Os bydd eich cyflogwr yn dweud bod arnoch chi arian iddyn nhw

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan fyddwch chi’n gadael swydd, dim ond ar gyfer rhywbeth rydych chi wedi cytuno'n benodol i'w wneud yn ysgrifenedig y gall eich cyflogwr ofyn i chi dalu arian yn ôl.

Hyd yn oed os oes arnoch chi arian i'ch cyflogwr, dim ond os oes cytundeb ysgrifenedig yn dweud eu bod nhw’n cael gwneud hynny y gallan nhw ei dynnu o'ch cyflog.

Gweld a oes arnoch chi arian i'ch cyflogwr

Gallai eich cyflogwr ddweud bod arnoch chi arian iddyn nhw am bethau fel:

  • benthyciadau, fel benthyciad tocyn tymor teithio neu fenthyciad car

  • tâl gwyliau

  • cyrsiau hyfforddi ac addysgol y gwnaethon nhw dalu amdanyn nhw

  • tâl mamolaeth cytundebol

    - mae hwn yn dâl ychwanegol sy'n aml yn cynnwys amodau ynglŷn â dychwelyd i'r gwaith am gyfnod penodol ar ôl absenoldeb mamolaeth

Edrychwch ar eich contract neu unrhyw gytundebau ysgrifenedig eraill i weld beth maen nhw'n ei ddweud ynglŷn â phryd y bydd arnoch chi arian i'ch cyflogwr os byddwch chi'n gadael eich swydd. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi llofnodi cytundeb ar gyfer benthyciad tocyn tymor yn dweud y byddech chi’n ei dalu’n ôl i gyd os byddwch chi’n gadael cyn iddo gael ei dalu’n ôl.

Enghraifft

Mae Jo yn weithiwr cymdeithasol ac yn ddiweddar rhoddodd rybudd y byddai’n gadael. 18 mis yn ôl talodd ei chyflogwr iddi fynychu cwrs i’w helpu i gymhwyso’n llawn. Mae ei chontract yn dweud bod yn rhaid iddi dalu unrhyw gostau dysgu yn ôl os na fydd yn aros gyda'i chyflogwr am 2 flynedd ar ôl cwblhau cwrs.

Mae cyflogwr Jo yn cael gofyn iddi dalu costau’r cwrs yn ôl.

Pe bai Jo wedi gohirio ymddiswyddo tan 2 flynedd ar ôl gorffen y cwrs, ni fyddai wedi gorfod talu ei chyflogwr yn ôl.

Os yw eich cyflogwr yn dweud y bydd yn tynnu arian o'ch cyflog oherwydd na wnaethoch chi roi digon o rybudd, dylech chi gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. .

Os bydd eich cyflogwr yn dweud eich bod chi wedi cymryd gormod o wyliau

Y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw edrych ar eich cofnod gwyliau i weld a yw'n adlewyrchu'r gwyliau rydych chi wedi'u cymryd.

Edrychwch ar eich contract neu os oes cytundeb ysgrifenedig sy'n dweud beth y mae'n rhaid i chi ei wneud os ydych chi wedi cymryd gormod o wyliau pan fyddwch chi’n gadael swydd. Efallai y bydd yn dweud bod yn rhaid i chi dalu'n ôl i'ch cyflogwr neu weithio diwrnodau ychwanegol heb dâl. Dim ond os oes cytundeb ysgrifenedig y mae eich cyflogwr yn gallu eich gorfodi i'w talu'n ôl neu weithio diwrnodau ychwanegol.

Os yw'n ysgrifenedig - er enghraifft yn eich contract neu mewn cytundeb ysgrifenedig - holwch i weld a yw hefyd yn dweud bod eich cyflogwr yn gallu tynnu'r arian sy'n ddyledus gennych chi o'ch cyflog terfynol.

Os nad yw’n ysgrifenedig, nid oes gan eich cyflogwr hawl gyfreithiol i dynnu arian o'ch cyflog terfynol, hyd yn oed os oes angen i chi ad-dalu'r gwyliau neu weithio oriau ychwanegol. Os byddan nhw’n ei ddidynnu, mae'n ddidyniad heb awdurdod hyd yn oed os oes arnoch chi arian iddyn nhw.

