Edrych i weld pa ddyledion sy'n cael eu cynnwys mewn methdaliad

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae mynd yn fethdalwr yn golygu nad ydych chi'n atebol am y rhan fwyaf o'ch dyledion ac nid oes rhaid i chi eu talu.

Nid yw methdaliad yn cwmpasu pob dyled felly mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwybod a fydd unrhyw un o'ch dyledion heb eu cynnwys ac i roi cynlluniau ar waith i ddelio â nhw.

Efallai y bydd angen i chi:

  • barhau i dalu rhai dyledion tra byddwch chi'n fethdalwr

  • roi’r gorau i dalu rhai dyledion, ond dechrau eu talu unwaith eto pan ddaw eich methdaliad i ben

Fel arfer, ni allwch chi gynnwys dyled yn eich methdaliad os dechreuodd ar ôl i chi fynd yn fethdalwr. Os byddwch yn anghofio am ddyled a ddechreuodd cyn i chi fynd yn fethdalwr, gallwch chi ei chynnwys yn eich methdaliad fel arfer.

Gelwir y person sy'n delio â'ch dyledion ar ôl i chi fynd yn fethdalwr yn 'dderbynnydd swyddogol'.

Edrych i weld beth i’w dalu tra byddwch chi'n fethdalwr

Bydd dal rhaid i chi dalu:

  • benthyciadau i fyfyrwyr

  • taliadau cynhaliaeth a thaliadau cynhaliaeth i blant, gan gynnwys unrhyw orchmynion cyfandaliadau a chostau achosion teuluol, er y gallech chi ofyn i'r llys orchymyn nad oes rhaid i chi dalu'r ddyled hon

  • dirwyon llys ynadon

  • unrhyw daliadau y mae llys wedi gorchymyn i chi eu gwneud o dan orchymyn atafaelu, er enghraifft, ar gyfer masnachu cyffuriau

  • dyledion sydd arnoch chi oherwydd anaf personol neu farwolaeth person arall, er y gallech chi ofyn i'r llys orchymyn nad oes rhaid i chi dalu'r ddyled hon

Os oes gennych chi forgais neu ddyled wedi'i sicrhau ar eich cartref

Bydd dal angen i chi dalu eich morgais ac unrhyw ddyledion eraill sydd wedi'u sicrhau ar eich cartref - er enghraifft, dyledion sydd wedi'u sicrhau gyda gorchymyn arwystlo. Os byddwch chi'n methu â thalu, ni fydd methdaliad yn atal eich benthyciwr morgais rhag cymryd camau i adfeddu eich cartref.

Os oes gennych chi gytundeb talu incwm (IPA) neu orchymyn talu incwm (IPO), dywedwch wrth y derbynnydd swyddogol fod angen i chi barhau i dalu dyled wedi'i sicrhau. Gofynnwch iddyn nhw a allwch chi dalu llai o dan yr IPA neu'r IPO fel y gallwch chi barhau i dalu'r ddyled wedi'i sicrhau hefyd.

Os caiff eich cartref ei adfeddu a'i werthu, ond nad yw'n codi digon o arian i dalu eich morgais sy'n weddill neu unrhyw ddyled arall sydd wedi'i sicrhau arno, ni fydd y ddyled sy'n weddill wedi'i sicrhau mwyach. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cael eich rhyddhau ohono ar ddiwedd eich methdaliad. Gelwir y ddyled sy'n weddill yn 'ddiffyg morgais'.

Byddwch hefyd yn cael eich rhyddhau o’r diffyg morgais os caiff eich cartref ei werthu ar ôl i'ch methdaliad ddod i ben.

Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent

Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent ar eich cartref, byddant yn cael eu cynnwys mewn gorchymyn methdalu ond gallai eich landlord barhau i gymryd camau i'ch troi allan. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud cynllun i dalu eich ôl-ddyledion rhent yn ystod neu ar ôl methdaliad os ydych chi eisiau cadw'ch tenantiaeth.

