Edrychwch pa iawndal y gallwch ei gael am ddiswyddo annheg

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw tribiwnlys yn penderfynu eich bod wedi cael eich diswyddo'n annheg, byddwch chi'n cael iawndal. Mae'r swm maen nhw'n ei ddyfarnu i chi yn cynnwys:

  • swm penodedig wedi'i gyfrifo ar sail fformiwla benodol – caiff hwn ei alw’n 'ddyfarniad sylfaenol'

  • iawndal am yr arian rydych chi wedi'i golli o ganlyniad i golli eich swydd - caiff hwn ei alw’n 'ddyfarniad digolledu'

Ni all y tribiwnlys ddyfarnu iawndal i chi am straen neu aflonyddwch yn deillio o gael eich diswyddo - oni bai eich bod hefyd yn hawlio gwahaniaethu yn y gweithle. 

Ni all y tribiwnlys chwaith ddyfarnu iawndal i chi am y costau neu'r amser sy'n gysylltiedig â gwneud hawliad oni bai eu bod yn penderfynu bod eich cyflogwr wedi ymddwyn mor afresymol yn y tribiwnlys y byddan nhw’n dyfarnu costau i chi yn ogystal ag iawndal.

Gweithio allan eich dyfarniad sylfaenol

Mae'r swm y gallwch ei gael ar gyfer eich dyfarniad sylfaenol yn dibynnu:

  • pa mor hir rydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr pan fyddwch chi'n cael eich diswyddo

  • pa mor hen ydych chi pan fyddwch chi'n cael eich diswyddo

  • mae eich tâl wythnosol cyn treth ac yswiriant gwladol yn cael eu didynnu – caiff hwn ei alw’n 'dâl wythnosol gros'

Mae uchafswm ar gyfer tâl wythnos. Os cawsoch eich diswyddo ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025, y swm yw £719. Os yw eich tâl wythnosol gros yn fwy na £719, dim ond hyd at £719 yr wythnos y gallwch ei hawlio. 

Os cawsoch eich diswyddo rhwng 6 Ebrill 2023 a 5 Ebrill 2024, y swm yw £700 yr wythnos.

Os ydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd ac yn gweithio oriau rheolaidd, gallwch gyfrifo eich dyfarniad sylfaenol ar GOV.UK - mae'r un peth â thâl diswyddo statudol. 

Os cawsoch eich diswyddo a’ch bod wedi cael tâl diswyddo statudol, ni fyddwch fel arfer yn cael dyfarniad sylfaenol - oni bai bod y tribiwnlys yn penderfynu nad diswyddo oedd y gwir reswm dros golli eich swydd.

Os nad ydych chi'n gweithio oriau rheolaidd, siaradwch â chynghorwr.

Fel arfer ni fyddwch yn cael unrhyw ddyfarniad sylfaenol os ydych chi wedi gweithio am lai na 2 flynedd.

Byddwch yn cael isafswm dyfarniad sylfaenol penodol os ydych chi'n cael eich diswyddo am fod aelod neu’n gynrychiolydd iechyd a diogelwch neu undeb llafur.

Gellir lleihau eich dyfarniad sylfaenol - er enghraifft os gwnaethoch chi ddwyn oddi wrth eich cyflogwr neu os gwnaethoch chi achosi risg i gydweithwyr trwy dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Gweithio allan eich dyfarniad digolledu

Mae angen i chi weithio allan eich incwm wythnosol neu fisol ar ôl treth ac yswiriant gwladol - gan gynnwys unrhyw oramser rheolaidd a bonysau. Os ydych chi'n cael eich talu'n wythnosol, dylech weithio allan faint roeddech chi'n ei ennill bob wythnos. Os ydych chi'n cael eich talu'n fisol, gweithiwch allan faint rydych chi'n ei ennill bob mis. 

Os ydych chi wedi cael unrhyw fudd-daliadau eraill gan eich cyflogwr, dylech hefyd weithio allan faint maen nhw'n werth. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael:

  • cyfraniadau pensiwn gan eich cyflogwr - gallwch weld y rhain ar eich slip cyflog

  • llety am ddim neu â chymhorthdal - edrychwch faint y byddai'n rhaid i chi ei dalu i rentu yn rhywle arall 

  • defnyddio car cwmni - gallwch chi edrych beth yw gwerth colli car cwmni ar GOV.UK

  • yswiriant meddygol cwmni – gofynnwch am ddyfynbrisiau gan yswirwyr preifat i gael gwybod faint y byddai'n ei gostio i gael yr un yswiriant eich hun 

Mae'r colledion rydych chi wedi'u cael hyd at y dyddiad y gwnaethoch eu cyfrifo yn cael eu galw'n 'golledion yn y gorffennol'. Mae'r colledion rydych chi'n disgwyl eu cael nes i chi gael swydd newydd yn cael eu galw'n 'golledion yn y dyfodol'. 

