Beth yw trefniant gwirfoddol unigol (IVA)?
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cytundeb ffurfiol a chyfreithiol rwymol rhyngddoch chi a'ch credydwyr i ad-dalu eich dyledion yn ôl dros gyfnod o amser yw trefniant gwirfoddol unigol (IVA). Mae hynny’n golygu ei fod wedi’i gymeradwyo gan y llys a bod yn rhaid i’ch credydwyr lynu ato.
Tra bod gennych chi drefniant gwirfoddol unigol dylai eich credydwyr roi'r gorau:
i godi llog ar eich dyledion
i’ch erlid i dalu eich dyledion
Tra byddwch chi mewn trefniant gwirfoddol unigol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
gwneud y taliadau y cytunwyd arnynt - fel arfer mae hwn yn daliad unigol misol neu'n gyfandaliad
rhoi gwybod i ddarparwr eich trefniant gwirfoddol unigol os yw eich incwm yn cynyddu neu os cewch chi unrhyw arian arall
peidio â chymryd unrhyw gredyd newydd heb ganiatâd, er enghraifft, benthyciadau
Gallwch chi gynnwys unrhyw swm o ddyled yn eich trefniant gwirfoddol unigol. Nid oes unrhyw isafswm nac uchafswm. Mae'r ffioedd ar gyfer trefniant gwirfoddol unigol yn uchel, felly os yw cyfanswm eich dyled yn llai na £10,000 efallai nad trefniant gwirfoddol unigol yw'r opsiwn gorau.
Os nad oes gennych chi gyfandaliad o arian neu symiau rheolaidd i'w talu i drefniant gwirfoddol unigol, dylech chi edrych ar opsiynau eraill ar gyfer talu’ch dyledion. Gallwch chi ddarllen mwy am atebion dyled eraill.
Rhaid i drefniant gwirfoddol unigol gael ei sefydlu gan berson cymwys, o'r enw ymarferydd ansolfedd. Bydd yr ymarferydd ansolfedd yn codi ffioedd am y trefniant gwirfoddol unigol.
Meddwl yn ofalus cyn defnyddio cwmni rheoli dyledion
Sefydliadau sy’n cynnig helpu gyda’ch dyledion yw cwmnïau rheoli dyledion. Efallai y byddwch chi'n gweld eu hysbysebion ar-lein neu efallai y byddant yn ceisio cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Gallwch chi gael trefniant gwirfoddol unigol heb gwmni rheoli dyledion. Fel arfer mae'n rhatach a gallwch chi ddod o hyd i ymarferydd ansolfedd eich hun – byddant yn eich tywys drwy'r broses.
Mae'n debygol y bydd cwmni rheoli dyledion yn ddrytach oherwydd eu bod nhw'n codi ffi ar ben ffioedd yr ymarferydd ansolfedd.
Os ydych chi'n ystyried defnyddio cwmni rheoli dyledion, edrychwch faint y byddant yn ei godi cyn i chi benderfynu.
I ddechrau trefniant gwirfoddol unigol heb gwmni rheoli dyledion – gallwch chi ddod o hyd i ymarferydd ansolfedd eich hun ar GOV.UK.
Sut mae'r ad-daliadau'n gweithio
Os penderfynwch chi gael trefniant gwirfoddol unigol, byddwch chi'n llunio cynllun ad-dalu gyda'r ymarferydd ansolfedd. Gallai hyn fod yn daliadau misol, cyfandaliad neu gyfuniad o'r ddau.
Dylai’r cynllun ad-dalu fod yn seiliedig ar swm y gallwch chi ei fforddio a bydd angen i'ch credydwyr gytuno arno. Os ydych chi'n gwneud taliadau misol, bydd y trefniant gwirfoddol unigol yn para am 5 neu 6 mlynedd fel arfer.
Byddwch yn gwneud eich taliadau i'r ymarferydd ansolfedd. Byddant yn cadw rhywfaint o hyn i dalu eu ffioedd ac yn rhannu'r gweddill rhwng eich credydwyr.
