Cael cyngor ariannol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Bydd cyfnodau yn eich bywyd pan na fyddwch yn siŵr am yr hyn i’w wneud gyda’ch arian a pha benderfyniadau y bydd angen i chi eu gwneud ynglŷn â’ch dyfodol ariannol. Mae yna filoedd o wahanol gynhyrchion ariannol ar gael ac mae dewis rhyngddynt yn gallu bod yn anodd.

Os nad oes gennych lawer o brofiad o ddelio ag arian neu os yw gwneud y penderfyniadau cywir yn eich drysu, gallai cael cyngor ariannol proffesiynol fod yn gynorthwyol.

Gall ymgynghorwr ariannol helpu gyda phethau megis:

  • cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad

  • buddsoddi neu gynilo arian

  • gwneud y defnydd gorau o gyfandaliad megis tâl colli swydd neu etifeddiaeth

  • prynu eiddo neu gael morgais

  • newid yn eich bywyd er enghraifft, os ydych yn dechrau teulu, yn cael ysgariad neu’n cael eich gwneud yn weddw

Cyngor neu arweiniad?

Mae rhai unigolion a sefydliadau - elusennau cyngor yn aml - yn cynnig arweiniad ariannol. Mae hyn yn wahanol i gyngor ariannol. Mae arweiniad yn rhoi gwybodaeth i chi am y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi, ond ni ddylai argymell unrhyw opsiwn penodol dros un arall. Mae cyngor ariannol, fodd bynnag, yn rhoi gwybod i chi pa gynnyrch penodol fyddai'n addas ar gyfer eich anghenion.

Er enghraifft, os oes gennych chi gyfandaliad rydych chi am ei gynilo, byddai rhywun sy'n rhoi arweiniad yn dweud wrthych chi beth yw'ch opsiynau cynilo mewn termau eang. Efallai y byddant yn dweud wrthych am fanteision ac anfanteision cyfrifon cynilo rheolaidd, ISAs a buddsoddiadau. Ni fyddant yn dweud wrthych am gynhyrchion penodol a gynigir gan gwmnïau a enwir na pha opsiwn fyddai'n addas i chi. Byddai ymgynghorydd ariannol yn edrych ar gyfrifon cynilo penodol, buddsoddiadau ac ISAs a gynigir gan wahanol gwmnïau ac yn argymell un penodol sy'n addas ar gyfer eich amgylchiadau personol.

Nid yw gwasanaethau arweiniad yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae hyn yn golygu os bydd pethau'n mynd o'i le gyda'ch dewis ariannol, efallai na fyddwch chi'n gallu cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol neu Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol.

Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n derbyn arweiniad neu gyngor, gofynnwch i'r ymgynghorydd neu'r sefydliad i esbonio.

Os ydych chi am gael arweiniad ariannol, yn hytrach na chyngor, gallech gysylltu â sefydliad rhad ac am ddim, diduedd sy'n arbenigo mewn canllawiau ariannol, fel y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Ar y dudalen hon, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am:

Pwy sy’n rhoi cyngor ariannol

Cewch hyd i gyngor ariannol gan ymgynghorwr ariannol proffesiynol. Bydd yr ymgynghorwr yn edrych ar eich amgylchiadau personol a’ch cynlluniau ariannol ac argymell cynhyrchion i’ch helpu i ateb eich anghenion.

Mae’n rhaid bod ymgynghorwr ariannol wedi’i awdurdodi gan Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae hyn yn cynnwys ymgynghorwyr sy’n gweithio i gwmnïau megis banciau a chymdeithasau adeiladu, yn ogystal ag ymgynghorwyr unigol sy’n hunangyflogedig.

Gallwch wirio p’un ai bod yr ymgynghorwr neu’r cwmni y mae’n gweithio iddo wedi’i awdurdodi ar Gofrestr yr FSA neu beidio drwy glicio ar: www.fca.org.uk.

Os nad yw ymgynghorwr ariannol wedi’i awdurdodi yn gywir, gallwch gwyno i’r FCA.

