Gweld a all eich cyflogwr newid eich contract
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os yw'ch cyflogwr am newid un o delerau'ch contract, gelwir hyn yn 'amrywio contract'.
Dim ond os yw o leiaf un o'r rhain yn berthnasol y dylai eich cyflogwr newid eich contract:
rydych yn cytuno i'r newid
mae eich contract yn dweud y gall eich cyflogwr wneud rhai newidiadau - gelwir hyn yn 'gymal amrywio'
mae'r gyfraith yn newid - er enghraifft os ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a bod y gyfradd yn newid
Os byddwch chi’n cael cyflogwr newydd oherwydd bod y cwmni’n cael ei werthu, neu oherwydd bod gwasanaeth rydych chi’n gweithio ynddo yn trosglwyddo i gyflogwr newydd, gelwir hyn yn drosglwyddiad TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth.)
Os ydych chi’n cael eich trosglwyddo o dan TUPE, efallai y bydd gennych chi fwy o warchodaeth.
Newidiadau y gallai eich cyflogwr eu gwneud i'ch contract
Dyma enghreifftiau o newidiadau y gallai eich cyflogwr fod eisiau eu gwneud:
newid oriau gwaith neu batrymau shifft
newid rôl eich swydd neu eich disgrifiad swydd
gostwng cyfradd eich cyflog
lleihau gwyliau â thâl a thâl salwch a gewch chi ar ben eich hawliau statudol
cynyddu’r cyfnod rhybudd y mae’n rhaid i chi ei roi iddyn nhw os byddwch yn gadael
newid eich lleoliad gwaith
Os byddwch chi’n cael cyflogwr newydd drwy drosglwyddiad TUPE
Fel arfer, bydd gennych fwy o hawliau os bydd eich cyflogwr naill ai:
yn gwerthu’r sefydliad rydych chi’n gweithio ynddo, neu ran ohono
yn trosglwyddo'r gwasanaeth rydych chi'n gweithio ynddo - er enghraifft, os ydych chi'n gweithio ar gontract gwasanaeth arlwyo a bod y contract yn cael ei ddyfarnu i sefydliad newydd
Os ydych chi wedi cael eich trosglwyddo i gyflogwr newydd, fel arfer, dydyn nhw ddim yn cael newid eich contract os yw'n uniongyrchol gysylltiedig â'r trosglwyddo. Er enghraifft, fel arfer ni allan nhw ostwng eich cyflog dim ond am eu bod yn talu llai i rywun sydd eisoes yn gweithio iddyn nhw mewn rôl debyg.
Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dderbyn unrhyw newidiadau sy’n dod o dan gymal amrywio yn eich contract.
Os yw'ch cyflogwr newydd am wneud newidiadau i'ch contract ac nad yw'n dod o dan gymal amrywio, dylech chi siarad â chynghorwr.
Edrychwch a oes gan eich contract gymal amrywio
Os oes cymal amrywio yn eich contract cyflogaeth, mae’n bosibl y gall eich cyflogwr wneud rhai newidiadau i'ch contract. Er enghraifft, gallai cymal amrywio ddweud y gellir newid eich man gwaith arferol o dan rai amodau.
Edrychwch ar eich contract i weld a oes cymal amrywio ynddo.
Dylai eich cyflogwr ddweud wrthych ymlaen llaw os yw am ddefnyddio cymal amrywio i newid eich contract.
Fyddan nhw ddim yn gallu dibynnu ar gymal amrywio os yw’r newid yn afresymol, neu’n cael ei gyflwyno heb rybudd.
Er enghraifft, gallai fod yn afresymol os oes gennych chi blant a byddai eich cyfrifoldebau gofalu yn mynd yn anodd pe bai eich contract yn newid.
Dweud wrth eich cyflogwr nad ydych yn cytuno i newid
Os ydych chi'n anhapus gyda'r newid y bydd eich cyflogwr yn ei wneud i'ch contract ac nad ydych chi am ei dderbyn, mae camau y dylech chi eu dilyn. Pan fyddwch yn cysylltu â'ch cyflogwr, mae bob amser yn well rhoi pethau ar bapur, er mwyn i chi allu cadw copi.
Dywedwch eich bod yn gweithio ‘dan brotest’
Dylech chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn gweithio 'dan brotest' nes bydd y broblem wedi'i datrys. Mae hyn yn dangos nad ydych chi wedi derbyn y newid, ond eich bod yn barod i geisio datrys pethau.
Mae’n bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn gynted ag y byddwch yn gwybod am y newid. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i'ch cyflogwr ar unwaith a'ch bod yn parhau i weithio fel arfer, gallai olygu y byddwch yn cael eich gweld fel rhywun sydd wedi cytuno i hynny.
Dweud na fyddwch yn derbyn y newid
Dywedwch yn glir wrth eich cyflogwr na fyddwch yn derbyn y newid.
