Cael cymorth gyda chostau os oes gennych blentyn neu os ydych yn feichiog

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Efallai y gallwch gael arian ychwanegol i helpu i dalu am gostau hanfodol megis bwyd, gofal plant a chostau ysgol.

Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu cael

Efallai y gallwch hawlio budd-daliadau ychwanegol os oes gennych blentyn. Er enghraifft:

  • Budd-dal Plant

  • Credyd Cynhwysol

  • Lwfans Gwarcheidwad, os ydych yn gyfrifol am blentyn y mae ei rieni wedi marw

  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA), os yw eich plentyn dan 16 oed ac yn sâl, yn anabl neu os oes ganddo gyflwr iechyd meddwl

  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), os yw eich plentyn dros 16 oed ac yn sâl, yn anabl neu os oes ganddo gyflwr iechyd meddwl

  • Lwfans Gofalwr, os yw'ch plentyn yn cael DLA neu PIP

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i gael syniad cyflym o ba fudd-daliadau a chymorth ariannol arall y gallech ei gael.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau Turn2us.

Os ydych ar absenoldeb mamolaeth

Os na allwch chi gael tâl mamolaeth, mae'n bosib y gallwch chi hawlio Lwfans Mamolaeth. 

Gwiriwch a allwch chi gael tâl mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth

Os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau

Efallai y gallwch gael arian neu gymorth ychwanegol os oes gennych blentyn.

You might be able to get extra money or help because you have a child. 

Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol

Dylech gael elfen plentyn Credyd Cynhwysol os ydych chi'n gyfrifol am blentyn dan 16 oed sydd fel arfer yn byw gyda chi. Byddwch yn cael swm ychwanegol ar gyfer ail blentyn.

Gallwch dderbyn y cymorth hwn tan 31 Awst ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 19 oed os yw mewn addysg amser llawn nad yw'n addysg uwch - er enghraifft, yn yr ysgol neu'r coleg.

Fel arfer, dim ond os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017 y cewch chi arian ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn.

Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol y gallwch chi ei gael

Gallwch ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am eich plentyn drwy roi gwybod am newid mewn amgylchiadau. 

Gwiriwch sut mae rhoi gwybod i’r DWP am newid mewn amgylchiadau

Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant

Mae Credyd Treth Plant yn rhoi mynediad at gymorth arall i chi - megis prydau ysgol am ddim. Os mai dim ond Credyd Treth Gwaith rydych chi’n ei gael, gallwch ychwanegu Credyd Treth Plant at eich hawliad. 

Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Plant, efallai y gallwch ychwanegu plentyn arall at yr hawliad presennol.

Gwiriwch a allwch chi gael Credydau Treth Plant

Os ydych chi’n cael Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n gyfrifol am blentyn, gallwch gael swm ychwanegol wedi'i ychwanegu at eich Credyd Pensiwn, ar yr amod nad ydych eisoes yn cael credydau treth plant.

Gwiriwch faint o Gredyd Pensiwn y gallwch chi ei gael ar GOV.UK

Os ydych yn cael Lwfans Byw i'r Anabl

Os ydych eisoes yn cael Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar gyfer eich plentyn, efallai y gallwch gael arian a chymorth ychwanegol. 

Gwiriwch pa gymorth ychwanegol y gallwch ei gael ar DLA

Os ydych yn cael Taliad Annibyniaeth Personol

Os ydych chi neu eich plentyn eisoes yn cael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), efallai y gallwch gael arian a chymorth ychwanegol. 

Gwiriwch pa gymorth ychwanegol y gallwch ei gael ar PIP

Gwiriwch a allwch chi gael grant

Efallai y gallwch gael taliad untro o £500 i helpu gyda chostau:

  • os ydych chi'n cael eich babi cyntaf 

  • os ydych chi'n disgwyl genedigaeth luosog - er enghraifft efeilliaid 

Rhaid eich bod yn cael budd-daliadau penodol a rhaid i chi hawlio cyn i'ch babi droi’n 6 mis oed. Darganfyddwch sut mae gwneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn ar GOV.UK.

Efallai bod grantiau eraill ar gael yn eich ardal chi. Gwiriwch a allwch chi gael unrhyw grantiau eraill ar wefan Turn2us.

Cael help gyda chostau gofal plant

Mae gwahanol gynlluniau ar gael i'ch helpu i dalu am ofal plant. Dim ond am ‘ofal plant cymeradwy’ y bydd y rhain yn talu - gwiriwch pa fathau o ofal plant sydd wedi'u cymeradwyo ar GOV.UK.

Efallai y byddwch chi’n gallu cael mwy o gymorth:

  • os ydych yn cael unrhyw fudd-daliadau

  • yn ddibynnol ar oed eich plentyn

  • yn ddibynnol ar eich incwm

  • os yw eich plentyn yn anabl

Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch ddefnyddio mwy nag un cynllun. 

