Hawlio diswyddiad deongliadol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os yw eich cyflogwr wedi gwneud rhywbeth sy'n torri eich contract yn ddifrifol, efallai y byddwch chi’n gallu ymddiswyddo a dwyn achos i dribiwnlys cyflogaeth. Diswyddiad deongliadol yw’r enw ar hyn.
Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd angen i chi brofi bod eich cyflogwr wedi torri eich contract yn ddifrifol a'ch bod chi wedi ymddiswyddo mewn ymateb iddo.
Mae llawer o bobl yn meddwl bod ymddiswyddo a dwyn achos o ddiswyddiad deongliadol yn ddewis da ar gyfer delio â phroblemau yn y gwaith. Ond mae ymddiswyddo yn gam mawr. Efallai y byddwch chi’n gallu datrys eich problem heb ymddiswyddo.
Mae'n anodd profi diswyddo deongliadol - nid oes llawer o achosion yn ennill. Bydd angen i chi hefyd gyfrifo faint o arian y gallech chi ei gael. Siaradwch â chynghorydd i gael help i benderfynu a yw’n werth dwyn achos.
Os ydych chi eisiau dwyn achos o ddiswyddiad deongliadol, bydd angen i chi ddilyn y camau hyn:
1. Gweld a oes gennych chi achoso diswyddo deongliadol
Efallai y byddwch chi’n gallu dwyn achos o ddiswyddo deongliadol os gwnaethoch chi ymddiswyddo oherwydd bod eich cyflogwr wedi gwneud y un o’r canlynol:
gadael i bobl eich bwlio neu aflonyddu arnoch chi yn y gwaith
gwneud newidiadau afresymol i’r ffordd rydych chi’n gweithio, er enghraifft drwy eich gorfodi i weithio oriau hirach
eich israddio
gwrthod eich talu
peidio gwneud yn siŵr bod eich amgylchedd gwaith yn ddiogel
cael gwared ar fuddion y mae eich contract yn dweud eich bod chi’n eu cael, fel eich car cwmni
peidio rhoi’r gefnogaeth roedd ei hangen arnoch chi i wneud eich gwaith
Os newidiodd eich cyflogwr sut rydych chi'n gweithio
Efallai y byddwch chi’n gallu dwyn achos o ddiswyddiad deongliadol os gwnaethoch chi ymddiswyddo oherwydd bod eich cyflogwr wedi eich gorfodi i weithio oriau gwahanol, mewn lle gwahanol neu am lai o arian.
Fodd bynnag, gallai tribiwnlys ganfod bod y newidiadau hyn yn deg os gwnaeth eich cyflogwr:
wneud newid y mae eich contract yn dweud yn benodol y gallai ei wneud
ymgynghori â chi cyn gwneud y newidiadau
wneud y newidiadau yn lle gwneud rhywbeth gwaeth, fel diswyddo pobl
Os ydych chi'n cael eich bwlio neu'n teimlo dan fygythiad
Does dim diffiniad cyfreithiol o fwlio. Mae hyn yn golygu bod rhai cyflogwyr yn ceisio cyfiawnhau eu hymddygiad neu ddweud nad yw’n broblem.
Er enghraifft, os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich bwlio oherwydd bod eich rheolwr yn eich beirniadu’n gyson, efallai y bydd yn dweud eich bod chi’n rhy sensitif ynglŷn â’i ddull rheoli. Neu os oes rhywun yn galw enwau arnoch chi’n aml gan wneud i chi deimlo'n anghyfforddus, efallai y bydd eich cyflogwr yn dweud mai dim ond cellwair yw hyn.
Chi sydd i benderfynu a yw'r ffordd rydych chi’n cael eich trin yn ddigon difrifol i chi ymddiswyddo.
Mae'n syniad da rhoi gwybod am fwlio neu ymddygiad bygythiol cyn i chi benderfynu ymddiswyddo. Byddai hyn yn rhoi cyfle i'ch cyflogwr roi terfyn arno. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â’ch rheolwr, gallech chi geisio rhoi gwybod i’w rheolwr nhw neu i’ch adran Adnoddau Dynol. Os nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw beth am y bwlio, gallech chi fod ag achos cryf o ddiswyddiad deongliadol.
Fodd bynnag, mae rhai sefyllfaoedd lle mae’n amlwg mai ymddiswyddo a gadael heb rybudd fydd yr opsiwn gorau. Er enghraifft, os ydych chi’n teimlo:
eich bod chi'n cael eich bwlio dro ar ôl tro gan eich cydweithwyr neu'ch cyflogwr
bod ofn arnoch chi fynd i'r gwaith
nad ydych chi’n ddiogel yn y gwaith
Dywedwch wrth eich cyflogwr yn ysgrifenedig eich bod yn ymddiswyddo oherwydd bwlio. Bydd hyn yn golygu bod gennych chi dystiolaeth o pam eich bod chi wedi ymddiswyddo os ydych chi eisiau dwyn achos o ddiswyddiad deongliadol.
