Cwyno am feilïaid

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch gwyno am feilïaid (neu ‘asiantau gorfodi’) os byddan nhw’n eich trin chi’n wael neu os na fyddan nhw’n dilyn y rheolau. Mae cwyno yn gallu rhoi mwy o amser i chi, cael eich nwyddau yn ôl neu atal beilïaid rhag ymweld â chi rhagor.

Ni fydd cwyno’n canslo’ch dyled wreiddiol, ond mae’n gallu rhoi cyfle i chi ddelio â’r ddyled mewn ffordd sy’n addas i chi.

Cyn i chi gwyno, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylai beilïaid eu dilyn:

  • os ydych chi’n anabl neu’n ddifrifol wael

  • os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog

  • os ydych chi’n iau nag 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi’n siarad neu’n darllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi o dan straen, oherwydd profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra efallai

Mae eich cwyn yn fwy tebygol o lwyddo os yw’r beilïaid wedi torri’r rheolau ychwanegol hyn.

Pryd i gwyno

Dylech gwyno os bydd beilïaid:

Mae proses ar wahân ar gyfer ffioedd – dechreuwch trwy edrych ar ffioedd beilïaid.

Os bydd beilïaid yn aflonyddu arnoch chi neu’n ymddwyn yn ymosodol

Dylech gwyno hefyd os bydd beilïaid yn aflonyddu arnoch chi neu’n ymddwyn yn ymosodol. Mae hyn yn cynnwys:

  • bygythiadau neu drais

  • defnyddio iaith sarhaus

  • eich ffonio chi, anfon negeseuon testun atoch neu ymweld â chi dro ar ôl tro

  • dweud wrth gymdogion am eich dyled neu fynnu cael gwybodaeth ganddyn nhw

  • rhoi pwysau arnoch chi i dalu dyled rhywun arall

  • dal ati i ymweld â chi neu gysylltu â chi ar ôl i chi dalu’r ddyled

I bwy ddylech chi gwyno?

Edrychwch i bwy rydych chi mewn dyled – y ‘credydwr’ yw hwn. Er enghraifft, os mai dyled y dreth gyngor sydd gennych chi, eich cyngor lleol yw’ch credydwr – nid y beilïaid.

Fel arfer, mae’n well cwyno i’ch credydwr yn hytrach nag i’r beilïaid. Y rheswm am hyn yw bod eich credydwr yn gallu dweud wrth y beilïaid am roi’r gorau iddi os nad ydyn nhw’n dilyn y rheolau.

Gallwch gael manylion cyswllt y rhan fwyaf o gredydwyr ar-lein. Ar gyfer rhai credydwyr, gallwch edrych mewn llefydd penodol:

Mae arnoch chi’r dreth gyngor

Dewch o hyd i wefan eich cyngor yn GOV.UK ac edrychwch am ei broses gwyno. Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau ffurflen ar-lein y gallwch ei llenwi i anfon cwyn.

Os na allwch chi ddod o hyd i broses gwyno’ch cyngor, ysgrifennwch i’w gyfeiriad postio. Dylech ddod o hyd i hwn yn yr adran cysylltu ar ei wefan. Cyfeiriwch eich llythyr at adran y dreth gyngor.

Dydych chi ddim wedi talu tocyn parcio

Edrychwch pa fath o docyn parcio sydd gennych chi. Gallai fod yn ‘hysbysiad tâl cosb’ gan y cyngor neu’n ‘hysbysiad tâl parcio’ gan gwmni.

Os ydych chi’n cwyno am y tocyn yn hytrach na’r beilïaid, edrychwch a allwch chi apelio yn erbyn y tocyn parcio.

Os oes gennych chi hysbysiad tâl cosb

Dewch o hyd i wefan eich cyngor yn GOV.UK ac edrychwch am ei broses gwyno. Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau ffurflen ar-lein y gallwch ei llenwi i anfon cwyn.

Os na allwch chi ddod o hyd i broses gwyno’ch cyngor, ysgrifennwch i’w gyfeiriad postio. Dylech ddod o hyd i hwn yn yr adran cysylltu ar ei wefan. Cyfeiriwch eich llythyr at adran y dreth gyngor.