Bydd yr ymarferydd ansolfedd yn adolygu eich sefyllfa bob blwyddyn tra byddwch ar drefniant gwirfoddol unigol. Os bydd eich incwm yn newid, gallai eich taliadau trefniant gwirfoddol unigol newid. Er enghraifft, os cewch chi godiad cyflog yn y gwaith, bydd disgwyl i chi dalu mwy i'ch trefniant gwirfoddol unigol.
Os nad yw'r taliadau a wnewch yn ddigon i dalu'ch dyledion yn llawn erbyn diwedd eich trefniant gwirfoddol unigol, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r gweddill.
Os cewch chi gyfandaliad o arian
Os byddwch chi'n derbyn arian annisgwyl yn ystod eich trefniant gwirfoddol unigol, er enghraifft, etifeddiant, fel arfer bydd hwn yn cael ei gymryd a'i dalu i'ch credydwyr. Os byddwch chi'n darganfod bod arian yn ddyledus i chi oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd cyn y trefniant gwirfoddol unigol, efallai y bydd gan eich credydwyr yr hawl i'w hawlio hefyd - hyd yn oed os yw'ch trefniant gwirfoddol unigol wedi dod i ben.
Siaradwch â chynghorwr os cewch chi gyfandaliad ar ôl i’ch trefniant gwirfoddol unigol ddod i ben.
Gwirio pa ddyledion y gallwch chi eu cynnwys mewn trefniant gwirfoddol unigol
Pan gewch chi drefniant gwirfoddol unigol gallwch chi gynnwys:
ôl-ddyledion nwy a thrydan
ôl-ddyledion y Dreth Gyngor
ôl-ddyledion dŵr
benthyciadau diwrnod cyflog
cardiau siopau
catalogau
benthyciadau personol
gorddrafftiau
cardiau credyd
ôl-ddyledion treth incwm ac yswiriant gwladol
gordaliadau credyd treth neu fudd-daliadau
dyledion i deulu a ffrindiau
biliau eraill sy’n weddill, er enghraifft, costau cyfreithiwr, anfonebau am waith adeiladu a biliau milfeddygol
Gellir cynnwys unrhyw nifer o ddyledion ond fel arfer bydd trefniant gwirfoddol unigol yn addas os oes gennych chi fwy nag un credydwr.
Os oes arnoch chi arian i bobl neu gwmnïau yn yr UE
Fel arfer, ni allwch chi ychwanegu dyledion sydd arnoch chi i bobl neu gwmnïau yn yr UE.
Bydd eich credydwyr yn dal i allu gofyn am arian wrthych, er enghraifft drwy eich ffonio ac anfon llythyrau atoch chi.
Gofynnwch am gyngor cyfreithiol os oes gennych chi gredydwyr yn yr UE. Dewch o hyd i help cyfreithiol sydd am ddim neu’n fforddiadwy.
Os oes arnoch chi arian i adran Cyllid a Thollau EF
Os yw’r rhan fwyaf o’ch dyledion ar gyfer pethau fel treth incwm, ôl-ddyledion yswiriant gwladol neu gredydau treth a ordalwyd, efallai nad trefniant gwirfoddol unigol fydd yr opsiwn iawn i chi. Yn y sefyllfa hon, ni fydd adran Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cytuno i’r trefniant gwirfoddol unigol fel arfer. Os mai dim ond rhan fach o'r hyn sydd arnoch chi yw dyledion CThEF, dylech chi allu eu cynnwys mewn trefniant gwirfoddol unigol o hyd.
Os oes arnoch chi arian ar gyfer eich rhent, morgais neu fenthyciadau diogel
Fel arfer, ni allwch chi gynnwys benthyciadau diogel, morgeisi neu rent mewn trefniant gwirfoddol unigol.
Dyledion yw benthyciadau diogel sydd wedi'u diogelu yn erbyn eich cartref. Mae hyn yn golygu os na allwch chi dalu'r ddyled, gallant gymryd eich cartref.
Dim ond benthyciad wedi'i sicrhau neu forgais y gallwch eu cynnwys mewn trefniant gwirfoddol unigol y mae eich benthyciwr yn cytuno arno - nid ydynt yn cytuno fel arfer.
Os oes arnoch chi rent, ni fydd trefniant gwirfoddol unigol yn atal eich landlord rhag cymryd camau i'ch troi allan.