Mathau o ymgynghorwyr ariannol

Mae ymgynghorwyr ariannol yn edrych ar eich amgylchiadau personol a'ch cynlluniau ariannol ac yn argymell cynhyrchion i'ch helpu i ddiwallu'ch anghenion.

Mae dau fath o ymgynghorydd ariannol:

  • cynghorwyr ariannol annibynnol (IFAs) sy'n rhoi cyngor diduedd am yr holl ystod o gynhyrchion ariannol gan yr holl wahanol gwmnïau sydd ar gael

  • cynghorwyr cyfyngedig sy'n rhoi cyngor ar ystod gyfyngedig o gynhyrchion. Efallai y byddant yn arbenigo mewn un maes, er enghraifft pensiynau, neu efallai y byddant ond yn cynnig cyngor ar gynhyrchion a gynigir gan nifer cyfyngedig o gwmnïau.

Fel arfer, mae'n well cael cyngor ariannol annibynnol fel y gallwch chi edrych ar yr ystod ehangaf o gyngor a chynhyrchion sydd ar gael.

Sicrhau bod gan eich ymgynghorwr y cymwysterau cywir

Rhaid bod gan bob ymgynghorydd ariannol y canlynol:

  • Lefel 4 neu'n uwch o'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau chenedlaethol

  • Datganiad o Safiad Proffesiynol (SPS). Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i god moeseg ac wedi cwblhau o leiaf 35 awr o hyfforddiant proffesiynol bob blwyddyn. Rhaid i dystysgrifau SPS gael eu hadnewyddu bob blwyddyn, felly gwnewch yn siŵr bod gan eich ymgynghorydd y cymwysterau diweddaraf.

Dylai pob ymgynghorydd ariannol fod wedi eu cofrestru gyda'r FCA. Mae hyn yn golygu eu bod yn bodloni'r safonau cywir a byddwch yn cael mwy o amddiffyniad os nad ydych yn hapus gyda'r gwasanaeth. Er enghraifft, gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Ariannol ac efallai y gallwch chi hawlio iawndal os bydd pethau'n mynd o chwith.

Os nad yw ymgynghorydd ariannol wedi'i gofrestru gyda'r FCA, gallwch wneud cwyn i'r FCA.

Peidiwch â bod ofn gofyn i ymgynghorydd am ei gymwysterau a Datganiad o Safiad Proffesiynol.

I wneud yn siŵr bod ymgynghorydd ariannol wedi cofrestru gyda'r FCA, ewch i www.fca.org.uk.

Mae rhestr lawn o'r gwahanol gymwysterau y gall ymgynghorydd ariannol eu cael, ynghyd â'r cyrff proffesiynol sy'n eu cynrychioli, ar wefan unbiased.co.uk. Ewch i: www.unbiased.co.uk.

Sut i wirio eich bod yn cael y cyngor cywir

Pan ydych yn gweld ymgynghorwr, dylai roi’r math cywir o gyngor i chi sy’n ateb eich anghenion ariannol. Os nad ydynt yn gwneud hyn, gallech chi wneud cwyn.

Dylai’r cynhyrchion ariannol a argymhellir gan ymgynghorwr:

  • fod yn fforddiadwy i chi

  • gymryd i ystyriaeth p’un ai eich bod am gynilo ar gyfer yr hirdymor neu’r byrdymor

  • fod yn addas ar gyfer y risg yr hoffech gymryd

  • gymryd i ystyriaeth p’un ai eich bod yn talu treth neu beidio.

Os yw ymgynghorwr yn anwybyddu’r pwyntiau hyn ac yn argymell cynnyrch anaddas ac os ydych yn colli arian oherwydd hyn, gallwch chi wneud cwyn.

Mae ymgynghorwr dim ond yn gorfod rhoi’r cyngor cywir o fewn terfynau eu cymwysterau. Er enghraifft, os gwelwch ymgynghorwr clwm, fe fydd dim ond yn argymell cynnyrch addas o’r ystod o gynhyrchion a wertha. Nid oes yn rhaid i ymgynghorwyr clwm ddweud wrthych eich bod yn gallu prynu cynnyrch tebyg gan gwmni arall am bris rhatach. Os ydych yn darganfod hyn nes ymlaen, nid ydych yn gallu codi achwyniad yn ei erbyn.

