Canslo benthyciad neu gytundeb credyd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan fyddwch yn trefnu benthyciad neu'n cael credyd am nwyddau neu wasanaethau, byddwch yn ymrwymo i gytundeb credyd. Mae gennych hawl i ganslo cytundeb credyd os yw’n dod o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Caniateir i chi ganslo o fewn 14 diwrnod - gelwir hyn yn gyfnod 'oeri' yn aml.

Os oes mwy na 14 diwrnod wedi mynd heibio ers i chi lofnodi'r cytundeb credyd, mae gwybodaeth ar gael am sut mae talu cytundeb credyd yn gynnar.

Gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi'n cael trafferth gyda thaliadau benthyciad neu ddyledion eraill.

Gwnewch yn siŵr bod y Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn berthnasol i’ch cytundeb

Gallwch edrych ar eich cytundeb credyd i weld a yw’n dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Os ydyw, dylai ddweud hynny ar frig y dudalen gyntaf.

Mae’r mathau canlynol o gytundebau fel arfer yn dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr:

  • benthyciadau personol

  • cardiau credyd

  • benthyciadau diwrnod cyflog

  • hurbwrcasu

  • catalogau

  • cardiau siopau

  • cyllid siopau a chytundebau ‘prynu nawr talu’n ddiweddarach’

Does dim ots a gafodd ei drefnu wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy archeb bost, neu drwy’r rhyngrwyd neu deledu digidol.

Gallwch siarad â chynghorydd os nad yw eich cytundeb wedi'i gynnwys neu os nad ydych yn siŵr - cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Dweud wrth y benthyciwr eich bod am ganslo

Mae gennych 14 diwrnod i ganslo ar ôl i chi lofnodi’r cytundeb credyd.

Cysylltwch â'r benthyciwr i ddweud wrthych eich bod am ganslo - 'rhoi rhybudd' yw'r enw ar hyn. Mae'n well gwneud hyn yn ysgrifenedig ond bydd eich cytundeb credyd yn dweud wrthych â phwy i gysylltu a sut.

Os ydych chi wedi derbyn arian yn barod, rhaid i chi ei dalu'n ôl - rhaid i'r benthyciwr roi 30 diwrnod i chi wneud hyn. Os nad ydych chi wedi llofnodi’r cytundeb credyd yn barod, does dim rhaid i chi dalu dim.

Gallwch hefyd ganslo a dychwelyd rhywbeth rydych chi’n talu amdano drwy hurbwrcas. Os ydych chi eisiau cadw’r nwyddau, bydd angen i chi dalu amdanynt mewn ffordd arall. Os ydych wedi talu blaendal neu ran-daliad am nwyddau neu wasanaethau nad ydych wedi'u derbyn eto, dylech gael eich holl arian yn ôl pan fyddwch yn canslo.

Canslo cytundeb hurbwrcas ar gyfer car newydd

Pan fyddwch yn prynu car newydd ar gytundeb credyd hurbwrcasu, mae'r cwmni cyllid yn talu'r garej amdano. Byddwch yn talu'r arian yn ôl i'r cwmni cyllid mewn rhandaliadau, gyda llog yn cael ei ychwanegu.

Os ydych chi am ganslo'r cytundeb, rhaid i chi dalu'r arian sy'n dal yn ddyledus i'r cwmni cyllid ar gyfer y car o fewn 30 diwrnod.

Nid yw dychwelyd y cerbyd i’r garej yn dod â’r cytundeb i ben, oni bai fod y garej a’r cwmni cyllid wedi cytuno ar hynny.

Adolygwyd y dudalen ar 18 Tachwedd 2026