Os ydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am 2 flynedd neu fwy, gallwch hefyd hawlio swm i wneud iawn am y ffaith y bydd yn rhaid i chi fod mewn swydd newydd am 2 flynedd cyn y gallwch chi hawlio diswyddiad annheg. Gelwir hyn yn 'iawndal am golli hawliau statudol' ac mae rhwng £350 a £500.

Edrychwch pa mor hir y gallwch chi gael digolledu amdano 

Ar ôl i chi weithio allan faint rydych chi wedi'i golli bob wythnos neu fis, mae angen i chi luosi hynny â pha mor hir y byddwch chi allan o waith. 

Ni allwch gael mwy na blwyddyn o gyflog gros ac ni all hynny fod yn fwy na £118,223 os cawsoch eich diswyddo ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024. Os cawsoch eich diswyddo rhwng 6 Ebrill 2023 a 5 Ebrill 2024, ni all fod yn fwy na £115,115.

Bydd yr amser y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich cyfrifiad yn dibynnu a oes gennych swydd newydd.

Os ydych chi wedi dod o hyd i swydd yn barod

Os yw'ch swydd newydd yn talu tua'r un fath â'ch hen un, lluoswch y ffigur y gwnaethoch weithio allan ar gyfer eich colledion wythnosol neu fisol â nifer yr wythnosau neu fisoedd yr oeddech chi allan o waith. 

Os yw'r swydd newydd yn talu llai na'ch hen swydd, gallwch hawlio iawndal am y gwahaniaeth mewn cyflog. Bydd angen i chi amcangyfrif pa mor hir y byddai'n ei gymryd i chi gael swydd sy'n talu'r hyn yr oeddech chi'n arfer ei ennill. 

Os mai dros dro mae eich swydd newydd, gallwch hawlio iawndal am: 

  • yr amser y buoch chi’n chwilio am swydd

  • yr amser ar ôl i chi adael y swydd

Bydd y tribiwnlys yn penderfynu pa mor hir i'ch digolledu amdano.

Os ydych chi’n dal i chwilio am waith

Lluoswch y ffigur rydych chi wedi’i weithio allan ar gyfer eich colledion wythnosol neu fisol â nifer yr wythnosau neu'r misoedd rydych chi'n meddwl y bydd yn eu cymryd i chi ddod o hyd i swydd arall.

Bydd y tribiwnlys yn disgwyl i chi ddangos eich bod wedi bod yn gwneud ymdrech resymol i gael swydd newydd. Cadwch restr o'r hyn rydych chi'n ei wneud i ddod o hyd i waith a chopi o'ch holl geisiadau am swydd i'w dangos i'r tribiwnlys. 

Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a ydych chi'n debygol o dreulio amser hir neu fyr allan o waith.

Mae'r tribiwnlys yn debygol o benderfynu y byddwch chi allan o waith am gyfnod byr o amser os:

  • ydych chi wedi cael sawl swydd dros y blynyddoedd ac wedi dod o hyd i swydd arall yn gymharol hawdd

  • nad ydych chi erioed wedi bod allan o waith am fwy nag ychydig fisoedd

  • bod gennych chi eirdaon da

  • y gallech ddod o hyd i waith asiantaeth a fyddai'n talu cyflog tebyg i chi i'ch hen swydd

  • gallwch yrru neu gael mynediad hawdd at drafnidiaeth gyhoeddus a gallwch wneud cais am swyddi ymhellach i ffwrdd o'ch cartref 

Er enghraifft, gan ystyried y farchnad swyddi ar gyfer y gwaith rydych chi'n ei wneud a pha mor hawdd rydych chi wedi dod o hyd i swyddi yn y gorffennol, efallai y bydd y tribiwnlys yn penderfynu y byddech chi'n gallu dod o hyd i swydd mewn 6 mis. Eich iawndal fyddai'r swm misol o arian rydych chi wedi'i golli wedi'i luosi â 6.

