If you're thinking of making a claim to an employment tribunal
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os oes gennych chi broblem yn y gwaith na allwch chi ei datrys gyda'ch cyflogwr, efallai y bydd yn rhaid i chi ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth - er enghraifft, os ydych chi wedi cael eich diswyddo'n annheg, os oes rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn chi neu os nad ydych chi wedi cael y cyflog cywir.
Does dim rhaid i chi dalu ffi i ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Mae rhai pethau y dylech chi eu hystyried cyn dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Gweld a allwch chi ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth
Bydd angen i chi weld beth yw’r gofynion ar gyfer dwyn achos.
Hefyd, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud rhai pethau cyn y gallwch chi ddwyn achos. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
dwyn eich achos erbyn dyddiad cau penodol
cael tystysgrif cymodi cynnar
Gweld beth yw’r dyddiad cau ar gyfer dwyn achos
Gyda’r rhan fwyaf o achosion, mae gennych chi 3 mis namyn 1 diwrnod o'r adeg pan ddigwyddodd y digwyddiad i ddechrau’r broses cymodi cynnar. Yna bydd gennych chi o leiaf fis i ddwyn achos gerbron y tribiwnlys.
Os ydych chi'n hawlio tâl dileu swydd neu dâl cyfartal, mae gennych chi 6 mis namyn 1 diwrnod i ddechrau'r broses cymodi cynnar.
Mewn rhai amgylchiadau prin iawn - er enghraifft, os ydych chi wedi cael eich diswyddo oherwydd iechyd a diogelwch neu chwythu'r chwiban, gallwch chi ddwyn achos i gael eich talu nes bydd tribiwnlys yn penderfynu ar eich achos. Rhaid ichi ddwyn yr achos hwn cyn pen 7 diwrnod ar ôl i chi gael eich diswyddo. Dylech chi siarad â chynghorwr.
Os ydych chi’n dwyn mwy nag un achos, efallai y bydd gennych chi wahanol derfynau amser ar gyfer pob un. Er enghraifft, os ydych chi'n dwyn achos am dâl dileu swydd neu ddiswyddo annheg, bydd gennych chi 3 mis namyn 1 diwrnod ar gyfer yr achos diswyddo annheg a 6 mis manyn 1 diwrnod ar gyfer yr achos tâl dileu swydd.
Os nad ydych yn siŵr a ydych chi o fewn y terfyn amser ar gyfer dwyn achos, siaradwch â chynghorwr.
Cael tystysgrif cymodi cynnar
Ym mhob achos cyflogaeth bron, rhaid i chi ddweud wrth sefydliad o'r enw Acas eich bod chi eisiau dwyn achos gerbron tribiwnlys. Corff sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth yw Acas a’i waith yw helpu gydag anghydfodau yn y gweithle. Mae dweud wrth Acas yn dechrau proses sy’n cael ei galw’n gymodi cynnar.
Pan mae cymodi cynnar yn dod i ben, byddwch chi’n cael dogfen sy’n cael ei galw’n 'dystysgrif cymodi cynnar'. Mae rhif ar y dystysgrif - bydd angen i chi ei roi ar eich ffurflen ar gyfer dwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses cymodi cynnar yma.
Gweld pa fathau o achosion mae’r tribiwnlys cyflogaeth yn gallu penderfynu arnyn nhw
Dim ond achosion gan unigolion sy'n gweithio ym Mhrydain Fawr yn erbyn cyflogwr sydd wedi'i leoli ym Mhrydain Fawr, neu sy'n cynnal busnes yno, y mae’r tribiwnlys cyflogaeth yn gallu delio â nhw.
Os ydych chi'n gwneud rhywfaint neu'r cyfan o'ch gwaith y tu allan i Brydain Fawr, siaradwch â chynghorwr.
