Troi allan am ôl-ddyledion rhent

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gwybodaeth ynghylch troi allan am ôl-ddyledion rhent

Pwysig

Delio â'ch ôl-ddyledion rhent

Edrychwch sut gallwch chi ddelio â’ch ôl-ddyledion rhent.  

Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent, mae'n debyg y bydd eich landlord yn ceisio'ch troi chi allan. Mae hyn yn cael ei alw yn 'geisio meddiant'.

Os yw landlordiaid am geisio meddiant, rhaid i'r rhan fwyaf ohonynt ddilyn gweithdrefn benodol. Mae hyn yn golygu rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi.

Nid yw cael rhybudd bob amser yn golygu y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref erbyn y dyddiad y mae'n ei ddweud. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n dal yn rhaid i'ch landlord gael gorchymyn llys cyn y gall eich troi chi allan, ac ni all wneud cais am orchymyn llys nes bydd y cyfnod rhybudd wedi dod i ben. 'Gorchymyn adennill meddiant' yw teitl y gorchymyn llys.

Os na fyddwch chi’n gadael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn meddiannu, bydd angen i'r landlord gael 'gwarant troi allan', sy’n caniatáu i'r beilïaid ddod i'ch troi chi allan.

Fodd bynnag, mae rhai mathau o denantiaeth lle nad oes angen i'ch landlord gael gorchymyn llys i'ch troi chi allan. Mae’r rhain yn cynnwys tenantiaid sy’n byw yn yr un llety â’u landlord. Os ydych chi'n rhannu llety â'ch landlord a'i fod am eich troi chi allan, dylech gael cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth leol.

Os nad oes gan eich landlord orchymyn meddiannu eto, gallwch chi gael gwybod beth i'w wneud os byddwch chi’n gorfod mynd i'r llys oherwydd ôl-ddyledion rhent.

Os yw eich landlord yn gwahaniaethu yn eich erbyn chi, neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol

Efallai y byddwch chi’n gallu atal eich troi allan. Gallai gwahaniaethu fod yn bethau fel:

  • eich trin chi’n wahanol oherwydd pwy ydych chi

  • aflonyddu rhywiol

  • peidio â gwneud newidiadau sydd eu hangen arnoch chi os oes gennych chi anabledd

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gwneud hawliad am iawndal yn y llys. Os byddwch chi’n ennill digon o iawndal, bydd y llys yn ei ddefnyddio i leihau eich ôl-ddyledion rhent. Ewch i weld a yw eich problem tai yn achos o wahaniaethu er mwyn gweld a allwch chi amddiffyn eich troi allan neu wneud hawliad.

Mae eich landlord yn cael gorchymyn adennill meddiant

Os yw'ch landlord am eich troi chi allan am ôl-ddyledion rhent, yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen iddo gael gorchymyn llys, sef 'gorchymyn adennill meddiant'.

Unwaith y bydd eich landlord wedi cael gorchymyn adennill meddiant, efallai y bydd yn rhoi dyddiad gadael i chi.

Os ydych chi'n denant preifat gyda thenantiaeth fyrddaliadol sicr, mae'n bosibl bod eich landlord wedi cael gorchymyn adennill meddiant heb wrandawiad llys. Byddwch chi’n cael gwybod bod angen i chi adael yr eiddo dim mwy na 14 diwrnod ar ôl i'r gorchymyn gael ei roi, er y gallai fod yn bosibl gofyn am ohirio'r dyddiad hwn dan rai amgylchiadau.

Os cafodd gwrandawiad llys ei gynnal, mae'n bosibl bod un o'r canlynol wedi'i roi i'ch landlord:

  • gorchymyn meddiant llwyr

  • gorchymyn adennill meddiant ataliedig

  • gorchymyn adennill meddiant gohiriedig

Gorchmynion meddiant llwyr

Gallai gorchymyn meddiant llwyr fod wedi’i roi am un o’r rhesymau canlynol:

  • nid oeddech chi’n gallu darbwyllo'r barnwr y gallwch chi wneud eich taliadau rhent yn brydlon a thalu'r rhent sy'n ddyledus gennych chi’n ôl

  • mae gennych chi denantiaeth fyrddaliadol sicr neu denantiaeth sicr ac rydych chi wedi derbyn hysbysiad adran 8 dan 'sail 8' mwy am hysbysiadau adran 8

  • mae gennych chi denantiaeth hyblyg ac mae'r cyfnod penodol wedi dod i ben - mwy am fod yn denant hyblyg

Bydd gorchymyn meddiant llwyr yn dweud bod yn rhaid i chi adael yr eiddo erbyn dyddiad penodol. Os na fyddwch chi’n gadael erbyn y dyddiad hwn, bydd angen i'ch landlord wneud cais am 'warant troi allan'.