Gwiriwch pa gymorth y gallwch ei gael ar wefan Childcare Choices llywodraeth y DU

Os ydych yn gweithio ac yn hawlio Credyd Cynhwysol

Os ydych chi'n gweithio ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'ch costau gofal plant yn ôl. Gallwch gael hyd at £950.92 y mis ar gyfer un plentyn dan 17 oed, neu £1,630.15 ar gyfer 2 blentyn neu fwy. 

Gwiriwch a allwch chi hawlio costau gofal plant yn ôl drwy Gredyd Cynhwysol ar GOV.UK

Os ydych chi’n ennill o leiaf £167 yr wythnos

Efallai y gallwch wneud cais i’r cynllun Gofal Plant Di-dreth. Gall hyn eich helpu gyda chostau gofal plant, er enghraifft gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a chlybiau gwyliau. Gallwch gael hyd at:

  • £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn dan 12 oed

  • £4,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn anabl dan 17 oed

Ni allwch chi gael Gofal Plant Di-dreth os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, talebau gofal plant, Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith. 

Gwiriwch a allwch chi gael Gofal Plant Di-dreth ar GOV.UK

Os yw eich plentyn dan 5 oed

Os ydych chi’n ennill dros £167 ac os oes gennych chi blentyn sy’n 3 neu 4 oed, efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar am ddim o dan ‘y Cynnig Gofal Plant’. Mae hyn am 48 wythnos y flwyddyn, ac mae’n cynnwys:

  • o leiaf 10 awr o addysg gynnar, er enghraifft mewn cylch chwarae neu feithrinfa 

  • hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant

Gwiriwch a allwch chi gael ‘y Cynnig Gofal Plant’ ar wefan Llywodraeth Cymru

Os oes gennych blentyn dan 4 oed, efallai y gallwch gael help gan y cynllun 'Dechrau'n Deg'. Nid yw hyn yn dibynnu ar eich incwm - ond dim ond mewn rhai rhannau o Gymru y mae ar gael.

Gwiriwch a allwch chi ymgeisio am gymorth Dechrau'n Deg ar wefan Llywodraeth Cymru

Cael help i dalu am fwyd

Os ydych chi'n cael trafferth talu am fwyd, holwch sut i gael atgyfeiriad at fanc bwyd.

Rhagor o wybodaeth am sut i gael help gan fanc bwyd

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth gan fanc babanod lleol - mae'r rhain yn cynnig hanfodion am ddim megis clytiau, teganau, esgidiau a dillad. 

Mae rhai banciau bwyd hefyd yn darparu clytiau, weips babi a bwyd babi. 

Chwiliwch ar-lein i ddod o hyd i'ch banc babi neu fanc bwyd agosaf - neu siaradwch â'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd.

Cael cerdyn Cychwyn Iach

Efallai y gallwch gael cerdyn Cychwyn Iach i'ch helpu i brynu rhai mathau o laeth, fformiwla babanod, ffrwythau a llysiau.

I gael y cerdyn Cychwyn Iach, rhaid i chi fod yn feichiog am o leiaf 10 wythnos neu fod gennych blentyn dan 4 oed. Yn ogystal, rhaid eich bod yn cael un o’r canlynol:

  • Credyd Cynhwysol - ond dim ond os yw eich cartref yn ennill £408 y mis neu lai

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm - ond dim ond os ydych chi'n feichiog 

  • Credyd Pensiwn

  • Credyd Treth Plant - ond dim ond os yw eich cartref yn ennill £16,190 y flwyddyn neu lai

Os ydych chi'n cael Credyd Treth Plant, chewch chi ddim y cerdyn os ydych chi hefyd yn cael Credyd Treth Gwaith - oni bai eich bod yn cael y taliad 'ymlaen llaw'. Credyd Treth Gwaith ‘ymlaen llaw’ yw'r taliad a gewch am 4 wythnos ar ôl i chi stopio bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith.

Gyda’r cerdyn Cychwyn Iach, byddwch yn cael:

  • £4.25 bob wythnos, o wythnos 10 eich beichiogrwydd

  • £8.50 bob wythnos ar gyfer plant rhwng genedigaeth a blwydd oed

  • £4.25 bob wythnos, i blant rhwng 1 a 4 oed

  • fitaminau am ddim 

Gallwch wneud cais am y cynllun Cychwyn Iach ar wefan y GIG

Cael help gyda chostau ysgol

Os ydych chi ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau penodol, efallai y gallwch gael help gyda chostau anfon eich plant i'r ysgol.

Er enghraifft, gallech chi gael:

  • prydau ysgol am ddim

  • cludiant am ddim i'r ysgol

  • grant i’ch helpu i brynu dillad neu wisg ysgol 

  • cymorth gyda thripiau ysgol

Rhagor o wybodaeth am gael help gyda chostau ysgol

Cael mwy o help gyda chostau byw

Gallwch hefyd gael help nad yw'n ddibynnol ar gael plant. Gwiriwch pa gymorth arall sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau byw.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.