Getting paid when you leave a job
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os nad ydych chi wedi cael y swm cywir ar ôl gadael swydd, gallwch chi gymryd camau i gael yr hyn sy’n ddyledus i chi.
Mae angen i chi weithredu’n gyflym - fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer gweithredu yw 3 mis namyn un diwrnod ar ôl yr adeg y dylai eich cyflogwr fod wedi talu’r arian sy’n ddyledus i chi. Yn aml, hwn yw’r un dyddiad â'r dyddiad olaf y cewch eich talu, ond mae’n syniad da edrych i weld ar ba ddyddiad y dylai eich cyflogwr fod wedi talu’r hyn sy'n ddyledus i chi, rhag ofn ei fod yn ddyledus ar ddyddiad cynharach.
Efallai y bydd y canlynol yn ddyledus i chi ar ben eich cyflog sylfaenol:
tâl gwyliau
tâl absenoldeb mamolaeth, tâl absenoldeb tadolaeth, tâl absenoldeb mabwysiadu neu dâl absenoldeb ar y cyd i rieni
tâl dileu swydd
Os oes tâl dileu swydd yn ddyledus i chi, y dyddiad cau ar gyfer hawlio yw 6 mis namyn un diwrnod ar ôl y diwrnod diwethaf yr oeddech chi wedi eich cyflogi.
Rhaid i’ch cyflogwr dalu popeth sy’n ddyledus i chi yn eich pecyn cyflog diwethaf, hyd yn oed os ydych wedi cael eich diswyddo. Os oes arnoch chi arian iddyn nhw, efallai y byddan nhw’n gallu ei dynnu o daliad eich cyflog.
Fel arfer, cewch eich taliad cyflog olaf ar y dyddiad arferol yr ydych chi’n cael eich talu. Er enghraifft, os byddwch yn gadael ar ddechrau’r mis ond fel arfer yn cael eich talu ar ddiwedd y mis, mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi aros tan hynny i gael eich taliad cyflog terfynol. Holwch eich cyflogwr os nad ydych chi’n siŵr.
Os nad ydych chi wedi gadael eich swydd eto, holwch eich cyflogwr i wneud yn siŵr o’r canlynol:
bydd popeth sy'n ddyledus i chi yn cael ei dalu i chi, gan gynnwys gwyliau y mae gennych chi hawl iddynt
eich bod yn gwybod a oes arnoch chi unrhyw arian i’ch cyflogwr a sut y byddwch yn ei dalu’n ôl
Edrychwch ar eich slip cyflog
Dechreuwch drwy edrych ar eich slip cyflog terfynol. Bydd hyn yn eich helpu i weld sut y cyfrifwyd eich taliad cyflog terfynol. Edrychwch i weld a ydych chi wedi cael eich talu am y canlynol:
y nifer o oriau a weithiwyd gennych
unrhyw wyliau a oedd yn ddyledus i chi
unrhyw dâl rhybudd neu dâl dileu swydd yr oeddech yn ei ddisgwyl
unrhyw dâl salwch yr oeddech yn ei ddisgwyl
unrhyw tâl absenoldeb mamolaeth, tâl absenoldeb tadolaeth, tâl absenoldeb mabwysiadu neu dâl absenoldeb rhiant yr oeddech yn ei ddisgwyl
goramser, comisiwn neu fonws yr oeddech yn ei ddisgwyl
Dylech chi hefyd edrych i weld a yw eich cyflogwr wedi didynnu arian nad oeddech yn ei ddisgwyl.
Os ydych chi’n gyflogai neu’n weithiwr, mae gennych chi hawl gyfreithiol i gael slip cyflog i ddangos sut y cyfrifwyd eich taliad cyflog. Os ydych chi’n cael eich talu fesul yr awr, mae’n rhaid i’ch slip cyflog ddangos sawl awr rydych chi wedi gweithio.
Os nad oes gennych chi slip cyflog neu os nad yw eich slip cyflog yn dangos sut y cyfrifwyd eich cyflog, gofynnwch i’ch cyflogwr gywiro hyn. Gallwch weld a ydych chi’n gyflogai neu weld a ydych chi’n weithiwr ar GOV.UK.
Siarad gyda’ch cyflogwr
Os ydych chi'n meddwl bod eich taliad cyflog terfynol yn anghywir, ceisiwch siarad yn anffurfiol â’ch cyn-gyflogwr. Os na allwch gael trwodd at eich cyn-gyflogwr dros y ffôn, gallech geisio anfon e-bost, ysgrifennu llythyr neu ffonio prif rif ffôn eich hen weithle. Gallech chi roi cynnig ar siarad â’r adran adnoddau dynol neu adran y gyflogres, os oes un.