Am y rheswm hwn, gallai fod yn well mynd at ymgynghorwr ariannol annibynnol [link to heading Mathau o gyngor ariannol] a fydd yn gallu edrych ar gynhyrchion y farchnad gyfan.

Os na all ymgynghorwr ariannol ddod o hyd i gynnyrch sy’n ateb eich anghenion, mae’n rhaid iddo eich cyfeirio at ymgynghorwr arall sy’n gallu eich helpu. Os nad yw’n gwneud hyn, mae’n bosib y gallwch gwyno.

Rhestr wirio o bethau i’w gwneud yn eich cyfarfod cyntaf gyda’ch ymgynghorwr

Dyma awgrymiadau o bethau i’w gwneud yn eich cyfarfod cyntaf gyda’ch ymgynghorwr ariannol:

  • gwiriwch fod yr ymgynghorwr a welwch yn gymwys i roi’r cyngor angenrheidiol i chi

  • cymrwch nodiadau fel bod gennych gofnod clir o’r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod

  • gofynnwch lawer o gwestiynau a sicrhewch eich bod yn deall popeth sy’n cael ei ddweud wrthych

  • cymrwch amser i feddwl am unrhyw benderfyniadau neu gymharu cynhyrchion gydag ymgynghorwr arall. Nid oes yn rhaid i chi lofnodi unrhyw beth yn y fan a’r lle

  • byddwch yn barod i ateb cwestiynau yn onest. Bydd ymgynghorwr ariannol yn gofyn llawer o gwestiynau personol ynglŷn â’ch cynlluniau ariannol ac amgylchiadau personol fel y gallant argymell y cynhyrchion mwyaf addas ar eich cyfer chi

  • gwiriwch fod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gadw’n gyfrinachol, a gofynnwch a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer dibenion marchnata.

Beth i’w ystyried cyn gweld ymgynghorwr ariannol

Cyn edrych am ymgynghorwr ariannol, ceisiwch ddarganfod pa fath o gyngor sydd ei angen arnoch. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r ymgynghorwr cywir ar gyfer eich sefyllfa chi. Dyma restr wirio o bethau i’w hystyried:

  • a ydych yn cynllunio ar gyfer digwyddiad penodol? Er enghraifft, rydych yn ymddeol neu’n cynilo er mwyn prynu tŷ neu dalu ffioedd dysgu eich plant. Mae angen i chi feddwl am eich bywyd ac ystyried pa ddigwyddiadau y mae angen i chi gynllunio ar eu cyfer yn ariannol

  • a oes gennych arian sbâr i’w fuddsoddi? Edrychwch ar eich sefyllfa ariannol er mwyn gwybod faint y gallwch ei gynilo. Sicrhewch eich bod wedi ad-dalu unrhyw ddyledion, benthyciadau neu filiau yn gyntaf

  • faint o risg ariannol yr ydych yn fodlon ei gymryd? Pan ydych yn buddsoddi arian, mae’n bosib y gallwch golli arian ar eich buddsoddiad. Mae mwy o risg ynghlwm wrth rai buddsoddiadau nag eraill ond gallant roi mwy o arian i chi os gwnânt yn dda. Fel rheol gyffredinol, y mwyaf o amser yr ydych yn buddsoddi, y mwyaf tebygol ydych chi o wneud arian yn hytrach na’i golli

  • pa mor hir yr hoffech rwymo’ch arian? Mae hyd eich buddsoddiad yn effeithio’r math o gynhyrchion sy’n cael eu hargymell gan eich ymgynghorwr

  • a hoffech gyngor ar y gwahanol fathau o fuddsoddiadau? Er enghraifft, buddsoddiadau moesegol neu gydnaws â’r amgylchedd neu gynhyrchion ariannol sy’n buddsoddi yn ôl egwyddorion Shariah?