Os nad yw'r cyflogwr yn ei ddidynnu o'ch cyflog terfynol ac nad ydych chi’n ei dalu'n ôl, mae gan eich cyflogwr hawl i fynd â chi i'r llys i'w gael. Dylech chi gael help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os yw eich cyflogwr yn gofyn am arian nad oes arnoch chi

Mae'n well siarad â'ch cyflogwr cyn gynted â phosib, yn enwedig os ydych chi'n meddwl y gallai dynnu arian o'ch cyflog. Esboniwch pam eich bod chi’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad - cyfeiriwch at eich contract neu eich telerau ac amodau os oes angen.

Peidiwch ag anwybyddu eich cyflogwr os ydyn nhw’n gofyn i chi dalu arian yn ôl. Os na fyddwch chi'n talu, fe allen nhw fynd â chi i'r llys.

Bydd y llys yn edrych ar eich contract ac unrhyw gytundebau ysgrifenedig eraill i benderfynu a oes arnoch chi’r arian. Os oes arnoch chi’r arian, mae’n debyg y byddan nhw’n gorchymyn i chi ei dalu’n ôl.

Os na allwch chi dalu'ch cyflogwr yn ôl ar unwaith

Os oes arnoch chi'r arian, edrychwch i weld beth mae eich contract yn ei ddweud am sut mae angen i chi dalu eich cyflogwr yn ôl. Dydyn nhw ddim yn cael tynnu arian o’ch cyflog oni bai fod eich contract yn dweud eu bod nhw’n cael gwneud hynny, hyd yn oed os oes arnoch chi arian iddyn nhw.

Os yw eich cyflogwr yn cael tynnu'r arian o'ch cyflog ond y byddai hyn yn achosi problemau ariannol i chi, siaradwch â nhw cyn gynted â phosibl. Esboniwch pam na allwch chi fforddio talu cymaint ar unwaith a chynnig talu'r arian mewn rhandaliadau.

Os nad oes gan eich cyflogwr gytundeb gyda chi i dynnu arian o'ch cyflog, bydd angen i chi siarad â nhw i wneud trefniant i dalu. Gofynnwch a allwch chi ei dalu'n ôl mewn rhandaliadau.

Os ydych chi'n rhan o undeb llafur, efallai y byddan nhw’n gallu rhoi cymorth i chi. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n gallu negodi gyda'ch cyflogwr neu fynd i gyfarfod gyda chi.

Os yw eich cyflogwr wedi tynnu arian o'ch cyflog

Edrychwch ar eich slip cyflog terfynol i wneud yn siŵr eich bod chi wedi cael popeth roeddech chi’n ei ddisgwyl. Os yw eich cyflogwr wedi cymryd arian heb gytundeb ysgrifenedig i ddweud eu bod yn cael gwneud hynny, efallai y gallwch chi ei gael yn ôl.

Dechreuwch drwy siarad â’ch cyflogwr. Esboniwch pam eich bod chi’n meddwl eu bod nhw wedi tynnu arian o'ch cyflog ar gam a gofynnwch iddyn nhw dalu'r arian yn ôl i chi cyn gynted â phosibl. Os byddan nhw’n gwrthod eich talu'n ôl, efallai y gallwch chi wneud cais i dribiwnlys cyflogaeth am ddidyniadau heb eu hawdurdodi o'ch cyflog.

Dylech chi gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i weld a oes gennych chi achos ai peidio.

Os yw eich cyflogwr wedi cymryd arian ar gyfer hyfforddiant oedd yn angenrheidiol ar gyfer eich swydd, rhaid iddyn nhw dalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf i chi. Gweld beth i’w wneud os nad ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Yr unig amser mae eich cyflogwr yn gallu cymryd arian heb unrhyw gytundeb ysgrifenedig yw cymryd gordaliad cynharach o gyflog yn ôl.

Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol oherwydd eich bod chi wedi gorfod talu arian i’ch cyflogwr

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio budd-daliadau os nad ydych chi wedi dechrau swydd newydd eto. Gallwch chi weld pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael.

Os ydych chi'n poeni am fynd i ddyled, cyfrifwch eich cyllideb i weld a fyddai gennych chi ddigon o arian i fyw arno.

Dylech chi hefyd gael cyngor am unrhyw ddyledion sydd gennych chi’n barod.

Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno ar ôl gadael eich swydd, efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth brys. Gallwch chi ddod o ryd i ragor o wybodaeth am fanciau bwyd a chymorth arall yn eich ardal chi.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.