na allwch chi fforddio ad-dalu’r ddyled yn llawn, mae gwneud ‘cytundeb nwyddau a reolir’ gyda’r beili yn ei atal rhag cymryd y nwyddau y mae wedi cymryd rheolaeth drostyn nhw. Bydd rhaid i chi gytuno i gynllun ad-dalu i dalu’ch dyled – fel arfer trwy wneud taliadau rheolaidd.

Os na fyddwch chi’n cadw at y taliadau, bydd y beili’n dychwelyd a gallai gymryd eich eiddo i’w gwerthu a thalu’ch dyled.

Cyn delio â beili, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylen nhw eu dilyn

  • os ydych chi’n anabl neu’n ddifrifol wael

  • os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog

  • os ydych chi’n iau nag 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi’n siarad neu’n darllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi o dan straen, oherwydd profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra efallai

Dylai’r beili ddweud wrthych chi am gael cyngor i weld beth rydych chi’n gallu ei fforddio cyn trefnu cytundeb nwyddau a reolir. Hefyd, efallai y bydd gennych chi fwy o opsiynau os ydych chi wedi cytuno i gynllun talu na allwch chi gadw ato.

Bydd angen i chi ddilyn tri cham i wneud y cytundeb nwyddau a reolir.

1. Edrychwch ar y rhestr eiddo

Mae angen i’r beili nodi unrhyw eiddo y mae’n cymryd rheolaeth drostyn nhw ar y rhestr eiddo.

Rhaid iddyn nhw gynnwys manylion fel ei bod hi’n glir beth sydd wedi’i gynnwys – gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu model, gwneuthuriad a lliw unrhyw beth maen nhw’n ei roi ar y rhestr eiddo.

Gofalwch nad ydyn nhw’n ysgrifennu unrhyw beth na ddylen nhw ei gymryd – edrychwch ar y rheolau o ran beth mae beilïaid yn gallu cymryd rheolaeth drosto.

Dywedwch wrthyn nhw am groesi allan unrhyw beth rydych chi’n credu nad oes ganddyn nhw’r hawl i’w gymryd. Os ydyn nhw wedi ychwanegu rhywbeth nad yw’n eiddo i chi, ysgrifennwch ‘dim un fi’ gyferbyn ag ef.

2. Cytunwch i gynllun ad-dalu

Bydd angen i chi ddod i gytundeb gyda’r beili ynglŷn â pha daliadau rheolaidd rydych chi’n gallu fforddio eu gwneud.

Meddyliwch faint gallech chi fforddio ei dalu. Er enghraifft, efallai eich bod chi’n gallu fforddio talu £25 y mis ar ôl talu’ch costau hanfodol eraill. Gofalwch eich bod chi’n gadael digon o arian i dalu am bethau hanfodol fel bwyd, rhent, morgais a biliau ynni.

Os oes gennych chi amser, gallech ddefnyddio ein hadnodd cyllidebu i’ch helpu chi i bennu’ch cyllideb. Bydd angen i chi nodi faint rydych chi’n ei ennill ac yn ei wario – mae’n gallu bod yn ddefnyddiol casglu cyfriflenni banc a biliau ynni cyn defnyddio’r adnodd.

Bydd yr adnodd yn eich helpu chi i ddeall faint o arian sydd gennych chi dros ben i dalu. Mae’r adnodd yn cymryd tua 30 munud i’w gwblhau – y peth gorau i’w wneud fyddai ei ddefnyddio cyn i’r beili ymweld â chi.

Gwnewch gynnig i’r beili rydych chi’n credu y gallwch chi gadw ato – peidiwch â gadael i’r beili eich gorfodi chi i wneud taliadau uwch nag y gallwch chi ymdopi â nhw. Dangoswch daflen gyllideb i’r beili i brofi faint rydych chi’n gallu fforddio ei dalu.

Gofynnwch am gael gwneud taliadau wythnosol neu fisol, yn dibynnu ar sut rydych chi’n rheoli’ch arian. Os na fydd y beili’n cytuno i hyn, gallwch gwyno.