Mae'n well talu ôl-ddyledion morgais neu rent ar wahân i'ch trefniant gwirfoddol unigol - bydd hyn yn eich atal rhag colli'ch cartref.
Edrych pa ddyledion na allwch chi eu cynnwys mewn trefniant gwirfoddol unigol
Y dyledion na allwch chi eu cynnwys mewn trefniant gwirfoddol unigol yw:
ôl-ddyledion cynhaliaeth plant sydd wedi’u gorchymyn gan lys
ôl-ddyledion cynhaliaeth plant
benthyciadau myfyrwyr
dirwyon llys ynadon
benthyciadau’r Gronfa Gymdeithasol
ôl-ddyledion trwydded deledu
Os oes gennych chi ddyledion na ellir eu cynnwys yn y trefniant gwirfoddol unigol, bydd rhaid i chi ddelio â’r rheini ar wahân, felly mae angen i chi wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o arian i dalu'r dyledion hyn cyn talu arian i’r trefniant gwirfoddol unigol.
Gallwch chi ddarllen am atebion dyled eraill.
Sut i ddelio â dyledion ar y cyd
Efallai bod gennych chi rai ‘dyledion ar y cyd’ sydd arnoch chi a pherson arall, fel partner.
Dim ond un person y gall trefniant gwirfoddol unigol ei gwmpasu, felly bydd y person arall yn dal i fod yn gyfrifol am yr holl ddyled. Efallai nad yw’n syniad da cynnwys dyledion ar y cyd yn y trefniant gwirfoddol unigol.
Ni allwch chi gymryd trefniant gwirfoddol unigol ar y cyd, ond efallai y byddwch chi a’r person arall yn gallu cymryd trefniant gwirfoddol unigol sy’n gysylltiedig â’i gilydd – caiff y rhain eu galw’n drefniant gwirfoddol unigol ‘plethedig’. Bydd eich ymarferydd ansolfedd yn gallu eich cynghori am hyn.
Os oes gennych chi lawer o ddyledion ar y cyd ac nad yw’r person arall eisiau trefniant gwirfoddol unigol, efallai y bydd angen i chi gymryd opsiwn gwahanol.
Cael lle i anadlu os oes angen mwy o amser arnoch chi i benderfynu beth i’w wneud
Os nad ydych chi’n barod i ddefnyddio ateb dyled neu os na allwch chi ei fforddio ar hyn o bryd, gallai’r cynllun Lle i Anadlu, sy’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth, roi amser ychwanegol i chi.
Os ydych chi’n gymwys, gallech chi gael 60 diwrnod o le i anadlu pan na all eich credwyr wneud y canlynol:
cysylltu â chi
cymryd camau i’ch gorfodi i dalu
ychwanegu llog a chostau at eich dyled
Mae'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ddyledion, gan gynnwys cardiau credyd a chardiau siopau, benthyciadau, gorddrafftiau ac ôl-ddyledion biliau’r cartref. Bydd angen i chi gael cyngor cynghorydd dyledion yn gyntaf - byddant yn gwirio'ch holl ddyledion i weld a ydynt wedi'u cynnwys.
I weld os yw lle i anadlu yn iawn i chi, siaradwch â chynghorwr.
Os ydych chi’n cael triniaeth argyfwng iechyd meddwl
Efallai y byddwch chi’n gallu cael lle i anadlu wrth eich credydwyr am yr holl amser rydych chi'n cael triniaeth argyfwng, ynghyd â 30 diwrnod ar ôl hynny. Mae triniaeth argyfwng yn cynnwys pethau fel cael gofal iechyd meddwl brys neu acíwt yn yr ysbyty neu'r gymuned.
Siaradwch â’ch darparwr gofal iechyd meddwl am ‘Le i Anadlu Argyfwng Iechyd Meddwl’.
Edrych i weld os yw trefniant gwirfoddol unigol yn iawn i chi
Mae trefniant gwirfoddol unigol yn opsiwn drud ac yn ymrwymiad hirdymor – efallai y bydd ateb gwell ar gyfer eich sefyllfa.
Edrychwch i weld os yw trefniant gwirfoddol unigol yn iawn i chi cyn gwneud cais.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.