Efallai y bydd modd perswadio eich landlord i beidio â gwneud cais am y warant troi allan. Er enghraifft, efallai fod eich amgylchiadau ariannol wedi newid neu efallai fod eich hawliad am y Budd-dal Tai neu gostau tai’r Credyd Cynhwysol wedi dod i law er mwyn i chi allu talu'r ôl-ddyledion.

Gallwch chi gael gwybod sut i ddelio â'ch ôl-ddyledion rhent.

Dan rai amgylchiadau, efallai y bydd modd atal, gohirio neu neilltuo gwarant troi allan.

Gorchmynion adennill meddiant ataliedig

Os cafodd eich landlord orchymyn adennill meddiant gohiriedig, cewch aros yn eich cartref cyn belled â'ch bod yn gyfredol â’ch taliadau rhent ac yn talu unrhyw beth sy'n ddyledus gennych chi’n ôl. Os na fyddwch chi’n glynu wrth y trefniant hwn, gall eich landlord wneud cais i'r llys roi gwarant troi allan.

Os cafodd y gorchymyn adennill meddiant gohiriedig ei wneud dros 6 blynedd yn ôl, byddai angen i’ch landlord yn gyntaf ofyn am ganiatâd y llys i wneud cais am warant troi allan. Does dim rhaid i'ch landlord ddweud wrthych chi ei fod wedi gwneud cais am y warant.

Efallai y bydd modd perswadio eich landlord i beidio â gwneud cais am y warant troi allan. Er enghraifft, efallai fod eich amgylchiadau ariannol wedi newid neu efallai fod eich hawliad am y Budd-dal Tai neu gostau tai’r Credyd Cynhwysol wedi dod i law er mwyn i chi allu talu'r ôl-ddyledion.

Gallwch chi gael gwybod sut i ddelio â'ch ôl-ddyledion rhent.

Dan rai amgylchiadau, efallai y bydd modd atal, gohirio neu neilltuo gwarant troi allan.

Gorchmynion adennill meddiant gohiriedig

Mae gorchymyn adennill meddiant gohiriedig yn debyg i orchymyn adennill meddiant ataliedig. Mae’n golygu y cewch chi aros yn eich cartref cyn belled â'ch bod yn gyfredol â’ch taliadau rhent ac yn talu beth sy'n ddyledus gennych chi’n ôl. Os na fyddwch chi’n cadw at y trefniant hwn, gall eich landlord ofyn i'r llys am ganiatâd i'ch troi allan. Ond bydd yn rhaid iddo fynd drwy weithdrefn arall yn gyntaf.

Mae hyn yn golygu gwneud cais i'r llys am ddyddiad meddiannu ac yna, ar ôl iddo wneud hyn, gwneud cais am warant troi allan.

Rhaid i’r llys gytuno i roi dyddiad meddiannu i’ch landlord cyn y gall godi gwarant. Dim ond ar ôl i'ch landlord gael y warant y cewch chi eich gorfodi i adael yr eiddo.

Cyn iddo wneud cais am ddyddiad meddiannu, bydd yn rhaid i'ch landlord ysgrifennu atoch chi’n gyntaf, o leiaf 14 diwrnod cyn iddo wneud y cais. Rhaid iddo wneud y canlynol:

  • rhoi manylion i chi am yr ôl-ddyledion sy'n ddyledus gennych chi

  • rhoi rhybudd i chi ei fod yn mynd i wneud y cais i’r llys

  • dweud wrthych chi beth yw eich hawliau chi

Os nad ydych chi'n meddwl bod swm yr ôl-ddyledion y mae'r landlord yn dweud sy’n ddyledus gennych chi’n gywir, neu ei fod wedi cael gwybodaeth arall yn anghywir, dylech chi ymateb i'r landlord o fewn 7 diwrnod.

I gael gwybod mwy am orchmynion adennill meddiant gohiriedig, ewch i mynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent.

