Herio eich diswyddiad

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Darllenwch fwy am sut bydd y tribiwnlys yn asesu eich hawliad a’r dystiolaeth y bydd angen i chi ei dangos.

Mae dwy ffordd y gallech chi roi cynnig ar herio'ch diswyddiad:

  • apelio drwy broses apelio eich cyflogwr

  • gwneud hawliad i Dribiwnlys Apêl Cyflogaeth - os oes gennych chi hawliad dilys am ddiswyddo annheg a'ch bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am fwy na 2 flynedd

Cyn i chi apelio at eich cyflogwr, mae angen i chi feddwl yn ofalus a ydych chi wir eisiau eich swydd yn ôl. I'r rhan fwyaf o bobl, y ffordd orau o symud ymlaen ar ôl cael eich diswyddo yw dod o hyd i swydd newydd cyn gynted â phosibl - rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl i chi gael eich diswyddo.

Os cawsoch chi eich diswyddo am reswm 'annheg yn awtomatig' neu fod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn chi, gallwch wneud hawliad i dribiwnlys waeth pa mor hir yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr.

Os cawsoch eich diswyddo'n annheg yn ystod y 7 niwrnod diwethaf 

Efallai y gallwch chi gael eich cyflogwr i barhau i dalu'ch cyflog os ydych wedi cael eich diswyddo'n annheg am rai rhesymau, fel :

  • iechyd a diogelwch 

  • chwythu’r chwiban 

Dylech chi siarad â chynghorydd i gael help.

Siaradwch â chynghorydd os ydych chi’n ystyried herio eich diswyddiad - gall cynghorydd eich helpu i weld os oes gennych hawliad dilys, a beth yw eich siawns o ennill eich achos.

Apelio yn erbyn eich diswyddiad gyda'ch cyflogwr

Gallwch geisio siarad â'ch cyflogwr i weld a fyddai’n ystyried opsiynau eraill, fel gwneud hyfforddiant ychwanegol neu gwblhau cyfnod prawf.

Os nad ydych chi'n gyfforddus yn siarad â'ch cyflogwr ar eich pen eich hun, gallwch gael help gan undeb llafur neu sefydliadau eraill. Gallan nhw fynd i gyfarfodydd gyda chi a helpu i drafod telerau â’ch cyflogwr.

Os oes gan eich cwmni broses apelio, gallwch apelio'n ffurfiol yn erbyn eich diswyddiad. Edrychwch ar eich mewnrwyd neu lawlyfr staff, neu siaradwch ag Adnoddau Dynol i weld beth sydd angen i chi ei wneud.

Dechreuwch eich apêl cyn gynted ag y gallwch, gan fod terfyn amser os byddwch am gymryd camau cyfreithiol yn ddiweddarach. Y cam cyntaf tuag at gamau cyfreithiol yw proses o'r enw 'cymodi cynnar’ - bydd angen i chi ddechrau'r broses o fewn 3 mis namyn 1 diwrnod i'r diwrnod y cewch eich diswyddo. Os yw'ch amser yn dod i ben, gallwch ddechrau’r broses cymodi gynnar hyd yn oed os nad yw eich apêl wedi gorffen.  

Hyd yn oed os byddwch yn ennill eich apêl, efallai nad dychwelyd i'ch swydd yw'r canlyniad gorau i chi. Er enghraifft, efallai y byddai’n well gadael gyda geirda da nag aros mewn swydd lle nad ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich trin yn deg.

Cael help gan Acas a chymodi cynnar

Os ydych wedi apelio neu os nad oes gan eich cyflogwr broses apelio, efallai y gallwch gael cymorth gan sefydliad o'r enw Acas.

Byddan nhw'n edrych i weld a fydd eich cyflogwr yn cytuno ar broses am ddim o'r enw 'cymodi cynnar' - ffordd o ddatrys anghydfodau heb fynd i dribiwnlys.

Cysylltwch ag Acas cyn gynted ag y gallwch - hyd yn oed os nad ydych yn mynd drwy’r broses cymodi cynnar, mae angen i chi fod wedi rhoi gwybod i Acas cyn y gallwch wneud hawliad tribiwnlys.

Dim ond 3 mis namyn diwrnod sydd gennych o gael eich diswyddo i ddechrau’r broses cymodi cynnar neu i ddweud wrth Acas eich bod yn bwriadu gwneud hawliad tribiwnlys.

Gallwch lenwi'r ffurflen ar wefan Acas neu ffonio gwasanaeth cymodi cynnar Acas i weld os ydy nhw’n gallu cynnig help i chi. 

Gwasanaeth cymodi cynnar Acas

Ffôn: 0300 123 1122

Ffôn testun: 18001 0300 123 1122

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Mae’n debyg y bydd eich galwad am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - rhagor o wybodaeth am ffonio rhifau 030.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio cymodi cynnar.

Penderfynu a ddylech chi wneud hawliad tribiwnlys

Mynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys yw'r ffordd olaf y gallwch herio'ch diswyddiad.

Gall tribiwnlysoedd achosi straen, ac efallai na fyddwch yn ennill eich achos.

Cyn gwneud hawliad, bydd angen sicrhau eich bod chi wedi gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i Acas yn barod

  • cael tystysgrif cymodi cynnar gan Acas

Darllenwch fwy am beth i feddwl amdano cyn i chi wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Gallech gael rhywfaint o iawndal os bydd y tribiwnlys yn dyfarnu o’ch plaid. Bydd unrhyw iawndal fel arfer yn seiliedig ar eich cyflog wythnosol.

Bydd y tribiwnlys yn ystyried a weithredodd eich cyflogwr yn rhesymol dan y gyfraith. Er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo gan eich cyflogwr am fod yn ymosodol, bydd y tribiwnlys yn edrych i weld a oedd y penderfyniad i'ch diswyddo'n rhesymol - nid a oeddech yn ymosodol ai peidio.

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth i'r tribiwnlys nad oedd gan eich cyflogwr reswm teg dros eich diswyddo.

Dim ond 3 mis namyn diwrnod sydd gennych o gael eich diswyddo i ddechrau’r broses cymodi cynnar neu i ddweud wrth Acas eich bod yn bwriadu gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Siaradwch â chynghorydd os ydych yn ystyried gwneud cais.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.