Peidiwch â gadael i’r beili eich rhuthro chi. Os ydych chi’n teimlo ei fod yn rhoi pwysau arnoch chi, gallech fynd i ystafell arall a ffonio ffrind neu aelod o’r teulu i gael help a chymorth. Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi cael eich gorfodi i gytuno i gynllun talu nad ydych chi’n gallu ei fforddio, efallai bod y beili wedi aflonyddu arnoch chi – dylech gwyno.

3. Gofalwch fod y cytundeb nwyddau a reolir yn ddilys

Cyn i chi lofnodi’r cytundeb nwyddau a reolir, gofalwch ei fod yn dangos:

  • eich enw a’ch cyfeiriad cywir

  • cyfanswm y ddyled sydd arnoch chi – gofalwch fod y swm yn gywir

  • unrhyw ffioedd sydd wedi’u hychwanegu – edrychwch pa ffioedd mae beilïaid yn cael eu codi

  • y cynllun ad-dalu rydych chi wedi cytuno iddo – mae angen i hyn ddangos faint byddwch chi’n ei dalu a pha mor aml byddwch chi’n ei dalu 

  • unrhyw eiddo mae’r beili wedi cymryd rheolaeth drostyn nhw – mae angen i’r rhain gael eu rhestr ar ddogfen ar wahân o’r enw ‘rhestr eiddo’ hefyd

Gallwch wrthod llofnodi’r cytundeb os nad ydych chi’n credu y gallwch chi gadw at y cynllun ad-dalu, neu os ydych chi’n credu bod y beili wedi rhestru eitemau na ddylai fod wedi’u rhestru. Ni fydd y cytundeb yn ddilys hyd nes y byddwch chi wedi’i lofnodi.

Os na fyddwch chi’n llofnodi’r cytundeb, mae gan y beili yr hawl i gymryd eich eiddo a’u gwerthu nhw i dalu’ch dyled. Mae’n annhebygol y byddan nhw’n gwneud hyn – mae’n werth ceisio trafod y cynllun talu mwyaf fforddiadwy allwch chi.

Gofynnwch i’r beili roi copi wedi’i lofnodi o’r cytundeb nwyddau a reolir a’r rhestr eiddo i chi.

Cadw at eich cytundeb nwyddau a reolir

Mae’n bwysig iawn cadw at y cynllun ad-dalu yn eich cytundeb nwyddau a reolir. Os byddwch chi’n methu taliad, mae’r beili’n gallu dychwelyd a chymryd yr eiddo a restrir yn eich cytundeb. Byddan nhw’n ceisio gwerthu unrhyw beth maen nhw’n ei gymryd i dalu’ch dyled.

Os ydych chi’n poeni am gadw at eich cytundeb nwyddau a reolir

Os ydych chi wedi llofnodi’r cytundeb a’ch bod chi’n poeni a allwch chi gadw ato, dylech gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth lleol. Mae cynghorwr yn gallu’ch helpu chi i drafod cynllun talu newydd yn seiliedig ar yr hyn rydych chi’n gallu ei fforddio.

Os byddwch chi’n methu taliad, gall y beili gyhoeddi ‘hysbysiad o fwriad i ymweld â chi eto’ cyn gynted ag y byddwch chi’n methu taliad. Mae hyn yn golygu bod gennych chi ddau ddiwrnod llawn ar ôl y diwrnod maen nhw’n rhoi’r hysbysiad i chi cyn y gallan nhw ddod i mewn i’ch cartref a chymryd eich pethau. Er enghraifft, os cawsoch chi’r hysbysiad ar ddydd Llun, ni fydd y beilïaid yn gallu dychwelyd tan y dydd Iau.

Cysylltwch â’r beili os ydych chi’n credu y byddwch chi’n methu taliad neu os ydych chi eisiau newid swm y taliad a nifer y taliadau rydych chi’n eu gwneud. Mae’n bwysig i chi gysylltu â nhw cyn i chi fethu taliad os gallwch chi.

Edrychwch ar y cytundeb nwyddau a reolir i ddod o hyd i fanylion cyswllt y cwmni beili. Esboniwch pam rydych chi’n credu y byddwch chi’n methu’r taliad, er enghraifft, os oes gennych chi lai o arian oherwydd bil annisgwyl neu os ydych chi wedi colli’ch swydd.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os na fydd y beilïaid yn gadael i chi newid eich cynllun ad-dalu neu os ydych chi’n credu eich bod chi wedi cael eich gorfodi i wneud cytundeb nwyddau a reolir na allwch chi gadw ato.