Efallai y bydd modd perswadio eich landlord i beidio â gwneud cais am y warant troi allan. Er enghraifft, efallai fod eich amgylchiadau ariannol wedi newid neu efallai fod eich hawliad am y Budd-dal Tai neu gostau tai’r Credyd Cynhwysol wedi dod i law a gallwch dalu'r holl ôl-ddyledion.

Gallwch chi gael gwybod sut i ddelio â'ch ôl-ddyledion rhent.

Os bydd y llys yn rhoi gwarant troi allan i’ch landlord, dan rai amgylchiadau, efallai y bydd modd atal neu neilltuo’r warant.

Mae eich landlord yn cael gwarant troi allan

Os na fyddwch chi’n gadael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn adennill meddiant a bod eich landlord yn dal eisiau eich troi allan, rhaid iddo wneud cais am warant troi allan gan y llys sirol. Awdurdod yw hwn a roddir gan y llys i'r beilïaid eich troi chi allan.

Bydd y warant yn rhoi dyddiad ac amser ar gyfer y troi allan. Byddwch chi hefyd yn cael rhybudd troi allan gan y beilïaid gyda dyddiad ac amser y troi allan.

Os nad ydych chi wedi gadael erbyn y dyddiad ar y rhybudd troi allan, bydd y beilïaid yn dod i'ch cartref ac yn eich gorfodi chi i adael.

Pwysig

Os bydd eich landlord yn ceisio eich troi chi allan heb warant troi allan

Ffoniwch yr heddlu ar 101. Os yw eich landlord yn bod yn ymosodol ac nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel, ffoniwch 999.

Os na chewch chi rybudd troi allan, gallwch wneud cais i'r llys i neilltuo’r warant meddiannu.

Os bydd eich landlord yn gofyn i'r uchel lys anfon beilïaid

Weithiau, efallai y bydd eich landlord yn gofyn i'r llys sirol am i'w achos gael ei drosglwyddo i'r uchel lys. Byddwch yn cael gwybod os bydd hyn yn digwydd. Gallai eich landlord wedyn ofyn i’r uchel lys anfon beilïaid. 

Mae’n rhaid i feilïaid yr Uchel Lys roi rhybudd i chi eich bod yn cael eich troi allan gan roi dyddiad ac amser eich troi allan. Rhaid iddynt roi rhybudd i chi o leiaf 14 diwrnod cyn iddynt eich troi chi allan. Gallwch siarad â chynghorwr i gael help.

Penderfynu a ddylech chi symud allan cyn y dyddiad troi allan

Bydd yn rhaid i chi feddwl yn ofalus iawn a ydych chi am symud allan cyn y dyddiad troi allan.

Efallai y byddwch chi am roi cymaint o amser â phosibl i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw. Os felly, efallai y gallwch chi berswadio’r llys i roi mwy o amser i chi yn yr eiddo cyn i chi orfod gadael. Gelwir hyn yn gofyn am ohirio’r warant troi allan.

Os ydych chi'n mynd i fod yn ddigartref ar ôl cael eich troi allan, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'r cyngor eich ailgartrefu chi. Os ydych chi'n meddwl y bydd yn rhaid i'r cyngor eich ailgartrefu chi, ni ddylech symud allan nes bydd y cyngor wedi cadarnhau’n ysgrifenedig ei fod yn mynd i'ch ailgartrefu chi. Gallai hyn ei atal rhag penderfynu eich bod chi’n fwriadol ddigartref. Fodd bynnag, dylech chi gofio mai dim ond dan nifer fach iawn o amgylchiadau y mae’n rhaid i’r cyngor eich ailgartrefu chi, hyd yn oed os ydych chi’n ddigartref.

Dylech chi edrych a allwch chi wneud cais am gymorth digartref os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n ddigartref.

Efallai y byddwch chi’n penderfynu peidio â symud cyn y dyddiad troi allan os ydych chi’n meddwl bod gennych chi siawns dda o berswadio'r landlord i adael i chi aros, neu o berswadio'r llys i atal y troi allan.

Efallai y gallwch berswadio eich landlord i adael i chi aros yn yr eiddo os yw eich amgylchiadau ariannol wedi newid, neu os yw eich hawliad am y Budd-dal Tai neu gostau tai'r Credyd Cynhwysol wedi dod i law a'ch bod nawr yn gallu talu'n ôl yr hyn sy'n ddyledus gennych.

Gallwch gael gwybod sut i ddelio â'ch ôl-ddyledion rhent.