Mae'r tribiwnlys yn debygol o benderfynu y byddwch allan o waith am gyfnod hirach o amser os na allwch chi weithio oherwydd salwch - er enghraifft oherwydd bod eich diswyddiad wedi achosi iselder. Byddan nhw hefyd yn meddwl y bydd yn cymryd mwy o amser i chi ddod o hyd i waith os:

  • ydych chi'n weithiwr medrus ac nad oes llawer o swyddi gwag ar gyfer eich math o swydd

  •  nad oes gennych lawer o brofiad gwaith - er enghraifft, dim ond un cyflogwr sydd gennych chi neu nid ydych wedi bod yn gweithio yn hir

  • ni wnaiff eich cyflogwr roi geirda i chi

  • dim ond ar gyfer swyddi penodol y gallwch chi wneud cais oherwydd anabledd neu gyfrifoldebau gofalu 

  • nid ydych chi'n berchen ar gar ac nid oes trafnidiaeth gyhoeddus da lle rydych chi'n byw 

Os yw'r tribiwnlys yn meddwl y gallai gymryd mwy o amser i chi ddod o hyd i swydd arall, byddan nhw’n dyfarnu iawndal i chi am gyfnod hirach

Edrychwch a fyddai’n bosibl cynyddu eich iawndal

Gallai tribiwnlys cyflogaeth gynyddu eich dyfarniad iawndal o 10 i 25% os nad yw'ch cyflogwr yn dilyn Cod Ymarfer ACAS ar weithdrefnau disgyblu a chwyno - nid yw hyn yn berthnasol i ddiswyddiadau neu ddiswyddiadau salwch.

Gall tribiwnlys hefyd ddyfarnu tâl ychwanegol o 2 neu 4 wythnos i chi os nad yw'ch cyflogwr wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i chi o'ch telerau ac amodau cyflogaeth.

Edrychwch a fyddai’n bosibl lleihau eich iawndal 

Gallai tribiwnlys cyflogaeth leihau eich dyfarniad iawndal os:

  • oes bai arnoch chi’n rhannol am eich diswyddiad

  • ni wnaeth eich cyflogwr ddilyn gweithdrefn deg pan wnaeth eich diswyddo ond gallai fod wedi eich diswyddo'n deg pe bai wedi dilyn y weithdrefn gywir

  • nid ydych wedi gwneud digon i ddod o hyd i swydd newydd - gelwir hyn yn 'lliniaru eich colled'

  • nid oeddech yn gallu rhoi rheswm da dros fethu â mynychu unrhyw gyfarfodydd disgyblu neu apêl

  • rydych chi wedi bod yn rhy sâl i weithio ers i chi gael eich diswyddo ac nid oedd eich problemau iechyd wedi'u hachosi gan eich diswyddiad 

Edrychwch a oes rhaid i chi ad-dalu unrhyw fudd-daliadau lles rydych chi wedi'u derbyn

Os cawsoch unrhyw fudd-daliadau lles ar ôl i chi golli eich swydd, bydd y tribiwnlys yn tynnu'r swm hwn o'ch iawndal. Bydd yn rhaid i'ch cyflogwr dalu'r swm hwnnw yn ôl i'r llywodraeth.

Ni fydd rhai budd-daliadau yn effeithio ar yr iawndal a gewch chi. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Budd-dal Tai neu daliadau rydych chi wedi'u derbyn i helpu i dalu eich treth gyngor

  • budd-daliadau lles nad ydynt yn dibynnu ar eich incwm - mae hyn yn cynnwys Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini

  • budd-daliadau lles a gawsoch cyn eich diswyddo neu ar ôl gwrandawiad y tribiwnlys

Os byddwch chi'n dod i setliad gyda'ch cyflogwr cyn gwrandawiad y tribiwnlys, ni fydd gofyn iddynt ad-dalu unrhyw fudd-daliadau lles rydych chi wedi'u derbyn. Mae hyn yn golygu y byddan nhw’n talu llai yn gyffredinol na phe byddech chi’n ennill eich achos. Gallai hyn eu hannog i setlo eich hawliad yn hytrach na mynd i'r tribiwnlys.

Dangos sut y gwnaethoch chi gyfrifo eich iawndal

Gallwch ddangos sut y gwnaethoch chi gyfrifo eich iawndal mewn dogfen o'r enw 'rhestr golledion'. Bydd tribiwnlys fel arfer yn gofyn i chi baratoi un.

Nid oes ffurflen safonol ar gyfer rhestr golledion - gallwch chi ddefnyddio ein rhestr golledion enghreifftiol i greu un eich hun

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 09 Tachwedd 2021