Os ydych chi wedi torri’ch cytundeb nwyddau a reolir

Os byddwch chi’n torri’ch cytundeb nwyddau a reolir, mae’r beili’n gallu dychwelyd i’ch cartref i gymryd unrhyw eiddo a restrwyd ar y cytundeb.

Rhaid iddyn nhw roi ‘hysbysiad o fwriad i ymweld â chi eto’ i chi cyn iddyn nhw geisio dod i mewn i’ch cartref. Mae hyn yn golygu bod gennych chi ddau ddiwrnod llawn ar ôl y diwrnod maen nhw’n rhoi’r hysbysiad i chi cyn y gallan nhw geisio dod i mewn i’ch cartref. Er enghraifft, os cawsoch chi’r hysbysiad ar ddydd Llun, ni fydd y beilïaid yn gallu dychwelyd tan y dydd Iau.

Gofalwch fod eich enw a’ch cyfeiriad yn gywir ar yr hysbysiad a’i fod yn esbonio sut rydych chi wedi torri’r cytundeb. Os nad yw’r wybodaeth ar yr hysbysiad yn iawn, dylech gwyno i’r cwmni beili ar unwaith a gofyn iddyn nhw beidio ag ymweld â chi tan y byddan nhw wedi rhoi hysbysiad dilys i chi.

Hyd yn oed os yw’r hysbysiad yn ddilys, efallai y bydd gennych chi amser o hyd i’w hatal nhw rhag ceisio dod i mewn i’ch cartref. Cysylltwch â’r cwmni beili a cheisiwch wneud cynnig newydd i ad-dalu’r ddyled. Esboniwch pam rydych chi wedi torri’r cytundeb a gofynnwch iddyn nhw roi mwy o amser i chi dalu.

Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi eisiau help neu os bydd y beilïaid yn gwrthod rhoi mwy o amser i chi dalu.

Os bydd y beili’n ceisio dod i mewn i’ch cartref

Os yw’r hysbysiad o fwriad i ymweld â chi eto yn ddilys, mae’r beilïaid yn gallu defnyddio ‘grym rhesymol’ i geisio dod i mewn i’ch cartref.

Nid oes ganddyn nhw’r hawl i dorri eich drws – os na fyddwch chi’n gadael iddyn nhw ddod i mewn, fel arfer bydd rhaid iddyn nhw ddychwelyd gyda saer cloeon. Bydd y saer cloeon yn eu cael nhw i mewn i’ch cartref trwy ddatgloi eich drws.

Mae’n annhebygol y byddan nhw’n gwneud hyn – mae’n werth ceisio gwneud cynnig newydd i dalu’r ddyled gyda’r cwmni beili.

Dylech gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth lleol i gael help os bydd y beilïaid yn dweud eu bod nhw’n mynd i gael saer cloeon i ddefnyddio grym i fynd i mewn i’ch cartref.

Os byddwch chi’n gadael y beili i mewn

Os byddwch chi’n gadael y beili i mewn, bydd ganddo’r hawl i gymryd eich eiddo a’u gwerthu i dalu’ch dyled. Maen nhw ond yn gallu cymryd eitemau sydd wedi’u rhestru yn y cytundeb nwyddau a reolir a wnaed gyda chi, ac mae angen iddyn nhw roi derbynneb i chi am bopeth maen nhw’n ei gymryd.

Gofalwch fod y beili wedi llofnodi’r dderbynneb a’i bod yn cynnwys popeth mae’n ei gymryd.

Cwynwch am y beili os bydd yn difrodi unrhyw beth neu’n cymryd unrhyw beth na ddylai ei gymryd.

Efallai y bydd dal amser i wneud cynnig talu i atal beilïaid rhag gwerthu’ch pethau ar ôl iddyn nhw eu cymryd.

Edrychwch sut i gael eich eiddo yn ôl cyn iddyn nhw gael eu gwerthu.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.