Sut i gael gorchymyn rhyddhau o ddyled

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi wedi penderfynu eich bod am wneud cais am orchymyn rhyddhau o ddyled, neu Debt Relief Order (DRO) yn Saesneg, bydd angen i chi ddod o hyd i gynghorwr DRO i wneud eich cais i'r Gwasanaeth Ansolfedd – nhw sy'n delio â phob gorchymyn DRO.

Cam 1: dod o hyd i gynghorwr DRO

Dim ond drwy gynghorwr DRO arbenigol, a elwir hefyd yn 'gyfryngwr cymeradwy', y gallwch chi wneud cais am DRO. Cynghorwyr dyled medrus yw’r rhain fel arfer, sydd wedi cael caniatâd i lenwi'r ffurflenni a rhoi cyngor ar orchmynion DRO. Byddant yn gwirio eich bod yn gymwys i wneud cais a bod DRO yn addas i chi.

Gallwch ddod o hyd i gynghorwr DRO yn y rhan fwyaf o ganolfannau Cyngor ar Bopeth lleol. Cysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Gallwch hefyd ddod o hyd i gynghorwr DRO drwy sefydliadau cymeradwy eraill, a elwir yn 'awdurdodau cymwys'. Gweld pa sefydliadau sydd wedi'u cymeradwyo ar GOV.UK.

Cam 2: gweithio gyda'r cynghorwr DRO i wneud eich cais

Bydd eich cynghorwr DRO yn eich helpu i benderfynu a ydych chi'n gymwys i wneud cais am DRO. Bydd hefyd yn ystyried a yw'n addas i chi – er enghraifft, sut gallai effeithio ar eich statws credyd, eich ffordd o fyw a'ch gwaith. 

Os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen, bydd angen i chi weithio gyda'ch cynghorwr DRO i lenwi eich cais. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifo'ch incwm a'ch gwariant, ac adio'ch dyledion a'ch asedau i gyd at ei gilydd. Eich asedau yw unrhyw gynilion sydd gennych chi, neu bethau o werth rydych chi’n berchen arnyn nhw.

Mae'n bwysig bod yn onest a rhoi'r holl wybodaeth sydd gennych chi i'ch cynghorwr DRO.

Bydd y cais yn cael ei anfon at dderbynnydd swyddogol yn y Gwasanaeth Ansolfedd. Eu gwaith nhw yw gwneud penderfyniad am y cais a delio â'ch DRO os bydd yn mynd rhagddo. Os bydd y derbynnydd swyddogol yn canfod eich bod wedi bod yn anonest yn eich cais, gellid gwneud i'r cyfyngiadau dan DRO bara hyd at 15 mlynedd. Mewn achosion difrifol o anonestrwydd, gellid mynd â chi i'r llys.

Cam 3: y derbynnydd swyddogol yn gwneud penderfyniad

Pan fydd eich cais yn dod i law, bydd y derbynnydd swyddogol yn gwneud un o'r penderfyniadau canlynol:

  • gwneud y gorchymyn rhyddhau o ddyled os ydych chi'n gymwys a bod eich cais wedi'i lenwi'n gywir

  • gohirio'r gorchymyn os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt i wneud penderfyniad

  • gwrthod y gorchymyn os nad ydych chi’n gymwys neu os ydych chi wedi rhoi gwybodaeth anwir

Ar ôl i chi wneud cais am DRO, rhaid i chi gydweithredu â'r derbynnydd swyddogol. Mae hyn yn golygu ateb cwestiynau a darparu unrhyw wybodaeth bellach y gellir gofyn amdani. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r derbynnydd swyddogol os bydd eich incwm yn cynyddu neu os byddwch yn cael cyfandaliad, er enghraifft ad-daliad treth neu ddyfarniad budd-dal wedi'i ôl-ddyddio. 

Os gwrthodir eich cais, rhoddir rhesymau ysgrifenedig i chi yn dweud pam y cafodd ei wrthod. Efallai y byddwch chi’n gallu herio’r penderfyniad.

Y camau nesaf

Ewch i weld beth sy'n digwydd pan fydd DRO yn cael ei wneud

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 08 Ionawr 2020