Gofynnwch iddyn nhw egluro unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall ar eich slip cyflog, neu pam nad ydych chi wedi cael eich talu.
Os nad ydych chi’n cytuno ag esboniad eich cyflogwr, esboniwch beth yw’r swm cywir yn eich barn chi a gofyn i’r arian sy’n ddyledus i chi cael ei dalu cyn gynted ag y bo modd.
Problemau cyffredin
Rydych chi wedi gweithio mwy o oriau na’r hyn y talwyd i chi amdano
Os ydych chi’n cael eich talu yn ôl yr awr, holwch a ydych chi wedi cael eich talu am nifer yr oriau rydych chi wedi’u gweithio yn ystod y cyfnod mae eich slip cyflog yn ei gwmpasu.
Y camau nesaf
Os ydych chi wedi cael eich talu am y nifer anghywir o oriau, gofynnwch am dystiolaeth o’r oriau rydych chi wedi’u gweithio. Gallech chi ddefnyddio pethau fel:
copïau o hen rotas
cofnodion clocio i mewn
negeseuon e-bost gan eich cyflogwr yn cadarnhau eich shifftiau
Bydd hyn yn eich helpu i herio’ch cyn-gyflogwr i gael yr arian sy’n ddyledus i chi.
Mae tâl gwyliau yn dal i fod yn ddyledus i chi
Os byddwch yn gadael rhan o’r ffordd drwy’r flwyddyn, efallai na fyddwch chi wedi cymryd yr holl wyliau y mae gennych chi hawl iddynt.
Rhaid i’ch cyflogwr dalu i chi am unrhyw wyliau y mae gennych chi hawl gyfreithiol iddynt ond nad ydych wedi’u cymryd. Gelwir hyn yn dâl yn lle gwyliau. Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell hawl i wyliau ar GOV.UK i gyfrifo faint o wyliau y mae gennych hawl iddynt yn ôl y gyfraith.
Edrychwch ar eich contract cyflogaeth i weld a oes gennych hawl i gael mwy, e.e. efallai y bydd yn nodi rhywbeth fel “Eich hawl sylfaenol i wyliau blynyddol yw 20 diwrnod. Mae gennych hefyd hawl i 8 ŵyl banc â thâl.”
Dylai eich contract nodi beth sy’n digwydd i unrhyw wyliau cytundebol rydych chi wedi’u cronni ond heb eu cymryd. Dim ond os yw eich contract yn nodi mai dyna ddylai ddigwydd y cewch eich talu am wyliau sydd heb eu cymryd. Os nad yw'n nodi unrhyw beth, mae’n annhebygol y cewch eich talu. Gallech chi ofyn i'ch cyflogwr a gewch chi gymryd y gwyliau fel diwrnodau o’r gwaith yn ystod eich cyfnod rhybudd.
Y camau nesaf
Os oes tâl gwyliau yn dal i fod yn ddyledus i chi, casglwch unrhyw dystiolaeth at ei gilydd a fydd yn cefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud. Gallech chi ddefnyddio’r canlynol:
allbrint o’ch canlyniadau o’r gyfrifiannell hawl i wyliau
copi o’ch contract yn nodi faint o wyliau y mae gennych hawl iddo
rhestr yn dangos y gwyliau yr ydych chi eisoes wedi’u cymryd
Bydd hyn yn eich helpu i herio’ch cyflogwr i gael yr arian sy’n ddyledus i chi.
Nid ydych chi wedi cael tâl dileu swydd
Os yw eich swydd wedi’i dileu, fel arfer bydd gennych hawl i dâl dileu swydd os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd. Gallwch weld eich hawl i dâl dileu swydd a beth i'w wneud os na fyddwch yn ei gael.
Mae eich cyflogwr wedi tynnu arian o’ch cyflog
Os oes arnoch chi arian i’ch cyflogwr, fel arfer dim ond os bydd eich contract yn nodi eu bod yn cael gwneud hynny y gallan nhw ei dynnu o’ch taliad cyflog terfynol. Gallai hyn gynnwys arian sy’n ddyledus gennych am y canlynol:
gwyliau rydych chi wedi’u cymryd ond nad oedd gennych chi hawl iddynt – gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell hawl i wyliau ar GOV.UK i weld a yw hyn yn berthnasol i chi
tâl mamolaeth cytundebol, os na wnaethoch chi ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cael tâl mamolaeth ychwanegol
ffioedd am gyrsiau y talodd eich cyflogwr amdanynt
benthyciadau gan eich cyflogwr
Yr unig amser y gall eich cyflogwr gymryd arian heb gytundeb yn eich contract yw ar gyfer cyflog a ordalwyd i chi’n flaenorol.
