Gorchmynion rhyddhau o ddyled - yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae gorchymyn rhyddhau o ddyled yn un ffordd o ddelio â'ch dyledion:
os oes arnoch chi £50,000 neu lai
os nad ydych chi’n berchen ar eich cartref
os nad oes gennych chi asedau neu bethau eraill o werth
os nad oes gennych chi lawer o incwm dros ben
Does dim rhaid i chi wneud taliadau tuag at y rhan fwyaf o'r mathau o ddyledion sydd wedi'u cynnwys yn eich Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled ac ni all eich credydwyr eich gorfodi i dalu'r dyledion. Mae Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled fel arfer yn para blwyddyn oni bai fod eich sefyllfa’n gwella. Pan ddaw'r Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled i ben, bydd y rhan fwyaf o'ch dyledion yn cael eu dileu.
Bydd angen i chi siarad ag ymgynghorydd Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled arbennig a fydd yn eich helpu i lenwi cais gyda'r derbynnydd swyddogol. Ni all y cynghorydd godi tâl arnoch chi am eu hamser ac mae'n rhad ac am ddim i wneud cais Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled.
Gweld a allwch chi gael Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
Dylech chi allu cael Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
dydych chi ddim yn gallu talu eich dyledion
nid yw eich dyledion cymwys yn fwy na £50,000
does gennych chi ddim mwy na £75 ar ôl bob mis ar ôl i chi dalu costau arferol eich cartref
dydych chi ddim yn berchen ar eich cartref
nid yw eich cynilion eraill neu bethau o werth rydych chi’n berchen arnyn nhw, sy’n cael eu galw’n asedau, werth mwy na £2,000 (mae rhai asedau yn cael eu hanwybyddu wrth gyfrifo’r gwerth, er enghraifft, eitemau sylfaenol y cartref ac offer sydd eu hangen arnoch chi i wneud eich gwaith)
mae o leiaf 6 blynedd wedi mynd heibio ers i'ch Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled diwethaf gael ei wneud, oni bai ei fod wedi cael ei ddiddymu - gweld pam y gallai Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled gael ei ddiddymu
dydych chi ddim yn mynd drwy weithdrefn ansolfedd ffurfiol arall, fel methdaliad neu drefniant gwirfoddol unigol
rydych chi wedi byw, wedi bod ag eiddo, neu wedi gweithio yng Nghymru neu Loegr yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Os oes gennych chi gerbyd sy'n werth llai na £4,000 does dim rhaid i chi ei gynnwys yn eich asedau. Os yw eich cerbyd yn werth mwy na £4,000, does dim rhaid i chi ei gynnwys yn eich asedau os yw wedi'i addasu oherwydd bod gennych anabledd. Dim ond un cerbyd y cewch chi ei eithrio o'ch asedau ac ni allwch chi ei eithrio os mai dim ond ar gyfer gwaith y byddwch yn ei ddefnyddio.
Rhagor o wybodaeth am sut mae incwm, dyledion ac eiddo yn cael eu hasesu ar gyfer gorchymyn rhyddhau o ddyled.
Gweithgarwch diweddar
Rhaid i chi ddweud wrth eich cynghorydd Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled os ydych wedi gwneud y canlynol yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf:
rhoi asedau i ffwrdd
gwerthu asedau am lai na’u gwerth, er enghraifft os gwnaethoch chi werthu car gwerth £3,000 i ffrind am £200
rhoi blaenoriaeth i dalu un credydwr yn ôl dros gredydwyr eraill, er enghraifft os gwnaethoch chi dalu dyled a oedd yn ddyledus gennych i berthynas a heb dalu eich credydwyr eraill
Mae’n bosib y bydd eich cais am Orchymyn Rhyddhau o Ddyled yn cael ei wrthod os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi. Byddan nhw’n edrych ar ffeithiau eich achos cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Dyledion sy’n dod o dan Orchymyn Rhyddhau o Ddyled
Mae dyledion sy'n gallu mynd i mewn i Orchymyn Rhyddhau o Ddyled yn cael eu galw’n 'ddyledion cymwys'. Yn ystod cyfnod y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled, ni all credydwyr ofyn i chi am daliadau - os byddan nhw’n gwneud hynny, does dim rhaid i chi eu talu. Maen nhw’n cynnwys:
cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau
ôl-ddyledion rhent, biliau cyfleustodau, biliau ffôn, y dreth gyngor a threth incwm
gordaliadau budd-daliadau
cytundebau hurbwrcas neu werthiant amodol
cytundebau prynu nawr - talu wedyn
biliau am wasanaethau fel milfeddygon neu gyfreithwyr
dyledion sydd arnoch chi i ffrindiau a theulu
dyledion busnes
Os cawsoch chi unrhyw un o’r rhain drwy dwyll, bydd yn dal yn rhaid i chi eu talu pan fydd y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled wedi dod i ben.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent, gall eich landlord gymryd camau i'ch troi allan, hyd yn oed os yw'r ôl-ddyledion rhent wedi'u cynnwys yn eich Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi barhau i dalu’r rhain ar ôl gwneud Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled.
