Ymddiswyddo o'ch swydd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallai ymddiswyddo deimlo fel dewis da os ydych yn cael eich trin yn wael yn y gwaith. Serch hynny, mae’n gam mawr ac mae'n bwysig meddwl am eich holl ddewisiadau’n gyntaf. Gallech chi geisio datrys y broblem mewn ffordd wahanol neu ddod o hyd i swydd arall cyn ymddiswyddo. Os ydych yn penderfynu ymddiswyddo, mae yna gamau y dylech eu dilyn i'w wneud yn iawn.

Gweld a oes ffordd arall o ddatrys y broblem

Mae'n werth meddwl a fyddech chi eisiau aros yn eich swydd pe bai'r broblem wedi'i datrys. Efallai y byddwch yn gallu cael eich cyflogwr i ddatrys pethau heb orfod ymddiswyddo.

Gallech chi roi cynnig ar y canlynol:

  • siarad â'ch cyflogwr am y broblem

  • gofyn i'ch undeb siarad â'ch cyflogwr ar eich rhan, os ydych chi'n aelod

  • gwneud cwyn – hynny yw, cwyn ffurfiol na all eich cyflogwr ei hanwybyddu

  • gofyn i'ch cyflogwr a fyddai’n fodlon trefnu proses gyfryngu – sef lle mae rhywun arall yn ceisio eich helpu i gytuno

  • dechrau cymodi cynnar i ddatrys y broblem heb fynd i'r llys

Darllenwch beth i'w wneud nesaf os ydych yn meddwl y gallech chi roi cynnig ar ddewisiadau eraill cyn ymddiswyddo.

Os ydych yn ystyried ymddiswyddo oherwydd eich bod yn cael eich trin yn wael, cadwch ddyddiadur o’r hyn sy’n digwydd. Bydd hyn yn rhoi tystiolaeth ddefnyddiol i chi os gwnewch chi benderfynu gwneud hawliad yn erbyn eich cyflogwr yn nes ymlaen.

Gweld a allwch ddod o hyd i swydd newydd

Os nad ydych chi eisiau dod o hyd i ffordd o aros yn eich swydd, mae'n aml yn haws dod o hyd i swydd newydd cyn gadael eich hen swydd.

Gallai hyn olygu na fyddwch yn colli incwm nac yn gorfod poeni am hawlio budd-daliadau. Ni fyddai'n rhaid i chi ateb cwestiynau anodd gan gyflogwr newydd ynglŷn â pham y gwnaethoch chi ymddiswyddo heb swydd arall i fynd iddi.

Os ydych yn dal eisiau ymddiswyddo

Os nad oes gennych swydd arall i fynd iddi, dylech gyfrifo eich cyllideb. Bydd hyn yn dweud wrthych am ba mor hir y byddwch yn gallu ymdopi cyn dod o hyd i swydd arall. Os nad yw’n amser hir iawn, gallai fod yn well aros ychydig yn hirach cyn i chi ymddiswyddo. 

Os ydych chi neu’ch partner yn cael unrhyw fudd-daliadau, gwiriwch a fydd stopio gweithio yn effeithio arnynt. Er enghraifft, gallech chi gael llai o Gredyd Cynhwysol am 3 mis neu fwy os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud nad oedd gennych chi reswm da dros ymddiswyddo. Caiff hyn ei alw’n sancsiwn.

Siaradwch â chynghorwr os oes angen i chi ystyried sut gallai eich budd-daliadau newid.

Os nad oes gennych chi swydd arall i fynd iddi, gallwch hawlio budd-daliadau ar unwaith.

Gallwch hawlio budd-daliadau cyn gynted ag y byddwch yn gwybod y dyddiad rydych yn rhoi'r gorau i weithio. Bydd angen i chi ddangos bod gennych reswm da dros ymddiswyddo, neu efallai y byddwch yn cael llai o arian am tua 3 mis. Caiff hyn ei alw’n sancsiwn.