Dim ond rhai mathau o achosion sy'n gysylltiedig â gwaith y mae’r tribiwnlys cyflogaeth yn gallu penderfynu arnyn nhw, mae’r rhain yn cynnwys:
hawliau rhieni yn y gwaith - fel hawliau mamolaeth neu dadolaeth
hawliau i gyflog - fel cyflogau heb eu talu, tâl rhybudd neu dâl gwyliau, neu beidio â chael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
colli eich swydd - fel cael eich diswyddo
gwahaniaethu - gan gynnwys cyflog cyfartal
Gweld a oes angen help arnoch chi i ddwyn achos
Dylech chi hefyd ystyried pethau fel faint y bydd dwyn achos yn ei gostio i chi o ran amser ac egni. Mae’n gallu bod yn straen ac mae’n gallu cymryd misoedd cyn i’ch achos gael gwrandawiad.
Meddyliwch a oes angen help arnoch gyda’ch achos. Does dim angen cyfreithiwr arnoch chi i ddwyn achos gerbron tribiwnlys er y gallai fod yn ddefnyddiol i chi gael cyngor. Gallwch chi ddod o hyd i sefydliadau a allai roi cymorth a chyngor i chi yma.
Edrychwch ar unrhyw bolisi yswiriant sydd gennych chi – gallai gynnwys costau cyfreithiol. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, holwch i weld a allan nhw eich helpu chi.
Gweld pa mor gryf yw eich achos
Mae'n syniad da meddwl pa mor gryf yw eich achos gan y gall hyn eich helpu i benderfynu a ydych chi eisiau dwyn achos neu setlo'ch achos, lle bo hynny'n bosibl.
Bydd tribiwnlys cyflogaeth yn gwneud 2 beth wrth benderfynu ar eich achos – bydd yn:
canfod y ffeithiau i benderfynu beth ddigwyddodd
gosod profion cyfreithiol ar y ffeithiau er mwyn gwneud penderfyniad
Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n rhoi adroddiad clir a chyson ac yn darparu cymaint o dystiolaeth â phosibl i gefnogi beth rydych chi’n ei ddweud.
Mae’n syniad da meddwl am ba dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch chi er mwyn i chi gael amser i’w rhoi at ei gilydd. Does dim rhaid i chi anfon y dystiolaeth gyda’ch cais.
Os oes ar eich cyflogwr arian i chi fel rhan o'ch achos, fel cyflog heb ei dalu, tâl gwyliau neu dâl rhybudd - byddwch yn defnyddio tystiolaeth fel slipiau cyflog neu daflenni amser.
Os ydych chi'n dwyn achos o fath arall, fel diswyddo annheg a gwahaniaethu -mae’n gallu bod yn fwy anodd gwybod a fyddwch chi'n ennill. Y rheswm am hyn yw y gallech chi a'ch cyflogwr roi fersiynau gwahanol o beth sydd wedi digwydd. Dylech chi siarad â chynghorwr i gael cyngor ynglŷn â pha mor gryf yw eich achos.
Os oes gennych chi gynghorwr neu gynrychiolydd cyfreithiol, byddan nhw fel arfer yn:
rhoi cyngor i chi ar ba achosion a all fod gennych
penderfynu a ydych chi’n bodloni'r amodau i ddwyn yr achosion hynny
edrych ar ba dystiolaeth sydd gennych chi
Pan fyddan nhw wedi gweld tystiolaeth eich cyflogwr, bydd eich cynghorwr yn edrych ar ba mor gryf yw eich achos. Os yw eich achos yn gymhleth, efallai y bydd yn cymryd peth amser cyn y bydd eich cynghorwr yn gallu pwyso a mesur eich siawns o lwyddo.
Os nad oes gennych chi gynghorydd, ceisiwch feddwl yn glir am ba dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi eich dadleuon. Dylech chi hefyd feddwl am ba dystiolaeth sydd gan eich cyflogwr i gefnogi ei ddadl ef.
Gweld a all tribiwnlys roi beth rydych chi ei eisiau i chi
Os byddwch chi’n ennill, y peth mwyaf tebygol y byddwch chi’n ei gael gan dribiwnlys yw iawndal. Os ydych chi wedi cael eich diswyddo, anaml iawn y bydd tribiwnlys yn gorchymyn i'ch cyflogwr roi eich hen swydd yn ôl i chi. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am beth allwch chi ei gael gan dribiwnlys cyflogaeth yma.
Gweld a yw eich cyflogwr yn debygol o dalu iawndal i chi os byddwch chi’n ennill
Dydy llawer o bobl sy’n ennill tribiwnlys cyflogaeth byth yn cael eu taliadau’n llawn. Er enghraifft, os yw eich cyflogwr mewn trafferthion ariannol nid yw'n debygol o'ch talu.