Y camau nesaf
Edrychwch ar eich contract i weld beth mae’n ei ddweud am dalu eich cyn-gyflogwr yn ôl. Os nad yw’n nodi y gall eich cyflogwr ddidynnu arian o’ch cyflog, ni chaiff eich cyflogwr wneud hynny.
Os ydych chi’n meddwl ei fod wedi cymryd arian yn anghywir, gallwch take steps to get it back.
Nid ydych chi wedi cael tâl salwch
Os ydych chi’n sâl yn ystod eich cyfnod rhybudd, mae’n bosib y bydd gennych chi hawl i dâl salwch neu’ch cyflog arferol.
Gall fod yn gymhleth gweithio allan faint ddylech chi fod wedi cael eich talu. Mae’n syniad da i siarad â chynghorwr.
Nid ydych chi wedi cael tâl absenoldeb mamolaeth, tâl absenoldeb tadolaeth, tâl absenoldeb mabwysiadu neu dâl absenoldeb ar y cyd i rieni
Os oeddech chi’n gymwys ar gyfer unrhyw fath o absenoldeb rhiant statudol ar y dyddiad y daeth eich swydd i ben, dylech chi ei gael hyd yn oed os byddwch yn gadael eich swydd. Dylai eich cyflogwr barhau i’w dalu hyd nes na fyddwch yn gymwys mwyach. Ni fydd rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Er enghraifft, os buoch chi’n gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos cyn eich wythnos gymhwyso, bydd gennych hawl i 39 wythnos o dâl mamolaeth statudol, hyd yn oed os byddwch yn gadael eich swydd. Dylai eich cyflogwr ei dalu i chi hyd yn oed os byddwch yn ymddiswyddo cyn i’ch Tâl Mamolaeth Statudol ddechrau.
Os bydd eich cyflogwr yn rhoi mwy o dâl mamolaeth i chi ar ben eich hawl statudol, edrychwch ar eich contract. Efallai y bydd yn nodi bod angen i chi dalu rhywfaint ohono yn ôl os na fyddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith. Dim ond yr hynny a gawsoch chi yn ychwanegol ar ben eich cyflog statudol y gellir gofyn i chi ei dalu’n ôl.
Gallwch weld a oes gennych chi hawl i dâl rhiant statudol a darllen eich opsiynau ar ddiwedd yr absenoldeb mamolaeth.
Nid ydych chi wedi cael tâl rhybudd
Dylai eich cyflogwr eich talu'r un fath ag arfer am yr amser y gwnaethoch weithio yn ystod eich cyfnod rhybudd.
Os byddwch chi’n absennol o’r gwaith yn ystod eich cyfnod rhybudd, fe allai hynny effeithio ar eich tâl rhybudd.
Mae'r rheolau ynghylch tâl rhybudd yn dibynnu ar y rheswm pam y gwnaethoch adael eich swydd.
Os gwnaethoch ymddiswyddo, edrychwch ar y rheolau ynghylch tâl rhybudd.
Os cafodd eich swydd ei dileu, edrychwch ar y rheolau ynghylch tâl rhybudd.
Os cawsoch eich diswyddo, edrychwch ar y rheolau ynghylch tâl rhybudd.
Os cafodd eich cynnig swydd ei dynnu'n ôl, gwiriwch y rheolau am dâl rhybudd.
Mae eich cyflogwr wedi mynd allan o fusnes
Gall fod yn anodd cael arian sy'n ddyledus i chi os bydd eich cyflogwr yn mynd allan o fusnes. Mae eich opsiynau’n dibynnu ar sut maen nhw wedi mynd allan o fusnes.
Os yw eich cyflogwr wedi gwneud penderfyniad i roi’r gorau i fasnachu, gallwch gymryd camau i gael rhywfaint o'r arian sy'n ddyledus i chi.
Os yw eich cyflogwr wedi mynd allan o fusnes, sef rhywbeth allai gael ei alw’n fethdaliad, mewn gweinyddiaeth neu ddiddymiad, gallwch hawlio rhywfaint o’r arian gan y llywodraeth. Mae’n bosib na chewch chi’r cyfan yn ôl - dim ond hyn a hyn y cewch chi ei hawlio.
