Atal beilïaid os nad oes arnoch chi’r ddyled

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os byddwch chi’n cael llythyr gan feilïaid yn dweud ei fod yn mynd i gasglu taliad am ddyled nad ydych chi’n credu sydd arnoch chi, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w hatal nhw.

Enw’r llythyr yw ‘hysbysiad gorfodi’ ac efallai y bydd yn dweud ei fod wedi’i anfon gan ‘asiant gorfodi’ – sef enw arall am feili.

Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr – hyd yn oed os ydych chi wedi talu’r ddyled. Os byddwch chi’n anwybyddu’r llythyr, bydd y beilïaid yn gallu ymweld â’ch cartref mewn 7 diwrnod.

Cyn i chi siarad â beilïaid, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylen nhw eu dilyn:

  • os ydych chi’n anabl neu’n ddifrifol wael

  • os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog

  • os ydych chi’n iau nag 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi’n siarad neu’n darllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi o dan straen, oherwydd profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra efallai

Efallai y byddwch chi’n gallu cael mwy o amser i ddelio â’r hysbysiad gorfodi os ydych chi yn un o’r sefyllfaoedd hyn.

Os na chafodd yr hysbysiad gorfodi ei anfon yn iawn, gallwch gael mwy o amser.

Os yw’r beilïaid wrth eich drws yn barod, edrychwch a allwch chi eu hatal nhw rhag dod i mewn.

Edrychwch i weld a oes arnoch chi’r ddyled

Rhaid i’ch hysbysiad gorfodi ddweud faint yw’r ddyled ac i bwy mae arnoch chi’r arian.

Ni fydd arnoch chi’r ddyled:

  • os yw’n eiddo i rywun arall – er enghraifft, os yw’ch enw chi’n debyg i enw’r person sydd â’r ddyled

  • os ydych chi wedi talu’r ddyled yn barod

Os bydd beilïaid yn ceisio rhoi pwysau arnoch chi i dalu’r ddyled, er enghraifft, trwy eich ffonio chi drwy’r amser, gellid ystyried eu bod nhw’n aflonyddu arnoch chi. Edrychwch beth allwch chi ei wneud os bydd rhywun yn aflonyddu arnoch chi.

Os nad ydych chi’n siŵr a oes arnoch chi’r ddyled

Ffoniwch y person mae’r beilïaid yn dweud rydych chi’n ddyledus iddo – y person hwn yw’r ‘credydwr’. Gofynnwch iddyn nhw pam eu bod nhw’n credu bod arnoch chi’r ddyled.

Gallwch ddod o hyd i enw’r credydwr ar yr hysbysiad gorfodi – defnyddiwch yr enw i chwilio ar-lein am rif ffôn y credydwr.

Os na allwch chi ddod o hyd i rif neu os yw’n anodd i chi ffonio’r credydwr, gofynnwch i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf am help.

Os yw beilïaid yn ceisio casglu dyled sy’n fwy na 6 blwydd oed, dylech gael cyngor cyn siarad â’r credydwr. Efallai y gallwch herio’r ddyled os yw hi’n fwy na 6 blwydd oed.

Y peth gorau i’w wneud yw cael cyngor ar unrhyw ddyled mae beilïaid yn ei chasglu. Hyd yn oed os oes arnoch chi’r ddyled, mae’n werth gweithio allan a allwch chi ei herio.

Dysgwch fwy am sut gallwch chi osgoi beilïaid hyd yn oed os oes arnoch chi’r ddyled.

Os nad oes arnoch chi’r ddyled

Dylech weithredu’n gyflym i brofi nad chi sydd piau’r ddyled – mae hyn yn gallu atal y beilïaid rhag ymweld â chi.

Os mai rhywun arall sydd piau’r ddyled

Ffoniwch y beilïaid – gallwch ddod o hyd i’w rhif ar yr hysbysiad gorfodi. Y peth gorau i’w wneud yw eu ffonio nhw gan mai dyma’r ffordd gyflymaf o gysylltu â nhw.

Dywedwch wrthyn nhw nad chi yw’r person sydd wedi’i enwi ar yr hysbysiad gorfodi. Esboniwch y byddwch chi’n anfon tystiolaeth i brofi hyn. Dylech wneud hyn hyd yn oed os yw’r ddyled yn eiddo i rywun sy’n byw gyda chi – er enghraifft, eich partner.