Fel arfer, mae cwmni mwy yn fwy tebygol o dalu unrhyw iawndal sy’n cael ei dyfarnu yn brydlon ac yn llawn. Mae cwmnïau bach cyfyngedig neu unig fasnachwyr yn llai tebygol o’ch talu chi.
Mae hefyd yn werth edrych a oes unrhyw achosion tribiwnlys cyflogaeth eraill wedi cael eu dwyn yn erbyn eich cyflogwr - ac a fu'n rhaid iddo dalu iawndal. Gallwch chi weld a oes unrhyw ddyfarniadau wedi cael eu gwneud yn erbyn eich cyflogwr ar GOV.UK. Does dim rhaid i chi dalu am hyn.
Gallwch chi edrych ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon i weld a wnaeth eich cyflogwr dalu iawndal. Mae’n rhaid i chi dalu am hyn.
Gweld a oes gan eich cyflogwr hanes o ddirwyn i ben ac ailddechrau dan enw newydd
Weithiau, mae’r cwmnïau hyn yn cael eu galw’n ‘gwmnïau ffenics’. Maen nhw’n osgoi talu eu dyledion drwy drosglwyddo eu hasedau, fel y stoc, archebion cwsmeriaid a staff, i gwmni newydd a dirwyn yr hen un i ben. Dydy dyledion yr hen gwmni ddim yn trosglwyddo i'r un newydd. Dydy’r hen gwmni ddim yn bodoli mwyach, felly hyd yn oed os byddwch chi’n ennill eich hawliad, fyddwch chi ddim yn cael unrhyw arian.
Gweld a yw eich cyflogwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu
Os oedd eich cyflogwr yn gwmni cyfyngedig a'i fod wedi rhoi'r gorau i fasnachu, mae risg nad oes gan y cwmni arian nac asedau i'ch talu chi. Fel arfer, mae gan gwmni cyfyngedig y llythrennau ‘Cyf’ ar ôl enw’r cwmni. Gallwch chi edrych ar wefan Tŷ'r Cwmnïau i weld a ydyn nhw’n ansolfent.
Hyd yn oed os oes gan gyfarwyddwyr y cwmni arian, mae eich achos yn erbyn y cwmni ac fel arfer ni fydd yn rhaid i'r cyfarwyddwyr dalu eich iawndal eu hunain.
Os byddwch chi’n ennill hawliad gwahaniaethu neu chwythu’r chwiban, efallai y bydd yn rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni dalu iawndal eu hunain.
Os yw eich cyflogwr yn unig fasnachwr sydd wedi rhoi'r gorau i fasnachu
Os nad oes gan eich cyflogwr unrhyw asedau busnes mwyach, holwch a oes ganddo unrhyw asedau personol fel car neu dŷ. Os oes ganddyn nhw asedau personol, gallech chi fynd i’r llys i gael dyfarniad i’w gorfodi i werthu’r asedau hynny a’ch talu.
Gweld a yw eich cyflogwr yn ansolfent
Os yw eich cyflogwr yn ansolfent, yn fethdalwr neu mewn gweinyddiaeth neu ddiddymiad, efallai y gallwch chi gael yr arian sy'n ddyledus i chi ganddyn nhw o gynllun gan y llywodraeth o’r enw’r Gronfa Yswiriant Gwladol. Dim ond rhai achosion mae’r gronfa yn gallu eu talu, fel tâl dileu swydd neu dâl gwyliau. Gallwch chi weld pa achosion mae’r gronfa yn gallu eu talu ar GOV.UK.
Os ydych chi'n dwyn achos am rywbeth nad yw’r Gronfa Yswiriant Gwladol yn gallu ei dalu, fel arfer nid yw'n werth dwyn achos yn erbyn cyflogwr ansolfent. Ni fydd ganddynt arian i'ch talu chi ac efallai y bydd angen i chi gael caniatâd gan y gweinyddwyr neu gan lys i fynd ar eu holau am daliad.
Os ydych chi wedi penderfynu dwyn achos
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 11 Hydref 2021