Os oes gennych chi gytundeb talu incwm (IPA) neu orchymyn talu incwm (IPO), dywedwch wrth y derbynnydd swyddogol fod gennych chi ôl-ddyledion rhent. Gofynnwch iddyn nhw a allwch chi dalu llai o dan yr IPA neu'r IPO fel y gallwch chi barhau i dalu'r ôl-ddyledion rhent hefyd.

Os oes gennych chi rywbeth ar hurbwrcas

Os oes gennych chi gytundeb talu incwm (IPA) neu orchymyn talu incwm (IPO), cysylltwch â’r derbynnydd swyddogol. Byddan nhw’n dweud wrthych chi a allwch chi barhau i wneud y taliadau hurbwrcas.

Os nad oes gennych chi IPA neu IPO ac os ydych chi eisiau cadw eitem hanfodol fel nwyddau cartref neu gar o werth isel, bydd angen i chi wneud trefniant gyda'r benthyciwr i barhau i dalu amdanyn nhw. Ni fydd y methdaliad yn atal y benthyciwr rhag cymryd camau i gael y nwyddau yn ôl os byddwch chi'n rhoi'r gorau i dalu.

Mae rhai cytundebau hurbwrcasu yn dweud y gall y benthyciwr gymryd y nwyddau yn ôl os ewch chi'n fethdalwr, hyd yn oed os byddwch chi'n parhau i wneud y taliadau. Os yw'ch benthyciwr yn penderfynu gwneud hyn, dywedwch wrthyn nhw y gallwch chi barhau i wneud y taliadau a gofynnwch iddyn nhw adael i chi gadw'r cytundeb. Os nad ydyn nhw'n cytuno, efallai y byddan nhw'n gadael i aelod o'r teulu neu ffrind wneud y taliadau ar eich rhan.

Os yw'r nwyddau eisoes wedi'u hailfeddu yna bydd unrhyw ddyled sy'n weddill yn cael ei chynnwys gan y methdaliad.

Os oes arnoch chi arian i bobl neu gwmnïau yn yr UE

Efallai na fydd dyledion i bobl neu gwmnïau yn yr UE wedi'u cynnwys gan fethdaliad.

Os ydych chi'n byw yn yr UE, gallai eich credydwyr fynd â chi i'r llys yn yr UE.

Os ydych chi'n byw yn y DU, mae'n rhaid i gredydwyr yn yr UE erlyn yn y DU yn hytrach nag yn yr UE, hyd yn oed os oes ganddyn nhw ddyfarniad cyfredol. Bydd y DU yn cydnabod dyfarniadau'r UE a gofnodwyd neu a ddechreuwyd cyn 31 Rhagfyr 2020.

Os ydych chi'n byw yn y DU ond bod gennych chi gartref yn yr UE gyda morgais gan fenthyciwr yn yr UE, gallai'r benthyciwr fynd â chi i'r llys yn yr UE.

Gofynnwch am gyngor cyfreithiol os oes gennych chi gredydwyr yn yr UE. Dewch o hyd i help cyfreithiol rhad ac am ddim neu fforddiadwy.

Edrych i weld beth i’w dalu ar ôl i'ch methdaliad ddod i ben

Mae rhai dyledion yn cael eu gohirio tra byddwch chi'n fethdalwr, ond mae'n rhaid i chi ddechrau eu talu unwaith eto pan ddaw eich methdaliad i ben. Mae hyn yn cael ei alw’n 'atebol' am y ddyled.

Os ydych chi'n atebol am ddyled, mae'n rhaid i chi ei thalu os yw'r benthyciwr yn gofyn i chi wneud hynny.

Os oes gennych chi ordaliad am fudd-dal neu fenthyciad cronfa gymdeithasol

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cymryd arian o'ch budd-daliadau i ad-dalu gordaliad neu fenthyciad cronfa gymdeithasol, dylent roi'r gorau i gymryd yr arian tra byddwch chi'n fethdalwr.