Efallai y bydd y person sy’n gyfrifol am roi trefn ar yr arian sy’n dal i fod yn ddyledus gan y busnes yn cysylltu â chi. Fe’i gelwir yn ‘ymarferydd ansolfedd’. Bydd y person hwn yn eich helpu i hawlio gan y llywodraeth ac yn eich ychwanegu at y rhestr o bobl y mae arian yn ddyledus iddyn nhw gan y busnes. Fodd bynnag, efallai na chewch chi bopeth sy’n ddyledus i chi.
Gallwch chi weld pa gamau i’w cymryd i hawlio arian sy’n ddyledus i chi gan eich cyflogwr ar GOV.UK.
Os nad yw siarad â’ch cyflogwr yn gweithio
Os nad ydych chi wedi gadael eich swydd eto, gallech wneud cwyn. Mae gwneud cwyn yn ffordd ffurfiol o fynegi problem yn y gwaith - ni all eich cyflogwr ei hanwybyddu.
Holwch a oes gan eich cyflogwr drefn gwyno i chi ei dilyn - efallai y cewch fanylion yn eich llawlyfr staff neu ar y fewnrwyd.
Os nad oes gan eich cyflogwr drefn gwyno neu os ydych eisoes wedi gadael eich swydd, ceisiwch ysgrifennu llythyr atyn nhw.
Dylai gynnwys:
y dyddiad y gwnaethoch adael
faint sy'n ddyledus i chi yn eich barn chi a sut rydych chi wedi’i gyfrifo
pryd rydych chi’n disgwyl cael eich talu
copïau o unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i ategu eich dadl
Mae’n bosib y gallwch chi gael help gan undeb llafur neu sefydliadau eraill. Gallent negodi ar eich rhan neu fynd i gyfarfodydd gyda chi. Gallai hyn roi gwell siawns o lwyddo i chi.
Gallwch ddarllen mwy am wneud cwyn.
Os na allwch chi gysylltu â’ch cyn-gyflogwr
Os yw eich cyn-gyflogwr wedi rhoi’r gorau i fasnachu neu wedi symud, gallwch roi cynnig ar y dulliau canlynol i ddod o hyd iddyn nhw:
chwilio am fanylion eich cyn-gyflogwr ar wefan Tŷ’r Cwmnïau, os oedd yn gwmni cyfyngedig cofrestredig
chwilio amdanyn nhw ar-lein
cysylltu ag adran safonau masnach eich awdurdod lleol
ymweld â’ch hen weithle i weld a oes hysbysiad yn dweud bod y cwmni wedi symud
cysylltu â landlord neu werthwr tai eich hen weithle
Cael help gan Acas a chymodi cynnar
Os na fydd ysgrifennu at eich cyflogwr yn datrys y broblem, gallwch gysylltu ag Acas. Mae’n darparu cymorth annibynnol rhad ac am ddim ar gyfer anghydfodau cyflogaeth.
Cysylltwch ag Acas cyn gynted ag y gallwch - y dyddiad cau i wneud hyn yw 3 mis namyn diwrnod o’r adeg y dylai eich cyflogwr fod wedi’ch talu.
Byddan nhw’n edrych i weld a fydd eich cyflogwr yn cytuno i broses o’r enw cymodi cynnar - mae hyn yn golygu y byddan nhw’n eich helpu i siarad â’ch cyn-gyflogwr a cheisio datrys yr anghydfod yn anffurfiol.
Gallwch wneud cais am gymodi cynnar ar wefan Acas a darllen mwy am ddefnyddio cymodi cynnar.
Cymryd camau cyfreithiol
Os na fyddwch yn dod i gytundeb drwy wasanaeth cymodi cynnar Acas, gallwch chi wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Mae angen i chi fod wedi rhoi cynnig ar gymodi’n gynnar cyn y gallwch chi fynd i dribiwnlys. Bydd Acas yn rhoi tystysgrif i chi, a bydd angen hon arnoch cyn y gallwch chi gychwyn ar y broses o ddwyn achos gerbron tribiwnlys.
Os oes mwy nag 1 mis wedi mynd heibio ers y dyddiad ar dystysgrif Acas, efallai y byddwch wedi rhedeg allan o amser i ddwyn achos gerbron tribiwnlys - ond efallai y gallwch siwio’ch cyflogwr yn y llysoedd yn lle hynny.
Dylech chi gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol am eich opsiynau.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.