Edrychwch i weld beth yw eich hawliau yn y gwaith os ydych chi dan 18 oed
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Fel arfer, bydd gennych fwy o hawliau yn y gwaith nag oedolyn ac efallai na fydd yn rhaid i chi weithio cymaint o oriau.
Mae’n syniad da i edrych ar eich oedran gadael ysgol ar wefan GOV.UK oherwydd mae eich hawliau’n dibynnu ar a ydych chi wedi cyrraedd yr oedran hwn.
Os ydych chi’n rhy ifanc i adael yr ysgol, edrychwch ar eich hawliau cyflogaeth a’ch oriau gwaith ar GOV.UK.
Os ydych chi wedi gadael yr ysgol, neu wedi aros yn yr ysgol ar ôl y cyfnod y gallech chi wedi gadael, mae eich hawliau'n wahanol.
Faint o oriau y dylech chi weithio?
Fel arfer, ni ddylid gofyn i chi weithio mwy na 40 awr yr wythnos neu 8 awr y dydd.
Mae gan gyflogwr yr hawl i ofyn i chi weithio am fwy o amser mewn amgylchiadau eithriadol. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gallan nhw ofyn hyn:
os nad oes unrhyw un sy’n 18 oed neu'n hŷn ar gael i wneud y gwaith
maen nhw eich angen chi oherwydd ei fod yn brysur yn sydyn neu i gadw’r gwasanaeth i fynd
nad yw’r gwaith yn effeithio ar eich addysg na'ch hyfforddiant
Gallai hyn fod, er enghraifft, os ydych chi'n gweithio mewn cartref gofal a bod gwaith ychwanegol oherwydd bod nifer o breswylwyr yn sâl. Os yw'r oedolion a fyddai fel arfer yn gwneud shifft hefyd yn sâl, gellir gofyn i chi weithio.
Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed, mae gennych hawl i gael cyfnod rhesymol o amser o’r gwaith gyda thâl i astudio neu i gael hyfforddiant. Dylech gael eich cyfradd fesul awr arferol am weithio. I benderfynu beth sy'n rhesymol, bydd eich cyflogwr yn ystyried y canlynol:
faint o amser o'r gwaith fydd arnoch ei angen
gofynion eich cwrs
eu hanghenion busnes – er enghraifft, a allai rhywun arall wneud eich gwaith
Pa adegau o’r dydd y gallwch chi weithio?
Yn y rhan fwyaf o swyddi, ni ellir gofyn i chi weithio rhwng 10pm a 6am fel arfer. Os yw eich contract yn dweud bod yn rhaid i chi weithio tan 11pm, mae hynny'n iawn ond ni ddylech ddechrau gweithio cyn 7am y bore wedyn.
Gellir gofyn i chi weithio ar adegau eraill mewn amgylchiadau eithriadol. Gallai hyn fod, er enghraifft, os oes llifogydd wedi bod a bod yn rhaid i chi helpu i glirio.
Mewn rhai swyddi, gall eich cyflogwr ofyn i chi weithio yn y nos os yw pob un o'r amodau canlynol yn berthnasol:
os nad oes unrhyw un sy’n 18 oed neu'n hŷn ar gael i wneud y gwaith
mae’n brysur yn sydyn neu mae eich angen i gadw’r gwasanaeth i fynd
ni fydd y gwaith yn effeithio ar eich addysg na'ch hyfforddiant
rydych yn cael eich goruchwylio gan oedolyn - os yw hynny'n angenrheidiol er eich diogelwch
rydych chi’n cael amser i orffwyso er mwyn gwneud iawn am y gwaith nos a wnaethoch - rhagor o wybodaeth am gael cyfnod gorffwyso ar ôl gweithio gyda’r nos ar GOV.UK
Bydd yr oriau y gellir gofyn i chi eu gweithio yn dibynnu ar y swydd:
Amser y gallwch chi weithio | Math o swydd |
---|---|
Amser y gallwch chi weithio
Rhwng 10pm a 6am |
Math o swydd
Chwaraeon Hysbysebu Mewn ysbyty Gwaith diwylliannol neu artistig |
Amser y gallwch chi weithio
Hyd at hanner nos neu o 4am ymlaen |
Math o swydd
Gwesty neu wasanaeth arlwyo Manwerthu, er enghraifft mewn siop Tafarn, bwyty, bar neu fecws Amaethyddiaeth Danfon post neu bapurau newydd |
Mae Mo yn gweithio mewn ysbyty a gofynnir iddo weithio tan hanner nos oherwydd bod yr oedolyn sydd fel arfer yn gwneud y shifft honno ar wyliau. Mae mwy o gleifion nag arfer ar hyn o bryd felly mae'r adran yn brysur iawn. Mae Mo yn cael gwneud y gwaith hwn oherwydd nad oes oedolyn ar gael ac mae mwy o waith nag arfer.