Os ydyn nhw'n cymryd arian ar gyfer benthyciad cronfa gymdeithasol neu ordaliad oherwydd twyll, byddan nhw'n dechrau cymryd yr arian unwaith eto pan fydd eich methdaliad yn dod i ben.

Os nad oedd y gordaliad oherwydd twyll, does dim rhaid i chi ei ad-dalu ar ôl i'ch methdaliad ddod i ben.

Os wnaethoch chi roi’r wybodaeth anghywir i gael credyd

Efallai eich bod wedi rhoi’r wybodaeth anghywir i fenthyciwr os dywedoch chi rywbeth wrthyn nhw nad oedd yn wir, neu os na ddywedoch chi rywbeth wrthyn nhw y gofynnwyd i chi amdano.

Os rhoddoch chi’r wybodaeth anghywir i fenthyciwr, gallai’r derbynnydd swyddogol benderfynu eich bod chi wedi cymryd y ddyled drwy dwyll.

Rhaid i’r derbynnydd swyddogol ystyried eich amgylchiadau wrth benderfynu a yw’n dwyll. Er enghraifft, rhaid iddyn nhw ystyried a ddywedodd y benthyciwr wrthych chi am ddweud eich bod chi’n ennill mwy nag yr oeddech chi mewn gwirionedd, er mwyn i chi allu cael y benthyciad.

Os cymeroch chi unrhyw un o’ch dyledion drwy dwyll, mae’n rhaid i chi ddechrau eu talu unwaith eto ar ôl i’ch methdaliad ddod i ben.

Os oes gennych chi ddyledion ar y cyd neu fel gwarantwr

Os oes arnoch chi ddyledion personol ar y cyd â rhywun arall, gallwch chi gynnwys y rhain yn eich methdaliad. Serch hynny, byddai'r credydwr wedyn yn gallu mynd ar ôl y person arall am y swm cyfan sy'n ddyledus. Gallant wneud hyn os yw'r person yn gweithio ai peidio.

Gallwch chi a'r person arall wneud cais am fethdaliad ar wahân, a fyddai'n talu'r ddyled ar y cyd. Bydd angen i chi dalu ffi ar wahân. Ni allwch chi wneud cais am fethdaliad ar y cyd.

Os oes gennych chi ddyledion busnes ar y cyd

Os oes gennych chi ddyledion busnes a gymerwyd mewn partneriaeth, gallwch chi wneud cais ar y cyd am fethdaliad cyn belled â bod yr holl bartneriaid yn cytuno. Os ydych chi’n ystyried gwneud hyn, dylech chi ofyn am gyngor arbenigol.

Gallwch chi:

Os oes gennych chi ddyled gwarantwr

Os oes rhywun yn warantwr ar gyfer benthyciad rydych chi wedi'i gymryd, bydd yn cael ei gynnwys yn eich methdaliad ond bydd yn rhaid i'r person arall dalu'r ddyled o hyd.

Os mai chi yw'r gwarantwr a bod y person arall yn methu â thalu, bydd yn cael ei gynnwys yn eich methdaliad ac ni fydd y credydwr yn gallu eich erlid amdano - hyd yn oed ar ôl i'ch methdaliad ddod i ben.

Ychwanegu dyled ar ôl i chi fynd yn fethdalwr

Gallwch chi ychwanegu dyled at eich methdaliad os:

  • ydych chi wedi ei gymryd cyn i chi fynd yn fethdalwr

  • dywedir wrthych chi am ei dalu ar ôl i chi fynd yn fethdalwr, ond mae hynny oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd o'r blaen

Er enghraifft, os dywedir wrthych chi i dalu costau’r llys neu ordaliad budd-dal ar ôl i chi fynd yn fethdalwr, gallwch chi ei ychwanegu at eich methdaliad os digwyddodd yr achos llys neu’r gordaliad cyn i chi fynd yn fethdalwr.

Os ydych chi’n ychwanegu dyled at eich methdaliad, caiff ei thrin yr un fath â'r dyledion a wnaethoch chi eu cynnwys o'r blaen.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 26 Chwefror 2021