Os nad yw eich cyflogwr wedi rhoi unrhyw rybudd i chi am y newidiadau, neu os nad yw wedi ymgynghori â chi mewn unrhyw ffordd, dylech chi grybwyll hyn.
Dylech chi hefyd ofyn am y rhesymau dros y newid ac, os oes modd, awgrymu ffyrdd eraill o wneud pethau a allai fodloni anghenion eich cyflogwr heb achosi problem i chi.
Os ydych chi am barhau i weithio, dywedwch y byddwch yn parhau i weithio dan brotest nes byddwch wedi dod i gytundeb gyda'ch cyflogwr.
Ceisio dod i gytundeb
Mae angen i chi geisio datrys pethau cyn gynted â phosibl. Os bydd yn cymryd amser a'ch bod yn dal ati i weithio, gellid cymryd yn gyfreithiol eich bod chi wedi cytuno i'r newid - hyd yn oed os ydych chi'n gweithio dan brotest.
Os ydych chi’n credu’ch bod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn
Weithiau, gallai newid i'ch contract fod yn wahaniaethol, er enghraifft os ydych chi'n anabl a'i fod yn achosi problem i chi sy'n gysylltiedig â'ch anabledd.
Os ydych chi’n meddwl bod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, gallwch weld a yw eich problem yn y gwaith yn enghraifft o wahaniaethu. Os ydych chi'n ystyried gwneud hawliad gwahaniaethu, dylech chi ddal i ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn gweithio dan brotest.
Os bydd eich cyflogwr yn gostwng cyfradd eich cyflog
Mae’n bosibl y gallwch chi wneud hawliad am ddidyniad heb awdurdod o gyflog os nad yw’r newid yn y contract yn dod o dan gymal amrywio. Byddai hyn yn golygu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich cyflogwr, felly dylech chi siarad â chynghorwr.
Os ydych chi'n ystyried gwneud hawliad am ddidyniad heb awdurdod, dylech chi ddweud wrth eich cyflogwr o hyd eich bod yn gweithio dan brotest.
Os bydd eich cyflogwr yn dweud y bydd yn eich diswyddo oherwydd na fyddwch yn cytuno i'r newid
Gallai eich cyflogwr naill ai:
eich diswyddo
eich diswyddo ac yna cynnig swydd newydd i chi gyda thelerau newydd
If your employer dismisses you
Os byddan nhw'n eich diswyddo, mae’n bosibl y gallwch chi ddwyn achos diswyddo annheg neu gymryd camau cyfreithiol eraill yn eu herbyn. Mae’n dibynnu ar eich sefyllfa a gall fod yn gymhleth.
Gall fod yn anodd ennill hawliad cyfreithiol os oedd gan eich cyflogwr reswm busnes da dros newid y contract. Os ydych chi’n ystyried cymryd camau cyfreithiol, dylech chi siarad â chynghorwr.
Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo ac yna’n cynnig swydd newydd i chi
Weithiau gelwir hyn yn ‘diswyddo ac ailgyflogi’ (‘fire and re-hire’ yn Saesneg). Dylent ddilyn cod ymarfer y llywodraeth ar ddiswyddo ac ailgyflogi.
Mae’r cod ymarfer yn dweud y dylai eich cyflogwr roi gwybod i chi:
pa newidiadau y maen nhw am eu gwneud
pam eu bod yn meddwl bod angen y newidiadau hynny
pa ddewisiadau eraill y maen nhw wedi’u hystyried
Gallwch ddarllen y cod ymarfer ar ddiswyddo ac ailgyflogi ar GOV.UK.
Dylai eich cyflogwr roi’r wybodaeth hon i chi yn ysgrifenedig cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch diswyddo ac ail-gyflogi unrhyw un. Dylent hefyd wrando ar eich barn chi a chymryd eich adborth o ddifrif.
Os ydych chi’n cytuno i gymryd y swydd newydd, dylai eich cyflogwr roi contract ysgrifenedig newydd i chi o fewn 1 mis.
Os ydych chi’n meddwl nad yw’ch cyflogwr wedi dilyn y cod ymarfer, dylech siarad ag ymgynghorydd.
Os ydych chi’n ystyried ymddiswyddo oherwydd y newid
Dylech chi ystyried a fyddai’n well i chi oddef y newid wrth i chi chwilio am swydd arall.
Os byddwch yn ymddiswyddo, efallai y gallwch wneud hawliad am ddiswyddo deongliadol wedyn. Fodd bynnag, mae'n anodd iawn profi diswyddo deongliadol, felly nid oes llawer o hawliadau'n ennill. Gallwch weld a oes gennych chi hawliad diswyddo deongliadol.
Mae’n bosibl y gallwch chi hefyd gymryd camau cyfreithiol eraill yn erbyn eich cyflogwr. Mae’n dibynnu ar eich sefyllfa a gall fod yn gymhleth, felly dylech chi siarad â chynghorwr.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 15 Mawrth 2021