Eich hawliau o ran egwyliau ac amser i ffwrdd rhwng diwrnodau gweithio
Mae gennych hawl i egwyl 30 munud os ydych chi’n gweithio 4 awr a hanner neu fwy mewn shifft - gallwch chi a'ch cyflogwr benderfynu pryd y byddwch yn dewis cael eich egwyl. Efallai na chewch eich talu am eich egwyl - holwch eich cyflogwr.
Dylech gael cyfnod o 48 awr yn olynol i ffwrdd bob wythnos.
Rhaid i chi gael o leiaf 12 awr i ffwrdd rhwng pob diwrnod gwaith – oni bai fod eich diwrnod gwaith wedi’i rannu’n gyfnodau byr o waith.
Mae Holly yn gweithio mewn caffi rhwng 8-11am bob bore a 5-9pm bob nos. Nid ydy hi angen 12 awr i ffwrdd dros nos oherwydd cafodd egwyl yn y prynhawn.
Gall eich cyflogwr ofyn i chi gael egwyliau byrrach neu lai na 12 awr i ffwrdd rhwng diwrnodau gwaith os ydy’r amodau canlynol yn berthnasol:
nid oes unrhyw un sy’n 18 oed neu'n hŷn ar gael i wneud y gwaith
cyfnod dros dro ydyw
mae angen i’r gwaith gael ei wneud ar unwaith
mae rhywbeth annisgwyl wedi digwydd
rydych chi’n cael amser i orffwyso er mwyn gwneud iawn am y newid mewn oriau- rhagor o wybodaeth am gael cyfnod gorffwyso ar ôl gweithio oriau annisgwyl ar GOV.UK
Er enghraifft, gallai eich cyflogwr ofyn i chi gwtogi eich egwyl os ydych chi’n gweithio mewn bwyty a bod criw bws yn cyrraedd. Mae cydweithwyr eraill wedi ffonio i ddweud eu bod yn sâl a does neb arall i wneud y gwaith.
Edrychwch i weld pa waith sy’n iawn i chi ei wneud
Ni ddylid gofyn i chi wneud gwaith:
nad ydych chi ddim yn abl yn gorfforol nac yn feddyliol i wneud
sy’n risg i'ch iechyd oherwydd oerni, gwres neu ddirgryndod eithafol - er enghraifft drwy weithio gyda dril neu mewn rhewgell
Os ydych chi’n gweithio yn rhywle sy’n gwerthu alcohol
Holwch am reolau eich cyngor lleol ynghylch a allwch chi weini alcohol. Fel arfer, cewch wneud hynny os ydych yn gweithio mewn bar neu fwyty, ond mae rhai cynghorau'n dweud mai dim ond mewn caniau neu boteli y gallwch weini diodydd i bobl.
Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Os gofynnir i chi weithio gyda chemegion
Ni allwch wneud gwaith lle gallech fod mewn cysylltiad â chemegion, deunydd gwenwynig neu ymbelydredd oni bai:
ei fod yn rhan o’ch hyfforddiant
eich bod yn cael eich goruchwylio gan berson profiadol
bod eich cyflogwr yn eich cadw mor ddiogel â phosibl
Edrychwch i weld pa gyflog ac amser o'r gwaith y gallwch eu cael
Mae gennych hawl i’r un faint o wyliau â thal ag oedolyn - ewch i weld faint ddylech chi gael.
I wneud yn siŵr eich bod yn cael y swm cywir, ewch i weld yr isafswm cyflog ar gyfer eich oedran chi ar GOV.UK. Dylech chi gael hwn hyd yn oed os ydych chi’n gweithio i rywun rydych chi’n ei adnabod, er enghraifft fel gwarchodwr plant.
Os yw eich cyflogwr yn eich trin yn annheg
Os mae eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio am gyfnodau rhy hir neu ar adegau na ddylech chi fod yn gweithio mae Acas yn gallu eich helpu. Corff sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth yw hwn a’i waith yw helpu gydag anghydfodau yn y gweithle. Byddan nhw yn eich helpu i benderfynu beth i'w wneud, er enghraifft gwneud cwyn i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu'ch cyngor lleol.
Mewn sefyllfaoedd eraill, gallwch siarad â’ch cyflogwr i geisio datrys y broblem.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.