2. Gweld a ydych chi'n gymwys i ddwyn achos o ddiswyddiad deongliadol
Dim ond os oeddech chi’n gyflogai y gallwch chi ddwyn achos o ddiswyddiad deongliadol.
Efallai eich bod chi’n gyflogai hyd yn oed os oedd eich cyflogwr neu eich contract yn dweud eich bod chi’n hunangyflogedig. Efallai nad oeddech chi'n gyflogai os oeddech chi, er enghraifft, yn gweithio i asiantaeth neu os nad oeddech chi'n sicr o gael unrhyw waith.
Os nad ydych chi’n siŵr a oeddech chi’n gyflogai, edrychwch ar eich statws cyflogaeth.
Fel arfer, dim ond os ydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd y byddwch chi’n cael dwyn achos o ddiswyddiad deongliadol. Mae hyn yn cynnwys eich cyfnod rhybudd statudol.
Os ydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr am lai na 2 flynedd
Mae'n debyg na allwch chi ddwyn achos o ddiswyddiad deongliadol, ac eithrio mewn rhai sefyllfaoedd.
Does dim rhaid i chi fod wedi gweithio i'ch cyflogwr am 2 flynedd os yw eich achos o ganlyniad i’r canlynol:
rheswm sydd bob amser ‘yn annheg yn awtomatig’
gwahaniaethu
Gweld a yw’n ‘annheg yn awtomatig’
Mae bob amser yn 'annheg yn awtomatig' os bu’n rhaid i chi ymddiswyddo oherwydd eich bod chi’n cael eich trin yn annheg mewn ffordd sy'n gyfystyr â thorri contract oherwydd:
eich bod chi’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
eich bod chi wedi gofyn am eich hawliau cyfreithiol yn y gwaith, e.e. i gael yr isafswm cyflog
eich bod chi wedi cymryd camau’n ymwneud â mater iechyd a diogelwch
eich bod chi’n gweithio mewn siop neu siop fetio ac wedi gwrthod gweithio ar ddydd Sul
eich bod chi'n aelod o undeb llafur a’ch bod chi wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur gan gynnwys gweithredu diwydiannol swyddogol neu os oeddech chi'n gweithredu fel cynrychiolydd gweithwyr
eich bod chi wedi riportio eich cyflogwr am ddrwgweithredu, mae hyn yn cael ei alw’n chwythu'r chwiban
Os ydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd pan ddaw eich swydd i ben, mae hefyd yn annheg yn awtomatig os byddwch chi’n cael eich diswyddo oherwydd:
bod y busnes wedi cael ei drosglwyddo i gyflogwr arall
na wnaethoch ddatgan euogfarn sydd wedi darfod
Gweld a yw’n wahaniaethu
Gallwch chi ddwyn achos o ddiswyddiad deongliadol os gwnaethoch chi ymddiswyddo oherwydd bod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.
Gallai fod yn wahaniaethu os cawsoch chi eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn un o'r canlynol neu'n cael eich ystyried yn un o'r canlynol:
yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
o hil, ethnigrwydd neu wlad benodol
yn briod neu mewn partneriaeth sifil
yn ddyn neu’n fenyw
yn anabl
yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol (LGBT)
â chrefydd neu set benodol o gredoau
yn hŷn neu’n iau na’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw
Cael cyngor
Yn ymarferol, nid yw bob amser yn hawdd dweud a ydych chi wedi cael eich trin mewn ffordd sy’n wahaniaethol neu’n annheg yn awtomatig. Os ydych chi’n teimlo y gallai’r gwir reswm fod yn wahaniaethol neu’n annheg yn awtomatig, mae’n syniad da siarad â chynghorydd.
3. Cael cyngor
Mae gennych chi 3 mis namyn diwrnod o’r dyddiad y daeth eich swydd i ben i ddechrau achos tribiwnlys.
Dylech chi gael cyngor cyn gynted â phosibl os ydych chi'n meddwl bod gennych chi reswm dros ddwyn achos o diswyddiad deongliadol
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, efallai y byddan nhw’n gallu rhoi cyngor cyfreithiol i chi am eich sefyllfa.
Edrychwch ar unrhyw bolisïau yswiriant sydd gennych chi – efallai y byddan nhw’n talu am gost mynd at gyfreithiwr.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.