Dylech hefyd wirio pa fudd-daliadau eraill y gallech chi eu cael.

Mae yna rai pethau ychwanegol y dylech chi feddwl amdanynt cyn penderfynu ymddiswyddo, yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os ydych yn credu eich bod yn cael eich gorfodi i adael

Os yw eich cyflogwr wedi dweud wrthych y bydd yn eich diswyddo os nad ydych chi’n ymddiswyddo, mae hyn yn gyfystyr â diswyddiad. Gwiriwch a ydych yn cael eich diswyddo’n annheg.

Os yw eich cyflogwr yn eich trin yn wael er mwyn gwneud i chi ymddiswyddo, efallai y gallwch chi wneud hawliad am ddiswyddo deongliadol.

Os nad ydych yn teimlo’n ddiogel yn dychwelyd i weithio

Mae rhai problemau yn ddigon difrifol fel mai ymddiswyddo a gadael heb rybudd yw’r opsiwn gorau o bosibl. Mae ymddiswyddo’n dal yn gam mawr, ond gall fod yn well nag aros mewn swydd sy’n eich rhoi mewn perygl.

Er enghraifft, os ydych chi’n teimlo:

  • eich bod yn cael eich bwlio dro ar ôl tro gan eich cydweithwyr neu'ch cyflogwr

  • eich bod yn ofni mynd i'r gwaith

  • nad ydych yn teimlo'n ddiogel yn y gwaith

Dywedwch wrth eich cyflogwr yn ysgrifenedig pam rydych yn ymddiswyddo. Bydd hyn yn golygu bod gennych chi dystiolaeth yn dangos pam y gwnaethoch chi ymddiswyddo os ydych eisiau cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich cyflogwr.

Er enghraifft, os oedd eich cyflogwr yn gwybod eich bod yn cael eich bwlio ond heb wneud unrhyw beth am y peth, efallai y byddwch yn gallu gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth am ddiswyddo deongliadol.

Os mai ar lafar y gwnaethoch chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn ymddiswyddo, dylech anfon e-bost neu lythyr ar ôl hynny i gadarnhau pam eich bod yn gadael.

I gael help i benderfynu a yw'n werth gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth, siaradwch â chynghorwr.

Os nad ydych yn y gwaith oherwydd salwch

Os ydych yn ymddiswyddo, gallech chi hawlio budd-daliadau, ond ni chewch fwy o arian nag y byddech yn ei gael ar dâl salwch. Os byddwch yn aros yn eich swydd wrth i chi wella, byddwch yn dal i gael eich talu ac yn cronni hawl i wyliau. Gallwch barhau i archwilio ffyrdd o ddatrys y broblem tra rydych i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.

Gwiriwch a all eich cyflogwr roi unrhyw gymorth i chi – er enghraifft, efallai y bydd yn cynnig gwasanaeth iechyd galwedigaethol neu gwnsela i’ch helpu i ddelio â straen.

Gallech hefyd ofyn i’ch cyflogwr a yw’n mynd i wneud newidiadau i'ch helpu i ddychwelyd i'ch swydd. Er enghraifft, gallech ofyn am gael dod yn ôl i weithio mewn tîm gwahanol neu am ychydig oriau'r wythnos i ddechrau.

Os ydych yn anabl, mae’n rhaid i’ch cyflogwr wneud ‘addasiadau rhesymol’ i’ch helpu i wneud eich gwaith. Gallwch chi ddysgu mwy am sut i ofyn am addasiadau rhesymol.

Os ydych yn destun proses ddisgyblu

Os ydych yn ymddiswyddo ar ganol proses ddisgyblu neu ymchwiliad i gamymddwyn, gallai eich cyflogwr sôn am hyn ar unrhyw eirda y mae’n ei roi i chi. Gallai hyn ei gwneud hi'n anoddach i chi ddod o hyd i swydd newydd.