  • a ydych yn chwilio am gyngor neu wybodaeth yn unig? Mae’n bosib yr hoffech i rywun eich cynghori ar yr hyn ddylech ei wneud gyda’ch arian neu wybodaeth am gynhyrchion ariannol fel eich bod yn gallu dewis eich hun. Bydd rhai ymgynghorwyr ariannol yn darparu gwybodaeth a chyngor

  • a hoffech gyngor un-tro neu gyngor parhaus? Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o gost y cyngor a’ch bod yn gallu ei fforddio.

Beth ddylai’r ymgynghorwr ariannol ddweud wrthych

Pan ydych yn cwrdd ag ymgynghorwr ariannol, dylech dderbyn gwybodaeth glir am ei wasanaethau, gan gynnwys:

  • p’un ai bod y cyngor yn annibynnol neu'n gyfyngedig. Os yw'r cyngor yn gyfyngedig, dylai'r ymgynghorydd ddweud wrthych sut y mae'n gyfyngedig. Er enghraifft, a ydynt ond yn cynnig cynhyrchion gan gwmnïau penodol

  • lefel y cyngor a dderbyniwch. Er enghraifft, gallech fod yn edrych am wybodaeth i’ch helpu i benderfynu eich camau nesaf, neu efallai eich bod am rywun i awgrymu’r opsiynau gorau i chi

  • faint fydd angen i chi dalu am y cyngor.

Dylai eich ymgynghorwr roi dwy ddogfen ffeithiau allweddol i chi sy’n cynnwys gwybodaeth am:

  • yr ymgynghorwyr neu’r cwmni yr ydych yn ei ddefnyddio a’r gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig

  • y cynhyrchion y maen nhw wedi eu hargymell

  • yr hawl i newid eich meddwl ynglŷn â chynnyrch ariannol a’r amser sydd gennych i wneud hyn

  • eich hawl i fynnu rhagor o wybodaeth ychwanegol neu esboniad os nad ydych yn deall rhywbeth.

  • sut i wneud cwyn os nad ydych chi'n fodlon gyda'r gwasanaeth neu'r cynnyrch a ddarperir

  • pwy sy'n awdurdodi ac yn rheoleiddio'r cwmni

  • cost y gwasanaeth a/neu'r cynnyrch.

Os na chewch yr wybodaeth hon, sicrhewch eich bod yn gofyn amdani.

Beth yw cost cael cyngor

Bydd angen i chi dalu am gyngor ariannol ac mae’n bosib bydd angen i chi dalu am y cynhyrchion ariannol a brynwch.

Mae angen i chi fod yn glir iawn ynglŷn â chost y cyngor a chostau’r cynhyrchion a gaiff eu hargymell. Sicrhewch eich bod yn deall yr holl gostau a chymharwch ffioedd a chostau buddsoddi gwahanol ymgynghorwyr cyn dod i benderfyniad terfynol. Mae’n bosib y gallwch gael yr un cynnyrch yn rhatach gydag ymgynghorwr arall.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gostau buddsoddiadau, gweler Sut i fuddsoddi yn y farchnad stoc.

Ffyrdd o dalu

Nid yw cynghorwyr yn cael eu talu trwy gomisiwn. Mae hyn yn golygu na ddylai'r cyngor a roddant gael ei ddylanwadu gan unrhyw gomisiwn y gallant ei ennill ar fuddsoddiad penodol.

Gellir codi ffi am gyngor fel:

  • cyfradd fesul awr

  • ffi benodol yn ôl y gwaith dan sylw

  • tâl cadw misol

  • canran o'r arian a fuddsoddwyd.

Dylai eich ymgynghorydd esbonio i chi faint y bydd eu cyngor yn ei gostio a, gyda'ch gilydd, bydd angen i chi gytuno ar sut i dalu am hyn. Gallech chi eu talu ymlaen llaw neu efallai y byddwch yn gallu cytuno y bydd yr ymgynghorydd yn ei dynnu o'r swm yr ydych yn ei fuddsoddi.

Dylai eich ymgynghorydd nodi'r taliadau mewn ffordd glir a gwneud yn siŵr eich bod yn deall faint rydych chi'n ei dalu.