Os oes gennych chi hysbysiad tâl parcio

Bydd rhaid i’r cwmni a gyhoeddodd y ddirwy gael dyfarniad llys sirol i anfon beilïaid ar eich ôl chi. Bydd angen i chi ysgrifennu at y llys a wnaeth y dyfarniad. Defnyddiwch y chwilotwr llysoedd yn GOV.UK i gael cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad postio’r llys. Cyfeiriwch eich cwyn at reolwr y beilïaid.

Mae arnoch chi ddirwy llys ynadon

Defnyddiwch y chwilotwr llysoedd yn GOV.UK i gael cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad postio’r llys. Cyfeiriwch eich e-bost neu’ch llythyr at glerc y llys.

Mae arnoch chi arian am ddyfarniad llys sirol

Defnyddiwch y chwilotwr llysoedd yn GOV.UK i gael cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad postio’r llys. Cyfeiriwch eich e-bost neu’ch llythyr at reolwr beilïaid y llys.

Mae arnoch chi dreth incwm, TAW neu Yswiriant Gwladol

Cwynwch i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar eu wefan. Mae’n well defnyddio’r ffurflen ar-lein gan y bydd y gŵyn yn eu cyrraedd nhw’n syth ac y gallwch gadw cofnod o’r hyn rydych chi wedi’i anfon. Gallwch gwyno dros y ffôn neu mewn llythyr os oes well gennych chi.

Mae arnoch chi daliadau cynnal plant

Edrychwch i weld a oes arnoch chi’r ddyled i’r Asiantaeth Cynnal Plant neu’r Gwasanaeth Cynnal Plant. Dylai llythyrau a dogfennau eraill gan y beilïaid ddweud hyn wrthych chi.

Ar gyfer y Gwasanaeth Cynnal Plant, neu os nad ydych chi’n siŵr, ysgrifennwch i’r cyfeiriad canlynol:

Child Maintenance Service (CMS)

PO Box 249

Mitcheldean

GL17 1AJ

Ffôn: 0345 266 8792

Ffôn testun: 0345 266 8795

Ar gyfer yr Asiantaeth Cynnal Plant, dewch o hyd i’ch swyddfa agosaf ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Sut i ysgrifennu’ch cwyn

Dysgwch sut i ysgrifennu llythyr yn cwyno am feilïaid – gan gynnwys beth y dylech chi ofyn i’r credydwr ei wneud.

Anfon copi o’ch cwyn at y beilïaid

Y peth pwysicaf yw cwyno i’ch credydwr, ond anfon copi at y beilïaid hefyd. Bydd hyn yn caniatáu i chi gymryd mwy o gamau yn ddiweddarach os na fydd cwyno i’ch credydwr yn helpu.

Ni ddylai beilïaid ymweld â chi na chymryd unrhyw gamau eraill yn eich erbyn chi hyd nes y bydd eich credydwr wedi delio â’ch cwyn. Os byddwch chi’n derbyn unrhyw ymweliadau neu lythyrau pellach, ffoniwch gwmni’r beilïaid a dywedwch wrthyn nhw eich bod chi’n disgwyl i’ch credydwr ddelio â’ch cwyn.

I anfon copi o’ch cwyn at y beilïaid, edrychwch am broses gwyno ar eu gwefan. Gallwch ofyn i feili sut i gwyno os bydd yn ymweld â chi hefyd.

Os nad oes gan feilïaid broses gwyno neu os na fyddan nhw’n dweud wrthych chi sut i gwyno, ychwanegwch hyn at eich cwyn i’ch credydwr. Dywedwch fod hyn yn groes i’r safonau cenedlaethol y dylai beilïaid eu dilyn. Gofynnwch i’ch credydwr gymryd y ddyled yn ôl ac atal y beilïaid rhag gweithredu ymhellach.

Cwyno i gorff masnach

Os nad ydych chi’n hapus â’r ymateb gan eich credydwr, gallwch gwyno i gorff masnach beilïaid. Gall y beilïaid ddal ati i ymweld â chi ac anfon llythyrau atoch chi tra’ch bod chi’n cwyno.

Dim ond ar ôl i chi gael ymateb gan y cwmni beilïaid yr anfonoch chi gopi o’ch cwyn ato y gallwch gwyno i gorff masnach. Gallwch gwyno i gorff masnach hefyd os nad ydych chi wedi clywed unrhyw beth gan y beilïaid ar ôl 28 diwrnod.

