Talu cytundeb credyd yn gynnar
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Pan fyddwch yn talu cytundeb credyd yn gynnar, dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, gostyngir y cyfanswm yr ydych yn ei dalu.
Os ydych chi'n dal i fod o fewn 14 diwrnod i lofnodi'r cytundeb credyd, gallwch wybod sut mae canslo cytundeb credyd yn lle hynny.
Os oes gennych unrhyw ddyledion eraill, cyfrifwch pa ddyledion i ddelio â nhw gyntaf. Efallai fod gennych ddyledion â blaenoriaeth ac mae’r rhain yn bwysicach.
Gwnewch yn siŵr bod y Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn berthnasol i’ch cytundeb
Gallwch edrych ar eich cytundeb credyd i weld a yw’n dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Os ydyw, dylai ddweud hynny ar frig y dudalen gyntaf.
Mae’r mathau canlynol o gytundebau fel arfer yn dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr:
benthyciadau personol
cardiau credyd
benthyciadau diwrnod cyflog
hurbwrcasu
catalogau
cyllid siopau
Does dim ots a gafodd ei drefnu wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy archeb bost, neu drwy’r rhyngrwyd neu deledu digidol.
Gallwch siarad â chynghorydd os nad yw eich cytundeb wedi'i gynnwys neu os nad ydych yn siŵr - cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Dywedwch wrth y benthyciwr eich bod am ad-dalu'r benthyciad yn gynnar
Ysgrifennwch at y benthyciwr a gofyn iddo ddweud wrthych y cyfanswm y mae'n rhaid i chi ei dalu i glirio'r benthyciad yn llawn. Gelwir hyn yn 'ffigur setlo cynnar'.
Rhaid i’r benthyciwr ddweud wrthych faint y mae angen i chi ei dalu’n llawn. Mae faint o log y mae'n rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar faint ohono rydych chi wedi'i dalu'n barod.
Yna bydd gennych 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth eich cais i law i dalu'r swm yn llawn.
Nid yw’r ffaith eich bod wedi gofyn am ffigur setlo cynnar yn golygu bod yn rhaid i chi fwrw ymlaen ag ef. Gallwch ddewis parhau â'ch taliadau arferol yn lle hynny.
Os mai dim ond rhan o'r benthyciad yr ydych am ei thalu
Bydd yr arbedion llog a'r ffioedd yn llai na phe baech yn talu'r benthyciad yn llawn.
Dylech chi:
ddweud wrth y benthyciwr yn ysgrifenedig eich bod yn bwriadu ad-dalu rhan o'r benthyciad
gofyn faint y bydd eich taliad yn lleihau cyfanswm y benthyciad a thaliadau yn y dyfodol - efallai y byddwch yn gallu talu'r un swm bob mis dros gyfnod byrrach yn lle hynny
gwneud y taliad o fewn 28 diwrnod
Os oes angen help arnoch
Os na fydd y benthyciwr yn ateb pan fyddwch yn gofyn am ffigur setlo cynnar neu os ydych chi'n meddwl eu bod yn codi gormod arnoch, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020