Gofynnwch iddyn nhw ohirio’ch achos tra’ch bod chi’n anfon eich tystiolaeth a thra’u bod nhw’n archwilio’ch achos – rhaid iddyn nhw wneud hyn os byddwch chi’n gofyn.

Os ydych chi’n poeni am ffonio’r beilïaid, gofynnwch i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf am help.

Y dystiolaeth ddylech chi ei hanfon

Anfonwch lythyr at y beilïaid; gallwch ddod o hyd i’w cyfeiriad ar yr hysbysiad gorfodi. Dywedwch nad oes arnoch chi’r arian a chofiwch gynnwys tystiolaeth sy’n dangos nad chi yw’r person sydd wedi’i enwi ar yr hysbysiad gorfodi. Gallech anfon unrhyw un o’r rhain:

  • llythyr budd-dal o’r 3 mis diwethaf

  • bil y dreth gyngor o’r 3 mis diwethaf

  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu o’r 3 mis diwethaf 

Y peth gorau i’w wneud yw anfon copïau o’ch dogfennau yn hytrach na’ch dogfennau gwreiddiol.

Dylech anfon copi o’ch llythyr at y credydwr hefyd. Gallai gwneud hyn eich helpu chi i ddatrys eich problem yn gyflymach; y rheswm am hyn yw mai’r credydwr yw’r person sydd wedi gofyn i’r beilïaid gasglu’r ddyled.

Gallwch ddod o hyd i enw’r credydwr ar yr hysbysiad gorfodi – defnyddiwch yr enw i chwilio ar-lein am gyfeiriad y credydwr.

Anfonwch eich llythyr a’ch tystiolaeth trwy ddosbarthiad cofnodedig os gallwch chi. Cadwch gopi o’ch llythyr ac unrhyw ymateb rydych chi’n ei gael rhag ofn byddwch chi eu hangen nhw yn ddiweddarach.

Os ydych chi wedi talu’r ddyled yn barod

Os ydych chi wedi talu’r ddyled, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw ffonio’r credydwr i ddweud wrtho am atal y beili rhag dod i’ch cartref.

Gallwch ddod o hyd i enw’r credydwr ar yr hysbysiad gorfodi – defnyddiwch yr enw i chwilio ar-lein am rif ffôn y credydwr.

Mae’n werth cysylltu â’ch banc hefyd – i wneud yn siŵr bod y taliad i’ch credydwr wedi’i wneud.

Dylech ffonio’r beilïaid hefyd i ddweud wrthyn nhw eich bod chi wedi siarad â’r credydwr a dweud beth a gytunwyd. Mae’n werth i chi wneud hyn – hyd yn oed os ydych chi wedi ffonio’r credydwr yn barod – oherwydd efallai na fyddan nhw’n ffonio’r beilïaid ar unwaith.

Os na fydd y credydwr yn cytuno eich bod chi wedi talu’r ddyled yn barod

Dylech gasglu cymaint o dystiolaeth ag y gallwch chi i ddangos eich bod chi wedi talu’r ddyled os na fydd y credydwr yn cytuno.

Anfonwch lythyr at y credydwr yn dweud eich bod chi wedi talu a chofiwch gynnwys eich tystiolaeth. Dylech anfon copi at y beilïaid hefyd.

Gofynnwch iddyn nhw ohirio’ch achos tra’ch bod chi’n anfon eich tystiolaeth a thra’u bod nhw’n archwilio’ch achos – rhaid iddyn nhw wneud hyn os byddwch chi’n gofyn.

Gallai eich tystiolaeth gynnwys unrhyw un o’r rhain

  • derbynneb am y taliad

  • copi o ddatganiad y ddyled yn dangos y taliad olaf

  • llythyr gan y credydwr yn dweud bod y ddyled wedi’i thalu

  • datganiad talu debyd uniongyrchol

Y peth gorau i’w wneud yw anfon copïau o’ch dogfennau, yn hytrach na’ch dogfennau gwreiddiol.

Dylech anfon eich llythyr trwy ddosbarthiad cofnodedig os gallwch chi. Cadwch gopi o’ch llythyr ac unrhyw ymateb rydych chi’n ei gael rhag ofn byddwch chi eu hangen nhw yn ddiweddarach.

Os bydd y beili’n dal i ddweud bod arnoch chi’r ddyled

Os bydd y beili’n dal ati i gysylltu â chi ar ôl i chi brofi nad oes arnoch chi’r ddyled, gallwch gwyno.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.