Gallwch gwyno i’r Gymdeithas Gorfodi Sifil os yw’ch dyled am:

  • y dreth gyngor

  • dirwyon llysoedd ynadon

  • dirwyon parcio

  • taliadau cynnal plant

  • ardrethi busnes neu rent

Gallwch gwyno i Gymdeithas Swyddogion Gorfodi’r Uchel Lys os ydych chi’n delio â swyddogion gorfodi’r uchel lys. Rhaid i feilïaid ddweud os ydyn nhw’n swyddogion gorfodi’r uchel lys – bydd hyn wedi’i nodi ar unrhyw lythyrau maen nhw wedi’u hanfon atoch chi ac ar y cardiau adnabod y mae’n rhaid iddyn nhw ddangos i chi os byddan nhw’n ymweld â chi.

I gwyno i Gymdeithas Swyddogion Gorfodi’r Uchel Lys, anfonwch eich cwyn mewn e-bost i complaints@hceoa.org.uk Gallwch gwyno hefyd trwy ffonio 0844 824 4575 – ond mae’n well anfon e-bost os gallwch. Trwy anfon e-bost, gallwch fanylu ar eich cwyn a chadw cofnod o’r hyn a anfonoch chi.

Cwyno i ombwdsmon

Bydd gan rai credydwyr ombwdsmon. Sefydliad ar wahân yw hwn sy’n gofalu eu bod nhw’n ymddwyn yn briodol. Gallwch gwyno i ombwdsmon am feilïaid sy’n casglu dyledion i:

  • gyngor lleol

  • llys ynadon

  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

  • yr Adran Gwaith a Phensiynau

  • cwmni ynni, rhyngrwyd neu ffôn

Gallwch gwyno i ombwdsmon am ddim, ond mae angen i chi fod wedi cwyno i’ch credydwr yn gyntaf.

Os oes arnoch chi arian i’ch cyngor

Gallwch gwyno i Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Dylai’ch cwyn fod am y cyngor yr anfonoch chi eich cwyn wreiddiol ato. Esboniwch beth mae’r beilïaid wedi’i wneud o’i le ond canolbwyntiwch ar ymateb eich cyngor i’ch cwyn wreiddiol.

Bydd angen i chi ddisgwyl hyd nes y byddwch chi wedi cael ymateb gan y cyngor cyn mynd ati i gwyno i’r ombwdsmon.

Os oes arnoch chi arian i lys ynadon, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu’r Adran Gwaith a Phensiynau

Bydd angen i chi gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Seneddol ac Iechyd. I wneud hyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gwyno’r ombwdsmon ar gyfer gwasanaethau llywodraeth y DU a gofyn i’ch AS ei hanfon ar eich rhan.

Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich AS trwy nodi’ch cod post ar wefan y Senedd. Cysylltwch â nhw a dweud:

  • beth mae’r beilïaid wedi’i wneud o’i le

  • pam nad yw ymateb Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’r llys wedi helpu

  • yr hoffech chi atgyfeirio Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’r llys i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Seneddol ac Iechyd

  • eich bod chi wedi cynnwys ffurflen gwyno’r ombwdsmon a’ch bod am iddyn nhw lenwi adran 5

Os oes arnoch chi arian i gwmni ynni

Gallwch gwyno i’r ombwdsmon ynni am feilïaid a anfonwyd gan gwmni ynni. Bydd angen i chi fod wedi cwyno’n uniongyrchol i’r cwmni ynni yn gyntaf.

Os oes arnoch chi arian i gwmni rhyngrwyd neu ffôn

Gallwch gwyno i’r ombwdsmon cyfathrebu am feilïaid a anfonwyd gan gwmni rhyngrwyd neu ffôn. Bydd angen i chi fod wedi cwyno’n uniongyrchol i’r cwmni ynni yn gyntaf.

Gwneud cais i lys i atal beili

Os yw beili wedi ymddwyn mor wael fel eich bod chi’n credu na ddylai gael bod yn feili rhagor, gallwch wneud cais i lys am i’w drwydded gael ei chymryd oddi arno. Bydd hyn yn ei atal rhag gweithio fel beili – ni fydd yn cysylltu â chi rhagor ac ni fydd rhaid i chi dalu ei ffioedd.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol i gael help os ydych chi’n ystyried cymryd camau llys yn erbyn beilïaid. Bydd cynghorwr yn gallu trafod yr opsiynau gyda chi.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.