Os na allwch chi berswadio'ch landlord i adael i chi aros, efallai y gallwch chi berswadio'r llys i atal y troi allan os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • gallwch chi nawr dalu eich rhent a'ch ôl-ddyledion

  • nid yw eich landlord wedi dilyn y gweithdrefnau'n iawn

Efallai y bydd arnoch chi fwy os byddwch chi’n aros yn hirach yn yr eiddo

Dylech gofio po hiraf y byddwch chi’n aros yn yr eiddo, y mwyaf o arian allai fod yn ddyledus gennych chi.

Os oes unrhyw weithdrefnau cyfreithiol pellach, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau'r llys, gan gynnwys costau eich landlord. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhent i’ch landlord (a elwir yn elw mesne) hyd at y diwrnod y byddwch chi’n gadael, er nad yw hyn bob amser yn wir.

Os ydych chi'n ystyried aros yn eich cartref ar ôl cael rhybudd troi allan, dylech chi gael cyngor gan gynghorwr tai arbenigol. Gallwch chi gael. You can cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Beth allwch chi ei wneud ar ôl codi’r warant

Efallai y bydd modd gofyn i’r warant troi allan gael ei atal neu ei neilltuo. Os bydd y llys yn cytuno â hyn, byddai’n golygu na allai’r troi allan fynd rhagddo.

Atal y warant

Os bydd llys yn cytuno i atal y warant, byddai hyn yn atal y troi allan rhag digwydd am gyfnod amhenodol.

Os ydych chi am wneud cais i atal y warant, bydd angen i chi wneud hyn cyn i'r troi allan ddigwydd.

Bydd yn rhaid i chi roi digon o wybodaeth i berswadio’r barnwr y dylid atal y warant. Er enghraifft, os cafodd eich landlord orchymyn adennill meddiant gohiriedig neu ataliedig, bydd angen i chi esbonio pam nad ydych chi wedi gallu glynu wrth y trefniant y cytunwyd arno a beth y byddwch chi’n ei wneud yn y dyfodol i wneud yn siŵr eich bod yn cadw ato. Nid yw'n ddigon dweud y byddwch chi’n ddigartref.

Os oes gennych chi reswm da dros atal y warant, yna mae'n werth gwneud cais i'r llys, hyd yn oed os yw ar yr un diwrnod ag y byddwch chi’n cael eich troi allan. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu ffi oni bai eich bod yn hawlio budd-daliadau penodol neu fod gennych chi incwm isel.

Os ydych chi am wneud cais i atal gwarant troi allan, dylech chi gael cyngor gan gynghorwr tai arbenigol ar unwaith. Gallwch chi gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Os bydd y barnwr yn penderfynu atal y troi allan, dylech chi gysylltu â swyddfa’r beilïaid i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod hyn.

Os ydych chi'n cael eich troi allan

Os bydd y barnwr yn penderfynu na ddylid atal y warant, bydd y troi allan yn mynd rhagddo a bydd angen i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw'n gyflym iawn.

Neilltuo gwarant troi allan

Os bydd y llys yn cytuno i neilltuo gwarant troi allan, mae hynny fel pe na bai'r warant erioed wedi cael ei chodi yn y lle cyntaf. Gallwch chi wneud cais i neilltuo gwarant troi allan naill ai cyn neu ar ôl i chi gael eich troi allan.

Dan ychydig iawn o amgylchiadau fydd llys yn neilltuo gwarant troi allan. Mae’r rhain yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol:

  • cafodd y warant ei rhoi yn anghywir cyn y dyddiad ar y possession gorchymyn adennill meddiant

  • ni chyflwynwyd rhybudd troi allan

  • mae eich landlord wedi rhoi gwybodaeth anghywir i’r llys yn fwriadol neu nid oedd wedi rhoi gwybodaeth i’r llys yr oedd ymwybodol ohoni am eich Budd-dal Tai neu’ch Credyd Cynhwysol, er enghraifft.

Os ydych chi am wneud cais i neilltuo gwarant troi allan, dylech gael cyngor gan gynghorwr tai arbenigol. Gallwch chi gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Arian a chyllid

Os yw eich sefyllfa ariannol wedi newid a'ch bod chi’n cael trafferth talu eich rhent a biliau eraill, defnyddiwch adnodd cyllidebu i weld ble yn union mae eich arian yn mynd bob mis. Gallech chi hefyd ddarllen am ddelio â'ch ôl-ddyledion rhent neu gael help gyda biliau.  

Rhagor o gymorth

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 24 Ionawr 2020