Gall ffioedd amrywio o un ymgynghorydd i'r llall, felly dylech siopa o gwmpas i gael y fargen orau.

Gallai fod costau ychwanegol ynghlwm wrth ofalu am eich buddsoddiadau neu ddarparu cyngor yn rheolaidd.

Sut i ddod o hyd i ymgynghorwr ariannol

I gael cyngor ar yr ystod ehangaf o gynhyrchion a chymharu costau, dylech edrych am ymgynghorwr ariannol annibynnol. Gall y sefydliadau canlynol eich rhoi mewn cysylltiad ag ymgynghorwr cymwys yn eich ardal chi:

Unbiased yn www.unbiased.co.uk. Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr 'marchnad gyfan' annibynnol a chyfyngedig ar eu gwefan. Mae cynghorwyr 'marchnad gyfan' cyfyngedig yn golygu cynghorwyr sy'n gallu cynnig cynnyrch sydd ar gael gan bob cwmni, ond efallai sy'n arbenigo mewn maes penodol, megis pensiynau.

Personal Finance Society yn www.findanadviser.org. Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr annibynnol a chyfyngedig ar eu gwefan.

VouchedFor yn www.vouchedfor.co.uk. Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr annibynnol yn unig ar y wefan hon.

Ethical Investment Research Servicewww.eiris.org.

Efallai bod gennych chi eisoes gysylltiadau ariannol gyda banc neu gymdeithas adeiladu ac yn ymddiried yn eu cynnyrch, ac felly'n teimlo'n fwy cyfforddus ynglŷn â gofyn am eu cyngor. Gelwir hyn yn gyngor cyfyngedig.

Os byddwch yn penderfynu gwneud hyn, mae angen i chi fod yn ymwybodol efallai y bydd cynhyrchion ariannol eraill gan gwmnïau eraill yn rhatach neu'n fwy addas ar gyfer eich anghenion.

Cwyno am ymgynghorwyr ariannol

Ni allwch gwyno i ymgynghorwr ariannol os nad yw eich buddsoddiad yn cynhyrchu cymaint o arian a ddymunwch. Fodd bynnag, os ydych wedi colli arian oherwydd cyngor gwael, gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol neu weinyddiaeth wael, gallwch gwyno i’r ymgynghorwr a roddodd y cyngor yn wreiddiol i chi.

Mae’n rhaid i chi ddilyn gweithdrefn gwyno’r cwmni. Os nad yw’r ymateb yn eich bodloni, mae eich camau nesaf yn dibynnu ar bwy roddodd y cyngor i chi.

Os yw’r ymgynghorwr a weloch wedi cael ei awdurdodi gan Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), [link to heading Pwy sy’n gymwys i roi cyngor i chi] dylech fynd â’ch cwyn i’r Ombwdsmon Ariannol. I wybod p’un ai bod yr Ombwdsmon Ariannol yn gallu delio â’ch cwyn neu beidio, ffoniwch ei linell gymorth i ddefnyddwyr ar 0300 123 9 123 (8am tan 6pm dydd Llun i Ddydd Gwener). Mae yna hefyd ffurflen gwyno arbennig y gallwch ei lawrlwytho a’i hanfon drwy’r post at yr Ombwdsmon. Am fwy o fanylion, ewch at www.financial-ombudsman.org.uk.

Cewch hefyd wybodaeth am b’un ai bod yr Ombwdsmon Ariannol yn gallu delio â chwyn am gwmni nad yw wedi’i awdurdodi gan yr FCA.

Os derbynioch gyngor ariannol gan gyfreithiwr neu gyfrifydd sydd wedi’i awdurdodi gan yr FCA i roi cyngor ariannol i chi, mae’n bosib bod angen i chi fynd â’ch cwyn at y corff proffesiynol sy’n ei reoli.

Os nad ydych yn siŵr ynglŷn â ble i gyfeirio eich cwyn, gallwch gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr yr FCA ar 0800 111 6768.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Ar Adviceguide

Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i reoli eich arian, ewch at:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i reoli eich arian, gan gynnwys benthyg arian, cynilion a phensiynau a chael cyngor ariannol. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.