Benthyciadau personol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â benthyciadau personol

Mae’r wybodaeth hon yn esbonio sut mae benthyciadau personol yn gweithio a ble allwch gymharu gwahanol fenthyciadau.

Gall banc a chymdeithas adeiladu roi benthyciad personol i chi p’un ai eich bod yn gwsmer neu beidio. Gallwch wneud cais am fenthyciad yn bersonol mewn cangen neu drwy’r post, dros y ffôn neu ar-lein.

Sut mae benthyciadau personol yn gweithio

Rydych chi fel arfer yn benthyg swm penodedig a’i ad-dalu mewn rhandaliadau misol dros gyfnod penodol o amser, a elwir yn gyfnod y benthyciad.

Fel arfer, codir cyfradd sefydlog o log arnoch a ffioedd ychwanegol weithiau, yn enwedig os yw’r benthyciad wedi’i warantu. Mae rhai benthycwyr yn rhoi benthyciadau sydd â chyfradd llog newidiol. Mae hyn yn golygu y gallai’r gyfradd llog gynyddu neu ostwng yn ystod cyfnod y benthyciad. Os yw’r gyfradd llog yn cynyddu, bydd angen i chi dalu mwy er mwyn sicrhau eich bod yn ad-dalu’r benthyciad i gyd o fewn y cyfnod penodol.

Fel arfer bydd yn rhaid i chi ad-dalu trwy ddebyd uniongyrchol o’ch cyfrif banc. Os nad ydych yn talu ar amser, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu ffi.

Ad-dalu’r benthyciad yn gynnar

Gallwch fel arfer ad-dalu benthyciad personol unrhyw bryd cyn diwedd y cyfnod ac efallai y cewch ad-daliad o log os ydych yn gwneud hyn. Gofynnwch i’r benthyciwr pan ydych yn gwneud cais neu edrychwch ar y cytundeb credyd. Dyma’r ddogfen a wnaethoch ei llofnodi pan gawsoch eich benthyciad.

Benthyciad wedi’i warantu

Gall benthyciad personol fod wedi’i warantu neu heb ei warantu. Mae benthyciad wedi’i warantu fel morgais. Fel arfer caiff eich tŷ ei ddefnyddio fel gwarant er mae’n bosib defnyddio asedau eraill megis polisi yswiriant.

Gallai’r warant a gynigir fod yn y fantol os nad ydych ad-dalu benthyciad wedi’i warantu. O ran benthyciad heb ei warantu, nid oes risg uniongyrchol y byddwch yn colli eich cartref os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Fodd bynnag, gall y benthyciwr eich cymryd i’r llys i’ch gorfodi i ad-dalu’r arian.

Am fwy o wybodaeth am fenthyciadau wedi’u gwarantu, gweler Morgeisi a benthyciadau wedi’u gwarantu.

Dewis benthyciad personol

Mae yna lawer o wahanol fathau o ddarparwyr benthyciadau felly mae’n syniad da i chwilio am y benthyciad gorau. Gallwch gymharu cynigion gwahanol ddarparwyr benthyciadau ar wefan Which? yn www.which.co.uk.

Am fwy o wybodaeth am sut i gymharu benthyciadau, gweler Cael y ddêl orau ar gredyd.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o fenthyg arian a chael credyd, gweler Mathau o fenthyciadau.

Mae’n bosib y bydd y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn gynorthwyol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Moneysavingexpert

www.moneysavingexpert.com.

Which?

www.which.co.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.