Gallai hefyd olygu y bydd eich cyflogwr yn parhau â’r broses ddisgyblu yn eich absenoldeb ac na allwch chi ddylanwadu ar y canlyniad.

Gallai ymddiswyddo tra byddwch mewn proses ddisgyblu hefyd olygu na allwch chi gael Lwfans Ceisio Gwaith na Chredyd Cynhwysol am tua 3 mis.

Gallwch gael help os ydych chi’n destun proses ddisgyblu a darllen mwy am gael geirda ar gyfer swydd.

Os ydych yn credu y gallech chi gael eich diswyddo

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am dros 2 flynedd, fel arfer mae'n well i chi aros i gael eich diswyddo, oherwydd byddwch yn debygol o gael taliad diswyddo. Os ydych am aros gyda'ch cyflogwr, efallai y bydd yn cynnig swydd newydd i chi.

Gallwch ddarllen faint o dâl diswyddo fyddech chi’n ei dderbyn a gwirio beth yw’ch opsiynau os yw eich cyflogwr yn cynnig swydd wahanol i chi.

Sut i ymddiswyddo

Os ydych yn siŵr eich bod chi eisiau ymddiswyddo, dilynwch y camau hyn i gael y cyfle gorau o gael geirda da ac i sicrhau y cewch eich talu am bopeth sy'n ddyledus i chi.

Gwirio faint o rybudd sydd angen i chi ei roi i’ch cyflogwr

Dylech chi allu dod o hyd i faint o rybudd sydd angen i chi ei roi yn eich contract neu’ch llawlyfr staff. Os nad yw'n dweud dim byd, bydd angen i chi roi isafswm rhybudd o hyd – gallwch wirio eich cyfnod rhybudd a darllen beth i’w wneud os ydych eisiau rhoi llai o rybudd.

Rhoi rhybudd ysgrifenedig i'ch cyflogwr

Gallech chi ysgrifennu llythyr neu e-bost, er mwyn i chi gael cofnod o sut a phryd y gwnaethoch chi ymddiswyddo.

Dylai ddweud:

  • faint o rybudd rydych yn ei roi

  • pryd fydd eich diwrnod olaf

Nid oes rhaid i chi roi rheswm dros eich ymddiswyddiad. Serch hynny, os ydych yn ymddiswyddo oherwydd rhywbeth a wnaeth eich cyflogwr, dylech ddweud hynny yn y llythyr. Bydd hyn yn rhoi tystiolaeth i chi os ydych yn penderfynu cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.

Gwirio eich hawl i dâl gwyliau

Os nad ydych wedi cymryd yr holl wyliau y mae gennych hawl iddynt, gofynnwch i'ch cyflogwr a oes angen i chi eu cymryd yn ystod eich cyfnod rhybudd neu a allwch chi gael eich talu amdanynt.

Os ydych wedi cymryd mwy o wyliau nag y mae gennych hawl iddynt, efallai y bydd eich cyflogwr yn cymryd yr arian o'ch cyflog terfynol.

Gallwch chi wirio a oes unrhyw wyliau yn ddyledus i chi.

Gwirio eich slip cyflog terfynol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael eich talu am bopeth roeddech chi’n ei ddisgwyl, gan gynnwys unrhyw fonws neu gomisiwn roeddech yn gymwys i'w gael. Os nad ydych wedi cael hyn, dywedwch wrth eich cyflogwr.

Os na fydd eich cyflogwr yn talu, gallwch gymryd camau i gael yr arian sy’n ddyledus i chi. Os oes gennych yswiriant cartref neu yswiriant car efallai y byddwch yn gallu cael cyngor cyfreithiol am ddim drwy eich polisi – edrychwch ar eich papurau yswiriant am fanylion.

Os oeddech chi mewn cynllun pensiwn yn y gweithle, cofiwch gadw cofnod o'r manylion.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.