Dyledion sydd ddim yn dod o dan Orchymyn Rhyddhau o Ddyled
Nid yw pob dyled yn dod o dan Orchymyn Rhyddhau o Ddyled. Bydd angen i chi dalu'r canlynol o hyd:
dirwyon llys ynadon a gorchmynion atafaelu sy'n ymwneud â gweithgarwch troseddol
cynhaliaeth a chynnal plant
benthyciadau myfyrwyr
benthyciadau cronfa gymdeithasol
iawndal am farwolaeth ac anaf
Os oes gennych chi unrhyw rai o'r dyledion hyn, nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at y terfyn £50,000.
Os nad ydych chi’n siŵr a fyddai dyled yn dod o dan Orchymyn Rhyddhau o Ddyled, gofynwch i’ch cynghorydd Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Os nad ydyn nhw, bydd yn dal yn rhaid i chi eu talu os cewch chi Orchymyn Rhyddhau o Ddyled.
Os byddwch chi’n anghofio cynnwys unrhyw ddyledion yn eich Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled, ni fydd modd i chi eu hychwanegu wedyn. Os byddai unrhyw ddyledion a gollwyd wedi mynd â chi dros y terfyn £50,000 yna efallai y bydd eich Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled yn cael ei ganslo. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth y cynghorydd Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled am eich dyledion i gyd.
Gweld a yw Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled yn iawn i chi
Mae Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled yn gallu bod yn ffordd o ddianc rhag dyled. Fodd bynnag, mae’n bwysig gwybod yr effaith y bydd Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled yn ei chael ar bob rhan o’ch bywyd cyn i chi wneud cais. Er enghraifft:
os oes unrhyw rai o'ch dyledion ar gyfer nwyddau a brynwyd ar hurbwrcas, efallai y bydd angen i chi roi'r nwyddau'n ôl
bydd eich Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled yn aros ar eich cofnod credyd am chwe blynedd - gallai hyn ei gwneud yn anodd i chi gael credyd neu ddod o hyd i gartref newydd yn y dyfodol
os oes gennych gytundeb tenantiaeth gallai hyn effeithio arno, gall eich cynghorydd Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled wirio hyn
efallai y bydd eich banc yn cau eich cyfrif a bydd angen i chi agor un newydd
os oes gennych chi atwrneiaeth dros faterion ariannol rhywun arall neu os oes gan rywun arall atwrneiaeth ar eich cyfer chi, bydd hyn yn dod i ben
gallai effeithio ar geisiadau y byddwch chi’n eu gwneud am ddinasyddiaeth Brydeinig - os nad ydych yn siŵr dylech chi gael cyngor gan arbenigwr mewnfudo
Bydd yn rhaid i chi hefyd ddilyn rheolau penodol, sy’n cael eu galw’n 'gyfyngiadau', yn ystod cyfnod y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae hyn yn golygu:
chewch chi ddim benthyg £500 neu fwy heb ddweud wrth y credydwr am y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
allwch chi ddim cymryd rhan yn y gwaith o hyrwyddo, rheoli na sefydlu cwmni cyfyngedig, na bod yn gyfarwyddwr cwmni, heb gael caniatâd gan y llys
os oes gennych chi fusnes dan enw gwahanol i’r un y cawsoch chi’r Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth bawb rydych chi’n gwneud busnes â nhw yr enw y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i gael y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
tra bo’r Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled mewn grym, ac am dri mis wedyn, bydd eich manylion yn ymddangos ar Gofrestr Ansolfedd Unigol y Gwasanaeth Ansolfedd, y gall unrhyw un ei gweld
Os gallai cael eich cyfeiriad ar y gofrestr arwain at drais yn eich erbyn chi neu aelod o'ch teulu, gallwch chi ofyn i'r llys orchymyn nad yw eich cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr. Bydd angen i chi wneud cais am orchymyn llys cyn i chi wneud eich cais Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled – gall eich cynghorydd Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled eich helpu gyda hyn.
Os nad ydych yn siŵr ai Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled yw'r dewis gorau, gallwch chi gael gwybod pa gymorth arall y gallwch chi ei gael gyda dyledion.
Sut mae cael Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
Os ydych chi'n meddwl bod Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled yn iawn i chi, dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gael gorchymyn rhyddhau o ddyled - gan gynnwys sut i ddod o hyd i gynghorydd Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 08 Ionawr 2020